access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Cyfiawnhad O Bolisïau Rhan 1
Rhan 2
Cyflwyniad
Gwerth Twristiaeth A Hamdden I Ben-Y-Bont Ar Ogwr
Y Cynnyrch Twristiaeth A Hamdden
Polisïau Twristiaeth A Hamdden
Polisi Cyffredinol
Datblygiadau Twristiaeth A Hamdden
Polisi TM1
Llety Twristiaeth A Hamdden
Llety I Ymwelwyr Mewn Ardaloedd Trefol
Polisi TM2
Llety I Ymwelwyr Tu Allan I Ardaloedd Trefol
Polisi TM3
Safleoedd Carafanau, Hafotai A Gwersylla
Carafanau Sefydlog A Hafotai
Polisi TM4
Safleoedd Gwersylla A Charafanau Symudol
Polisi TM5
Atyniadau Twristiaeth A Hamdden
Atyniadau Ymwelwyr
Polisi TM6
Porthcawl
Atyniadau Hamdden A Thwristiaeth Ym Mhorthcawl
Polisi TM7
Ardal Llety  Gwasanaeth
Diogelu’r Llety  Gwasanaeth Presennol
Polisi TM8
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

Delwedd lenwi

8. TWRISTIAETH A HAMDDEN


8.1. Cyfiawnhad o Bolisïau Rhan 1

8.1.1. Mae polisi 10 yn cydnabod bod twristiaeth yn un o sectorau mwyaf llwyddiannus economi'r DU. Mae rhai ardaloedd o'r wlad yn dibynnu'n fawr ar dwristiaeth sydd â'r potensial i dyfu'n gyflym.

8.1.2. Mae potensial twristiaeth bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwysig iawn o ran darparu buddion economaidd ac amgylcheddol parhaus. Mae'n bwysig parhau i annog a chynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n aros am gyfnod hir. I helpu gyda hyn, bydd y Cyngor yn cefnogi cynigion am ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Dylai hyn arwain at ehangu'r ystod o atyniadau a chyfleusterau sydd ar gael, a denu mwy o ymwelwyr a, thrwy hyn, cynyddu incwm a chyfleoedd gwaith.

8.1.3. Gall diwydiant twristiaeth a reolir yn dda ddod â sawl budd gan gynnwys: ategu at weithgarwch economaidd; cefnogi isadeiledd cludiant a gwasanaethau'r sector cyhoeddus; cynnig cefnogaeth ariannol i ardaloedd gwledig; cefnogi diwydiannau amaethyddol, cynhyrchu a gwasanaeth; ategu at gadwraeth safleoedd treftadaeth a chefn gwlad; meithrin cyfnewid profiadau diwylliannol; gwella dichonoldeb canol trefi; a helpu i adfywio ardaloedd trefol a gwledig llwm.

8.1.4. Fodd bynnag, bydd y nod o annog twristiaeth yn rhoi pwysau ar amgylchedd y fwrdeistref sirol. Bydd raid rheoli hyn mewn ffordd sy'n cael cydbwysedd rhwng ffafrio datblygiadau ac atyniadau sy'n amgylcheddol gynaliadwy, nad ydynt yn achosi difrod i dirwedd a threftadaeth y fwrdeistref sirol ond sy'n cadw hunaniaeth fywiog y diwydiant twristiaeth ar gyfer trigolion ac ymelwyr y dyfodol.

8.1.5. Pwysleisia polisi 11 y gall defnydd hamdden fod o fudd i ganol trefi a dosbarthiadau. Wrth ystyried y cynigion hyn neu wrth benderfynu ar safleoedd ar gyfer datblygiadau hamdden, mae PCC (2002) yn datgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried a oes angen am ddarpariaeth ychwanegol i ddechrau. Gallai'r angen fod yn fesurol er mwyn ymdrin â galw profedig nad yw wedi ei fodloni a/neu'n ansoddool - lle gellir dangos y bydd darpariaeth newydd yn cyfrannu at fodloni'r polisïau a osodir allan rhywle arall yn y CDU. Er mwyn atal difrod pellach i ganol trefi a dosbarthiadau, dylid lleoli defnyddiau hamdden o bwys, fel sinemâu aml-sgrîn, neuaddau bingo a theatrau lle ceir adeiladau neu safleoedd priodol yng nghanol trefi neu ddosbarthiadau neu ar eu hymylon. Os nad yw hyn yn bosibl, gellir lleoli'r datblygiad ar safleoedd eraill sydd â chludiant cyhoeddus da iddynt.

Back to Top


Rhan 2

8.2. Cyflwyniad

8.2.1. Mae twristiaeth yn chwarae rôl bwysig yn yr economi genedlaethol ac yn ffyniant sawl dinas, tref ac ardal wledig. Ynghyd â'r gwyliau teulu blynyddol, mae twristiaeth yn cynnwys ystod eang o ymweliadau byrrach, teithiau dydd a seibiannau penwythnos. Mae'n cynnwys teithio at ddibenion busnes, ynghyd ag ar gyfer hamdden.

