12.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
12.1.1. Mae cyngor y Llywodraeth yn mynnu y dylai cynlluniau datblygu
ddarparu ar gyfer rhwydwaith digonol o gyfleusterau rheoli gwastraff ac
ystyried ystyriaethau amgylcheddol a chynllun cael gwared ar wastraff yr
ardal. O ystyried yr anhawster mewn dod o hyd i dir sy'n addas ar gyfer
claddu sbwriel, mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o wastraff y fwrdeistref
sirol yn parhau i gael ei allforio i safleoedd tu allan i ffiniau'r
fwrdeistref sirol. Arolygir trefniadau ar gyfer rheoli gwastraff mewn
perthynas â chynigion ar gyfer gwaredu ar sail is-ranbarthol er mwyn cael
strategaeth fwy cynaliadwy. Bydd raid dod o hyd i safleoedd ar gyfer casglu
ac ailgylchu gwastraff er mwyn sicrhau bod cyfleusterau ar gael i ddiwallu
ar gyfer arferion rheoli gwastraff cynaliadwy fel a osodir allan yn yr
hierarchaeth gwastraff o leihau, ailddefnyddio, adfer ac ailgylchu ac, yn
olaf, cael gwared ar wastraff yn ddiogel.
Rhan 2
12.2. Cyflwyniad
12.2.1. Mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gyfrifol am gasglu a chael
gwared ar wastraff a chynllunio gwastraff ond nid am reoleiddio gwastraff.
Mae hon yn swyddogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd. Rhaid i'r CDU osod allan y
strategaeth defnydd tir ar gyfer cael gwared ar wastraff a darparu ar gyfer
cyfleusterau rheoli gwastraff yn unol â chyfarwyddyd a chyngor y
Llywodraeth. Mae datblygiad y ganolfan adfer defnyddiau ac ynni yng
Nghrymlyn Burrows, Port Talbot yn cynnwys cyfleusterau compostio a dylai
gyrraedd targedau'r Llywodraeth. Felly, ni fydd strategaeth compostio ar
wahân yn cael ei datblygu er y bydd cynigion unigol am gompostio gwastraff
gwyrdd yn cael eu hasesu gan
bolisi W9. Yn ychwanegol, mae mentrau fel gwerthu biniau compost am bris
is i drigolion yn cael eu hybu. Mae'r Cyngor yn paratoi cynllun ailgylchu
hefyd.
12.2.2. Mae gofyn i gynllun gwastraff ystyried pob math o wastraff:
gwastraff cartref, gwastraff masnachol a diwydiannol; gwastraff arbennig;
gwastraff adeiladu a dymchwel; gwastraff carthffosiaeth ac amaethyddol. Mae
gwastraff cloddio a chwarela hefyd a cheir polisïau i gwmpasu hyn yn yr
adran am fwnau.
12.2.3.. Yng Nghymru, cynhyrchwyd y papur ymgynghori 'Rheoli Gwastraff
yn Gynaliadwy' yn 2001 a chynhyrchwyd y strategaeth gwastraff derfynol i
Gymru 'Call am Wastraff' yn 2002. Mae prif nodau'r strategaeth fel a
ganlyn:-
- gwneud Cymru'n fodel ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy drwy
fabwysiadu a gweithredu ymagwedd gynaliadwy ac integredig at gynhyrchu,
rheoli a rheoleiddio gwastraff (gan gynnwys sbwriel a thipio heb
ganiatâd) sy'n lleihau faint o wastraff a gynhyrchir a'i effaith ar yr
amgylchedd, sy'n mwyhau'r defnydd o wastraff anochel fel adnodd ac sy'n
mwyhau'r defnydd o ynni o wastraff a safleoedd claddu sbwriel, lle mae
hyn yn ymarferol;
- cydymffurfio â gofynion cyfarwyddiadau gwastraff perthnasol y Cyngor
Ewropeaidd a deddfwriaeth y DU.
Canolbwyntia'r strategaeth ar hierarchaeth o leihau; ailddefnyddio; adfer
a gwarediad diogel a ddylai barchu'r egwyddor o agosrwydd, sef cael gwared
ar wastraff mor agos â phosibl i'w ffynhonnell. Mae'r polisi hwn yn annog
cludo gwastraff ar drenau/dros y dŵr yn hytrach nag ar y ffyrdd.
