16.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
16.1.1. Mae yna amgylchiadau clir lle gellir chwilio am
fathau penodol o fudd-daliadau mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio. Yn
fras, mae hyn lle mae'r budd-dal yn perthyn i'r datblygiad ac yn
angenrheidiol er mwyn rhoi'r caniatâd cynllunio.
6.1.2. Felly, ni ddylid caniatáu datblygiad annerbyniol
oherwydd budd-daliadau amherthnasol a gynigir gan yr ymgeisydd. Yn yr un
ffordd, ni ddylid gwrthod datblygiad derbyniol dim ond oherwydd nad yw'r
ymgeisydd yn fodlon cynnig budd-daliadau.
16.1.3. Dywed polisi'r Llywodraeth, yng nghylchlythyr y
Swyddfa Gymreig 13/97: Rhwymedigaethau Cynllunio y dylai
budd-daliadau fod yn deg a rhesymol berthynol i faint a math y datblygiad
arfaethedig.
16.1.4. Felly, gellir disgwyl datblygwr i dalu neu
gyfrannu at gost isadeiledd na fyddai fod wedi ei angen heblaw am y
datblygiad. Er enghraifft, gall datblygwr ddod i gytundeb gydag ymgymerwr
isadeiledd i symud prosiect yn ei flaen a raglennwyd eisoes ond sy'n gofyn
am rai blynyddoedd cyn ei weithredu. Gallai fod yn rhesymol i ddatblygwr
dalu am fesurau lliniaru mewn rhai amgylchiadau.
16.1.5. Mae cyfraith achos ddiweddar wedi estyn cwmpas yr
hyn y gall awdurdod cynllunio lleol gael fel budd-dal. Ni ystyrir y geiriau
'teg a rhesymol berthynol' yn ofynion cyfreithiol caeth nawr. Mae'r gyfraith
yn cynnig y dehongliad os yw'r budd-dal yn gysylltiedig â'r datblygiad
arfaethedig nad yw'n de minimis rhaid i'w awdurdod cynllunio lleol neu
unrhyw un arall sy'n penderfynu, megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ei
ystyried. Yn gyfreithiol, yr unig beth sydd ei angen yw i'r
rhwymedigaeth/budd/elw cynllunio fod yn 'sylweddol' ac yn berthnasol felly
i'r penderfyniad.
16.1.6. Mae
polisi 22
yn ystyried y gofynion polisi a chyfreithiol caeth wrth ddelio â'r mater o
elw cynllunio/budd cymunedol. Bydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn disgwyl i
bob cais am ddatblygiad adeiledig gynnwys cynigion sylweddol sy'n delio â
gofynion isadeiledd teg a rhesymol union ac anuniongyrchol y datblygwr ac
sy'n sicrhau nad oes yna effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
sylweddol a dilynol ar y gymuned bresennol.
16.1.7. Cydnabyddir hefyd bod cynigion am elw
cynllunio/buddion cymunedol yn gallu amrywio yn unol ag effaith y datblygiad
arfaethedig ac y gallai fod angen asesu'r effeithiau ar y cyd â'r rhai o
gynigion perthynol eraill. Felly, nid y datblygiadau mawr, llawn bri'n unig
sy'n effeithio ar isadeiledd presennol. Bydd pob datblygiad newydd yn
effeithio ar y sefyllfa bresennol mewn rhyw ffordd. Gall yr effaith dros
amser fod yn weddol sylweddol, yn enwedig mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol
difrifol o ran gwariant y sector cyhoeddus.
16.1.8. Gofynnir i'r Cynllun Datblygu Unedol fod yn
realistig o ran yr adnoddau sy'n debygol o fod ar gael a bod yn destun
arolwg parhaus. Mae'r gofynion hyn yn gysylltiedig gan fod adnoddau, yn
enwedig adnoddau ariannol, yn dylanwadu pa mor gyflym y gellir cyflawni
amcanion a nodau a pha mor gyflym y gellir gweithredu polisïau a chynigion
penodol.
16.1.9. Mae'r strategaeth defnydd tir yn gadarn gan nad
yw'n tybio nac yn dibynnu ar lefelau penodol o fuddsoddiad o'r sectorau
cyhoeddus na phreifat o fewn amserlen benodol. Fodd bynnag, dylai fod
cynnydd mesuradwy tuag at gyflawni nodau allweddol. Byddai absenoldeb y
cynnydd hwn yn cGorllewiniynu digonolrwydd yr adnoddau ariannol ac
effeithiolrwydd y polisïau a'r cynigion i ymdrin â'r materion.
16.1.10. Bydd monitro pob agwedd o'r CDU yn rheolaidd yn
nodi cynnydd neu ei brinder a'r angen i arolygu polisïau.
Rhan 2
16.2. Cyflwyniad
16.2.1. Mae'r bennod hwn yn nodi rhai o'r ffyrdd o
weithredu polisïau ac ymagwedd y Cyngor at fonitro ac arolygu'r CDU.
16.3. Gweithredu ac Adnoddau
16.3.1. Mae'r CDU yn ymwneud â'r broses o newid yn y
fwrdeistref sirol a sut y gellir rheoli hyn. Mae'r egwyddorion arweiniol a
osodir allan ar y dechrau'n rhoi cyfeiriad cyffredinol ar gyfer rheoli newid
yn ystod bywyd y cynllun. Mae polisïau a chynigion y cynllun yn cynnig
cyfarwyddyd clir i helpu i wneud penderfyniadau cyn belled ag sy'n bosibl.
16.3.2. Mae sawl ffordd i ddatblygiad ddigwydd ac i
weithredu polisïau. Mae tri phrif ffactor sy'n dylanwadu gweithrediad y
CDU:-
-
y math o bolisi neu gynnig;
-
yr adnoddau sydd ar gael;
-
yr asiantaeth sy'n rhan o'r gweithrediad.
16.4. Y Math o Bolisi neu Gynnig
16.4.1. Mae tri math o bolisi yn y CDU ac mae pob un yn
cyflawni pethau mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r mathau gwahanol yn cefnogi ei gilydd
yn aml. Er enghraifft, gall polisi sy'n rheoli datblygiad fod yn gysylltiedig â
pholisi sy'n hybu ymagwedd benodol a gofyn iddo gael ei fonitro. Yn syml, ni
fydd unrhyw bolisi'n cael ei weithredu ar ei ben ei hun; rhoddir ystyriaeth i
bob polisi perthnasol.
Polisïau Hyrwyddo
16.4.2. Mae'r categori hwn o bolisi'n cael y pwyslais mwyaf
yn y Cynllun. Amcanion sylfaenol y polisi hwn yw gwella'r amgylchedd cyffredinol
ac adfywiad economaidd a chymdeithasol y fwrdeistref sirol. Nid oes angen
adnoddau ychwanegol ar bolisïau hyrwyddo. Mae'n bosibl y gallant ddenu adnoddau
newydd.
16.4.3. Mae ffurf polisïau hyrwyddo'n amrywio'n sylweddol o'r
rhai sydd ond yn caniatáu i'r rhai sy'n cefnogi, galluogi, hwyluso a chynnig
camau gweithredu. Er enghraifft, mae
polisi RC4 yn
ffafrio cynigion hamdden sy'n arwain at y gymuned ehangach yn defnyddio'r
cyfleusterau hynny tra bod
polisi RC6 yn
mynd ymhellach ac yn dyrannu safleoedd penodol ar gyfer meysydd chwarae.
Polisïau Rheoli
16.4.4. Mae sawl polisi yn y CDU sy'n ymwneud â rheoli
datblygiad. Nid yw hyn yn golygu bod y polisïau hyn yn negyddol ac yn ceisio
atal pethau rhag digwydd ond dyma fydd y canlyniad yn aml. Mewn sawl achos,
maent yn dangos yr hyn a ganiateir ac a gefnogir ymlaen llaw. Maent yn ymwneud â
sicrhau bod datblygiad yn digwydd mewn ffordd benodol er budd y gymuned. Er
enghraifft, gallai rheoli datblygiad mewn ardal benodol geisio diogelu cymeriad
neu amwynder yr ardal honno. Mae
polisi EV11 yn rheoli datblygiadau newydd mewn ardaloedd a ddiffinnir fel
'darnau glas'.
16.4.5. Mae polisïau eraill neu rannau o bolisïau eraill yn
gosod allan meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau am geisiadau cynllunio.
Cynhwysir y meini prawf hyn i roi mwy o wybodaeth am sut y gwneir penderfyniadau
cynllunio fel arfer. Er enghraifft, mae
polisi H5 yn sefydlu'r meini prawf ar
gyfer barnu ceisiadau i adfer neu drosi adeiladau mewn ardaloedd trefol.
Polisïau Gwybodaeth
16.4.6. Un pwrpas sylfaenol o'r CDU yw cynghori ynghylch
sefyllfa bresennol a dyfodol y fwrdeistref sirol mewn perthynas ag ystod eang o
faterion. Cyfeiria sawl polisi at wybodaeth sydd o fudd uniongyrchol i lawer o
asiantaethau gweithredu. Er enghraifft, cyfeiria Rhan 1 o
bolisi 4 at
ddarpariaeth tai yn ystod bywyd y cynllun ac mae'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i
adeiladwyr preifat a'r diwydiant gwasanaethau cyhoeddus.
16.4.7. Rhan annatod o'r math hwn o bolisi yw'r angen i
fonitro ac arolygu gwybodaeth.
16.5. Argaeledd Adnoddau
16.5.1. Yn y pen draw, mae angen adnoddau ar bob polisi er
mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus. Mae tri chategori o adnoddau'n
berthnasol i'r CDU - tir, arian ac adnoddau dynol.
16.5.2. Mae gweithrediad rhai polisïau'n gofyn am ddefnyddio
un categori o adnoddau'n unig tra bod eraill yn cynnwys cymysgedd o adnoddau ar
wahanol adegau.
Adnoddau Tir
16.5.3. Mae tir yn adnodd cyfyngedig y mae'n rhaid ei
ddefnyddio'n ofalus iawn os dymunwn ddiogelu a gwella amgylchedd y fwrdeistref
sirol. Defnydd tir yw'r brif ffordd o weithredu rhan fwyaf o bolisïau'r CDU. Mae
rhai pynciau'n mynnu mwy o dir nag eraill. Felly, mae llwyddiant llawer o'r
polisïau tai a chyflogaeth yn dibynnu ar symiau cymharol fawr o dir.
16.5.4. Mae gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol fwy o ddylanwad
dros ffurf ac amseriad datblygiadau ar dir y mae'n berchen arno neu mae'n ei
reoli nag ar dir preifat. Lle'n briodol, felly, gall y Cyngor gychwyn trefniadau
partneriaeth gyda datblygwyr preifat/asiantaethau eraill i sicrhau y datblygir
safleoedd mewn ffordd sy'n gyson â pholisïau'r cynllun.
Adnoddau Ariannol
16.5.5. Rhaid i'r CDU fod yn realistig ac ni ddylai godi
gobeithion na ellir eu cyflawni. Rhaid bod gobaith realistig o weithredu'r
polisïau a'r cynigion yn ystod bywyd y cynllun. Un elfen bwysig yw dichonoldeb
ariannol. Fodd bynnag, mae'r CDU yn cynnig cyfle i ysgogi ac annog buddsoddiad a
ffynonellau newydd o gyllid drwy amlygu'r angen am ddatblygu isadeiledd y
fwrdeistref sirol.
16.5.6. Bydd gweithrediad llwyddiannus y CDU yn cynnwys
cefnogaeth ariannol amrywiaeth eang o gyrff yn y sectorau cyhoeddus a phreifat,
buddiannau busnes a chyrff gwirfoddol ac mae llawer o'r rhain wedi cyfrannu at y
broses o baratoi'r cynllun hwn.
16.5.7. Mae gan y Cyngor rôl bwysig i'w chwarae fel galluogwr
a chydlynydd y cyrff hyn, ynghyd â gweithredu'n fwy uniongyrchol drwy:
-
ddefnyddio ei bwerau cynllunio dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a
Thref, yn enwedig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a thrafod cytundebau
Adran 106;
-
y flaenoriaeth y mae'n ei rhoi i raglenni adfywio penodol a phrosiectau
eraill;
-
defnyddio ei gyllidebau cyfalaf a refeniw ei hun;
-
denu cyllid allanol gan y llywodraeth ganolog a'r Undeb Ewropeaidd;
-
y dylanwad sydd ganddo fel prif berchennog tir mewn ardaloedd allweddol.
16.5.8. Y ffynonellau arian allanol sy'n arbennig o bwysig i
gyflawniad nodau'r CDU yw'r ceisiadau am fuddsoddiad tai a chludiant y mae'r
Cyngor yn eu cyflwyno i'r Cynulliad bob blwyddyn. Gall y rhain a ffynonellau
eraill ddarparu'r arian cyfatebol sydd ei angen i gael cefnogaeth ychwanegol o
adnoddau Amcan 1 yr EU, sy'n gallu bod cymaint â 50% ar gyfer prosiectau.
16.5.9. Lle mae'r Cyngor yn dibynnu'n hollol ar asiantaethau
allanol, datblygwyr a pherchnogion tir i gyflwyno cynigion datblygu, mae ei
ddylanwad yn llai uniongyrchol. Er hynny, bydd y CDU yn dal i fod yn ffordd o
gydlynu a hybu datblygiadau ac arwain penderfyniadau am geisiadau cynllunio.
Lle'n berthnasol, disgwylir i ddatblygwyr gyfrannu tuag at y gost o unrhyw
isadeiledd cymdeithasol neu gymunedol newydd neu wasanaethau neu amwynderau
eraill drwy gytundebau cynllunio/ffyrdd priodol.