8.2.2. Mae nifer o gyhoeddiadau'r Llywodraeth yn ddiweddar sy'n rhoi cyfarwyddyd am dwristiaeth, yn enwedig twristiaeth gynaliadwy, yn pwysleisio'r angen am ddiwydiant a reolir yn iawn. Paratowyd y papur ymgynghori Twristiaeth tuag at Gynaladwyedd fel rhan o fenter ymgynghori ehangach - Cyfle i Newid - Arolwg o Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy'r DU. Dilynwyd hyn yn ddiweddar gan ddogfen strategaeth newydd a gyhoeddwyd gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o'r enw Twristiaeth Yfory: Diwydiant o Dwf ar gyfer y Mileniwm Newydd. Yng Nghymru, mae Bwrdd Croeso Cymru wedi cynhyrchu strategaeth ddrafft i ddilyn Twristiaeth 2000 o'r enw Strategaeth Twristiaeth Newydd i Gymru i ddarparu fframwaith i arwain datblygiad y diwydiant. Mae'r strategaeth yn cadarnhau cynnydd rhagorol twristiaeth o ran cyrraedd targedau twf anodd. Mae'r ddwy ddogfen yn nodi'r amgylchedd a chynaladwyedd fel y themâu sy'n tyfu gyflymaf ym maes twristiaeth. Maent yn cydnabod hefyd bod nwyddau amgylcheddol fel dŵr glân, awyr iach a golygfeydd prydferth yn sylfaenol ac mae gan dwristiaid a'r diwydiant twristiaeth ddiddordeb mawr yn eu cadw. Mae awdurdodau de-ddwyrain Cymru'n paratoi strategaeth twristiaeth ranbarthol hefyd, a fydd yn rhoi fframwaith ar gyfer mentrau datblygu a marchnata twristiaeth.

8.2.3. At ddibenion cynlluniau datblygu a chynllunio, darperir cyfarwyddyd am sut i ymdrin â thwristiaeth ym Mholisi Cynllunio (Cymru) a'r Nodyn Cyngor Technegol 13 cysylltiedig - Twristiaeth. Mae Cyfarwyddyd Polisi Cynllunio DETR 21 am dwristiaeth yn berthnasol hefyd.

8.2.4. Mae'r cyfle ar gyfer adloniant a hamdden (y mae twristiaeth yn rhan graidd ohono) yn elfennau canolog mewn cymdeithas iach. Mae datblygiadau twristiaeth yn gwella delwedd y fwrdeistref sirol, yn ei gwneud yn ddeniadol i ddarpar ddatblygwyr neu'r rhai sy'n ystyried adleoli i ardaloedd eraill. Mae buddsoddi mewn twristiaeth, ynghyd â denu mwy o ymwelwyr, yn creu gwell gyfleusterau hamdden ac adloniant i drigolion y fwrdeistref sirol. Bydd twristiaeth yn rhoi cyfle i bobl sy'n llai cyfoethog a'r rhai hynny ag anghenion penodol e.e. teuluoedd â phlant bach, pobl anabl a'r henoed. Bydd nifer fwy o ymwelwyr i'r fwrdeistref sirol yn mynnu rheolaeth ofalus. Rhaid sicrhau nad yw'r buddion yn cael eu gwrthbwyso gan ddifrod i'r amgylchedd corfforol.

Multi-screen cinema, The Pines

Back to Top


8.3. Gwerth Twristiaeth a Hamdden i Ben-y-bont ar Ogwr

8.3.1. Nid yw'n bosibl deall gwerth a swm twristiaeth a hamdden ac mae hyn yn cyfyngu dadansoddiad llawn o'r potensial am alw a datblygiad dilynol. Mae nifer o resymau am hyn:-

  • Nid oes gan y diwydiant ffurf benodol ac nid yw pawb sy'n rhan o'r diwydiant wedi datblygu a derbyn cysyniad unigol o'r diwydiant;

  • O fewn gweithgareddau allweddol y diwydiant, sef cludiant, llety ac adloniant, mae pob un wedi datblygu ei ddiffiniad, dosbarthiad a methodolegau ei hun o ran casglu data. Y canlyniad yw nad oes llawer o gyfathrebu clir na defnyddiol yn y maes.

8.3.2. Mae mwyafrif yr ymdrechion o ran diffinio twristiaeth wedi cwmpasu 'beth yw twrist'. Mae pob diwydiant yn disgrifio'r defnyddiwr yn wahanol e.e. gGorllewinai, cwsmer, teithiwr, ymwelydd, cleient, ayb.