12.2.4. Cyhoeddwyd y Cynllun Gwastraff Rhanbarthol ar gyfer De-Orllewin
Cymru ym mis Chwefror 2004. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
yn aelod o'r grŵp hwn ac mae wedi cytuno i gefnogi'r cynllun a'i
argymhellion. Casglodd y cynllun mai opsiwn 6 oedd y dewis gorau o'r chwe
dewis, yn amodol ar nifer o ddiwygiadau i elfennau penodol o'r cyfleusterau
gwastraff. Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys cymysgedd o drosglwyddo/traul
anerobig/claddu/ailbrosesu anweithredol/ynni o wastraff/ triniaeth fiolegol
fecanyddol/gwaith compostio/a chyfleusterau ailgylchu defnyddiau. Prif nod y
cynllun yw nodi pa fath o gyfleusterau fydd eu hangen ledled y rhanbarth yn
ystod bywyd y cynllun gwastraff h.y. 2013. I Ben-y-bont ar Ogwr, ystyrir bod
y gofynion isadeiledd canlynol yn hanfodol i ddelio â'r tunnelli tybiedig o
wastraff ar gyfer 2013. Yn fras, dengys y tabl math a nifer y cyfleusterau
sydd eu hangen.
TABL WAS1
|
Math o gyfleuster |
Nifer y cyfleusterau
(cyfan) ar gyfer 2013 |
|
Ffynhonnell gynradd a thriniaeth |
6 |
|
Compost / Rhenc agored |
1 |
|
Compost / Gwastraff solet dinesig |
2 |
|
Compost / Mewn cynhwysydd |
2 |
|
MBT |
2 |
|
Gwaith thermol |
1 * |
|
Prosesu anweithiol/ailddefnyddio |
10 |
|
Claddu |
1 |
|
Trosglwyddo/Amwynder dinesig |
1 |
|
Trosglwyddo /OTS |
2 |
|
Cyfanswm |
28 |
Mae cyfarwyddiadau'r CE ar wastraff yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau
sefydlu rhwydwaith o osodiadau cael gwared ar wastraff a sicrhau bod y
gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb niweidio'r amgylchedd, heb
beryglu iechyd dynol a heb achosi niwsans o ran sŵn a heb effeithio ar gefn
gwlad neu fannau o diddordeb.
12.2.5. Mae'r Cyfarwyddyd Claddu Sbwriel yn gofyn i'r DU:
- gyflwyno gwaharddiad o fis Gorffennaf 2004 i roi'r gorau i gael
gwared ar wastraff peryglus a diberygl gyda'i gilydd
- lleihau swm y gwastraff pydradwy sy'n cael ei gladdu
- cyflwyno gwaharddiad ar gladdu teiars a
- chyflwyno gwaharddiad ar gladdu hylif, gwastraff clinigol heintus a
gwastraff peryglus penodol arall yn raddol o 2001 ymlaen.
12.2.6. Amlinella "Call am Wastraff', strategaeth Llywodraeth
Cynulliad Cymru (Mehefin 2002) yr opsiynau yn nhrefn eu blaenoriaeth:-
- lleihau'r gwastraff a gynhyrchir
- ailddefnyddio defnyddiau
- adfer a all leihau'r galw am agregau neu ynni o danwydd ffosiledig
drwy ailgylchu neu gompostio
- adfer ynni pan nad yw adfer yn bosibl a
- chladdu dim ond fel cam olaf ar gyfer gwastraff nad yw'n bosibl ei
drin, gan gynnwys gweddillion o driniaethau gwres.
12.2.7. Mae Nodyn Technegol 21 am wastraff yn gosod allan
cyfarwyddyd am reoli gwastraff yn gynaliadwy. Un o'r gofynion yw'r grŵp
rhanbarthol o awdurdodau i baratoi a mabwysiadu cynllun gwastraff
rhanbarthol erbyn Tachwedd 2003. Bwriad y cynllun hwn yw adnabod meysydd o
angen a chwilio am safleoed posibl a nodi'r tunnelli tybiedig y bydd pob
math o wastraff yn debygol o'u creu a'r cyfleusterau sydd eu hangen.
Gofynnir i bob awdurdod cynllunio gynnwys eu gofynion yn y CDU ac unrhyw
arolygon dilynol.
12.2.8. Bydd gofyn i gynigion datblygu ystyried BPEO a dewisiadau rheoli
gwastraff yn gynaliadwy (SWMO) ac asesiadau effaith ar iechyd (HIA). Mae
cyfarwyddyd am y broses olaf hon ar gael yn nogfen y Cynulliad: Datblygu
Asesiadau Effaith ar Iechyd yng Nghymru 1999.

