|
Mae’n bleser mawr gennym gymeradwyo’r Cynllun Datblygu Unedol hwn i gyhoedd
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’n rhan bwysig iawn o bolisïau corfforedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont
ar Ogwr ac mae’n gosod allan cyfarwyddyd am ddefnyddio tir ledled ardal yr
Awdurdod tan 2016, er mwyn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a datblygwyr.
Mae’r cynllun yn bwysig hefyd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Yn ôl y
gyfraith, hwn fydd y prif ffactor i’w ystyried. Bydd penderfyniadau sy’n
seiliedig ar y cynllun yn effeithio ar bawb yn yr ardal.
Mae’r cynllun wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus helaeth drwy
arddangosfeydd, seminarau lleol a chyfarfodydd cyhoeddus ym mhob rhan o’r
Fwrdeistref Sirol. Yn ychwanegol, clywodd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r cynllun
bron i 2,000 o sylwadau. Gwnaed newidiadau sylweddol i fersiwn gyhoeddedig 2001
i adlewyrchu’r materion a godwyd ac argymhellion Arolygydd yr Ymchwiliad a
dderbyniwyd gan y Cyngor.
Dyma’r cynllun cyntaf i’r Fwrdeistref Sirol i gael ei osod yn amlwg yng
nghyd-destun Agenda 21 Leol. Mae llawer o’r polisïau’n adlewyrchu nodau
datblygiad cynaliadwy. Credwn mai Cymru yw’r genedl gyntaf dan ddyletswydd
statudol i ystyried y materion hyn yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau ac
maent wedi cael ystyriaeth lawn wrth baratoi’r ddogfen hon sydd wedi bod yn
destun gwerthusiad cynaladwyedd neu ‘archwiliad gwyrdd’.
 |
 |
 |
Mr. Rhodri-Gwyn Jones
Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Amgylcheddol a Chynllunio |
Y Cynghorydd Patricia Hacking
Aelod Cabinet
Amgylchedd, Cynllunio, Priffyrdd a Thechnegol |
Mr. Martin Hooker
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Gwasanaethau Cynllunio |
<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf
>>
|