8.3.3. Oherwydd y problemau â chasglu data, mae'n anodd amcangyfrif yn gywir beth yw gwerth a maint twristiaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi mabwysiadu methodoleg STEAM (Scarborough Tourism Economic Activity Monitor), sy'n becyn dadansoddi cyfrifiadurol sy'n ceisio mesur gwerth a maint twristiaeth yn y fwrdeistref sirol. Nododd yr asesiad ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr yn 2003:-

  • y darperir oddeutu 2,880 o swyddi sy'n gyfwerth â swyddi amser llawn yn uniongyrchol ac y darperir 1,172 yn anuniongyrchol;

  • rhyw 3,536,000 o ymwelwyr i'r fwrdeistref sirol. O'r rhain roedd 3,002,000 yn ymwelwyr dydd; arhosodd 144,000 mewn llety â gwasanaeth, arhosodd 191,000 mewn llety heb wasanaeth ac arhosodd 199,000 gyda ffrindiau a pherthnasau;

  • fod ymwelwyr wedi gwario oddeutu £200 miliwn. Roedd £13.5 miliwn o hyn ar gyfer llety, roedd £27.6 miliwn ar gyfer bwyd a diod, £8.6 miliwn ar adloniant, bron i £50 miliwn ar siopa a £15.6 miliwn ar gludiant. Gwariwyd £64.7 miliwn yn anuniongyrchol ac £20.2 miliwn ar TAW;

  • y daw'r swm uchaf o refeniw i'r ardal o ymwelwyr dydd (£128.1 miliwn), yna'r rhai sy'n aros yn y sector llety heb wasanaeth (£33.8 miliwn), yna'r rhai sydd mewn llety â gwasanaeth (£24.6 miliwn) ac yna unigolion sy'n aros gyda ffrindiau a theulu (£13.7 miliwn).

8.3.4. Ym Mhorthcawl, sef prif gyrchfan gwyliau'r fwrdeistref sirol, darparwyd y ffigyrau canlynol gan STEAM ar gyfer 2002:-

  • Darperir 1,105 o swyddi sy'n gyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol ac anuniongyrchol ym Mhorthcawl;

  • Daeth 912,000 ymwelydd i Borthcawl, roedd 696,000 ohonynt yn ymwelwyr dydd; arhosodd 129,000 mewn llety heb wasanaeth, 62,000 mewn llety â gwasanaeth ac arhosodd 25,000 gyda theuluoedd neu ffrindiau;

  • Gwariodd ymwelwyr gyfanswm o £59.2 miliwn a gwariwyd £12.2 miliwn o hyn ar lety;

  • Daeth y swm uchaf o refeniw i Borthcawl o'r unigolion hynny sy'n aros mewn llety heb wasanaeth (£32.2 miliwn) ac yna ymwelwyr dydd (£16.3 miliwn).

Back to Top


8.4. Y Cynnyrch Twristiaeth a Hamdden

8.4.1. Mae potensial twristiaeth y fwrdeistref sirol yn uchel. Mae ganddi arfordir brydferth iawn a chynigia ystod dda o gyfleoedd hamdden awyr agored anffurfiol ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a Pharc Gwledig Bryngarw.

8.4.2. Mae'r cynnyrch treftadaeth hanesyddol a diwydiannol yn gryf o ganlyniad i enghreifftiau da o gestyll Normanaidd, cyn ffermdai canoloesol a mansdai Fictoraidd, ynghyd â hen weithfeydd haearn, tramffyrdd ac archeoleg ddiwydiannol gysylltiedig. Mae'r gweithgareddau eraill ar gael yn cynnwys chwarae golff, cerdded, beicio, brigdonni a chwaraeon dŵr eraill.

8.4.3. Mae'r Designer Outlet Village ar gyffordd 36 o'r M4 wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr â Phen-y-bont ar Ogwr. Gellir datblygu'r llwyddiant hwn ymhellach. Er enghraifft, gallai atyniadau pwysig gynnwys y rheilffordd stêm arfaethedig rhwng Tondu a Phontycymer a fydd yn gysylltiedig â gweithgareddau ar hyd y siwrnai, fel llwybrau beicio, teithiau cerdded cylchol a chanolfannau ywmelwyr, ynghyd â datblygiadau hamdden, adloniant a llety arfaethedig ym Mhorthcawl.

Back to Top


8.5. Polisïau Twristiaeth a Hamdden

8.5.1. Bydd y polisïau canlynol yn cyfrannu at y nodau allweddol o wella a datblygu potensial twristiaeth y fwrdeistref sirol tra'n diogelu a gwarchod yr amgylchedd.

Back to Top


8.6. Polisi Cyffredinol

8.6.1. DATBLYGIADAU TWRISTIAETH A HAMDDEN

POLISI TM1

CANIATEIR CYFLEUSTERAU AC ATYNIADAU TWRISTIAETH A HAMDDEN NEWYDD AC ESTYNEDIG MEWN ARDALOEDD TREFOL LLE GELLIR BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. BYDD YN CYFRANNU AT ADFYWIO CANOL TREFI DRWY WELLA EU FFYNIANT, DICHONOLDEB A DYMUNOLDEB I YMWELWYR A GWELLA EU RÔL HAMDDEN YN ECONOMI'R NOS A'R PENWYTHNOS;

2. BYDD Y DATBLYGIAD YN CYDWEDDU Â'R ARDAL O'I GWMPAS O RAN LLEOLIAD, GRADDFA, DYLUNIAD, YMDDANGOSIAD ALLANOL, DEUNYDDIAU A THIRLUNIO;

3. MAE'N HAWDD CYRRAEDD Y DATBLYGIAD AR GLUDIANT CYHOEDDUS, MAE'N BODLONI ANGHENION POBL NAD OES GANDDYNT GEIR AC Y BYDDAI DIGON O LE I BARCIO YNO;

4. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y DATBLYGIAD HEB EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDD O YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL;

5. NID YW'R SAFLE O FEWN ARDAL SYDD MEWN PERYGL O LIFOGYDD.

CANIATEIR CYFLEUSTERAU AC ATYNIADAU NEWYDD NEU ESTYNEDIG YN EIN CEFN GWLAD DIM OND OS YW'R GWEITHGAREDD DAN SYLW'N MYNNU LLEOLIAD GWLEDIG A/NEU MAE'R DATBLYGIAD ARFAETHEDIG YN RHAN O GYNLLUN AMRYWIO GWLEDIG. DYLAI CYNIGION FODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. NI FYDD Y DATBLYGIAD YN NIWEIDIO NAC YN EFFEITHIO AR YR ARDALOEDD CANLYNOL A'U CWMPASOEDD:-

A) ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;

B) CSAC CYNFFIG;

C) Y GWASTADEDD GLO STRATEGOL AC YMYLON CYMOEDD CYSYLLTIEDIG;

CH) SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG AC ARDALOEDD AMGYLCHEDDOL SENSITIF ERAILL.

2. BYDD Y DATBLYGIAD YN CYDWEDDU Â'R ARDAL O RAN LLEOLIAD, GRADDFA, DYLUNIAD, YMDDANGOSIAD ALLANOL, DEUNYDDIAU A THIRLUNIO;

3. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y DATBLYGIAD HEB EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDD O YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL;

4. MAE'N HAWDD CYRRAEDD Y DATBLYGIAD AR GLUDIANT CYHOEDDUS AC MAE'N BODLONI ANGHENION Y RHAI HEB GEIR;

5. NID YW'R SAFLE O FEWN ARDAL SYDD MEWN PERYGL O LIFOGYDD.

8.6.2. Mae cyfle'n bodoli i wella a chydlynu'r ystod o weithgareddau ac atyniadau ymhellach. Pwrpas polisi TM1 yw annog twristiaeth sy'n cynyddu'r ystod o weithgareddau sydd ar gael i ymwelwyr, gan gynnwys cefnogi atyniadau sy'n denu torfeydd mawr mewn ardaloedd priodol. Mae prosiectau twristiaeth yn rhan annatod o reoli ac adfywio canol trefi ac, yn enwedig yn achos prif ddatblygiadau twristiaeth newydd, gallant gyfrannu llawer at adfywiad trefol. Yn achos Porthcawl, mae angen amlwg am swm o atyniadau er mwyn i'r dref gadw ac estyn ei chanran o'r diwydiant twristiaeth. Disgwylir i gynigion am reilffordd stêm rhwng Tondu a Phontycymer sy'n canolbwyntio ar hybu atyniadau ar hyd y daith ddenu nifer fawr o ymwelwyr. Disgwylir i'r atyniadau hyn gael eu lleoli, lle'n bosibl, o fewn neu ger ardaloedd trefol. Mae polisi TM1 yn sicrhau bod y cynigion hynny am atyniadau i dwristiaid, sy'n chwilio am leoliadau gwledig, yn perthyn i'r cefn gwlad ac yn cydweddu ag ef. Bydd y mathau o atyniadau a allai fod yn dderbyniol mewn ardal wledig yn perthyn i'r gweithgareddau hynny sy'n gofyn am leoliad gwledig, megis golff, cerdded, beicio, pysgota, marchogaeth a'r rhai nad ydynt yn cael fawr o effaith ar yr amgylchedd. Mewn rhai achosion, gallai cynigion sy'n ymwneud â chynlluniau amrywio ffermydd fod yn dderbyniol hefyd. Asesir cynigion am gynlluniau amrywio ffermydd dan bolisi EV1 ac EV11 a dylid cyfeirio at baragraffau 3.5.4., 5.8.8 - 5.8.11 o'r CDU.

8.6.3. O ran maen prawf 4 o bolisi TM1 mewn perthynas â chyfleusterau a leolir mewn ardal wledig, cydnabyddir na fydd yn hawdd eu cyrraedd ar gludiant cyhoeddus.

8.6.4. Ynghyd â datblygu atyniadau penodol, dylai polisi TM1 berthyn i weithredu cynlluniau gwelliannau amgylcheddol fel clirio, tirlunio, gosod palmentydd, seddi, plannu coed ac ailwampio adeiladau yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Ystyrir bod hon yn elfen hanfodol o ran gwella dymunoldeb y fwrdeistref sirol ar gyfer ymwelwyr. Mae'r Cyngor yn arbennig o awyddus i gynyddu nifer ymwelwyr â chanol tref Pen-y-bont a gwella'r ddarpariaeth twristiaeth a hamdden yn ac o gwmpas y dref. Mae'r datblygiad twristiaeth/ hamdden a manwerthu yn Sarn, gyda'i unedau siopa, sinema a bwytai wedi arwain at nifer gynyddol o ymwelwyr i'r fwrdeistref sirol. Dylid cyfateb hyn nawr â gwelliannau yng nghyfleusterau hamdden canol tref Pen-y-bont, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd cynyddol siopa fel gweithgaredd hamdden a thwristiaeth. Bydd creu mannau i gerddwyr yn arwain at welliant mawr yn amgylchedd canol y dref, fel a welwyd eisoes gyda'r cynllun pedestreiddio ar Stryd John a gwelliannau amgylcheddol eraill ym Mhorthcawl.

The Seabank Hotel, Porthcawl

Back to Top


8.7. Llety Twristiaeth a Hamdden

8.7.1. LLETY I YMWELWYR MEWN ARDALOEDD TREFOL

POLISI TM2

CANIATEIR SEFYDLU LLETY Â GWASANAETH A HUNANARLWYO NEWYDD, YNGHYD AG ESTYN, UWCHRADDIO NEU NEWID DEFNYDD ADEILADAU I DDARPARU'R LLETY HWN, O FEWN ANHEDDIADAU PRESENNOL OS GELLIR CYDYMFFURFIO Â'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. MAE'R DATBLYGIAD YN CYDWEDDU Â'R ARDAL O'I GWMPAS O RAN LLEOLIAD, GRADDFA, DYLUNIAD, YMDDANGOSIAD ALLANOL A THIRLUNIO;

2. NI NIWEIDR ADEILADAU NEU ARDALOEDD O DDIDDORDEB HANESYDDOL NEU BENSAERNÏOL;

3. BYDD DIGON O LE I BARCIO;

4. MAE CLUDIANT CYHOEDDUS DA I'R DATBLYGIAD AC MAE'N YMDRIN AG ANGHENION Y RHAI SYDD HEB GAR A'R RHAI SY'N GYRRU;

5. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y DATBLYGIAD HEB EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL.

Bryngarw House and Country Park

Back to Top


8.7.2. LLETY I YMWELWYR TU ALLAN I ARDALOEDD TREFOL

POLISI TM3

CANIATEIR DARPARU LLETY A WASANAETHIR NEU HUNANARLWYO PARHAOL AR GYFER YMWELWYR TU ALLAN I FFINIAU PENODEDIG ANHEDDIADAU LLE MAE'N CYNNWYS AILDDEFNYDDIO A/NEU DROSI HEN ADEILADAU GWLEDIG NEU ADEILADAU GWAG NEU OS YW'N RHAN O GYNLLUN AMRYWIO FFERM. RHAID I'R DATBLYGIAD FODLONI'R MEINI PRAWF CANLYNOL HEFYD:-

1. NI FYDD Y DATBLYGIAD YN NIWEIDIO NAC YN EFFEITHIO AR YR ARDALOEDD CANLYNOL A'U CWMPASOEDD:-

A. ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;

B. CSAC CYNFFIG;

C. ARDALOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG.

2. MAE'R DYLUNIAD, EI FAINT A'I YMDDANGOSIAD ALLANOL YN CYDWEDDU Â'R ARDAL O'I GWMPAS AC MAE'N CYDYMDEIMLO Â'R ARDAL WLEDIG;

3. YN ACHOS ESTYNIADAU, CYNLLUNIWYD Y CYNNIG YN DDA AC MAE'N PARCHU CYMERIAD A GWERTH PENSAERNÏOL A HANESYDDOL YR ADEILAD PRESENNOL;

4. MAE'N HAWDD CYRRAEDD Y DATBLYGIAD AR GLUDIANT CYHOEDDUS AC MAE'N YMDRIN AG ANGHENION POBL HEB GEIR A'R RHAI SY'N GYRRU;

5. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR HEB EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI A GOLLYNGIADAU ERAILL;

6. NI FYGYTHIR YR AMWYNDERAU PRESWYL PRESENNOL;

7. NID YW'R SAFLE O FEWN ARDAL MEWN PERYGL O LIFOGYDD.

8.7.3. Er bod nifer fach o Gorllewinai ledled y fwrdeistref sirol, Porthcawl, â'i safle carafanau mawr yn Trecco Bay, sy'n darparu'r rhan fwyaf o lety ar gyfer twristiaid. Er mwyn cynyddu dymunoldeb y fwrdeistref sirol i dwristiaid a'r farchnad fusnes, ystyrir bod cynnydd yn nifer y lleoedd o ansawdd i aros ynddynt yn hanfodol.

8.7.4. Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd pwyslais mawr ar wella ystod ac ansawdd y llety hunan-arlwyo a gwasanaeth sydd ar gael, gan gynnwys gGorllewinai a hafotai newydd. Mae cynllun grantiau ar gael gan BCC i annog pobl sy'n berchen ar Gorllewinai i godi safon eu llety ac atal colli llety â gwasanaeth at ddefnyddiau eraill. Ym Mhorthcawl, mae llawer o'r eiddo wedi manteisio o'r cynllun grant yr ategir ato gan ADC a Grant Gwella Trefi'r Cyngor a chynllun arwyddion dwyieithog Ymdeimlad o Le a gynhelir gan BCC a'r Cyngor.

8.7.5. Mae llety ar gyfer teuluoedd wedi ei ganolbwyntio yn ardal Porthcawl ac mae digon ohono. Fodd bynnag, mae prinder gGorllewinai o ansawdd uchel sydd â chyfleusterau cynadledda ar gyfer marchnad fusnes yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r nifer weddol fawr o gwmnïau a leolir yn yr ardal yn ffurfio marchnad werthfawr ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd busnes. Mae'n bwysig felly bod cyfleusterau priodol o ran ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau hamdden a llety o ansawdd digonol ar gael. Bydd prosiectau llety newydd a gwelliannau i safonau/gyfleusterau presennol sy'n diwallu ar gyfer y farchnad fusnes yn benodol yn cael ystyriaeth bositif. Dylai darpariaeth i barcio ceir fod yn gyson â lleihau dibyniaeth ar y car ac osgoi niweidio diogelwch y ffyrdd oherwydd ceir wedi parcio. Rhaid bodloni canllawiau parcio'r Cyngor hefyd felly.

8.7.6. Cynlluniwyd polisïau TM2 a TM3 i gefnogi ac annog datblygiad llety i dwristiaid mewn lleoliadau priodol (gGorllewinai a ffermdai), yn enwedig yn ardal Pen-y-bont. Rheolir cynigion ar gyfer llety yn ein cefn gwlad ac mewn ardaloedd penodedig fel Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ac ardaloedd amgylcheddol sensitif eraill yn llym. Mae'n well lleoli cynigion ar gyfer llety i dwristiaid o fewn anheddiadau presennol felly. Fodd bynnag, yn unol â'r cyfarwyddyd a geir yn NCT 13, gall trosi adeiladau fferm gwag gwledig fod yn fuddiol. Gall ailddefnyddio hen adeiladau fferm yn arbennig gyfrannu at gymeriad cefn gwlad. Bydd ailddefnyddio'r adeiladau hyn yn cyd-fynd â diogelu cefn gwlad hefyd ond dim ond os yw'r cynllun yn parchu nodweddion gwreiddiol yr adeilad. Yn unol â pholisïau EV1 ac EV2, er y rhoddir ystyriaeth i adeiladau fferm yn gyntaf, gellir ystyried llety newydd a gynlluniwyd yn sensitif lle mae hyn yn ffurfio rhan o gynllun amrywio fferm ar fferm sy'n gweithio.

8.7.7. Mewn perthynas â maen prawf 4 o bolisi TM3 sy'n ymwneud â llety mewn cefn gwlad, cydnabyddir na fydd yn hawdd ei gyrraedd ar gludiant cyhoeddus bob amser.

Back to Top


8.8. Safleoedd Carafanau, Hafotai a Gwersylla

8.8.1. CARAFANAU SEFYDLOG A HAFOTAI

POLISI TM4

NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU AR GYFER CARAFANAU SEFYDLOG, HAFOTAI NA CHABANAU NAC ESTYNIADAU I SAFLEOEDD SY'N BODOLI EISOES.

Back to Top


8.8.2. SAFLEOEDD GWERSYLLA A CHARAFANAU SYMUDOL

POLISI TM5

CANIATEIR CYNIGION AM SAFLEOEDD GWERSYLLA A CHARAFANAU SYMUDOL DIM OND LLE BODLONIR YR HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. NI FYDD Y DATBLYGIAD YN NIWEIDIO NAC YN EFFEITHIO AR YR ARDALOEDD CANLYNOL A'U CWMPASOEDD:-

A) ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;
B) CSAC CYNFFIG;
C) SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG.

2. GELLIR CYDWEDDU'R DATBLYGIAD YN GYDYMDEIMLADOL Â'R ARDAL O'I GWMPAS O RAN LLEOLIAD, MAINT, DYLUNIAD A THIRLUNIO;

3. GELLIR CYRRAEDD Y DATBLYGIAD DRWY DDEWIS O DDULLIAU CLUDO A BYDD YN YMDRIN AG ANGHENION Y RHAI NAD OES GANDDYNT GEIR;

4. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y DATBLYGIAD HEB EFFAITH ANNERBYNIOL A LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDD O YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL; AC

5. MAE'N BOSIBL CAEL CYFLEUSTERAU DŴR A CHAEL GWARED AR GARTHFFOSIAETH AR Y SAFLE;

6. NID YW'R SAFLE O FEWN ARDAL SYDD MEWN PERYGL O LIFOGYDD.

8.8.3. Mae NCT 13 yn ei gwneud yn glir bod gofyn i'r cynllun datblygu sicrhau bod yna ddigon o gyfleusterau a dewis o safleoedd ar gyfer y rhai sydd â charafanau sefydlog a symudol. Dylid cuddio safleoedd newydd yn dda ac ni chaniateir y rhain yn parth arfordirol fel a ddiffinnir ym mholisi EV15.

The Grand Pavilion, Porthcawl

8.8.4. Mae digon o ddarpariaeth ar gyfer carafanau ym Mhorthcawl a'r parth arfordirol. Felly, oherwydd natur ymwthiol iawn y safleoedd carafanau hyn, gweithredir meini prawf polisi TM5 yn gaeth.

8.8.5. Fodd bynnag, ystyrir bod lle i ddarparu mwy o safleoedd gwersylla a charafanau symudol. Bydd angen lleoli a chuddio'r rhain yn ofalus i sicrhau nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd o'u cwmpas.

8.8.6. Mewn perthynas â maen prawf 3 o Bolisi TM5 a'r mater o hygyrchedd, cydnabyddir na fydd yn hawdd i gludiant cyhoeddus gyrraedd cyfleusterau yng nghefn gwlad.

Back to Top


8.9. Atyniadau Twristiaeth a Hamdden

8.9.1. ATYNIADAU YMWELWYR

POLISI TM6

CANIATEIR DATBLYGIAD AR GYFER CYFLEUSTERAU ADDYSG, Y CELFYDDYDAU, DIWYLLIANNOL AC ADLONIANT, GAN GYNNWYS BWYTAI, TAFARNDAI A CHAFFIS OS BYDD YN:-

A) CYFRANNU AT ADFYWIO CANOL TREFI DRWY WELLA EU FFYNIANT, DICHONOLDEB A DYMUNOLDEB I YMWELWYR AC YN GWELLA EU RÔL HAMDDEN YN ECONOMI'R NOS A'R PENWYTHNOS; NEU'N

B) CYNNWYS AILDDEFNYDDIO NEU ADDASU ADEILADAU GWAG MEWN ARDALOEDD TREFOL NEU WLEDIG.

YN YCHWANEGOL, DYLAI DATBLYGIAD FODLONI'R MEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. NI FYDD YN EFFEITHIO'N DDRWG AR AMWYNDERAU POBL SY'N BYW YN YR ARDAL O RAN SŴN AC AROGLAU NEU DDEFNYDD CYFFREDINOL YN YSTOD ORIAU ANGHYMDEITHASOL;

2. BYDDAI'N HAWDD CYRRAEDD Y DATBLYGIAD MEWN SAL FFORDD A BYDD YN BODLONI ANGHENION Y RHAI SYDD HEB GAR.

3. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y DATBLYGIAD HEB EFFEITHIO AR LIFAU A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL.

4. BYDD DIGON O LE I BARCIO CEIR YNO;

5. NID YW'R SAFLE O FEWN ARDAL SYDD MEWN PERYGL O LIFOGYDD;

6. GELLIR CYNNWYS Y CYNNIG YN GYDYMDEIMLADOL I MEWN I'R ARDAL O RAN LLEOLIAD, MAINT, DYLUNIAD A THIRLUNIO.

8.9.2. Mae prinder a gydnabyddir yn narpariaeth cyfleusterau celfyddydol, diwyllianol, adloniant a hamdden yn y fwrdeistref sirol, ond yn fwy penodol yn y prif drefi. Mae'r ffurf hon o ddatblygiad yn hanfodol o ran denu ymwelwyr gan ei bod yn gysylltiedig â gwelliannau i amgylchedd a chyfleusterau canol trefi. Mae prosiectau twristiaeth yn rhan annatod o reoli ac adfywio canol trefi. Mae polisi TM6 yn rhoi hwb ar gyfer prosiectau a allai gynnwys gosod camerâu cudd, goleuadau addurniadol, adloniant stryd a gwell arwyddion. Yn ychwanegol, gallai fod adeiladau gwag addas mewn ardaloedd gwledig lle gallai datblygiad fel hwn fod o fudd i economi wledig y fwrdeistref sirol. Mae polisi TM6 yn darparu meini prawf ar gyfer asesu cynigion fel hyn. Mae'r polisi'n cydnabod bod dewis o ddulliau teithio, gan gynnwys ar droed, ar feic ac ar gludiant cyhoeddus, yn bwysig er mwyn lleihau dibyniaeth pobl ar y car. Rhaid i ddatblygiad fodloni'r gofynion parcio sylfaenol a osodir allan yng nghanllawiau parcio cymeradwyedig y Cyngor. Fodd bynnag, yn debyg i unrhyw ddatblygiad arfaethedig, dylid ystyried holl bolisïau perthnasol y CDU wrth benderfynu ar gynigion unigol. Yn achos cynigion trefol, drwy weithrdu'r strategaethau presennol, gall y Cyngor wneud y mwyaf o'r sawl cyfle sy'n bodoli ar gyfer denu ymwelwyr newydd a hybu'r fwrdeistref sirol fel pen taith dymundol. Dylid seilio pob datblygiad twristiaeth ar yr egwyddor o gyfle cyfartal.

Back to Top


8.10. Porthcawl

8.10.1. Cynrychiola Porthcawl a'r parth arfordirol brif atyniad gwyliau'r fwrdeistref sirol. Dylid datblygu Porthcawl felly fel prif gyrchfan i dwristiaid a gwella ei photensial a fydd o fantais i'r fwrdeistref sirol gyfan. Mae gan y gyrchfan strategaeth adfywio eisoes a gwnaed llawer i weithredu ei chynigion. Mae hyn wedi arwain at welliannau mawr i amgylchedd ac isadeiledd corfforol y dref.

8.10.2. ATYNIADAU HAMDDEN A THWRISTIAETH YM MHORTHCAWL

POLISI TM7

FFAFRIR MENTRAU A CHYNLLUNIAU SY'N CEFNOGI GWELLA A DATBLYGU PORTHCAWEL FEL PRIF GYRCHFAN Y FWRDEISTREF SIROL AR GYFER TWRISTIAID.

8.10.3. Cefnogir cynigion a phrosiectau dan bolisi TM7 i ddatblygu twristiaeth ym Mhorthcawl os ydynt yn cyfrannu at gyflawni nodau'r strategaeth adfywio ar gyfer yr ardal, sef:-

  • gwneud cyrchfan Porthcawl yn fwy dymunol i ymwelwyr ac estyn y tymor;

  • codi hyder busnesau ac annog buddsoddiad gan y sector preifat;

  • mwyhau gwariant ymwelwyr a chreu swyddi;

  • marchnata'r gyrchfan yn effeithiol i'w marchnad deulu graidd a datblygu marchnadoedd newydd sydd â'r potensial i dyfu;

  • gwella cysylltiadau rhwng elfennau allweddol y gyrchfan;

  • cryfhau apêl y ganolfan siopa a gwella ei chystadleuaeth;

  • gwella mynediad i'r gyrchfan.

8.10.4. Mae'r cynigion allweddol a gwblhawyd hyd yma'n cynnwys pedestreiddio Stryd John, ailwampio'r Pafiliwn Mawr, ailwampio glan y môr a'r rhodfa, adeiladu gorsaf cwch achub newydd ac ailwampio warws Jennings. Hefyd, dyrannwyd y tir rhwng y porthladd a Trecco Bay dan bolisi REG3(2) fel safle adfywio allweddol. Bydd ei ailddatblygiad at ddibenion hamdden/ adloniant/masnachol/llety'n chwarae rôl hanfodol mewn cryfhau statws y gyrchfan fel prif atyniad i dwristiaid.

Porthcawl Harbour

Back to Top


8.11. Ardal Llety â Gwasanaeth

8.11.1. DIOGELU'R LLETY Â GWASANAETH PRESENNOL

POLISI TM8

CANIATEIR COLLI LLETY Â GWASANAETH O FEWN DOSBARTH C1 O ORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A THREF (DOSBARTHIADAU DEFNYDD) 1987 I DDEFNYDDIAU NAD YDYNT YN DWRISTIAETH YN ARDAL LLETY Â GWASANAETH BENODEDIG PORTHCAWL (Cyswllt â’r Map 37), DIM OND OS:-

1. NA FYDDAI UNRHYW DROSIAD YN EFFEITHIO'N DDRWG AR YSTOD AC ANSAWDD Y LLETY SYDD AR GAEL;

2. GELLIR DANGOS NAD OES GALW HIR DYMOR AM YR EIDDO FEL LLETY Â GWASANAETH;

3. GELLIR DANGOS NAD YW'R ADEILAD YN ADDAS NAC YN DDICHONOL FEL BUSNES LLETY Â GWASANAETH O ANSAWDD; AC OS

4. YW'R CYNIGION YN BODLONI CYFARWYDDYD PARCIO CYMERADWYEDIG Y CYNGOR.

8.11.2. Pwrpas polisi TM8 yw gwrthwynebu colli gGorllewinai i ddefnyddiau eraill a all wanhau gallu cyrchfan i gynnal ei statws fel pen taith i dwristiaid. Cefnogir hyn gan gyngor a geir yn NCT13 am dwristiaeth. Mae cael ystod eang o lety â gwasanaeth o fudd i'r economi yn gyffredinol ac yn rhoi dewis i ymwelwyr.

8.11.3. Fodd bynnag, mae TAN13 yn cynghori na ddylid defnyddio'r system gynllunio i gadw llety hen ffasiwn nad oes galw amdano. Mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn derbyn bod yna achlysuron lle bydd trosi'n briodol am un o'r rhesymau a nodir dan bolisi TM8. Wrth asesu ceisiadau am drosi i ddefnyddiau eraill, bydd yr Awdurdod yn ystyried pa mor hir y mae eiddo wedi bod yn wag ar y farchnad, tueddiadau mewn cyfraddau deiliadaeth a dewisiadau cwsmeriaid, addasrwydd yr adeilad o ran ei faint a chynllun y llawr er mwyn darparu llety â gwasanaeth modern.

8.11.4. Nodir yr ardal y mae polisi TM8 yn perthyn iddi o ran Porthcawl yn y map cynigion. Seilir hi ar ardal graidd y gyrchfan lle mae gGorllewinai a llety wedi eu canolbwyntio ar hyd glan y môr a rhodfa'r môr. Cwmpasir yr ardal gan y Grant Gwella Trefi a'r Grant Llety i Dwristiaid hefyd, sy'n ceisio gwella cyflwr ac ymddangosiad adeiladau masnachol a gGorllewinai yn yr ardal.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council