12.3. Rheoli a Chael Gwared ar Wastraff yn y
Fwrdeistref Sirol
12.3.1. Cymeradwyoedd cyn Gyngor Bwrdeistref Ogwr gynllun gwaredu
gwastraff yn 1985 a sefydlodd drefniadau cael gwared ar wastraff ar gyfer y
deng mlynedd nesaf. Casglodd mai claddu rheoledig fyddai'r ffordd orau o
gael gwared ar wastraff yn yr hen fwrdeistref. Defnyddiwyd Chwarel Stormy
Gorllewin ger Pîl fel y prif safle tipio. Mae gwaith claddu wedi dod i ben erbyn
hyn ac mae'r safle'n cael ei adfer. Disgwyliodd y Cynllun Gwaredu Gwastraff
y byddai Chwarel Stormy Down yn cael ei defnyddio ar ôl llenwi safle Stormy
Gorllewin.
12.3.2. Cynhwyswyd polisïau a oedd yn perthyn i waredu sbwriel yng
Nghynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr a fabwysiadwyd yn 1995. Erbyn hyn, roedd yn
amlwg bod yna broblemau sylweddol o ran diogleu dŵr ddaear mewn perthynas â
chynigion i gael gwared ar wastraff yn chwarel Stormy Down. Roedd angen a
drefniadau eraill gan na ystyriwyd bod unrhyw safle arall yn addas ar gyfer
claddu sbwriel, ac eithrio defnydd anweithiol. Yn 1996, cwblhawyd contract
gyda chontractwr gwastraff preifat i reoli a chael gwared ar y gwastraff a
gasglwyd gan y fwrdeistref sirol o orsaf drosglwyddo Stormy Gorllewin am gyfnod o
bum mlynedd. Mae'n bosibl y bydd y safle hwn yn destun ceisiadau pellach am
ganiatâd cynllunio/trwydded i barhau i weithio yn y dyfodol. Ers 1996,
claddwyd y rhan fwyaf o'r gwastraff dinesig ar safle ym Mro Cynon ym
mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf ac ar safle yng Nghastell Nedd Port
Talbot. Ar ddiwedd y contract hwn, cludir gwastraff o fwrdeistref sirol
Pen-y-bont ar Ogwr i Gastell Nedd Port Talbot lle adeiladwyd cyd-osodiad
newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau ailgylchu, compostio a gwastraff i
ynni.
12.3.3. Cynhyrchodd y cyn Gyngor Bwrdeistref gynllun ailgylchu drafft yn
1993 a arolygwyd yn 1995. Mae'r cynllun hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o
bryd. Amcangyfrifodd y cynllun ailgylchu fod 3.4% o wastraff cartref yn cael
ei ailgylchu a bod y lefelau hyn wedi codi i 4.7% yn 1995 ac i 5.6% yn
1997-98. Mae'r lefelau hyn yn debyg i gyfraddau ailgylchu yn Ne-Ddwyrain
Cymru a'r DU ond ymhell yn is na tharged y Llywodraeth o ailgylchu 25% o
wastraff cartref erbyn 2003. Ystyriodd y cynllun y broblem o ddod o hyd i
farchnadoedd dibynadwy ar gyfer defnyddiau ailgylchedig ac argymhellodd
gweithio tuag at darged llai o 12% drwy system gasglu "dod". Ystyrir y gall
nifer sylweddol o awdurdodau lleol gyrraedd y targed hwn ond mae
amrywiaethau yn y farchnad am ddefnyddiau ailgylchedig yn debygol a gallai
hyn amharu ar gyrraedd y targed.
12.3.4. Mae lleihau gwastraff yn ffurfio rhan bwysig o bolisi
amgylcheddol a datblygiad cynaliadwy'r Cyngor sy'n datgan:-
"Bydd yr Awdurdod hwn yn gwneud pob ymdrech i leihau ac atal gwastraff
lle mae hyn yn ymarferol o fewn ei adeiladau ei hun a bydd yn hybu arferion
gwastraff cynaliadwy gan gynnwys cadw, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau
ledled y fwrdeistref sirol."
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cynnig peth cyllid am
gyfleusterau gwastraff newydd. Gwnaed darpariaeth ar gyfer y cyfleusterau
hyn yn y cynllun.