Adnoddau Dynol
16.5.10. Ynghyd â thir a chyllid, mae adnoddau eraill llai
amlwg a ddefnyddir i weithredu polisïau'r CDU.
16.5.11. Mae defnyddio pobl o ran gweithrediad yn amrywio yn
unol â'r amser a dreulir ar brosiect penodol. Yn amlwg, mae hyn yn gysylltiedig
ag agwedd yr asiantaethau dan sylw a'r mathau o bolisïau sy'n cael eu
gweithredu.

16.6. Asiantaethau Gweithredu
16.6.1. Ynghyd â'r Cyngor Bwrdeistref Sirol, mae sawl
asiantaeth arall yn rhan o weithredu polisïau'r CDU. Er enghraifft, gwnaed bron
i'r holl ddatblygiadau tai yn y 10 mlynedd ddiwethaf gan y sectorau preifat a
gwirfoddol lle roedd gan y Cyngor rôl alluogi. Fodd bynnag, mae mentrau
cyflogaeth yn fwy o gyfrifoldeb a rennir.
16.6.2. Bydd y prif asiantaethau sy'n rhan o weithredu'r CDU
fel a ganlyn:-
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
-
Awdurdod Datblygu Cymru;
-
Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
-
Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru);
-
Y gwasanaethau cyhoeddus;
-
Asiantaethau cyhoeddus eraill;
-
Cwmnïau preifat;
-
Cymdeithasau tai;
-
Cyrff gwirfoddol a chymunedol; ac
-
Unigolion preifat.
16.6.3. Cydnabyddir y pwysigrwydd o gynnwys cymunedau lleol
mewn penderfyniadau sy'n llunio eu bywydau yn y CDU. Mae rôl pobl leol yn un o'r
ffyrdd mwyaf defnyddiol o weithredu polisïau a chynigion yn effeithiol yn aml.
Mae pobl yn gwerthfawrogi'r hyn y maent wedi ei gyflawni eu hunain.
16.6.4. Mae'n hollol amlwg bod cyflawni amcanion y CDU a
gweithredu ei bolisïau'n dibynnu ar ystod eang o gyrff â buddiant neu â
diddordeb.
16.7. Monitro ac Arolygu
16.7.1. Swyddogaeth bwysig o'r CDU yw ei fod yn un
ffynhonnell o wybodaeth am amrywiaeth eang o faterion cynllunio. Mae angen
cynllunio hirdymor tan 2016 er mwyn cael cyfeiriad clir ar gyfer datblygiad
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ystod amser o ddatblygiadau technolegol
cyflym a newidiadau eraill, derbyniwn fod angen cael cydbwysedd rhwng polisïau
cynllunio tymor hir cadarn a hyblygrwydd tymor byr i fodloni amgylchiadau
newidiol.
16.7.2. Mae monitro ac arolygu'n hanfodol os yw'r cynllun yn
mynd i fod yn berthnasol i anghenion cyfoes. Drwy gyfuno'r ddwy weithdrefn hon,
bwriedir i'r cynllun fod yn ffynhonnell gyfredol o gyngor cynllunio, hyrwyddiad,
cyfeiriad a rheolaeth tan 2016.
16.7.3. Mae gwybodaeth yn adnodd allweddol wrth wneud
penderfyniadau am faterion cynllunio, ar gyfer yr awdurdod cynllunio lleol ac
asiantaethau datblygu eraill. Mae pob pennod o'r cynllun wedi cynhyrchu nifer o
eitemau - er enghraifft, banc tir preswyl a diwydiannol y mae angen eu monitro.
16.7.4. Monitrir eitemau penodol yn y Cynllun Datblygu Unedol
yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ddiweddaredig ar gael i helpu gyda
phenderfyniadau cynllunio a datblygu.
16.7.5. Pwrpas monitro yw sicrhau bod y broses gynllunio'n
ymwybodol o newidiadau a thueddiadau na fyddent yn cael sylw fel arall. Mae
arolygu'r cynllun yn ffurfiol yn cynnwys y weithdrefn reolaidd hon ym mhroses y
cynllun datblygu statudol. Felly, bydd yn bosibl diweddaru polisïau i arwain
datblygiad fel mater o drefn er mwyn sicrhau y cynhelir ansawdd penderfyniadau
cynllunio.
16.7.6. Arolygir polisïau a chynigion cynllunio o fewn y
Cynllun Datblygu Unedol yn gynhwysfawr ar adegau priodol yn ystod bywyd y
cynllun.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |