|
Mae'r CDU a fabwysiadwyd yn cymryd lle hen gynllun datblygu'r ardal a gynhwysai
Gynllun Strwythur Newydd Morgannwg Ganol, Cynllun Lleol Mwnau Morgannwg Ganol ar
gyfer Chwareli Carreg Galch a Chynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr. Daw'r cynlluniau
hyn i ben yn 2006.
Cynhwysai'r hen gynllun datblygu ddyraniadau tir a oedd yn cael eu hadeiladu ar
adeg paratoi'r CDU neu maent yn destun caniatâd cynllunio. Mae'r CDU yn cydnabod
sawl un o'r ymroddiadau hyn.
Mae'r CDU yn rhoi arwydd clir o'r ardaloedd lle anogir datblygiad yn y
Fwrdeistref Sirol a lle fydd yn cael ei wrthod. Y CDU yw'r brif ddogfen i
gyfeirio ati pan fydd y Cyngor yn penderfynu ar geisiadau cynllunio.
Felly, mae'r CDU yn bwysig o ran penderfynu datblygiad pob cymuned yn y
Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol.
<< Previous
Chapter | Pennod nesaf
>>
|