12.3.5. Mae tipio gwastraff anweithiol o safleoedd adeiladu a dymchwel
wedi parhau yn y fwrdeistref sirol, yn bennaf ar safleoedd bach. Dyrannwyd
llawer o'r rhain yng Nghynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr. Mae'r rhain yn dymor
byr yn aml ac wedi bod yn ffordd o adfer tir nad oedd yn bosibl i roi
defnydd buddiol iddo. Ers cyflwyniad y dreth claddu sbwriel yn 1996, gwelwyd
cynnydd yn nifer y cynigion am adfer tir a gwelliannau amgylcheddol drwy
gladdu defnyddiau anweithiol. Mae'r defnyddiau hyn yn destun treth claddu o
£2 y dunnell ar hyn o bryd ac mae gwastraff cyffredinol yn agored i dreth
claddu o £14 y dunnell. Gellid ailddefnyddio'r defnydd anweithiol hwn mewn
gwaith adeiladu pe bai cyfleusterau ar gael i drefnu a phrosesu'r gwastraff.
Hyd nes y sefydlir cyfleusterau digonol, bydd gofyn darparu safleoedd ar
gyfer tipio gwastraff anweithiol. Dylid gwrthod unrhyw gladdu pellach wedyn
a byddai lleihau gwastraff yn cael ei annog, ynghyd â gwarchod adnoddau
naturiol a fyddai'n cael eu tynnu am agregau fel arall.
12.4. Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff
12.4.1. CLUDO GWASTRAFF SWMPUS YN GYNALIADWY
POLISI W1 (Cyswllt â’r Map 21 Gorllewin)
DYRENNIR SAFLE AR GYFER CASGLU A THROSGLWYDDO GWASTRAFF I'W GLUDO TU ALLAN
I'R FWRDEISTREF SIROL AR Y SAFLE ADFYWIO YN NHONDU.
12.4.2. Bydd y trefniadau a wneir gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell
Nedd Port Talbot yn darparu ar gyfer cludo gwastraff dinesig a gynhyrchir yn
y fwrdeistref sirol i gyfleuster trin/gwaredu newydd ger Abertawe. Mae'r
orsaf drosglwyddo bresennol yn Stormy Gorllewin yn destun caniatâd dros dro. Nid
yw'r safle'n addas ar gyfer cyfleuster parhaol gan nad yw mewn lleoliad
canolog, mae yna broblemau mynediad ac mae'r safle claddu cyfagos yn cael ei
adfer. Y dewis fyddai safle arall yn Nhondu gan ei fod yn ganolog ac mae'n
bosibl cludo gwastraff swmpus ar y rheilffordd yn hytrach nag ar y ffyrdd.
Ystyrir darparu cyfleusterau eraill ar y safle hwn yn hwyrach, megis safle
amwynderau dinesig arall neu ganolfan ailgylchu.
12.5. Safleoedd Claddu Sbwriel
12.5.1. DARPARU SAFLE GWAREDU SBWRIEL
POLISI W2 (Cyswllt â’r Map 26)
FFAFRIR GWAREDU GWASTRAFF AR GYFER GWASTRAFF DOMESTIG, MASNACHOL A DIBERYGL
YN CHWAREL TYTHEGSTON.
12.5.2. Y prif safle claddu gwastraff domestig, masnachol a diwydiannol
diberygl oedd Chwarel Tythegston ond mae hwn yn llawn erbyn hyn. Cludir y
gwastraff domestig a gynhyrchir i'r cyfleuster newydd ger Abertawe o fewn
bwrdeistref sirol Castell Nedd Port Talbot. Mae'r safleoedd sy'n weddill yn
llai a chaniateir iddynt dderbyn gwastraff anweithiol yn unig. Yn y dyfodol,
disgwylir sefydlu cyfleusterau ailgylchu gwastraff anweithiol ac felly mae'n
debyg y bydd llai o ofyn am safleoedd claddu sbwriel unwaith i gyfleusterau
eraill fod ar gael.

12.6. Claddu Sbwriel yn y Dyfodol
12.6.1. LLEIHAU A RHEOLI SAFLEOEDD CLADDU SBWRIEL
POLISI W3
CANIATEIR CYNIGION AM GLADDU GWASTRAFF DIM OND LLE NAD YW'N DDICHONOL I
AILGYLCHU DEFNYDDIAU. FFAFRIR Y CYNIGION HYN WEDYN AR
(i) DIR GWAG, LLYGREDIG NEU DDIFWYNEDIG
(ii) SAFLEOEDD MWNAU HEB EU HADFER A
(iii) THIR LLWYD OS GELLIR BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL: -
OS:-
1. NI FYDD Y DATBLYGIAD YN EFFEITHIO'N DDRWG AR ARDALOEDD O BWYSIGRWYDD O
RAN GWARCHOD NATUR;
2. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN ACHOSI LLYGREDD AMGYLCHEDDOL ANNERBYNIOL O
LWCH, SŴN, DIRGRYNIAD, GOLLYNGIADAU TRWYTHOLCH, DŴR
NEU NWY, GAN GYNNWYS UNRHYW EFFAITH AR ANSAWDD NEU SWM Y CYFLENWAD A
DRAENIAD DŴR;
3. NID YW'R DATBLYGIAD YN EFFEITHIO'N DDRWG NAC YN CAEL EFFAITH WELEDOL
ANNERBYNIOL AR ARDALOEDD O BWYSIGRWYDD AMGYLCHEDDOL;
4. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN EFFEITHIO AR FUDDIANNAU O BWYSIGRWYDD I
AMAETHYDDIAETH NEU GOEDWIGAETH NA CHLODDIO MWNAU;
5. MAE MYNEDIAD I'R RHWYWAITH FFYRDD YN DDIGONOL, YN YSTOD EI FYWYD GWAITH
A'I ADFERIAD DILYNOL, HEB EFFEITHIO AR AMWYNDERAU LLEOL;
6. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN EFFEITHIO AR SEFYDLOGRWYDD Y TIR;
7. MAE RHAGLEN GYTUNEDIG O REOLAETH SAFLE YN YSTOD BYWYD Y DATBLYGIAD;
8. MAE RHAGLEN GYTUNEDIG AR GYFER ADFER Y SAFLE, EI ÔL-OFAL A'I ÔL-DDEFNYDD
BUDDIOL GAN GYNNWYS PROFFILIAU TIR BODDHAOL MEWN PERTHYNAS Â'R TOPOGRAFFEG
CYFAGOS A GWAITH TIRLUNIO PRIODOL.
12.6.2. Hyd nes y sefydlir ystod lawn o gyfleusterau ailgylchu ar gyfer y
fwrdeistref sirol, bydd angen cyfyng i ddarparu safleoedd ar gyfer claddu
sbwriel, yn enwedig gwastraff anweithiol a gynhyrchir gan weithgareddau
adeiladu a dymchwel yn bennaf. Fodd bynnag, unwaith y bydd cyfleusterau ar
gael, ni fydd yn ddymunol claddu defnyddiau fel hyn yn sgil polisïau i
leihau cynhyrchu gwastraff a gwrthwynebu claddu cynnyrch y gellir ei
ailddefnyddio i warchod adnoddau naturiol.
12.6.3 Adlewyrcha polisi
W3 gyfarwyddyd a geir yn Nodyn Cyngor Technegol 21 o'r enw Gwastraff a
gofynion Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-Orllewin Cymru (Ionawr 2004)
hefyd. Bydd gofyn am ymchwil bellach i arwain y broses cynllunio gwastraff
cyn gwneud dyraniadau yn y cynllun datblygu.
12.7. Cyfleusterau Ailgylchu
12.7.1. DARPARU SAFLEOEDD I AILGYLCHU GWASTRAFF
MWNAU
POLISI W4
BYDD CYFLEUSTERAU CASGLU AC AILGYLCHU GWASTRAFF MWNOL YN CAEL EU HYBU A'U
HANNOG OS YSTYRIR BOD EU HEFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL YN DDERBYNIOL O RAN
DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS, GAN GYFEIRIO'N BENODOL AT AMWYNDERAU PRESWYL A
SAFLEOEDD A BENODIR AR GYFER DIOGELWCH AMGYLCHEDDOL. NODWYD Y SAFLEOEDD
CANLYNOL:-
W4(1) HEOL-Y-SPLOTT, DE CORNELI; (Cyswllt â’r Map 25 Canolog)
W4(2) CHWAREL CORNELI, DE CORNELI; (Cyswllt â’r Map 25 Dwyrain)
W4(3) CHWAREL Y GROVE, DE CORNELI. (Cyswllt â’r Map 25 Canolog)
12.7.2. Mae'r diwydiant gwastraff yn newid yn gyson o ran tueddiadau
marchnad. Gall diwydiannau preifat, sefydliadau ailgylchu neu'r Cyngor ei
hun gynnig cyfleusterau ar gyfer casglu, trefnu a phrosesu gwastraff.
Agorwyd safle amwynderau dinesig newydd yn ddiweddar ar safle claddu
gwastraff Tythegston. Yn amodol ar ddigon o gyllid gan LlCC, bydd safleoedd
amwynderau dinesig newydd yn cael eu sefydlu mewn mannau priodol yn y
fwrdeistref sirol. Ystyrir cynigion ailgylchu eraill mewn perthynas â'u
heffaith ar ddefnyddiau tir eraill a safleoedd a benodir ar gyfer cadwraeth
natur, fel ardaloedd o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol neu ardaloedd
gwarchod tirwedd neu leiniau glas.
12.7.3. Cymeradwywyd cyflusterau ailgylchu defnyddiau anweithiol yn
Heol-y-Splott a Chwarel Corneli. Ystyrir bod chwareli gweithredol yn addas
ar gyfer cynigion fel hyn yn aml gan nad oes datblygiadau preswyl gerllaw ac
mae mynediad digonol i'r pwrpas hwn. Gallai'r cyfleusterau yn Chwarel y
Grove fod yn addas hefyd o ystyried lleoliad a pha mor agos yw i'r
rhwydwaith ffyrdd strategol.
12.8. Cyfleusterau Gwastraff ar gyfer Datblygiadau
Mawr
12.8.1. LLEIHAU AC AILGYLCHU GWASTRAFF
POLISI W5
DYLAI POB CYNNIG AM DDATBLYGIAD NEWYDD MAWR GYNNWYS DARPARIAETH AR GYFER
CASGLU A, LLE'N BRIODOL, TRIN GWASTRAFF SY'N DEBYGOL O GAEL EI GREU GAN
DDEFNYDD Y TIR YN Y DYFODOL.
12.8.2. Dylai cynigion am ddatblygiadau mawr, fel datblygiadau manwerthu,
diwydiannol, masnachol neu dai, gynnwys manylion o'r ffordd y cesglir
gwastraff a chynigion i leihau ac ailgylchu gwastraff. Mae datblygwyr yn
darparu banciau gwastraff fel arwydd o ewyllys da'n aml ond dylid hybu'r
trefniadau hyn ym mhob cynnig er mwyn mwyhau'r posibiliadau ailgylchu.
12.9. Gwastraff Adeiladu a Dymchwel
12.9.1. AILDDEFNYDDIO AC AILGYLCHU DEFNYDDIAU
POLISI W6
BYDD UNRHYW GYNIGION DATBLYGU SY'N CYNNWYS DYMCHWEL STRWYTHURAU MAWR NEU
SYMUD SYMIAU SYLWEDDOL O WASTRAFF YN NODI'R FFORDD YR AILDDEFNYDDIR, YR
AILGYLCHIR NEU Y CEIR GWARED AR Y GWASTRAFF AR NEU I FFWRDD O'R SAFLE.
12.9.2. Er mwyn gwarchod adnoddau naturiol, mae'n bwysig i fwyhau
ailddefnyddio ac ailgylchu defnyddiau lle mae hyn yn bosibl ar y datblygiad
arfaethedig ei hun neu mewn cynlluniau adeiladu lleol eraill.
12.10. Gwastraff Arbennig
12.10.1. RHEOLI GWAREDIAD GWASTRAFF ARBENNIG
POLISI W7
CANIATEIR DATBLYGIAD AR GYFER CAEL GWARED AR WASTRAFF ARBENNIG, EI GADW NEU
EI DDOSBARTHU DIM OND OS YSTYRIR BOD YR EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL YN
DDERBYNIOL MEWN PERTHYNAS Â DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS, YN ARBENNIG AMWYNDERAU
PRESWYL A SAFLEOEDD A BENODIR AR GYFER DIOGELWCH AMGYLCHEDDOL.
12.10.2. Yn aml, mae angen cyfleusterau triniaeth arbennig ar wastraff
arbennig. Mae gan y cyfleusterau hyn y potensial i achosi effeithiau drwg
sylweddol ac felly mae gofyn eu lleoli mewn mannau a aseswyd yn ofalus er
mwyn gostwng eu heffaith amgylcheddol.
12.10.3 O fewn rhanbarthau de-orllewin a de-ddwyrain Cymru, mae gofyn am
gyfleusterau gwastraff peryglus ond mae'n anodd iawn i awdurdodau unigol
gyfiawnhau darparu safle er mwyn bodloni angen rhanbarthol. Mae'r cynlluniau
gwastraff rhanbarthol wedi nodi gofynion maint y gwastraff hwn fesul
awdurdod unedol ond nid ydynt yn rhoi digon o gyfarwyddyd i alluogi
awdurdodau i gynllunio'r safleoedd hyn yn y rhanbarth. Er y cydnabyddir yr
angen am y safleoedd hyn, bydd angen i weithgorau technegol drafod y mater
ymhellach fel rhan o'r broses cynllunio gwastraff ranbarthol. Bydd yn cael
ei fonitro a'i arolygu dan weithdrefn arolygu ffurfiol y CDU.
12.11. Cynigion ar gyfer Safleoedd Amwynderau
Dinesig
12.11.1. DARPARU SAFLEOEDD AMWYNDERAU DINESIG
POLISI W8
CANIATEIR CYNIGION I DDATBLYGU CYFLEUSTERAU AMWYNDERAU DINESIG I DRIN
GWASTRAFF DOMESTIG HEBLAW AM Y GWASTRAFF A GESGLIR O DDRWS I DDRWS (AC
EITHRIO GWAREDU/ TROSGLWYDDO GWASTRAFF) OS:-
1. NAD OES EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMWYNDERAU TRIGOLION LLEOL OHERWYDD SŴN,
LLWCH, DIRGRYNIAD, AROGLAU NEU LYGOD;
2. GELLIR DIWALLU AR GYFER Y TRAFFIG A GYNHYRCHIR AR Y RHWYDWAITH FFYRDD
PRESENNOL YN DDIOGEL;
3. GELLIR GWNEUD TREFNIADAU BODDHAOL I ATAL LLYGRU SYSTEMAU/CYFLENWADAU DŴR
ARWYNEB NEU DAN DDAEAR;
4. DIOGELIR BUDDIANNAU CADWRAETH NATUR;
5. GELLIR LLEDDFU'R EFFAITH WELEDOL DRWY DIRLUNIO A SGRINIO'N BRIODOL; AC OS
6. YW'R CYNIGION YN CYDWEDDU Â DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS.
12.11.2. Er mwyn diwallu darpariaethau Deddf Diogelwch Amgylcheddol 1990,
bydd gofyn i'r Cyngor ddarparu cyfle am osod safle(oedd) amwynderau dinesig
mewn mannau strategol yn y fwrdeistref sirol. Y gobaith yw y bydd hyn yn
annog pobl i gael gwared ar eu gwastraff cartref, gan gynnwys gwastraff
gardd, mewn ffordd foddhaol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i dri safle ym
Maesteg, Brynmenyn a Bro Ogwr yn effeithiol o 2004/5.
12.11.3. Ystyrir ei fod yn amhriodol ac anymarferol i wneud dyraniadau
penodol ar gyfer y safleoedd hyn o gofio'r angen i roi ystyriaeth ofalus i'r
cynigion hyn ac ystyried natur y datblygiad a'r ardal gyfagos. Fodd bynnag,
anogir cynigion tuag at ardaloedd neu ddyraniadau cyfredol ar gyfer
diwydiant cyffredinol oni bai y gellir dangos ei fod yn bosibl eu rhoi
rhywle arall heb achosi effaith amgylcheddol annerbyniol.
12.11.4. Rhaid lleoli safleoedd yn y fwrdeistref sirol mewn ardaloedd
sy'n ganolog i brif ardaloedd anheddu er mwyn atal symudiadau cerbydau
diangen. Felly, ystyrir bod safleoedd diwydiannol fel Brynmenyn, Litchard a
Fferm y Pentref, Pîl yn dderbyniol mewn egwyddor.
12.12 Gwastraff Gwyrdd
12.12.1 CYFLEUSTERAU COMPOSTIO GWASTRAFF GWYRDD
POLISI W9
CANIATEIR CYNIGION AM GYFLEUSTERAU COMPOSTIO GWASTRAFF GWYRDD OS YDYNT YN
BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
1. NID OES EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMWYNDERAU TRIGOLION LLEOL OHERWYDD SŴN,
LLWCH, DIRGRYNIAD, AROGLAU NEU LYGOD;
2. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD PRESENNOL YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR;
3. GELLIR GWNEUD TREFNIADAU DIGONOL I ATAL LLYGRU DŴR ARWYNEB NEU DAN
DDAEAR;
4. DIOGELIR BUDDIANNAU CADWRAETH NATUR NEU GWEITHREDIR MESURAU LLEDDFU
PRIODOL;
5. NI FYDD EFFAITH WELEDOL ANNERBYNIOL NEU GELLIR EI LLEDDFU DRWY
DIRLUNIO/SGRINIO I RADDAU; AC
6. NID OES GWRTHDARO SYLWEDDOL GYDA DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS.
12.12.2. Ystyrir bod compostio gwastraff gwyrdd yn elfen hanfodol o reoli
gwastraff mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r cyfleusterau hyn, yn enwedig
compostio gwastraff gwyrdd yn yr awyr agored, yn debyg i waith amaethyddol i
raddau ac mae'n bosibl eu lleoli yng nghefn gwlad fel eithriad priodol i
bolisi EV1 o ran amrywio gwaith fferm. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn
gorfforol ar wahân i anheddau preswyl a defnyddiau tir sensitif eraill er
mwyn lleihau effaith gollyngiadau bioerosolau.
12.12.3. Un o'r prif faterion i'w hystyried o ran y cyfleusterau hyn yng
nghefn gwlad yw'r traffig sy'n cael ei greu a gallu ffyrdd gwledig i ymdopi
â hyn. Rhaid ystyried gallu'r ffyrdd hyn i ymdirn â cherbydau trwm heb
beryglu diogelwch defnyddwyr y ffyrdd a allai gynnwys cerddwyr/beicwyr sy'n
mwynhau cymeriad tawel yr ardaloedd gwledig hyn. Felly, gofynnir i bob cais
asesu'r materion hyn yn ofalus.
12.13. Gwastraff Masnachol a Diwydiannol
12.13.1 CYFLEUSTERAU GWASTRAFF MASNACHOL A DIWYDIANNOL
POLISI W10
CANIATEIR CYNIGION I DRIN, PROSESU A DOSBARTHU GWASTRAFF DIWYDIANNOL A
MASNACHOL FEL:-
(i) CYFLEUSTERAU AILGYLCHU DEFNYDDIAU (MRF)
(ii) TRINIAETH FIOLEGOL FECANYDDOL (MBT) NEU
(iii) GYFLEUSTERAU COMPOSTIO MEWN CYNHWYSYDD/ TRAUL ANEROBIG
MEWN MANNAU PRIODOL O FEWN YSTADAU DIWYDIANNOL Â DEFNYDD DOSBARTH B2 OS
YDYNT YN BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
1. NID OES EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMWYNDERAU TRIGOLION LLEOL NEU DDEFNYDDWYR
DIWYDIANNOL CYFAGOS OHERWYDD SŴN, LLWCH, DIRGRYNIAD, AROGLAU NEU LYGOD;
2. GELLIR GWNEUD TREFNIADAU PRIODOL I ATAL LLYGRU DŴR ARWYNEB NEU DAN
DDAEAR;
3. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD PRESENNOL YMDOPI'N DDIOGEL Â'R TRAFFIG A
GYNHYRCHIR AC
4. Y CYTUNIR AR RAGLEN O REOLI'R SAFLE YN YSTOD BYWYD Y DATBLYGIAD.
12.13.2. Mae rhan sylweddol, rhyw 50 - 60% o gyfanswm y gwastraff a
gynhyrchir, yn cynnwys gwastraff masnachol a diwydiannol sydd â nifer o
ffurfiau. Gall fod yn wydr/papur/metel/pren neu blastic sy'n addas ar gyfer
ailgylchu a gelwir cyfleusterau sy'n eu trin a'u prosesu'n gyfleusterau
ailgylchu defnyddiau (MRF) fel arfer. Ceir gwastraff arall, a elwir yn
wastraff dros ben, o brosesau ailgylchu eraill a gallai fod angen
cyn-driniaeth arnynt drwy ddefnyddio prosesau mecanyddol a biolegol i
sefydlogi'r gwastraff. Mae gwaith nodweddiadol yn creu tri llif h.y. defnydd
ailgylchadwy sy'n cynnwys metelau haearnaidd/nad yw'n haearnaidd; llif
bio-sefydlog sy'n addas fel gorchudd safle claddu sbwriel; a llif dros ben y
gellir ei gladdu neu ei drosi i danwydd eilaidd. Mae traul mewn
cynhwysydd/anerobig yn broses lle anogir defnyddiau pydradwy i bydru yn
absenoldeb ocsigen mewn cynhwysydd caeëdig. Mae'n cynhyrchu carbon deuocsid,
methan a soletau/hylifau a elwir yn grynhoad y gellir ei ddefnyddio fel
gwrtaith a chompost.
12.13.3. Mae'r polisi hwn yn gyson â
pholisi E7 a dylid ei ystyried ar y
cyd ag ef er mwyn caniatáu defnyddiau cyflogaeth sui generis mewn lleoliadau
priodol ar dir diwydiannol. Dosbarthir defnyddiau trin dŵr fel sui generis
at ddibenion y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |