|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
3.6.7. Mae gan ymylon gwyrdd swyddogaeth bwysig o ran atal anheddiadau rhag cyfuno a chynnal ardal agored o gefn gwlad rhyngddynt. Bydd mwy o ddiogelwch felly ar gyfer tir sydd y tu hwnt i ffiniau anheddu diffiniedig. Gwyddom fod yr ardaloedd a nodir gan bolisi EV11 wedi bod yn destun pwysau yn y gorffennol o ran datblygiadau amhriodol a byddai'r rhain wedi peryglu nodau'r Cyngor (uchod) yn ddifrifol ac wedi erydu natur agored hanfodol y tir dan sylw. Felly, bydd cynnig i ddatblygu o fewn ymyl werdd benodedig yn cael ei ystyried fel cynnig amhriodol oni bai ei fod at y dibenion canlynol:-
3.6.8. Gallai fod achlysuron eraill lle gellid ystyried ailddefnyddio adeiladau o fewn ymyl werdd benodedig yn ddatblygiad priodol os na fydd y defnydd arfaethedig, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, yn cael llawer o effaith ar natur agored yr ymyl werdd ac nad yw'n gwrthdaro â phwrpas y penodiad. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio y bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cynnal rheolaeth gaeth dros unrhyw estyniad a/neu addasiad y mae'n eu caniatáu neu unrhyw ddefnydd tir sy'n gysylltiedig â'r adeilad(au) a ailddefnyddir. 3.6.9. Ystyrir pob math arall o ddatblygiad yn 'ddatblygiad amhriodol' oni bai ei fod yn cynnal natur agored yr ymylon gwyrdd ac yn peidio â gwrthdaro â phwrpasau'r penodiad. Gall 'datblygiad amhriodol' gael caniatâd cynllunio dim ond yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol h.e. lle mae ystyriaethau sylweddol eraill yn gwrthbwyso'r niwed y disgwylir i'r datblygiad gael ar yr ymyl werdd benodedig. 3.6.10. DATBLYGIAD TU ALLAN I FFINIAU ANHEDDU DIFFINIEDIG
POLISI EV12
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD TU ALLAN I FFINIAU ANHEDDU ANHEDDIADAU PENODEDIG CANLYNOL Y FWRDEISTREF SIROL:- PRIF ANHEDDIADAU -
ANHEDDIADAU LLAI -
3.6.11. O ganlyniad i bolisi EV11 ac i ddarparu cyfarwyddyd pellach i bolisïau H3 a H4 mewn perthynas â datblygu o fewn anheddiadau penodedig, mae Polisi EV12 a'r map cynigion yn diffinio ffiniau anheddu o gwmpas holl anheddiadau penodedig y fwrdeistref sirol. Cynhwyswyd y ffiniau hyn o gwmpas 'anheddiadau llai' dim ond yn y cyn gynllun lleol ar ôl iddo fod yn destun archwiliad annibynnol mewn ymchwiliad. Gan fod sawl un o'r rhain wedi wynebu apeliadau Adran 78 ers hynny, mae'r Cyngor yn ystyried eu bod yn seiliedig ar seiliau amgylcheddol a chynllunio cadarn. Arolygwyd yr holl ffiniau yn ystod y gwaith o baratoi'r CDU a diwygiwyd rhai ffiniau anheddu llai yn y cynllun hwn. Yn dilyn archwiliad annibynnol pellach yn yr ymchwiliad i'r CDU, diffiniwyd ffiniau anheddu o gwmpas yr holl anheddiadau penodedig h.y. y prif anheddiadau a'r anheddiadau llai. Cyfyngir datblygiad yn y prif anheddiadau a'r anheddiadau llai i'r safleoedd hynny sy'n dod o fewn y ffiniau perthnasol yn gyffredinol, oni bai bod cyfiawnhad fel arall dan bolisi EV1 a pholisïau perthnasol eraill yn y cynllun. 3.6.12. DATBLYGIAD HIRFAIN NEU WASGAREDIGPOLISI EV13 3.6.13. Mae polisïau EV12, H3 a H4 yn pennu'r anheddiadau hynny yn y fwrdeistref sirol y mae'r Cyngor yn ystyried y gallant ymdopi â datblygiad 'llenwi', 'annisgwyl' neu 'gwblhau cyfyng' ar raddfa sy'n briodol i faint, cymeriad a chyfleusterau neu wasanaethau cyhoeddus yr anheddiadau unigol. Mae'r Cyngor yn ystyried y dylid diogelu cymeriad pob pentrefan neu ddarnau ynysig o ddatblygiad yng nghefn gwlad gan rheolaeth ddatblygu gaeth. Felly, ystyrir bod estyn neu ddwysáu datblygiad gwasgaredig yn arbennig o annymunol ac na fydd yn bosibl ei gynnal; bydd yn niweidio cymeriad yr amgylchedd adeiledig a chefn gwlad, a chyfyngir ef felly gan y Cyngor dan bolisi EV13. 3.7. Cynllunio a Rheoli Parthau Arfordirol3.7.1. Cydnabyddir bod arfordir Cymru a'i amgylchedd morol yn adnodd gwerthfawr y dylid ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod. Felly, bydd gofyn i'r gwaith o'i gynllunio a'i reoli fod yn effeithiol. Yn 1997, sefydlodd y Swyddfa Gymreig Fforwm Arfordir Cymru. Cynrychiolir y Cyngor ar y fforwm hwnnw, ynghyd â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol eraill, asiantaethau statudol (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru), fforymau arfordirol erail, pwyllgorau pysgotfeydd môr a buddiannau eraill. Mae'r fforwm yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn a chefnogir ei weithgareddau gan farn y Grŵp Cyswllt 'Arfordir' sy'n gyfrifol am arolygu pob agwedd o reoli parthau arfordirol. Mae swyddogion y Cyngor yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r grŵp hwnnw hefyd. 3.7.2. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu cyfres o fentrau sydd wedi ceisio hybu rheolaeth gyd-drefnedig a sensitif parthau arfordirol Cymru. Cyhoeddir y cyfarwyddyd diweddaraf yn y canllaw Polisi Cynllunio (Cymru) 2002) - adrannau 5.6 - 5.8) a CP(C)NCT(C) 14 - Cynllunio Arfordirol (Mawrth 1998). Pwysleisia'r ddwy ddogfen yr angen i awdurdodau lleol unigol ddiffinio'r hyn y maent yn ystyried i fod yn 'barth arfordirol' fwyaf priodol yn eu hardaloedd. O safbwynt y Llywodraeth, fodd bynnag, dylai'r parth gynnwys ardaloedd lle mae gwarchod yr amgylchedd naturiol ac amgylcheddol yn gofyn am ddatblygiad cyfyng a lle mae ymwthiad gweledol yn fater y mae angen ei ystyried yn arbennig. Felly:- 3.7.3. DATBLYGIAD YN Y PARTH ARFORDIROL
POLISI EV15
CANIATEIR DATBLYGIAD YN Y PARTH ARFORDIROL DIM OND OS:- 1. OES ANGEN LLEOLIAD MOROL AR Y DATBLYGIAD; 2. YW'N BODOLI GOFYNION POLISI EV9, OS YW WEDI EI LEOLI AR ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG; 3. YW'N BODOLI GOFYNION POLISI EV42, OS YW WEDI EI LEOLI AR DIRWEDD HANESYDDOL, MEWN PARC NEU ARDD; AC OS 4. YW'R CYNNIG YN BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
3.7.4. Diffinnir 'parth arfordirol' Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y map cynigion. Mae'n ymestyn rhyw 13 km o aber yr afon Cynffig yn y gogledd-orllewin i aber yr afon Ogwr yn y de-ddwyrain. At ddibenion cynllunio defnydd tir, rhaid i derfyn morol y 'parth arfordirol' fod cymedr y marc dŵr isel. Er nad yw cynigion a leolir rhwng y marciau dŵr uchel ac isel yn rhan o gyfrifoldeb y Cyngor fel yr awdurdod cynllunio lleol, dylai'r ystod o gyrff rheoleiddio, gan gynnwys y Llywodraeth, sy'n rheoli gweithgareddau a datblygiadau morol ac arfordirol ystyried ei bolisïau cynllunio. Yn debyg, mae gan y Cyngor ddiddordeb cynyddol mewn unrhyw ddatblygiadau morol y bydd gan eu nodweddion gweledol a chorfforol effaith anuniongyrchol ar yr ardal y mae'n gyfrifol am ei rheoli.
3.7.5. Diffiniwyd ffin fewnol y 'parth arfordirol' i gynnwys holl arfordir y fwrdeistref sirol sydd heb ei ddatblygu; ynghyd ag ardaloedd datblygedig Porthcawl sy'n parhau'n weledol ac yn gorfforol ar hyd yr arfordir ac sy'n arddangos nodweddion a chysylltiadau morol cryfion e.e. y parciau carafanau a mannau glan môr yr ardal. 3.7.6. Rhaid i gynigion ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg fodloni gofynion polisi EV9 i ddechrau neu ni fyddant yn cael eu cefnogi. Fodd bynnag, rhaid i'r cynigion fodloni darpariaethau polisi EV42 lle maent yn cael effaith ar dirweddau, parciau a gerddi hanesyddol pwysig y fwrdeistref sirol. Yn debyg, dylai'r angen am leoliad arfordirol yn y parth arfordirol fod yn amlwg, yn enwedig lle cynigir y datblygiad hwnnw ar ddarn heb ei ddatblygu. Adlewyrcha hyn bolisi'r Llywodraeth y dylai CDU anelu at ddiogelu a gwella cymeriad a thirlun yr ardaloedd hyn ac y dylid cynnig lleoliadau arfordirol ar gyfer datblygiadau dim ond lle mae angen eu lleoli ar yr arfordir. Ni chaniateir datblygiadau arfordirol newydd lle golygant gwaith peirianneg ar raddfa fawr i'w diogelu ar dir sy'n dioddef o erydiad gan y môr nac i amddiffyn tir a allai fod mewn perygl o lifogydd, gan y gallai'r rhain ddod â nodweddion annymunol a dieithr i'r arfordir gwerthfawr a throsglwyddo'r risg o lifogydd i ardaloedd eraill hefyd. 3.7.7. Yn achos gwaith amddiffyn arfordir newydd, bydd y Cyngor yn ystyried holl effeithiau amgylcheddol daearol a morol posibl y gwaith arfaethedig. Bydd y buddiannau olaf hyn, ynghyd â ffactorau megis effaith weledol a chorfforol bosibl datblygiad newydd, yn arbennig o bwysig lle mae'r Cyngor yn ystyried cynigion o fewn ardal ddatblygedig y parth arfordirol h.y. Porthcawl lle nodwyd cyfle i ailstrwythuro ac adfywio'r ardal drefol eisoes yn Strategaeth Adfywio'r Ardal. Os bydd datblygiad newydd yn mynnu lleoliad arfordirol, bydd yn cael ei osod yn yr ardal ddatblygedig lle mae cyfleoedd yn bodoli, os rhoddir digon o ystyriaeth i'r risgiau ychwanegol o erydiad, llifogydd ac ansefydlogrwydd y tir a allai waethygu oherwydd symudiadau'r môr. 3.7.8. Fodd bynnag, mae'n rhaid pwysleisio nad yw'r broses o gynllunio arfordir a rheoli arfordir yn gyfystyr â'i gilydd. Swyddogaeth polisïau'r CDU hwn yw arwain gweithrediad y system gynllunio statudol ym mharth arfordirol y fwrdeistref sirol, sy'n rôl ddiffiniedig glir; mae rheolaeth arfordirol yn cynnwys materion nad ydynt yn ymwneud â defnydd tir o reidrwydd, sy'n codi o swyddogaethau eraill y Cyngor a/neu awdurdodau lleol cyfagos neu drwy bwerau a gweithgareddau cyrff eraill sydd â chyfrifoldeb am yr arfordir e.e. y Cynulliad neu adrannau o'r Llywodraeth Ganolog. Arweinir polisi EV15 gan feini prawf a chynlluniwyd ef i groesawu rheolaeth o unrhyw ddatblygiad ym mharth arfordirol y fwrdeistref sirol. Bydd y Cyngor yn ystyried buddiant cyrff rheoli arfordir cyfagos ac eraill wrth weithredu'r polisi hwn. 3.7.9. Ym mis Rhagfyr 1998, cytunodd y Cyngor i ddechrau paratoi cynllun rheoli. Y nod oedd cydlynu'r holl ymdrechion o ran rheoli parth arfordirol y fwrdeistref sirol o ddydd i ddydd. 3.8. Risg Llifogydd a Llygredd Dŵr3.8.1. Mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen i gydlynu ei weithgareddau cynllunio amgylcheddol â gweithgareddau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn atal y risg o lifogydd ac atal llygru dŵr ac adnoddau dŵr y fwrdeistref sirol. 3.8.2. Er bod diogelu'r amgylchedd dŵr yn brif swyddogaeth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gellir gwneud hyn dim ond drwy gydweithio'n agos gyda'r Cyngor. Mae cyfarwyddyd perthnasol yn tynnu sylw'r awdurdodau lleol hynny sydd ag arfordir i'r angen i reoli eu parthau arfordirol, ystyried natur y geoleg a ffurfiau tir arfordirol a sefydlu lle mae risgiau o lifogydd, erydiad gan y môr a thirlithro. Er bod AAC yn gyfrifol am ddiogelu pobl ac eiddo rhag llifogydd afonydd neu'r môr, dylai'r Cyngor (fel yr awdurdod cynllunio lleol) osgoi peryglu datblygiad pellach drwy gynnwys polisïau priodol yn ei CDU, ynghyd â gweithredu lle'n briodol fel yr awdurdod amddiffyn rhag llifogydd. Mae'r Ewenny, Ogwr, Llynfi a'r Cynffig yn 'brif afonydd' statudol yn y fwrdeistref sirol ac mae'r tair afon ddiwethaf yn meddu ar rybuddion o lifogydd. Yn achos yr Ogwr a'r Ewenny, ategir at y rhybuddion hyn gan amddiffynfeydd yr Asiantaeth. Mae mesurau llifogydd yr Asiantaeth yn bodoli rhwng Newton a Merthyr Mawr Warren hefyd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi gwella amddiffynfeydd arfordirol yn sylweddol ym Mhorthcawel a gwaith llai yn Rest Bay. 3.8.3. Cyhoeddwyd polisïau amddiffyn rhag llifogydd AAC ar gyfer gorlifdiroedd afonydd a môr ym mis Mawrth 1997 ac mae'r Cyngor yn eu rhannu gan eu bod yn sefydlu nodau clir i sicrhau nad yw datblygiad yn:-
3.8.4. DATBLYGIAD MEWN ARDALOEDD MEWN PERYGL O LIFOGYDDPOLISI EV16 3.8.5. Cydymffurfiodd llawer o'r polisïau cynllunio a gafwyd yn yr hen gynllun datblygu â'r amcanion a osodir allan ym mhara 3.8.3. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi arolygu'r holl bolisïau hyn wrth baratoi'r CDU yn enwedig yn sgil mapiau risgiau llifogydd Adran 105 AA Cymru. Lle bu angen, diwygiwyd rhai polisïau a dilewyd rhai eraill er mwyn adlewyrchu:-
3.8.6. Bydd y Cyngor ac AA Cymru yn gwrthwynebu datblygiad amhriodol ar orlifdiroedd lle byddai'r datblygiad ei hun mewn perygl o lifogydd neu lle gallai achosi gorlifo mewn ardal arall. Mae peryglu bywyd yn hanfodol bwysig mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad mewn ardal mewn perygl o lifogydd ond yn enwedig ar gyfer dablygiad preswyl mewn lleoliadau llanw (gan gynnwys aberoedd) ac arfordirol. Dylai cynigion datblygu osgoi gorfodi cenedlaethau i ddod i dalu am amddiffynfeydd llifogydd gan y byddai hyn yn gwrthdaro'n glir â'r amcan o ddatblygiad cynaliadwy. Dylid cofio bob amser bod gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn fesur ymyrryd mewn prosesau naturiol. Felly, mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng cynnal a chefnogi gorlifdiroedd naturiol â'u bioamrywiaeth naturiol gyfoethog a gostwng risgiau llifogydd. 3.8.7. Felly, mae'r Cyngor wedi asesu pob safle datblygu newydd a gynigir yn y CDU drwy ddefnyddio data a ddarparwyd gan AA Cymru ond dylid ystyried yr asesiad hwnnw fel man cychwyn ar gyfer archwiliad manylach o gynigion pellach yn unig h.y. pan gyflwynir ceisiadau cynllunio am ddatblygiadau.
3.8.8. Mae'n hanfodol nad yw unrhyw ddŵr arwyneb y bwriedir ei ollwng i ddyfrffosydd presennol arwain at lifogydd gan nad oes gan y dyfrffosydd hyn le i ymdopi â rhagor o ddŵr. Mewn rhai achlysuron, lle cynigir datblygiad newydd, bydd gofyn i ddatblygwyr ymgymryd â gwaith adfer dros dro i storio dŵr ar y safle hyd nes y gellir cael ateb parhaol i'r ardal dan sylw. Mewn achosion eraill, lle mae gollwng dŵr arwyneb ychwanegol yn debygol o greu llifogydd neu waethygu problemau draenio annigonol, caniateir datblygiad newydd dim ond lle cymerir mesurau priodol ymlaen llaw i oresgyn y broblem honno. Yn yr achosion hyn, disgwylir i ymgeiswyr gynnwys yr holl dir hanfodol yn eu cynigion datblygu er mwyn cael atebion boddhaol i'r problemau hyn drwy orfodi amodau cynllunio priodol. 3.8.9. Lle na ellir sicrhau'r mesurau lleddfu perthnasol, y cyfeirir atynt uchod, yn foddhaol, bydd y Cyngor (yn gweithredu ar gyngor AA Cymru) yn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio. 3.8.10. Darperir cyflenwadau dŵr strategol i'r fwrdeistref sirol drwy brif gyflenwad dŵr o ffynonellau tu allan i'r fwrdeistref sirol (fel a osodir allan yn y pennod ynni a gwasanaethau cyhoeddus yn hwyrach). Fodd bynnag, ma ffynonellau lleol o ddŵr y mae angen eu diogelu rhag llygredd. Yn debyg, mae sawl darn o nentydd ac afonydd yn y fwrdeistref sirol sydd wedi eu llygru i wahanol raddau o ganlyniad i gyn arferion a gweithgareddau diwydiannol, domestig neu amaethyddol. Mae'r rhain yn cael eu gwella'n raddol i helpu bioamrywiaeth a chyflwyno mwy o rywogaethau a chynefinoedd lleol. Mae cynllun lleol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar gyfer ardal Castell Nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ymagwedd amgylcheddol integredig at gynllunio lleol ar gyfer datblygiad cynaliadwy, yn enwedig mewn perthynas ag adnoddau dŵr, llifogydd, llygredd, gwastraff, cadwraeth a hamdden. Felly:- 3.8.11. DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO AR ANSAWDD A FFYNONELLAU DŴRPOLISI EV17 3.8.12. Mae'r cynllun gweithredu a nodir ym mharagraff 3.8.11 yn cofnodi pedwar tyniad dŵr trwyddedig at ddibenion diwydiannol yn ardaloedd yr afonydd Cynffig ac Ewenny; pum tyniad trwyddedig o ddŵr arwyneb ar gyfer diwydiant yn ardaloedd Cynffig, Llynfi ac Ewenny; un tyniad trwyddedig dŵr arwyneb at ddefnydd cyhoeddus yn Nyffryn Ogwr ger Gilfach Goch; a thyniad trwyddedig pellach ar gyfer dŵr ddaear at ddefnydd cyhoeddus i'r de-orllewin o Ben-y-bont ar Ogwr. Gostyngwyd nifer y tyniadau ar gyfer defnydd cyhoeddus yn raddol yn y blynyddoedd diwethaf gan Dŵr Cymru a chedwir y ffynhonnell Schwyll at ddibenion brys yn unig erbyn hyn. Ac eithrio hyn, mae'n hanfodol diogelu'r adnodd yn Schwyll. Gan yr ategir ato gan ddŵr arwyneb yn rhan isaf y dalgylch, mae'n agored i unrhyw lygredd lleol mawr. Mae pryder cyhoeddus cynyddol hefyd o ran y llygredd a allai ddeillio o ddŵr yn llifo o ffermydd yn y fwrdeistref sirol i mewn i ddyfrffosydd cyfagos sy'n llifo i 'brif afonydd' yn hwyrach. 3.8.13. Ar y llaw arall, bydd y cynigion datblygu hynny sy'n dangos y gallant arwain at welliannau sylweddol mewn ansawdd y dŵr mewn draeniau, nentydd, afonydd a dŵr arwyneb arall yn y fwrdeistref sirol yn gwneud cyfraniad positif at yr amgylchedd arfordirol morol a lleol a dylai hyn arwain at fwy o fioamrywiaeth ac ansawdd bywyd. Bydd y Cyngor yn ffafrio'r cynigion hyn. 3.9. Bioamrywiaeth a Chadwraeth Natur3.9.1. Dros amser, mae amgylcheddau naturiol gwir yn dod yn fwyfwy prin wrth i ddyn addasu'r dirwedd i gyflenwi ei anghenion ei hun ac mae natur wedi addasu i'n rheolaeth ni o'r tir; ond mae llawer o fioamrywiaeth y wlad yn dibynnu ar barhad dulliau traddodiadol o reoli tir sydd wedi cydweithio gyda phrosesau naturiol i gynhyrchu'r cyfoeth o ffawna, fflora, a nodweddion geolegol a topograffegol sy'n bodoli heddiw. Pan fo rhywogaethau a chynefinoedd yn cael eu colli, mae ein gallu ni a gallu cenedlaethau i ddod i fwynhau a phrofi natur yn cael ei ddibrisio ac mae'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer esblygiad naturiol yn llai. 3.9.2. Mae diogelu'r amgylchedd corfforol a 'bioamrywiaeth' yn bryderon canolog mewn polisi cynllunio ac maent yn flaenoriaethau uchel i'w hystyried ar y cyd â gwarchod tirweddau (gweler yn gynharach) yn y CDU. Mae hybu a gwarchod 'bioamrywiaeth' h.y. amrywiaeth a chyfoethogrwydd bywyd yn elfen hanfodol o gyflawni Strategaeth Agenda 21 Leol y Cyngor ac ymdrinnir â hyn yn benodol yn ei Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Bydd y ddwy ddogfen hon yn parhau i arwain polisïau'r CDU ac arolygon yn y dyfodol. 3.9.3. Yn unol â chyfarwyddyd cynllunio, mae'r Llywodraeth wedi llofnodi a chefnogi'r Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol ac mae'n ymroddedig felly i warchod a, lle'n bosibl, gwella bioamrywiaeth. Mae'n bolisi cynllunio cenedlaethol felly i warchod buddiant cadwraeth natur safleoedd a benodwyd yn statudol a chynnal neu wella bioamrywiaeth cefn gwlad ehangach.
3.9.4. Cyn ac ers cynhyrchiad Bioamrywiaeth: Cynllun Gweithredu'r DU, gweithredwyd polisïau gwarchod natur y Llywodraeth yn bennaf drwy Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'r ddeddf yn diogelu rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion mewn perygl ac yn diogelu a rheoli cynefinoedd pwysig. Dosbarthir yr olaf ar y cyd â safleoedd eraill o ddiddordeb geoffisegol, geomorffegol a geolegol cenedlaethol, sef Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cydnabyddir hyn yn y CDU gan bolisi EV18:- 3.9.5. DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO AR SAFLEOEDD RHYNGWLADOL A CHENEDLAETHOL O BWYSIGRWYDD I GADWRAETH NATUR A DIDDORDEB GWYDDONOL
POLISI EV18
ER YR UCHOD, BYDD Y CYNGOR YN YSTYRIED DEFNYDDIO AMODAU CYNLLUNIO NEU
RWYMEDIGAETHAU/CYTUNDEBAU CYNLLUNIO I SICRHAU UNRHYW FESURAU LLEDDFU SYDD EU
HANGEN I DDIOGELU NODWEDDION Y SAFLE A ARWEINIODD AT EI BENODIAD FEL RHAN O'R
RHWYDWAITH NATURA 2000.
3.9.6. Mae cynnwys y Cyfarwyddyd Cynefin (92/43/EEC) i mewn i gyfraith Brydeinig
a'r Rheoliadau Cadwraeth (Cynefin Naturiol ac ayb) 1994 dilynol yn rhoi mwy o
ddiogelwch i safleoedd penodedig o bwysigrwydd cadwraeth natur. Cynigia Polisi
Cynllunio Cymru (PCC) (2002) Adrannau 5.1 - 5.5 a NCT(C) 'Cadwraeth Natur a
Chynllunio' (Tachwedd 1996) gyfarwyddyd clir o ran paratoi CDU, sef y dylid enwi
safleoedd a benodir yn statudol am eu pwysigrwydd cadwraeth natur h.y. safleoedd
o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), gwarchodfeydd natur cenedlaethol (NNR),
ardaloedd o ddiogelwch arbennig (SPA), ardaloedd cadwraeth arbennig (SAC),
safleoedd Ramsar sites ac unrhyw SPA a SAC posibl ac unrhyw safleoedd Ramsar a
restrwyd ond nad ydynt wedi eu penodi. Nid oes unrhyw SPA na safleoedd Ramsar
presennol nac arfaethedig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 3.9.10. Mae'r safleoedd a nodir fel rhai o bwysigrwydd cenedlaethol o ran cadwraeth natur ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel a ganlyn:-
(D.S. Mae rhai o'r safleoedd hyn (neu rannau ohonynt) o bwysigrwydd rhyngwladol (Ewropeaidd) o ran cadwraeth natur - gweler uchod). Dangosir yr holl safleoedd y cyfeirir atynt uchod ar y map cynigion hefyd. Bydd unrhyw safleoedd pellach a benodir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ystod bywyd y CDU yn destun yr un archwiliad dan bolisi EV18(B) y cynllun. 3.9.11. Bydd datblygiad sy'n effeithio ar safle o bwysigrwydd cadwraeth natur cenedlaethol h.y. safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn destun archwiliad arbennig i sefydlu unrhyw effeithiau posibl neu anuniongyrchol ar y safleoedd hynny. Lle na wyddom am effeithiau posibl, bydd y Cyngor yn dilyn ymagwedd 'ragofalus' lle ffafrir cadw'r safleoedd hynny. Rhoddir ystyriaeth lawn i gyngor y Llywodraeth a pholisïau sy'n berthnasol i statws safle, ei werth cynhenid a'i werth i'r rhwydwaith cenedlaethol. Lle hawlir angen hanfodol am ddatblygiad arfaethedig, anogir datblygwyr a pherchnogion i ddangos yn glir yr achos am ddatblygu'r safle a pham na ellir lleoli'r datblygiad ar safle llai pwysig o ran cadwraeth natur. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dilyn cynllun sensitif ar y cyd ag amodau cynllunio neu rwymedigaethau/cytundebau cynllunio priodol gyda golwg ar oresgyn effeithiau drwg posibl ar yr amgylchedd a sicrhau bod diddordeb cadwraeth natur safle'n cael ei warchod a'i wella. Lle mae'r safle dan sylw yn warchodfa natur genedlaethol neu'n safle a nodir gan yr Arolwg Cadwraeth Natur neu'r Arolwg Cadwraeth Geolegol, rhoddir ystyriaeth ofalus i'w bwysigrwydd cenedlaethol. Wrth asesu cynigion fel hyn, bydd y Cyngor yn dangos:-
3.9.12. DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO AR SAFLEOEDD LLEOL NEU RANBARTHOL O GADWRAETH NATUR NEU SAFLEOEDD GEOLEGOL NEU GEOMORFFEGOL O BWYSIGRWYDD RHANBARTHOL (RIGS)POLISI EV19 3.9.13. Er mwyn cael ymagwedd gyfannol at gadwraeth natur a/neu ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol yn y fwrdeistref sirol, mae angen ail haen o ddiogelwch i warchod y safleoedd hynny a bennir yn y CDU fel rhai o bwysigrwydd rhanbarthol neu leol. Mae CCC (2002) yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol i ystyried pwysigrwydd penodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried y pwysau a roddir i fuddiannau cadwraeth natur ond nid yw'n cydnabod unrhyw bwysigrwydd rhanbarthol. Mae'r Cyfarwyddyd Strategol y cytunwyd arno gan Grŵp Cynllunio Strategol De-Ddwyrain Cymru yn llenwi'r bwlch hwn drwy nodi bod angen cynnal safleoedd o bwysigrwydd rhanbarthol a lleol er y byddai'r diogelwch a roddir iddynt yn llai na'r diogelwch a roddir i safleoedd 'haen uchaf'. Bydd gofyn asesu pob cynnig yn unigol o ran eu teilyngdod a'u pwysigrwydd perthynol. 3.9.14. Mae'r safleoedd hyn o bwysigrwydd rhanbarthol a lleol, sy'n cynnwys yr holl warchodfeydd natur lleol, safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur, a safleoedd o bwysigrwydd geolegol neu geomorffegol rhanbarthol yn hanfodol i fioamrywiaeth a diogelu diddordeb gwyddonol yr ardaloedd hyn yn ne-ddwyrain Cymru, gan nad oes digon o benodiadau statudol i ddiogelu'r adnodd bioamrywiaeth a gwyddonol ehangach. Er enghraifft, mae nifer fawr o safleoedd 'ail haen' sy'n bodloni safleoedd ar gyfer diddordeb gwyddonol arbennig ond ni fyddant yn cael eu penodi felly. Ymdrinnir â'r holl safleoedd hyn yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol mabwysiedig y Cyngor, sy'n cynnig Cyfarwyddyd Cynllunio Ategol (CCA) i helpu i gynllunio a rheoli'r safleoedd hyn. Dilyswyd y safleoedd hynny o bwysigrwydd cadwraeth natur a gynhwyswyd yng nghynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol y Cyngor ar sail wyddonol cyn iddynt gael eu cynnwys a bydd unrhyw safleoedd ychwanegol i'w hyrwyddo'n mynd drwy'r un broses ddilysu cyn cael eu cynnwys mewn unrhyw arolwg o'r cynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol. Dangosir pob gwarchodfa natur leol a safle o bwysigrwydd geolegol/geomorffegol rhanbarthol presennol ac arfaethedig ar fap cynigion y CDU. Fodd bynnag, er mwyn bod yn glir ac o ystyried eu nifer a'u hamrywiaeth o ran maint, eithrir safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur o'r map cynigion. Cynhwysir manylion llawn o'r rhain yng nghynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol y Cyngor fel cyfarwyddyd cynllunio ategol i'r CDU. 3.9.15. Lle ystyrir bod datblygiad yn gwrthbwyso diogelwch y safleoedd hyn o bwysigrwydd rhanbarthol a lleol, rhaid i ddatblygwyr ddangos y gwnaed pob ymdrech i leihau'r effaith ar y safle a/neu ddarparu mesurau lleddfu am unrhyw golled ar y safle, ei fioamrywiaeth neu ei ddiddordeb gwyddonol. Rhaid i gynigion gynnwys mesurau ar gyfer cynnal y safle (gan gynnwys unrhyw gynefinoedd) yn y tymor hwy er mwyn sicrhau ei fod yn dal yn gynaliadwy. O ran bioamrywiaeth, bydd cynnwys y cynllun gweithredu bioamrywiaeth rhanbarthol neu leol yn cynrychioli ystyriaethau pwysig wrth benderfynu ar briodolrwydd lleddfu effaith neu amnewid unrhyw safle'n destun i bolisi EV19. 3.9.16. Mae ymagwedd gyffredin at werthuso tirwedd yn bwysig i warchod bioamrywiaeth a safleoedd gwyddonol hefyd. Mae bolisi EV19 yn gosod allan mesurau caeth i reoli datblygiad a fyddai'n effeithio ar brydferthwch naturiol tirwedd Arfordir Treftadaeth Morgannwg neu a fyddai'n weledol ymwthiol arno. Mae polisi EV10 yn gosod allan y mesurau i reoli datblygiad a allai effeithio ar 'safleoedd tirwedd arbennig' penodedig y fwrdeistref sirol. Penodwyd y rhain drwy'r hen Gynllun Lleol ond ail-aseswyd nhw yn y CDU. Fodd bynnag, mae Grŵp Cynllunio Strategol De-Ddwyrain Cymru wedi cytuno ei fod yn ddymunol i symud tuag at fabwysiadu ymagwedd gyffredin at werthuso tirwedd yn yr is-ranbarth yn tymor hwy. Bydd yr ymagwedd hon yn ystyried canlyniadau pob cynllun gweithredu bioamrywiaeth rhanbarthol neu leol y dyfodol a bydd hyn yn helpu i ddiffinio natur y dirwedd (gan gynnwys y traddodiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol a ailfodelwyd hi), ei nodweddion corfforol a gweledol a'i phwysigrwydd hanfodol i fioamrywiaeth a diddordeb gwyddonol. 3.9.17. Nid yw diffiniad mor gyson o dirweddau a safleoedd yn bosibl ledled de-ddwyrain Cymru ar hyn o bryd oherwydd yr amser a gymerir i ddatblygu cynlluniau a phrinder gwybodaeth fanwl o ddosbarthiadau. Ym mis Rhagfyr 1998, cytunodd y Cyngor i gymryd rhan mewn consortiwm o awdurdodau lleol yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Rhondda Cynon Taf i symud y prosiect hwn yn ei flaen yn eu hardaloedd daearyddol nhw, drwy ddefnyddio methodoleg LANDMAP i asesu tirweddau, fel a argymhellwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Bydd yr asesiad amlbwrpas hwn a fydd yn cynnwys holl nodweddion y tirweddau yn rhoi cyd-destun cliriach ar gyfer paratoi CDU yn y dyfodol, asesu bioamrywiaeth a diddordeb gwyddonol y dirwedd a pharatoi Cynllun Rheoli Parthau Arfordirol y Cyngor a'r Strategaeth Tirweddau arfaethedig, ynghyd ag arolygu ei Strategaeth Cefn Gwlad a'r Rhaglen Weithredu Integredig.
3.9.18. Yn y cyfamser, mae'n hanfodol i'r CDU i ystyried bioamrywiaeth y fwrdeistref sirol sy'n gwneud cymaint o gyfraniad angenrheidiol i'w thirwedd o safbwynt ofodol. Mae rhywogaethau'n dibynnu ar eu cynefinoedd lleol neu ymfudol a, gan na ddylai awdurdodau cynllunio wrthod caniatâd cynllunio os gall datblygiad fod yn amodol ar amodau a fydd yn atal effeithiau niweidiol ar gynefinoedd bywyd gwyllt neu nodweddion corfforol pwysig neu os oes digon o ystyriaethau sylweddol i oresgyn ystyriaethau cadwraeth natur, mae angen polisïau eraill yn y cynllun hwn i wahaniaethu rhwng cynigion datblygu sy'n diogelu cynefinoedd rhag y cynigion sy'n eu dinistrio ac yn annog coridorau a rhwydweithiau bywyd gwyllt a diogelu rhywogaethau a ddiogelir. Felly:- 3.9.19. DIOGELWCH CYFFREDINOL BIOAMRYWIAETHPOLISI EV20 3.9.20. Mae'n hanfodol cael cydbwysedd rhwng yr angen i ddatblygu a'r angen i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau sy'n cyfrannu at fioamrywiaeth gyffredinol y fwrdeistref sirol. Amcan polisi EV20 yw cael y cydbwysedd hwnnw rhwng lleoliad, dyluniad a chynllun datblygiad neu ailddatblygiad a'r angen i warchod bioamrywiaeth y safle hwnnw, tra'n ystyried buddiannau unrhyw adnoddau cadwraeth natur cyfagos. Dylid achub ar bob cyfle i gofnodi nodweddion bioamrywiaeth pwysig ar safle cyn eu symud a'u rheoli neu, yn yr achosion gwaethaf, cyn i'r nodweddion hyn gael eu colli am byth. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn osgoi'r sefyllfa olaf hon lle'n bosibl a bydd yn gofyn am fesurau lleddfu er mwyn diogelu bioamrywiaeth y safleoedd hyn yn y dyfodol. Lle'n briodol, diogelir y rhain drwy weithredu amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau/cytundebau cynllunio gyda datblygwyr. Ym mhob achos, y nod fydd gwella unrhyw beth sydd wedi gwaethygu sefyllfa bioamrywiaeth yn y gorffenol ac atal unrhyw ynysiad pellach, er mwyn cynnal a gwella rhwydweithiau ecolegol yn y fwrdeistref sirol. Ceir esboniad pellach o'r nod hwn ym mharagraff 37 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac yn y blaen) 1994. 3.9.21. Mae pob awdurdod yn ne-ddwyrain Cymru'n datblygu cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol, ar adegau o fewn fframweithiau cyd-drefnedig yn yr is-ranbarth. Mae gwaith ar y cynlluniau hynny eisoes wedi dangos pwysigrwydd coridorau bywyd gwyllt (yn enwedig glannau afonydd) a rhwydweithiau o nifer fawr iawn o nodweddion sy'n hanfodol i lwyddiant ffawna a fflora ond, fel a nodir yn y Cyfarwyddyd Cynllunio Strategol ar gyfer De-Ddwyrain Cymru, ni ellir penodi'r rhain fel safleoedd a ddiogelir am beth amser. Fodd bynnag, yn y cyfamser, cytunwyd y dylai awdurdodau lleol weithio tuag at yr ymagwedd hon.
3.9.22. Ystyrir diogelu a gwella coridorau a rhwydweithiau bywyd gwyllt yn hanfodol o ran sicrhau diogelwch hirdymor bioamrywiaeth yn y fwrdeistref sirol. Rhaid i gynigion ddatblygu ystyried ac ni ddylent effeithio ar barhad na chyfanrwydd nodweddion presennol y dirwedd, ffurfiau tir na chynefinoedd o bwysigrwydd i ffawna a fflora lleol. Bydd y Cyngor yn disgwyl i bob datblygwr posibl felly i ddarparu ar gyfer cadwraeth/rheolaeth gyfredol hanfodol coridorau bywyd gwyllt yn eu cynigion datblygu ac, yn y pen draw, darparu ar gyfer amnewid y nodweddion hynny sy'n cefnogi a darparu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt. Byddai'n well gan y Cyngor sicrhau unrhyw fesurau cadwraeth/ rheolaeth drwy drafodaethau. Fodd bynnag, lle bydd gofyn, byddant yn gorfodi amodau priodol ar ganiatâd cynllunio neu'n cychwyn ar gytundebau/ rhwymedigaethau cynllunio. Bydd y nodweddion yn amrywio o safle i safle ac o un rhan o'r fwrdeistref sirol i'r llall. Cydnabyddir y canlynol fel bod yn goridorau bywyd gwyllt pwysig posibl:-
3.9.23. Rhy atodiadau 5 ac 8 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Rhan III o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ayb) (1994) ddiogelwch arbennig i ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion a chyflwyna gosbau am darfu ar eu cynefinoedd. Ni chyfyngir diogelwch y rhywogaethau hyn i ardaloedd penodedig ond rhaid eu hystyried lle bydd cais cynllunio yn effeithio ar y rhywogaethau hynny a'u cynefinoedd. Rhestrir y rhywogaethau a ddiogelir gan y ddeddfwriaeth uchod yn Llyfryn Gwarchod Rhywogaethau GEN3 (atodiadau 3 a 4) a GEN4 Cyngor Cefn Gwlad Cymru. 3.9.24. Mae'r diogelwch a roddir gan y darpariaethau statudol perthnasol y cyfeirir atynt uchhod nid yn unig yn cyfeirio at gynigion am ddatblygiad newydd ond i drosi adeiladau mewn trefi, yng nghefn gwlad a'r rhai ar ymylon anheddiadau. Felly, rhaid i ymgeiswyr caniatâd cynllunio gydymffurfio â'r darpariaethau hynny a bydd ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru'n sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol iddynt. Yn yr un ffordd, rhaid i bob datblygiad cludiant a gwasanaeth cyhoeddus e.e. adeiladu is-ffyrdd neu symud hen bontydd a ffosydd/draeniau bach a allai fod yn safleoedd nythu ar gyfer mamaliaid bach (gan gynnwys ystlumod), adar, a phlanhigion gwyllt ystyried y materion hyn hefyd. Gall darparu blychau nythu ar gyfer tylluanod er enghraifft wrth drosi ysguboriau warchod y rhywogaethau hyn yn eu cynefinoedd presennol heb fawr o gostau ychwanegol ar gynllun y datblygiad. 3.9.25. Mae coetiroedd, coed unigol a grwpiau bach o goed a gwrychoedd yn rhan annatod o fioamrywiaeth ac maent yn gyfraniad buddiol iawn i'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Gall ardaloedd o goetir fod yn nodwedd bwysig yn y tirlun, yn cynnig cyfle i warchod natur yn lleol a lleihau effaith llygredd awyr a helpu i ostwng byd-gynhesu a newid hinsawdd. Mae'n bwysig lleihau datblygiad neu weithgareddau eraill a allai niweidio coed a chadwraeth natur felly ac annog adnoddau coetir a choedwigaeth y fwrdeistref sirol. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gallu mwynhau'r amwynder a'r cyfle addysgol y gall coed a gwrychoedd eu cynnig yn yr amgylchedd trefol a gwledig ond mewn ffordd na fydd yn effeithio ar yr adnodd na'i gwmpasoedd. O ganlyniad, bydd angen mynediad a reolir a gweithredu prosiectau rheoli cefn gwlad er mwyn diogelu'r amgylchedd. Felly:- 3.9.26. DIOGELU/CYNNAL A CHADW COED DAIL LLYDAN, AYB.POLISI EV21 3.9.27. Mae coetiroedd a gwrychoedd dail llydan brodorol yn elfennau pwysig o dirwedd y fwrdeistref sirol ac yn gynefinoedd gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt. Mae hen goetiroedd lled-naturiol, a ddiffinnir yn Rhestr Morgannwg o Hen Goetiroedd - a gynhyrchwyd gan y cyn Gyngor Gwarchod Natur (Cyngor Cefn Gwlad Cymru erbyn hyn) yn 1986 - yn arbennig o bwysig i fioamrywiaeth. Mae'n bwysig hefyd i barhau i ddiogelu coed sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r dirwedd (boed yn goed unigol, yn grwpiau neu'n ardaloedd neu'n goetiroedd mwy sylweddol) drwy orchmynion cadw coed mewn ardaloedd trefol a gwledig ac i ddiogelu coed pwysig ar safleoedd datblygu ac ardaloedd amwynderau presennol. 3.9.28. Mae'n bwysig felly i amnewid coed neu wrychoedd dail llydan brodorol pan fyddant yn cael eu colli, diogelu eu cyfraniad at amwynderau a bioamrywiaeth, yn enwedig lle mae'r rhywogaethau hynny'n dibynnu ar eu cynefinoedd ac i'r gwrthwyneb. Mae Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ayb) 1994 a Rheoliadau Gwrychoedd 1997 yn cefnogi'r ymagwedd hon ac yn cydnabod gwerth coedwigoedd bach a ffiniau caeau traddodiadol. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu dogfen strategaeth o'r enw Strategaeth Coetir i Gymru sy'n ceisio sicrhau bod dyfodol coetiroedd Cymru'n gynaliadwy. Bydd polisi EV21 a pholisi EV22 sy'n dilyn yn cyfrannu at gyflawni amcanion cyffredinol strategaeth coetiroedd y Cynulliad. 3.9.29. Bwriad polisïau EV21 ac pholisi EV22 yw rhoi cyd-destun cyffredinol ar gyfer cadw coed a gwrychoedd mewn datblygiadau. Fodd bynnag, mae 'hen goetiroedd lled-naturiol' sydd wedi bodoli ers cyn 1600 yn ased unigryw i fioamrywiaeth leol yn y fwrdeistref sirol gan eu bod yn cynnwys cynefinoedd a rhywogaethau unigryw sy'n cymryd canrifoedd i sefydlu'n llawn. Gallai plannu nifer fwy o goed, dan rai amgylchiadau, fod yn ddigon i wneud yn iawn am golli rhai coed a gwrychoedd o ganlyniad i ddatblygiad. Mae Deddf 1990 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i wneud darpariaeth ddigonol, lle'n briodol, ar gyfer cadw/plannu coed wrth roi caniatâd cynllunio drwy orfodi amodau neu wneud gorchmynion cadw coed. Fodd bynnag, nid yw'n rhesymol i ddefnyddio amodau i sicrhau diogelwch tymor hir pan y gellir defnyddio'r gorchmynion hyn. Gellir defnyddio gorchymyn cadw coed i ddiogelu a sicrhau yr amnewidir coed er mwyn cyflawni amodau hefyd. 3.9.30. Prif effaith gorchymyn cadw coed yw atal pobl rhag torri, dadwreiddio, tocio, brigdocio, difrodi neu ddinistrio coed neu goeden yn fwriadol heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol. Ni ddiffinnir y geiriau coeden na choetir yn y ddeddf ac nid yw'n cyfyngu defnydd y gorchmynion i goed o faint penodol ond, at bwrpasau'r ddeddf, mae'r Uchel Lys wedi penderfynu bod coeden yn unrhyw beth y byddai rhywun yn ei galw'n coeden fel arfer. Felly, ni ellir gwneud gorchymyn cadw coed ar gyfer cloddiau, gwrychoedd na phrysgoed er y gellir gwneud gorchymyn i ddiogelu coed mewn cloddiau neu hen glawdd sydd wedi tyfu i fod yn llinell o goed. Daeth Rheoliadau Gwrychoedd 1997 sy'n diogelu gwrychoedd yn benodol i rym ym mis Mehefin 1997.
3.9.31. Gall awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn cadw coed lle ystyria bod angen gwneud hyn er budd amwynderau. Ceir cyfarwyddyd cynllunio ar gwmpas gorchmynion cadw coed a sut i'w gweithredu yn NCT 10 - Gorchmynion Cadw Coed (Hydref 1997). Bydd y Cyngor yn ystyried cyngor a gyhoeddir gan y Gymdeithas Coedyddiaeth o bryd i'w gilydd hefyd. Mae'r Cyngor yn cyhoeddi cyngor pellach am effaith cynigion datblygu ar goed a gwrychoedd ac mewn perthynas â phlannu coed ar safleoedd datblygu yn ei Gyfarwyddyd Cynllunio Ategol - Coed a Datblygiad y dylai datblygwyr ei ystyried yn llawn wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio. Mae coed mewn ardaloedd cadwraeth yn destun rheolaeth debyg a bydd cyfarwyddyd am hyn yn NCT 10 hefyd (cyfeirier at baragraff 13). 3.9.32. Mae darnau helaeth o dir (gan gynnwys coedwigoedd) yn y fwrdeistref sirol sydd o fewn rheolaeth Dugiaeth Caerhirfryn (h.y. tir y Goron) a/neu lle mae gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fuddiant. Gellir defnyddio gorchymyn cadw coed i ddiogelu coed ar dir y Goron dim ond â chaniatâd yr awdurdod priodol - yn yr achos hwn, y ddugiaeth. Fodd bynnag, mae darpariaeth yn y ddeddf i wneud gorchymyn cyn i dir fel hyn gael ei drosglwyddo i fuddiant preifat. Yn yr un ffordd, mae cyfyngiadau ar wneud gorchymyn cadw coed ar dir lle mae gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru fuddiant. Os yw'r Comisiwn wedi rhoi grant mewn perthynas â'r tir, rhaid iddo roi ei ganiatâd cyn i orchymyn gael ei wneud. Fodd bynnag, mae gan y Ddugiaeth a'r Comisiwn strategaethau datblygiad cynaliadwy ac maent yn hybu ymroddiadau tymor hir ar gyfer creu, datblygu a rheoli coedwigoedd fel adnodd adnewyddadwy. 3.9.33. Mae'r Cyngor yn cefnogi ymagwedd strategol y cyrff uchod gan ei fod yn bosibl ei hintegreiddio gyda'i Strategaeth Tirweddau arfaethedig ei hun. 3.9.34. Gallai fod achlysuron lle nad yw'n gyfleus diogelu coed gan orchmynion cadw coed, er bod teilyngdod yn eu diogelu ar sail amwynder, er enghraifft lle rheolir y coed yn dda neu lle nad oes fawr o berygl o'r coed yn cael eu torri neu eu tocio, ayb. 3.9.35. CYNIGION COEDWIGOPOLISI EV22 3.9.36. Gall coedwigo gynnig nifer o fanteision megis cyfleoedd hamdden, lleihau faint o bren a fewnforir, creu swyddi, sefydlogi safleoedd (gan gynnwys llethrau), gwella'r tirlun a gwella'r amgylchedd dŵr. Yn ychwanegol, cydnabyddir bod plannu mwy o goed yn cael effaith bositif ar leihau nwyon ty gwydr (yn enwedig carbon deuocsid). Er bod arferion rheoli wedi gwella ers y 1980au, mae gan goedwigaeth fasnachol ddigyfyngiad y potensial i newid cymeriad y tirlun a gallai gael effaith negyddol ar amaethyddiaeth a bioamrywiaeth. 3.9.37. Anogir perchnogion a rheolwyr coedwigoedd e.e. Comisiwn Coedwigaeth Cymru i gymryd golwg tymor hwy, mwy strategol ar reoli coetiroedd. Fel corff yr ymgynghorir ag ef ar gynlluniau coedwigoedd, mae'r Cyngor yn cefnogi'r polisi hwnnw'n llawn. Mae coedwigaeth yn ddiwydiant tymor hir yn ei hanfod ac felly mae angen polisïau strategol er mwyn asesu cynigion coedwigo i weld a ydynt yn cynnal a/neu'n gwella nodweddion pwysig eraill yng nghefn gwlad. I'r diben hwn, bydd y canllawiau a gyhoeddir gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ffordd bwysig o weld sut y gellir cyfuno'r cynigion hynny yn eu cwmpasoedd neu lle gellir rheoli torri coed ar raddfa fawr gyda golwg ar leddfu'r broses o ddibrisio'r tirlun a/neu golli cynefinoedd sy'n bwysig i fioamrywiaeth y fwrdeistref sirol. 3.9.38. Mae hefyd yn ddymunol i gynlluniau ar gyfer plannu conifferau a chynigion coedwigo newydd gynnwys mwy o goed dail llydan yn lle coed tymor byr a ddefnyddir ar gyfer pren, ynghyd â chynlluniau hamdden. Mae cyfle hefyd i ddarparu ar gyfer amaethiad biomas fel ffynhonnell o ynni adnewyddadwy ac ar gyfer plannu a rheoli coedlannau sy'n annog bioamrywiaeth ac sy'n cynnal traddodiad diwylliannol a hanesyddol lleol. Ymdrinnir â'r arferion uchod a'r angen am reolaeth gyd-drefnedig o adnoddau coedwigaeth Cymru yn nogfen strategaeth CCC - Strategaeth Coetir i Gymru. 3.10. Ansawdd Amgylcheddol, Adfer Tir, Tir Gwag a Llygredig3.10.1. Dywedir yn aml bod ansawdd amgylcheddol yn her allweddol i gynaladwyedd ac mae hyn yn golygu ychydig o 'eco-ddyfeisgarwch'. Ar gyfer trefi a phentrefi'r fwrdeistref sirol, golyga hyn y manteision a geir drwy hybu cymdogaethau defnydd cymysg a allai gael sawl mantais cymdeithasol ac amgylcheddol, yn enwedig cysylltiadau agosach rhwng swyddi a chartrefi, mwy o ddefnydd o gludiant cyhoeddus, cerdded a beicio, llai o bobl yn berchen ar gar ac yn ei ddefnyddio a mwy o gefnogaeth am fan-werthwyr lleol yn lle canolfannau siopau tu allan i'r dref. Yn hanfodol, mae hybu cymdogaethau cynaliadwy o fewn trefi a phentrefi'n ymwneud â grymuso pobl leol h.y. pobl leol yn dod o hyd i atebion lleol i broblemau lleol ac felly'n gwella ansawdd eu hamgylchedd lleol a chael ansawdd bywyd gwell. 3.10.2. Yng nghefn gwlad y fwrdeistref sirol, gellir cael manteision tebyg drwy fesurau sensitif i reoli cefn gwlad, addysg ffermio, gwelliannau amgylcheddol, symud sbwriel a chanlyniadau eraill fandaliaeth a llygredd, tra'n gwireddu cyfleoedd hamdden drwy gerdded, marchogaeth ceffylau a beicio a mwynhau'r amgylchedd naturiol. 3.10.3. RHEOLI CEFN GWLAD A GWELLA TREFIPOLISI EV23 3.10.4. Er nad oes gan y Cyngor adnoddau sylweddol i ymgymryd â nifer fawr o brosiectau o'r natur a ddisgrifir uchod, ceisio annog perchnogion tir ac asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill i lunio a gweithredu cynigion priodol yn y fwrdeistref sirol. Gall cynnwys y gymuned ehangach wrth ddatblygu a rheoli'r prosiectau hyn, yn enwedig y rhai yn yr ardaloedd trefol a gwledig hynny sy'n gymdeithasol ddifreintiedig, newid eithriad cymdeithasol ac arwain at welliannau yn ansawdd amgylcheddol bywyd sydd felly'n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy. 3.10.5. Cynigia Strategaeth Cefn Gwlad a Rhaglen Weithredu Integredig gymeradwyedig y Cyngor gyfarwyddyd cynllunio ategol pellach am prosiectau fel hyn, mae'n cydlynu gweithrediadau rheoli arfaethedig ar gyfer safleoedd statudol ac anstatudol o bwysigrwydd i gadwraeth natur ac mae'n cefnogi gynlluniau lleol e.e. prosiectau coetir, cynlluniau amaethyddol-amgylcheddol a mentrau hamdden eraill. Dylai mentrau rheoli integredig estyn i mewn i drefi a phentrefi a chysylltu trigolion trefol â chefn gwlad, a fydd yn ei dro yn lleddfu effaith anheddiadau ar eu cefn gwlad cyfagos. 3.10.6. Mae ymwybyddiaeth a diddordeb y cyhoedd yn eu hamgylchedd wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Er y gwnaed cryn dipyn gan y sectorau cyhoeddus a phreifat i gael gwelliannau amgylcheddol e.e. adfer hen weithfeydd glo a thipiau, mae rhai ardaloedd diffaith yn dal i fodoli. Mae darnau llai o dir diolwg nad yw'n cael ei ddefnyddio'n bodoli yn y fwrdeistref sirol hefyd ac mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymroddedig i'w adfer (gan gynnwys ei lanhau, lle bo angen) i gynnig cyfle ailddatblygu neu greu amwynderau newydd. Bydd gofyn ystyried cynllun a ffurf datblygiadau newydd neu ailddatblygiadau ar gyfer safleoedd mawr (gweler yn hwyrach).
3.10.7. Ystyrir ansawdd yr amgylchedd yn elfen hanfodol o wella dymunoldeb y fwrdeistref sirol ac ar gyfer creu gwell ansawdd bywyd i'w thrigolion. Mae gwelliannau amgylcheddol neu gynlluniau gwella a fydd yn cynnwys ychydig o waith clirio, tirlunio, gosod palmentydd, seddi, plannu coed, ayb, yn gwella ymddangosiad safleoedd ac yn gwella amwynder gweledol cymdogaethau. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn cefnogi'r bartneriaeth Glasu'r Cymoedd gydag Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac eraill, sy'n anelu at wella tirlun y cymoedd. Cyn belled ag y bo adnoddau'n caniatáu, mae'r Cyngor yn ymgymryd â chynlluniau ar dir y mae'n berchen arno a, lle'n briodol, ar dir arall hefyd. Lle'n bosibl, bydd yn parhau i edrych am adnoddau i ariannu'r prosiectau hyn, yn enwedig ar y cyd â'r sector preifat. 3.10.8. Cydnabyddir bod adfer tir yn gam allweddol mewn adfywio ardal. Cynghora cyfarwyddyd polisi cynllunio Cymru y dylid adfer tir gwag a gwastraff a rhoi defnydd buddiol iddo, lle'n bosibl. Rhoddir blaenoriaeth felly i ddatblygu tir gwag a gwastraff, yn hytrach na datblygu safleoedd tir glas. 3.10.9. ADFER TIR A GWELLIANNAU AMGYLCHEDDOLPOLISI EV24 3.10.10. Mae ADC yn ariannu cynlluniau adfer tir yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Asesir cynlluniau preifat yn unol â'u teilyngdod. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno rhestr o gynlluniau i ADC oddeutu bob 2 flynedd. Mae'r Awdurdod yn paratoi rhaglen estynedig ar gyfer cynlluniau adfer tir noddedig a fydd yn destun archwiliad gan y Cynulliad nawr. Mae'r rhaglenni'n ystyried yr adnoddau a ddisgwylir a'r cyllid a ymrwymwyd eisoes. Mae ceisiadau cychwynnol i ADC yn cynnwys disgrifiad o'r tir dan sylw, y rhesymau dros adfer, cynigion caffael y tir, amcangyfrifiadau cychwynnol a chynigion defnyddio'r tir, ynghyd â barn yr awdurdod ynghylch blaenoriaeth. 3.10.11. Mae ADC yn gosod allan ei bolisïau cyffredinol o ran materion tirlunio a gweithredu strategaethau tirlunio ardaloedd a chynlluniau gwella yn ei ddogfen Tirluniau'n Gweithio i Gymru. Manylir ar ei strategaeth fwy lleol ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn Tirluniau'n Gweithio i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gomisiynwyd mewn partneriaeth â'r cyn CB Ogwr. Mae'r strategaeth yn cefnogi rhaglen weithredu o 53 o gynlluniau tirlunio i'w gweithredu'n bennaf gan y Cyngor a chan asiantaethau eraill hefyd. 3.10.12. Nod ADC yw cwblhau 'adfywiad amgylcheddol' cymoedd de Cymru drwy fentrau megis Glasio'r Cymoedd ac ysgogi datblygiad economaidd yn Ardal Datblygiad Arfordirol De Cymru fel 'ardal fuddsoddi o flaenoriaeth'; lle mae'r ardal ar hyd yr M4 a'r coridor rheilffordd drwy ganol y fwrdeistref sirol yn ffurfio 'prif fynediad a choridor' i mewn i Gymru, sy'n ei gwneud yn 'ardal fuddsoddi eilaidd'. 3.10.13. ADFER TIR GWAG A THIR ARALLPOLISI EV25 3.10.14. Mae'r Cyngor yn cefnogi ADC yn ei fenter i 'ychwanegu gwerth' at ei raglen adfer tir lwyddiannus drwy fuddsoddiad amgylcheddol pellach. Er hyn, mae'n cydnabod hefyd bod planhigion a thyfiant wedi tyfu dros rhai safleoedd gwag - yn arbennig tipiau glo a gweithfeydd glo - a bod y rhain wedi datblygu i fod yn nodweddion dymunol sy'n cynnal swm sylweddol o fioamrywiaeth. Yn debyg, mae'n bosibl na fydd rhai cynlluniau adfer yn cyrraedd disgwyliadau tirlunio cyfredol a bydd angen eu harolygu er mwyn sicrhau cynefin ac amwynder gweledol. Mae angen nawr i integreiddio gweithgareddau adfer â phryderon amgylcheddol eraill gan gynnwys cadw archeoleg ddiwydiannol a safleoedd o ddiddordeb oherwydd eu bioamrywiaeth. Dylid cyflawni'r ail drwy gyflwyno a chymeradwyo manylion datblygu safle a gweithredu rhwymedigaethau/cytundebau cynllunio priodol i lefel sy'n bodloni'r awdurdod cynllunio lleol. 3.10.15. Bydd y manylion datblygu safle'n cynnwys polisïau defnydd tir manwl ar gyfer y tir i'w adfer a bydd yn cael eu trin fel cyfarwyddyd cynllunio atodol i bolisi EV25 o'r cynllun ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Cyngor. 3.10.16. Gall gofynion ôl-ofal cynlluniau achosi problemau mawr. Mae hyn o ganlyniad i'r nifer gynyddol o gynlluniau lle cynigir canran uchel o'r tir adferedig ar gyfer defnydd amwynderau neu amaethyddol a choedwigaeth. Unwaith i'r driniaeth gael ei chwblhau, mae'n arferol i awdurdodau lleol gael gwared ar y tir cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, rhaid i beth tir penodol aros ym mherchnogaeth gyhoeddus o ganlyniad i'w ôl-ddefnydd penodedig e.e. man agored cyhoeddus. Hefyd, lle bwriedir defnydd amaethyddol neu goedwigaeth, rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol fod yn fodlon bod gan y darpar berchennog tir y gallu a'r adnoddau i gynnal y safle i safon ddigonol. 3.10.17. Felly, mewn perthynas â thir a fydd yn gorfod aros ym mherchnogaeth gyhoeddus, mae gofyn i'r Cyngor fonitro amodau a gweithredu i sicrhau nad yw'r tir yn dychwelyd i'w gyflwr blaenorol. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn yw cynigion rheoli ôl-ofal a dylid cynnwys y rhain o'r dechrau yn y manylion datblygu safle. Atodir amodau cynllunio priodol at ganiatâd am ddatblygiad felly, yn unol â darpariaethau'r manylion datblygu safle a lle bo angen, unrhyw rwymedigaethau/cytundebau cynllunio ychwanegol sydd eu hangen i ymdrin â gofynion isadeiledd union ac anuniongyrchol teg a rhesymol y safle, ynghyd â lleddfu unrhyw effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd y datblygiad arfaethedig ar y gymuned. Dylai'r materion defnydd tir gynnwys y cynllun effeithiol o ffurf y tir, tirlunio a lleoliad cyfleusterau. 3.10.18. Diffinnir tir llygredig fel:- .....tir sy'n ymddangos i awdurdod cynllunio lleol i fod mewn cyflwr, o ganlyniad i sylweddau tu mewn, ar neu dan y tir, sy'n niweidio neu sy'n debygol o niweidio pethau byw neu eiddo. 3.10.19. Ym mis Tachwedd 1994, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Phapur Gwyn - Fframwaith ar gyfer Tir Llygredig, canlyniad ei harolwg polisi a chasgliadau o'r papur ymgynghori Talu am ein Gorffennol. Cyfeiria hyn at ei hymroddiad i ddatblygiad cynaliadwy a'r egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu ynghyd â'r ymagwedd 'addas i'w ddefnyddio' at reoli a thrin llygredd. Mae'n cefnogi datblygiad cynaliadwy drwy leihau'r difrod o weithgareddau blaenorol, a thrwy ganiatáu cadw neu ddychwelyd tir llygredig i ddefnydd buddiol lle'n bosibl er mwyn lleihau'r pwysau am ddatblygiad ar safleoedd tir glas. Mae'r ymagwedd yn mynnu gweithrediad adfer dim ond lle:-
3.10.20. Mae hyn yr un mor gymwys i driniaeth safleoedd datblygu drwy'r system rheoli datblygu a gweithgareddau rheoleiddio Asiantaeth yr Amgylchedd - Cymru a'i rhagflaenwyr, ac i awdurdodau unedol yng Nghymru. Mae llygredd o'r gorffennol yn ystyrieaeth bwysig felly i awdurdodau cynllunio lleol trwy gydol y broses gynllunio a gallai effeithio ar gyfanrwydd corfforol adeiladau a gwasanaethau wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau dan Reoliadau Adeiladu 1991. Felly, rôl yr awdurdod cynllunio lleol o ran tir llygredig yw cydweddu â rolau statudol awdurdodau eraill e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru neu swyddogaethau eraill y Cyngor nad ydynt yn rhai cynllunio, yn hytrach na'u dyblygu. 3.10.21. DATBLYGU TIR LLYGREDIGPOLISI EV26 3.10.22. Un o swyddogaethau'r system gynllunio yw arwain datblygiad er mwyn lleihau'r risgiau o beryglon naturiol neu ddynol - sy'n cynnwys y risg o dir llygredig. Yr amcan yw peidio ag atal datblygiad y tir hwn er mae'n bosibl na fydd yn bosibl ei ddatblygu mewn rhai achlysuron ond i sicrhau bod y datblygiad yn briodol a bod cyfyngiadau corfforol y tir wedi cael eu hystyried yn llawn bob cam o'r broses gynllunio. Felly, nid yw cynigion ar gyfer datblygu tir llygredig yn wahanol i'r cynigion ar gyfer tir 'ansefydlog'. Yn y naill achos, y datblygwr sy'n gyfrifol am benderfynu maint ac effeithiau'r risg. Y datblygwr fydd yn sicrhau bod y tir yn addas ar gyfer y datblyigad a gynigir gan nad oes gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd o ofal i berchnogion tir. 3.10.23. Rhaid i natur y datblygiad fod yn ystyriaeth bwysig hefyd gan ei bod yn bosibl y bydd y tir tan sylw'n addas ar gyfer defnyddiau 'meddal' fel coedwigo, amwynderau a hamdden ac i gefnogi bioamrywiaeth, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei adfer. 3.10.24. Gallai llygredd fod yn bresennol ar dir gwag y mae angen ei adfer neu ar dir i'w ddatblygu rhywle arall. Fodd bynnag, os yw'n cyd-fodoli â thir gwag, mae'n bosibl bod yna grantiau ar gael i'w drin. Yn yr achosion hyn, disgwylir i'r tir gael blaenoriaeth ar sail diogelwch, yn unol â chyfarwyddyd y Llywodraeth. Fodd bynnag, os nad yw'r tir wedi ei benodi fel tir 'gwag', mae'r sefyllfa bresennol yn dibynnu ar y ffaith bod y Cyngor yn gwybod neu'n amau ei fod yn llygredig neu mae'r datblygwr yn datgelu bod y tir yn llygredig. Ar dir sy'n llygredig ar hyn o bryd neu wedi ei lygru'n ddiweddar, bydd yr asesiad risg a'i adferiad yn weddol syml. Fodd bynnag, os yw'r llygredd yn hyn, mae'n bosibl y bydd yn anoddach sefydlu'r risigiau a'r atebion. Mae'n bosibl y bydd angen astudiaeth ac arbenigedd pellach cyn adfer y safle. Dylid cael cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd - Cymru bob amser o ran y math o driniaeth sy'n briodol ar gyfer y tir, oherwydd ei chyfrifoldebau am ddiogelu dŵr ddaear a rheoli llygredd. 3.10.25. Mae'r Cyngor yn sylweddoli y gall tir llygredig fod yn adnodd gwerthfawr ond bod ei bresenoldeb yn gallu dibrisio eiddo a thir cyfagos. Gall adfer y tir hwn helpu i wella cyflwr amgylcheddol ac ansawdd ardal, denu buddsoddiad newydd a gall fod yn ddewis dilys yn lle datblygu safleoedd tir glas. 3.11. Sŵn, Llygredd Golau a Rheoli Ansawdd Awyr3.11.1. Cydnabyddir yn fwyfwy bod sŵn yn ffurf o lygredd amgylcheddol sy'n gallu effeithio ar iechyd ac amwynderau lleol. Mae sŵn yn niwsans statudol dan Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 a Deddf Diogelwch Amgylcheddol 1990, a cheir mesurau i'w reoli yn Neddf Rheoli Llygredd 1974, Rheoliadau Sŵn yn y Gweithle 1989, rheoliadau adeiladu ac yn ddiweddaraf yn Neddf Sŵn 1996. Mae'r rhan fwyaf o'r mesurau hyn yn ymwneud â sŵn sy'n dod o ffynonellau presennol. Fodd bynnag, mae'r system gynllunio'n ceisio delio â sŵn o'r dechrau a lleihau ei effaith wrth gynllunio a lleoli datblygiadau. 3.11.2. TAWELU SŴNPOLISI EV27 3.11.3. SŴN ANNERBYNIOLPOLISI EV28 3.11.4. Gall sŵn fod yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar gais cynllunio am ddatblygiad; er enghraifft, gallai cynigion fod yn agos i ffynhonnell bresennol o sŵn neu gallai cynigion greu sŵn ychwanegol. Yn y naill achos, bydd y Cyngor yn archwilio'r cynigion yn ofalus a bydd yn disgwyl i'r ceisiadau gynnwys asesiadau sŵn manwl ac annibynnol er mwyn ei gwneud yn bosibl i asesu lefelau disgwyliedig o sŵn a fydd yn effeithio ar ddatblygiadau sy'n sensitif i sŵn. Rhaid i gynigion felly gynnwys manylion llawn o'r mesurau a fwriedir i leddfu effaith sŵn, er enghraifft:-
3.11.5. Bydd safleoedd o bwysigrwydd statudol i gadwraeth natur, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a'r ardal o'u cwmpas sy'n arbennig o sensitif i sŵn yn cael ystyriaeth arbennig; a bydd effaith sŵn ar fwynhad ardaloedd eraill o'r dirwedd, bioamrywiaeth a nodweddion hanesyddol yn cael ystyriaeth briodol mewn ceisiadau cynllunio. 3.11.6. Mater arall sy'n achosi pryderon amgylcheddol cynyddol, yn enwedig gan gyrff gwyddonol ac addysg e.e. Cymdeithas Seryddiaeth Prydain, ysgolion a cholegau yw'r broblem o lygredd golau. Gall golau artiffisial lygru'r awyr nos mewn dwy ffordd. Achosir y rhan fwyaf o'r broblem gan olau gwastraff o lampiau sodiwm ayb y dylid eu cyfeirio tuag at y llawr ac yn orweddol ac achosir y gweddill gan adlewyrchiad y golau hwnnw o ffyrdd, palmentydd ac adeiladau.
3.11.7. Nid yw gwastraffu'r ynni, yn enwedig gan olau stryd a gynlluniwyd yn wael, yn gynaliadwy. Gwaethygir y broblem o lygredd golau hefyd gan olau llachar a gormod o oleuadau (sy'n peryglu yn hytrach na helpu diogelwch cerddwyr a ffyrdd), gan goleuadau hysbysebu ac arddangos drwy'r nos, goleuadau ar adeiladau, llifoleuadau a gyfeirir ar i fyny a gan oleuadau domestig personol a diogeledd diwydiannol. Yn amlwg, mae materion pwysig eraill i'w hystyried sy'n arbennig o bwysig mewn ardaloedd trefol, megis golau i leihau trosedd a sicrhau diogelwch y cyhoedd, llifoleuo mannau chwaraeon, adeiladau hanesyddol ac adeiladau cyhoeddus eraill am resymau balchder dinesig neu atyniadau i dwristiaid, y tuedd poblogaidd tuag at siopa drwy'r nos a bywyd nos a hawliau a dewisiadau unigolion ac ystyriaethau masnachol e.e. arwyddo cyfleusterau dros nos - fel gorsafoedd petrol. Gellir disgwyl goleuadau artiffisial ar gyfleusterau penodol yng nghefn gwlad hefyd, yn enwedig gyda'r nos, er enghraifft, cyfleusterau hamdden a gweithgareddau gwledig eraill. 3.11.8. Rhaid i bolisïau cynllunio geisio pwyso'r galwadau gwahanol am oleuadau gyda'r nos gyda'r angen i warchod amgylchedd gyda'r nos sy'n bwysig i fuddiannau gwyddonol ac addysgol a chydweddu hyn gyda'r amcanion effeithiolrwydd ynni o ddatblygiad cynaliadwy a budd cyhoeddus. Felly:- 3.11.9. GOLEUADAU ALLANOL AR DDATBLYGIAD NEWYDDPOLISI EV29 3.11.10. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall goleuadau allanol fod o fudd i drigolion y fwrdeistref sirol e.e. gwella diogeledd cartrefi os nad yw gweithredu eu hawliau datblygiad a ganiateir yn creu niwsans i eraill. Os digwydd hyn, mae'n fater i'w ddatrys drwy'r sianeli diogelu'r cyhoedd priodol. Pwrpas polisi EV29 yw ymdrin â'r broblem o lygredd golau ar lefel fwy cyffredinol. Mae hybu goleuadau diogeledd, a goleuo mentrau masnachol a hamdden gyda'r nos yn ddigonol o fudd i'r cymuned yn enwedig mewn ardaloedd trefol lle mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau hyn yn bodoli. Fodd bynnag, gall goleuadau gormodol a gynlluniwyd yn ddrwg ac a roddwyd mewn mannau amhriodol gael sawl effaith negyddol, gan gynnwys goblygiadau diogelwch i yrwyr, beicwyr a cherddwyr, a gall ddifetha golygfeydd golau dydd a gyda'r nos. 3.11.11. Gall golau darfu ar gartrefi pobl gan amharu eu preifatrwydd a'u gallu i dysgu, gwaethygu ansawdd eu bywydau a chael effaith negyddol ar anifeiliaid anwes a fferm a safleoedd a rhywogaethau o bwysigrwydd cadwraeth natur. Gall goleuo cyfleusterau mewn ardaloedd gwledig yn ddiangen fod yn arbennig o ymwthiol gan ei fod yn effeithio ar olygfeydd yr ardaloedd ac amharu mwynhad pobl sydd â diddordebau gwyddonol ac addysgol mewn seryddiaeth lle mae angen 'awyr tywyll'. Bydd y Cyngor yn ceisio datrys neu leddfu'r problemau hyn drwy weithredu polisi EV29. 3.11.12. Mae gan y system cynllunio defnydd tir rôl annatod i'w chwarae mewn gwella ansawdd awyr lleol a chyfrannu'n bositif tuag at ei reolaeth. Disgwylir i holl awdurdodau cynllunio Cymru ystyried nodau cynllunio ansawdd awyr cenedlaethol wrth baratoi CDU a dylent gyfeirio at unrhyw gynlluniau gweithredu ardaloedd rheoli ansawdd awyr (AQMA). Dylid datblygu'r cynlluniau hynny gan ystyried defnyddiau tir presennol a'r polisïau a'r cynigion a geir yn y CDU. 3.11.13. Mae'r cyfarwyddyd perthnasol yn annog datblygu tir mewn ardaloedd trefol, yn enwedig ar safleoedd tir llwyd, os gellir creu neu gynnal amgylchedd byw da. Mae'n nodi y bydd y Llywodraeth a'i hasiantaethau'n gweithredu i gyfyngu'r defnydd o lygrwyr a all fod yn beryglus, os oes risg sylweddol o niwed i'r amgylchedd, hyd yn oed os nad yw gwybodaeth wyddonol yn bendant, os yw cydbwysedd y costau a'r buddion tebygol yn eu cyfiawnhau. Os bydd risgiau sylweddol o niwed amgylcheddol, cydnabyddir y byddant yn gweithredu ar sail yr egwyddor o ragofalon. 3.11.14. Mae'r un cyfarwyddyd yn amlinellu y dylai awdurdodau cynllunio lleol weithredu ar y sail y bydd asianaethau eraill yn gweithredu a gorfodi'r drefn reoli berthnasol (yn erbyn llygredd). Dylai'r buddiant cynllunio ganolbwyntio ar unrhyw botensial am lygredd ond dim ond i ba raddau y mae'n effeithio ar ddefnydd presennol a dyfodol y tir. Felly:- 3.11.15. ANSAWDD AWYRPOLISI EV30 3.11.16. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i fonitro a gwella ansawdd awyr yn y fwrdeistref sirol yn unol â'i ddyletswyddau statudol. Yn unol â'i bwerau diogelwch amgylcheddol, bydd yn ystyried yr angen am ardaloedd a chynlluniau gweithredu rheoli ansawdd awyr a fydd yn helpu i leoli datblygiadau newydd pan arolygir y CDU yn y dyfodol ac yn esbonio unrhyw angen pellach am fesurau amgylcheddol ychwanegol ger datblygiadau a ffyrdd. Yn y cyfamser, bydd yn parhau i asesu cynigion datblygu ac ystyried ansawdd awyr, a bydd yn gwneud penderfyniadau drwy weithredu'n unol â'r egwyddor o 'ragofalon'. 3.11.17. Mae'r Cyngor yn ceisio lleihau llygredd o draffig y ffyrdd drwy ei ymagwedd integredig at gynllunio defnydd tir a chludiant. Dylid gweld llai o draffig o ganlyniad i bolisïau cludiant a gefnogir yn ei Gynllun Cludiant Lleol a darpariaethau ei Strategaeth Teithiau Diogel i'r Ysgol a thrwy cynlluniau cludiant gwyrdd cyflogwyr mawr lleol. Mae Polisi Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy (A21L) y Cyngor a gymeradwywyd yn 1997 sy'n ceisio rheoli a gwella perfformiad amgylcheddol drwy gynnwys ystyriaeth am faterion amgylcheddol yn ei holl arferion, polisïau, rhaglenni a gwasanaethau yn datgan y bydd y Cyngor:- .....yn gwneud pob ymdrech i leihau ac atal llygrwyr rhag cael eu rhyddhau a fyddai'n achosi niwed amgylcheddol i aer, tir neu ddŵr. 3.11.18. Dangosydd priodol i fonitro'r polisi uchod fyddai ansawdd awyr a dylai unrhyw fonitro ystyried penderfyniadau am geisiadau cynllunio yng nghyd-destun polisi EV30. Hefyd, mae cyfarwyddyd LlCC/DETR Ansawdd Awyr a Chynllunio Defnydd Tir (paragraff 21) yn datgan '...pa un a oes angen caniatâd cynllunio neu beidio, rhaid i awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd ystyried effaith y cynnig ar yr amgylchedd lleol'. Ceisia polisi EV30 i weithredu'r cyngor hwn yn uniongyrchol a bydd y Cyngor yn monitro ei effaith, yn enwedig o ran newidiadau i ansawdd awyr drwy ddatblygiadau newydd a thraffig, yn ei arolygon/cynllun rheoli ansawdd awyr. Bydd unrhyw newidiadau hanfodol i'r polisi a allai ddeillio o'r broses fonitro honno'n helpu i arolygu'r CDU. 3.12. Y Dreftadaeth Adeiledig3.12.1. Mae gofalu am dreftadaeth adeiledig yn hanfodol i ddatblygiad cynaliadwy. Mae'n bwysig bod profiad diwylliannol y wlad, a fynegir drwy ei hamgylchedd hanesyddol ac adeiledig, yn cael ei fwynhau gan genedlaethau i ddod. Mae'r dreftadaeth adeiledig, oherwydd ei bod yn ein hatgoffa o'n gwreiddiau a'i hapêl draddoddiadol, yn chwarae rôl arbennig o bwysig yn ansawdd ein bywyd. Gall adeiladau hanesyddol, hen gofebion ac elfennau eraill o'r dreftadaeth ddiwylliannol fod yn bwysig a chyfrannu at gymeriad a hunaniaeth cymunedau lleol. Ynghyd â'i gwerth diwylliannol ac esthetig, sy'n werth ei gadw er ei fwyn ei hun, gall treftadaeth adeiledig fod yn brif ffynhonnell o astudiaeth o hanes cymuned a gall ddenu buddion economaidd sylweddol i'r ardal; mae gwarched yr ynni a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu adeiladau hanesyddol yn naturiol gynaliadwy. 3.12.2. Mae gan y fwrdeistref sirol sawl enghraifft gyfoethog o dreftadaeth adeiledig, o'r oesoedd cyn-hanesyddol i heddiw. Mae caerau bryniau o'r Oes Haearn, cestyll Normanaidd, plastai Tuduraidd, pentrefi ystadau, treftadaeth ddiwydiannol ac adeiladau Fictoraidd neu Edwardaidd yn gwella cymeriad lleol ledled y fwrdeistref sirol a dylid diogelu a gwella hyn. Mae'r dreftadaeth adeiledig hon yn cwmpas hen gofebion, adeiladau rhestredig a hanesyddol, ardaloedd cadwraeth, parciau, gerddi a thirluniau hanesyddol. Mae cyfarwyddy cynllunio'n cynghori y dylid ei diogelu ac y dylai awdurdodau lleol gynnal a chryfhau eu rôl hanfodol o sicrhau cadwraeth. Felly, mae adrannau canlynol y cynllun yn cynnwys polisïau sy'n:-
3.12.3. Swyddogaeth y CDU yw dangos sut mae dogfennau asesu manwl a datganiadau o gynigion ar gyfer ardaloedd cadwraeth unigol h.y. cyfarwyddyd cynllunio atodol (CCA) yn perthyn i'w bolisïau a faint o flaenoriaeth fydd y Cyngor yn ei rhoi i'r CCA hwnnw wrth benderfynu yn y dyfodol. Disgwylir i warchod treftadaeth adeiledig gyflawni rôl gynaliadwy allweddol o ran cyflawni polisïau'r Cyngor am adfywiad economaidd ac amgylcheddol. Er mwyn ymdrin â'r materion hyn mewn ffordd gyfannol, bydd y Cyngor yn cyhoeddi ac ymgynghori ar Strategaeth Treftadaeth Adeiledig a fydd yn ffurfio CCA cynhwysfawr ar gyfer gwarchod, dehongli a rheoli treftadaeth adeiledig y fwrdeistref sirol.
3.12.4. Y DREFTADAETH ADEILEDIGPOLISI EV31 3.12.5. Dylid dylunio datblygiadau newydd o fewn ardaloedd hanesyddol mewn ffordd sy'n cadw neu'n gwella cymeriad arbennig yr ardaloedd hynny, ac sy'n cadw elfennau nodweddiadol o'u cynllun, er enghraifft, mannau sy'n weledol a phensaernïol bwysig, er mwyn cyfrannu'n bositif at eu hapêl. Gellir gwella ardaloedd hanesyddol llwm hefyd drwy gychwyn ar gynlluniau gwelliannau amgylcheddol sy'n gwella gosodiad adeiladau hanesyddol. 3.12.6. Yn fras, mae cynnal yr amgylchedd hanesyddol yn fwy na gwarchod y gorffennol; mae'n ymwneud â'r presennol a'r dyfodol hefyd. Mae cynaladwyedd yn broses sy'n ymwneud â rheoli newid ynghyd â'r cynnyrch yn y pen draw. Felly, nid yw gwarchod treftadaeth hanesyddol ac adeiledig yn gadwraeth sefydlog; mae'n rhan o broses tymor hwy sy'n estyn ymhell tu hwnt i fywyd y CDU a'i arolygon dilynol. Mae polisi EV31 yn cydnabod mai elfen allweddol yn y broses honno yw'r angen i adnabod 'gwahaniaeth lleol' yn yr amgylchedd hanesyddol fel cydbwysedd i'r pwyslais helaeth ar ychydig o safleoedd dethol o bwysigrwydd cenedlaethol. Ceisia hybu dealltwriaeth y cyhoedd o'u hamgylchedd hanesyddol a'u hannog i gyfrannu eu safbwyntiau nhw i'r drafodaeth am yr hyn sy'n bwysig yn lleol neu'r hyn a ellir ei wneud o fewn cwmpas datblygiad cynaliadwy. 3.13. Adeiladau Rhestredig a Hanesyddol3.13.1. Mae adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (fel y'i diwygiwyd) yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gydosod rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ar gyfer awdurdodau lleol. Rhoddir gradd i'r adeiladau hyn i ddangos eu pwysigrwydd h.y. gradd 1 (o ddiddordeb eithriadol), gradd II* (o bwysigrwydd penodol o fwy na diddordeb arbennig) a gradd II (o ddiddordeb arbennig sy'n golygu gwneud pob ymdrech i'w gwarchod). Cwblhaodd CADW: Cofebau Hanesyddol Cymru sef yr asiantaeth weithredol sy'n cyflawni cyfrifoldebau CCC am dreftadaeth adeiledig Cymru ail arolwg o adeiladau rhestredig y fwrdeistref sirol ar ddechrau 1999. Mae'r rhestr hon yn cynnwys cyfanswm o 359 adeilad, â'r graddau a welir yn nhabl ENV3 (isod):- TABL ENV3
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| GRADD I | GRADD II* | GRADD II |
| 8 ADEILAD | 35 ADEILAD | 316 ADEILAD |
3.13.2. Pwrpas y rhestr yw sicrhau y cydnabyddir diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig adeilad yn llawn ac y daw unrhyw waith dymchwel, addasu neu estyn (ar unrhyw ffurf) a fyddai'n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad rhestredig o fewn rheolaeth statudol. Unwaith i adeilad gael ei restru, mae'n drosedd cyflawni unrhyw waith heb ganiatâd oddi wrth y Cyngor. Hefyd, mae adrannau 67 a 73 o Ddeddf 1990 yn gofyn i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gais cynllunio am ddatblygiad sydd, yn ei farn ef, yn effeithio ar osodiad adeilad rhestredig neu gymeriad neu ymddangosiad ardal gadwraeth; ac na ddylid dehongli'r gofyn hwnnw'n gul.

3.13.3. Mae'r Cyngor yn ystyried bod adeiladau rhestredig a'u gosodiadau yn chwarae rôl bwysig yn nhreftadaeth treflun a phensaernïol y fwrdeistref sirol ac mae'n rhoi blaenoriaeth sylweddol iddynt felly.
3.13.4. Unwaith y rhestrir adeilad (neu os yw'n destun hysbysiad cadw adeilad), bydd y rheolaeth yn ymwneud â gwaith mewnol ac allanol a fyddai'n effeithio ar ei ddiddordeb arbennig ac yn ystyried a yw'r nodwedd benodol dan sylw'n cael ei chrybwyll yn benodol yn y disgrifiad o'r adeilad ar y rhestr. Mae ffitiadau ac adeiladau cwrtil h.y. unrhyw wrthrych neu strwythur sydd ynghlwm wrth yr adeilad neu sydd o fewn ei gwrtil ac sy'n ffurfio rhan o'r tir (ac wedi bod felly ers cyn 1 Gorffennaf 1948) yn cael eu trin fel rhan o'r adeilad at ddibenion rheoli cynllunio. Felly, cyn addasu adeilad rhestredig, anogir perchnogion a datblygwyr i ofyn am gyngor gan y Cyngor a/neu CADW yn gynnar a chyn gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith arfaethedig. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw'n statudol ofynnol i ystyried darpariaethau'r cynllun datblygu wrth ystyried cais am ganiatâd adeilad rhestredig (gan nad yw adran 54A o Ddeddf 19990 yn gymwys).
3.13.5. Rhaid i bolisïau yn adran hon y cynllun bwysleisio pwysigrwydd gwarchod adeiladau rhestredig a'u gosodiadau a darparu cyfarwyddyd cynllunio ar gyfer adeiladau eraill 'o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol'.
POLISI EV32
NI CHANIATEIR DYMCHWEL ADEILAD RHESTREDIG ONI BAI Y GELLIR DANGOS YN GLIR BOD YR
ADEILAD Y TU HWNT I DRWSIO NEU AILDDEFNYDDIO AR GYFER UNRHYW BWRPAS BUDDIOL AC
ONI BAI A THAN I GYTUNDEB(AU) CYFREITHIOL PRIODOL GAEL EU GWNEUD GYDA'R CYNGOR I
SICRHAU Y COFNODIR YR ADEILAD A'I NODWEDDION CYN I UNRHYW WAITH DYMCHWEL
DDIGWYDD.
3.13.7. Gan fod nifer yr adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn gyfyng, mae tybiaeth gref o blaid eu cadw, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol e.e. ansefydlogrwydd strwythurol a pherygl i'r cyhoedd. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai'r Cyngor yn ystyried caniatáu dymchwel adeilad rhestredig; ac yna dim ond ar ôl cael cytundeb CCC drwy ei asiantaeth weithredol Cadw: Cofebau Hanesyddol Cymru ac yn amodol ar ddarparu dadansoddiad llawn o'r adeilad, ei broblemau, ei botensial o ran ailddefnydd a'r costau. Rhaid i ddarpar ddatblygwyr fodloni'r Cyngor a Cadw:-
Os cynigir dymchwel adeilad rhestredig, mae'r Cyngor yn ystyried bod cofnodi'r adeilad a'i nodweddion yn hanfodol. Bydd y Cyngor yn gorfodi'r amodau cynllunio perthnasol ar ganiatâd ac yn gofyn i ddatblygwyr gytuno ar unrhyw rwymedigaethau/gytundebau cynllunio i sicrhau y cwblheir y cofnod arbenigol priodol cyn i'r gwaith o ddymchwel adeilad rhestredig ddechrau. Dylid nodi hefyd bod Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 yn datgan ...bod rhaid hysbysu RCAHMW o bob cynnig i ddymchweld adeiladau rhestredig a chaniatáu mynediad i adeiladau y dymuna eu cofnodi cyn dymchwel.
POLISI EV33
NI CHANIATEIR CYNIGION DATBLYGU A FYDDAI'N NIWEIDIO NEU'N EFFEITHIO'N DDRWG AR
DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG ADEILAD RHESTREDIG A/NEU EI
OSODIAD. RHAID I'R GWAITH HWNNW SY'N NEWID OND NAD YW'N CAEL EFFAITH DDRWG AR
GYMERIAD YR ADEILAD A/NEU EI OSODIAD DDANGOS BOD Y GWAITH YN DDYMUNOL NEU'N
HANFODOL, ER BODDHAD Y CYNGOR/CADW A DYLID ACHUB AR Y CYFLE I GOFNODI'R ADEILAD
A'I NODWEDDION CYN I UNRHYW WAITH DDECHRAU, YN UNOL Â'R CANIATÂD PERTHNASOL AC
YN AMODOL AR UNRHYW AMODAU CYNLLUNIO A/NEU RWYMEDIGAETHAU/ GYTUNDEBAU CYNLLUNIO
HANFODOL.
3.13.9. Dylid cadw'r nodweddion pensaernïol neu hanesyddol sy'n cyfrannu at ddiddordeb arbennig adeilad rhestredig. Felly, bydd angen y sgil a'r gofal mwyaf wrth eu newid er mwyn peidio â difrodi'r nodweddion hanesyddol hyn a sicrhau bod unrhyw ychwanegiadau'n unol â gweddill yr adeilad, a sicrhau bod unrhyw nodweddion allanol neu fewnol newydd yn cydweddu â'u cwmpasoedd h.y. eu gosodiad. Gall manylion bach, fel mowldiadau drws neu ffenestr, wneud cyfraniadau pwysig iawn i gymeriad adeilad hanesyddol a gall amnewid neu golli'r manylion hyn niweidio ei ymddangosiad. Os cynigir newid adeilad rhestredig, mae'n bosibl y bydd y Cyngor neu Cadw'n ystyried bod angen cofnodi'r adeilad a'i nodweddion. Bydd y Cyngor yn gorfodi'r amodau cynllunio perthnasol ar ganiatâd a bydd yn gofyn i ddatblygwyr gytuno ar unrhyw rwymedigaethau/gytundebau cynllunio er mwyn sicrhau y cofnodir yr adeilad cyn i unrhyw waith newid ddigwydd.
3.13.10. Mae gosodiad adeilad rhestredig yn nodwedd hanfodol o'i gymeriad yn aml. Mae'n bwysig ystyried effaith datblygiad arfaethedig ar y gosodiad hwn a allai gael ei chyfyngu i'r cwmpasoedd cyfagos yn achos rhai adeiladau ond, yn amlach, bydd yn cynnwys tir peth pellter o'r adeilad rhestredig e.e. lle mae'r gosodiad yn cynnwys tir/gerddi, ayb neu lle mae adeilad rhestredig yn ffurfio elfen weledol bwysig mewn stryd - byddai datblygiad rhywle arall ar y stryd yn cael effaith sylweddol ar osodiad yr adeilad. Gallai adeilad uchel effeithio ar osodiad adeilad rhestredig sy'n weddol bell ohono.
POLISI EV34
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO'N DDRWG AR GYMERIAD A GOSODIAD
ADEILADAU/STRWYTHURAU/SAFLEOEDD O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL LLEOL.

3.13.12. Er y bydd yr enghreifftiau gorau o adeiladau lleol wedi cael eu rhestru, bydd llawer o adeiladau sy'n cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad i'r olygfa leol neu am eu cysylltiadau hanesyddol lleol heb gael eu rhestru hyd yma. Ar adegau, bydd yr adeiladau hyn yn cael eu diogelu gan benodiadau ardaloedd cadwraeth. Mae rhestr gynhwysfawr o adeiladau/ strwythurau/safleoedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a bydd yn ffurfio rhan o'r Strategaeth Treftadaeth Adeiledig arfaethedig. Bydd y rhestr yn cynnwys manylion sy'n cyfiawnhau eu cynhwysiad. Bydd yn darparu Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA) manwl ar gyfer gwarchod yr adeiladau hynny o bwysigrwydd lleol.
POLISI EV35
FFAFRIR CYNLLUNIAU SY'N CYNNAL ADEILADAU RHESTREDIG AC ADEILADAU O DDIDDORDEB
PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL LLEOL SY'N CAEL EU DEFNYDDIO AC SYDD MEWN CYFLWR DA.
3.13.14. Mae adeiladau rhestredig ac adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol yn adnoddau gwerthfawr heb eu hail sy'n manteisio o gael eu trwsio a'u defnyddio. Y defnydd gorau ar gyfer adeiladau hanesyddol yw'r pwrpas yr adeiladwyd nhw ar ei gyfer yn wreiddiol ac, o ddewis, dylai dyluniad a strwythur adeilad hanesyddol aros yn ei ffurf adeiledig wreiddiol. Fodd bynnag, bydd amgylchiadau newidiol yn gofyn am addasiadau neu estyniadau ac, os yw'r cynigion hyn wedi bodloni polisïau EV33 neu EV34, byddant yn cael eu ffafrio lle gellir dangos y byddant yn helpu i roi defnydd i'r adeilad. Mae'n bosibl defnyddio'r mwyafrif helaeth o adeiladau hanesyddol ac, â thriniaeth fedrus a deallus, mae'n bosibl cynllunio datblygiad newydd sy'n cyfuno'n dda gyda'r hen ddatblygiad. Gallai fod yn briodol llacio rheolaeth dros ddyraniad tir, dwysedd, cymarebau, goleuadau dydd a rheoliadau adeiladu os byddai hyn yn rhoi bywyd newydd i adeilad neu grŵp o adeiladau hanesyddol. Gallai hyn fod yn arbennig o briodol yn achos warwsau, eglwysi, ysguboriau, ayb lle mae maint a chymeriad yr adeilad yn creu anawsterau penodol. Bwriad polisi EV35 yw annog datblygwyr a pherchnogion eiddo i feithrin ymagwedd fwy cadarn at drwsio a/neu ddefnyddio adeiladau rhestredig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol yn y fwrdeistref sirol.
POLISI EV36
FFAFRIR CYNLLUNIAU SY'N AILDDEFNYDDIO ADEILADAU HANESYDDOL GWAG NEU LE LLAWR
GWAG SY'N CYFRANNU AT ADFYWIAD Y FWRDEISTREF SIROL.
3.13.16. Mae rhagdybiaeth o blaid gwarchod a throsi adeiladau rhestredig a'r adeiladau hynny a leolir mewn ardaloedd cadwraeth; fodd bynnag, dylid ystyried adeiladau hanesyddol eraill o ddiddordeb lleol a brodorol nad ydynt yn cael eu diogelu. Derbynnir bod hen adeiladau'n cyrraedd diwedd eu bywydau defnyddiol ar adegau a dylid ystyried datblygiadau newydd felly; fodd bynnag, nid yw llawer wedi cyrraedd y pwynt hwnnw mor belled ac mae'n bosibl eu hailddefnyddio ag ychydig o ddychymyg a gwella gweithgareddau economaidd a chymdeithasol yr ardal. Bydd yr un ystyriaethau'n briodol ar gyfer adeilad hanesyddol y mae rhan ohono'n cael ei ddefnyddio ond sy'n wag fel arall.
3.14.1. Mae Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (fel y'i diwygiwyd) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i benodi unrhyw:-
.....ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol lleol y mae'n ddymunol
gwarchod neu wella ei chymeriad neu ymddangosiad (cyfeirier at adran 69 o Ddeddf
1990).
fel ardal gadwraeth.
3.14.2. Penodwyd 15 ardal gadwraeth yn y fwrdeistref sirol hyd yma. Ceir rhestr lawn o'r ardaloedd hynny yn nhabl ENV4 ynghyd â dyddiad eu penodiadau ac unrhyw arolygon dilynol (os yn gymwys).
| ARDAL GADWRAETH | CYMUNED | DYDDIAD PENODI | Cyswllt â’r Map |
| Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr* | Pen-y-bont | 23 Mehefin 1999 | 34 |
| Coety | Coety Uchaf | 17 Awst 1973 | 22 Gorllewin |
| Heol Derllwyn, Tondu | Ynysawdre | 16 Gorffennaf 1986 | 15 |
| Laleston | Laleston | 17 Awst 1973 | 26 Dwyrain |
| Llangeinor | Bro Ogwr/Bro Garw | 7 Mawrth 1975 | 12 Gorllewin |
| Llangynwyd | Llangynwyd Ganol | 17 Awst 1973 | 10 Canolog |
| Canol tref Maesteg | Maesteg | 28 Chwefror 2001 | 33 |
| Heol Merthyr Mawr, Pen-y-bont | Pen-y-bont | 14 Hydref 1980 | 35 |
| Pentref Merthyr Mawr | Merthyr Mawr | 30 Mawrth 1973 | 31 Gorllewin |
| Nantymoel | Bro Ogwr | 10 Awst 1973** | 7 Canolog |
| Bryn Newcastle, Pen-y-bont | Pen-y-bont | 23 Mehefin 1999 | 27 Canolog |
| Newton, Porthcawl | Porthcawl | 31 Awst 1973 | 29 Dwyrain |
| Nottage, Porthcawl | Porthcawl | 31 Awst 1973 | 25 Canolog |
| Porthcawl | Porthcawl | 31 Awst 1973 | 37 |
| Tythegston | Merthyr Mawr | 17 Awst 1973 | 26 Canolog |
* gan gynnwys hen ardal gadwraeth Court Road ym Mhen-y-bont.
** diwygiwyd yr ardal gadwraeth yn ffurfiol yn 08/10/2003.
3.14.3. Ynghyd â'r 15 ardal gadwraeth benodedig yn y fwrdeistref sirol, mae'r Cyngor wedi nodi 4 ardal arall i'w gwerthuso ar gyfer penodiadau ardaloedd cadwraeth yn ystod bywyd y cynllun h.y. Blackmill, Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-fai, (pentref) Pen-y-fai, a Phreswylfa, Pen-y-bont.
3.14.4. Mae'n bwysig nad yw polisïau cynllunio'n cyfyngu addasiadau a newidiadau hanfodol yn yr ardaloedd cadwraeth penodedig. Fodd bynnag, mae'n hanfodol hefyd nad yw unrhyw ddatblygiad yn dinistrio neu'n dibrisio eu cymeriad ac ymddangosiad. Am y rhesymau hyn, bydd y Cyngor, fel rhan o'i Strategaeth Treftadaeth Adeiledig, yn paratoi cynlluniau rheoli ar gyfer pob un o'r ardaloedd cadwraeth penodedig yn ystod bywyd y CDU. Rhoddir sylw penodol i faterion dylunio manwl fel ffurfiau traddodiadol blaenau siopau. Felly, yn ychwanegol i'r uchod, bydd y Cyngor yn parhau i weithredu cyfarwyddyd ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth a baratowyd fel cyfarwyddyd cynllunio atodol (CCA) gan y cyn Gyngor Bwrdeistref Ogwr.
POLISI EV37
CANIATEIR DATBLYGIAD AR DIR GER ARDAL GADWRAETH DIM OND S BYDDAI'N GWARCHOD
NEU'N GWELLA GOSODIAD YR ARDAL GADWRAETH A'R GOLYGFEYDD TU MEWN A THU ALLAN
IDDI.
POLISI EV38
DYLAI CYNIGION DATBLYGU O FEWN ARDALOEDD CADWRAETH WARCHOD NEU WELLA EU CYMERIAD
NEU YMDDANGOSIAD PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL. NI CHANIATEIR CYNIGION DATBLYGU NAD
YDYNT YN:-
1. GWARCHOD NAC YN GWELLA GOLYGFEYDD, STRYDOEDD NODWEDDIADOL A THOLUNIAU;
2. RHOI YSTYRIAETH ARBENNIG I ARDALOEDD O BWYSIGRWYDD GOFODOL A'U PERTHYNAS Â
CHYNLLUN A MAINT ADEILADAU CYFAGOS;
3. DEFNYDDIO DEFNYDDIAU SY'N BRIODOL I'W GOSODIAD A CHYD-DESTUN;
4. RHOI SYLW ARBENNIG I DDIOGELU COED, CLODDIAU A CHYNEFINOEDD ERAILL SY'N
BWYSIG I FIOAMRYWIAETH AC AMWYNDERAU GWELEDOL; AC NAD YDYNT YN
5. PARCHU TRADDODIADAU HANESYDDOL A DIWYLLIANNOL LLEOL.
3.14.7. Yn y gorffennol, cafwyd ychydig o ddatblygiad digydymdeimlad o fewn neu ger ardaloedd cadwraeth penodedig y fwrdeistref sirol ac mae hyn wedi cael effaith negyddol ar yr ardaloedd hynny. Mae crynhoad adeiladau o gynllun ac ansawdd gweledol diflas wedi gwanhau hunaniaeth arbennig yr ardaloedd hyn. Mae polisïau cynlluniau datblygu blaenorol wedi ymdrin â'r mater hwn a gwelwyd gwelliannau gweledol i amwynder ardaloedd cadwraeth y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol cynnal y momentwm hwn i gadw cymeriad ac ymddangosiad arbennig yr ardaloedd hyn, yn enwedig nawr pan fydd hyd yn oed mwy o bwysau i ailddatblygu o fewn ardaloedd trefol, yn enwedig ar 'dir llwyd'. Rhaid i gynigion datblygu'r dyfodol, sydd o fewn ardaloedd cadwraeth penodedig neu sydd y tu allan iddynt neu gerllaw, warchod neu wella cymeriad ac ymddangosiad pensaernïol neu hanesyddol yr ardal gadwraeth a/neu wella ei gosodiad. Fel arall, ni fyddant yn cael eu caniatáu dan bolisi EV38 a/neu bolisi EV37.
3.14.8. Rhaid i ddatblygiadau gryfhau cymeriad arbennig yr ardaloedd cadwraeth neu o leiaf cynnal eu hansawdd e.e. byddai dymchwel adeilad hyll a gosod adeilad y mae ei faint, ffurf, defnyddiau a manylion yn atgyfnerthu dyluniad brodorol lleol neu newid syml mewn defnydd (neu estyniad domestig sy'n cael ei guddio o olwg y cyhoedd) yn cyflawni'r nodau hynny a gallai fod yn dderbyniol felly. Bydd y Cyngor yn disgwyl i bob cais am ddatblygiad mewn ardaloedd cadwraeth gael eu cyflwyno ar ffurf ddigon manwl er mwyn gweithredu rheolaeth gaeth i warchod a gwella ansawdd arbennig yr ardaloedd hynny.
3.14.9. Gall y Cyngor ddefnyddio ei bwerau dan Erthygl 4(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddiddymu hawliau datblygu penodol a ganiateir ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad (gan gynnwys dymchwel adeiladau'n rhannol) yn ardal gadwraeth os yw'n ystyried bod angen gwneud hyn i ddiogelu ei chymeriad neu ymddangosiad arbennig. Ceidw'r Cyngor y dewis i ystyried a fyddai cyfarwyddiadau erthygl newydd yn cryfhau ei ddyletswydd i warchod a gwella amwynder ardaloedd cadwraeth y fwrdeistref sirol.
3.14.10. Fodd bynnag, gellir cael y newid rheoledig hwn drwy annog datblygwyr i addasu ac ailddefnyddio adeiladau sy'n cyfrannu'n bositif at ardal gadwraeth. Mae economi datblygiad yn bwysig hefyd ac, mewn rhai amgylchiadau, bydd problemau mawr, fel ansefydlogrwydd strwythurol, yn ffafrio cynlluniau ailddatblygu. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod adeiladau newydd yn cydweddu'n weledol â'u cwmpasoedd, yn cadw patrymau strydoedd, llinellau adeiladu ac yn eithrio datblygiadau tir cefn neu 'tandem' amhriodol. Mae ardaloedd o bwyisgrwydd gofodol mewn ardaloedd cadwraeth yn cynnwys yr ardaloedd hynny, boed yn erddi neu'n gaeau, yn feysydd parcio neu lawntiau pentrefi, y mae eu natur annatblygedig yn elfennau pwysig o'u cymeriad a bydd y Cyngor yn eu diogelu.
3.14.11. Diogelir coed o fewn ardaloedd cadwraeth eisoes a gofynnir i unrhyw un sy'n dymuno tocio neu dorri coeden roi chwe wythnos o rybudd ysgrifenedig i'r awdurdod lleol. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r Cyngor osod gorchymyn cadw coed ar y coed hynny'n sy'n bwysig i amwynderau gweledol lleol.
POLISI EV39
CANIATEIR CYNIGION DATBLYGU SY'N CYNNWYS DYMCHWEL ADEILAD HEB EI RESTRU O FEWN
ARDAL GADWRAETH SY'N BODLONI'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
1. NID YW'R ADEILAD YN GWNEUD CYFRANIAD POSITIF I GYMERIAD AC YMDDANGOSIAD YR
ARDAL GADWRAETH;
2. NID OES UNRHYW BOSIBILRWYDD O WELLA, ADDASU NA THROSI'R ADEILAD; AC
3. MAE CYNLLUNIAU MANWL AR GYFER AILDDATBLYGU'R SAFLE, A FYDDAI'N GWARCHOD NEU
WELLA CYMERIAD NEU YMDDANGOSIAD YR ARDAL GADWRAETH, YN EU LLE
OS YW AILDDATBLYGIAD Y SAFLE'N UNOL Â MANYLION DATBLYGU'R SAFLE NEU GYNLLUN
CYMERADWYEDIG ARALL, CANIATÂD CYNLLUNIO (A ALLAI FOD YN DESTUN AMODAU) AC UNRHYW
RWYMEDIGAETHAU/GYTUNDEBAU CYNLLUNIO Y MAE'R CYNGOR YN GOFYN AMDANYNT.
3.14.13. Arweiniodd barn Ty'r Arglwyddi yn achos Shimizu (UK) Ltd. v Gorllewinminster CC(1997) at ailddiffinio dymchwel adeilad heb ei restru mewn ardal gadwraeth a ddylai gynnwys 'dinistriad cyfan neu sylweddol o'r adeilad dan sylw'. Golyga hyn nad yw gwaith sy'n cynnwys dinistrio adeiladwaith neu ran o adeilad yn gyfystyr â 'gwaith dymchwel' ac ni fydd angen caniatâd ardal gadwraeth arno felly. Ni fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd i 'ddymchwel' adeiladau heb eu rhestru mewn ardaloedd cadwraeth heb gynigion manwl a derbyniol i'w hamnewid. Bydd amodau priodol ynghlwm wrth y caniatâd i sicrhau bod unrhyw waith 'dymchwel' (fel y diffiniwyd ef) yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithrediad graddedig o gynllun y manylir arno mewn 'manylion datblygu safle' ac yn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau a chytundebau cynllunio perthnasol a gymeradwywyd gan y Cyngor.
POLISI EV40
CANIATEIR GWAITH FFORDD MEWN ARDALOEDD CADWRAETH OS BYDD YN GWARCHOD NEU'N
GWELLA CYMERIAD NEU YMDDANGOSIAD YR ARDALOEDD HYNNY.
3.14.15. Ymddangosodd rhai o'r datblygiadau mwyaf dinistriol sydd wedi effeithio'n negyddol ar ardaloedd cadwraeth y fwrdeistref sirol drwy welliannau digydymdeimlad i'r rhwydwaith ffyrdd. Nid yw lledu a sythu ffyrdd drwy bentrefi wedi gwella diogelwch i drigolion; yn hytrach mae wedi arwain at draffig yn symud yn gyflymach. Yn ychwanegol, pan wneir hyn ar sail dameidiog, mae'n bosibl difwyno pentref am ddegawd gan ddarnau o balmentydd nad ydynt yn arwain i unrhyw le a thai newydd yn cael eu gosod tu ôl i linellau adeiladu sefydlog ar draul cadw golygfeydd strydoedd traddodiadol a lleol. Mae'r Cyngor a'i ragflaenwyr wedi ceisio newid y polisïau hyn ac, yn gyffredinol, bydd y Cyngor yn gwrthwynebu datblygiadau sy'n cynnwys lledu ffyrdd mewn ardaloedd cadwraeth neu sy'n colli tir fferm i isadeiledd ffyrdd newydd, megis ffyrdd osgoi. Fodd bynnag, bydd yn cefnogi mesurau rheoli traffig sy'n lleihau a/neu sy'n arafu traffig mewn ardaloedd cadwreath ac sy'n hybu ffyrdd mwy cynaliadwy o gludiant. Dylid dylunio gwaith arall fel ailosod palmentydd yn dilyn cynllun pedestreiddio, marcio lonydd bysiau, arwyddion newydd a dodrefn stryd newydd mewn ffordd nad yw'n cael effaith negyddol ar gymeriad ac ymddangosiad ardal gadwraeth.
POLISI EV41
FFAFRIR CYNLLUNIAU GWELLA O FEWN BYD CYHOEDDUS ARDAL GADWRAETH SY'N GWELLA EI
CHYMERIAD NEU YMDDANGOSIAD; NI FFAFRIR Y RHAI SY'N CAEL EFFAITH NEGYDDOL AR EI
CHYMERIAD AC YMDDANGOSIAD.
3.14.17. Daw cymeriad ac ymddangosiad ardaloedd cadwraeth nid o'u hadeiladau yn unig ond o'r mannau rhyngddynt. Mae llawer o'r rhain yn 'fyd cyhoeddus' sef strydoedd, palmentydd, sgwâr gyhoeddus, mannau gwyrdd, parciau a dŵr agored ac mae'r rhain ym mherchnogaeth y cyhoedd fel arfer. Mae cyrff cyhoeddus mewn sefyllfa i weithredu cynlluniau o fewn ardal gadwraeth a allai wella ei chymeriad neu ymddangosiad arbennig a allai gael eu gwneud heb ystyried yr effeithiau negyddol. Anela polisi EV41 at hybu gwelliannau positif i'r 'byd cyhoeddus' yn ardaloedd cadwraeth y fwrdeistref sirol. Felly, bydd yn cyd-fynd â pholisïau EV37 – EV40..
3.15.1. Mae Cadw: Cofebion Hanesyddol Cymru, ar y cyd ag ICOMOS (y Cyngor Rhyngwladol dros Gofebion a Safleoedd), Cyngor Cefn Gwlad Cymru, awdurdodau lleol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Hyder plc, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, yr RCAHMW (Comisiwn Brenhinol am Hen Gofebion Hanesyddol Cymru) wedi cyhoeddi cofrestr o dirweddau, parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru. Mae dwy ran i'r gofrestr - mae'r rhan gyntaf yn ymdrin â pharciau a gerddi hanesyddol Cymru, o'r rhai mewn trefi a dinasoedd a ddaeth mor bwysig wrth i boblogaethau trefol chwyddo yn y 19eg ganrif i rai'r ystadau gwledig a fenthycodd o olygfa Cymru i greu ymdeimlad o le a oedd yn esthetaidd foddhaol; mae'r ail ran yn ymdrin â thirweddau hanesyddol Cymru.
3.15.2. Nid yw'r gofrestr yn cwmpasu rheolaeth gynllunio ychwanegol, ond bydd ymgynghoriad statudol yn cael ei gyflwyno ar geisiadau cynllunio sy'n effeithio ar safleoedd yn rhan gyntaf y gofrestr. Gosodir allan y dechneg i'w gweithredu yng Ngorchymyn Datblygiad Cyffredinol 1995 ac yng nghylchlythyrau'r Swyddfa Gymreig 29/95, 61/96 ac 1/98. Hefyd, mae cyfarwyddyd cynllunio Cymru'n cynghori (inter-alia) y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried pob rhan o'r gofrestr wrth baratoi CDU. Felly:-
POLISI EV42
(A) NI CHANIATEIR DATBLYGIAD A FYDDAI'N CAEL EFFAITH NEGYDDOL AR BARC NEU ARDD
HANESYDDOL NEU EU GOSODIADAU.
(B) NI CHANIATEIR DATBLYGIAD A FYDDAI'N CAEL EFFAITH NEGYDDOL AR DIRWEDD
HANESYDDOL.

3.15.4. Mae tirweddau fel tir parciau a gerddi, systemau caeau canoloesol a thirluniau diwydiannol yn elfennau pwysig o'r amgylchedd hanesyddol a dylid gwarchod eu hansawdd a chymeriad arbennig. Mae rhan gyntaf cofrestr Cadw/CCGC/ICOMOS yn nodi Ty Merthyr Mawr fel parc a gardd hanesyddol Gradd II* a phedwar safle arall fel parciau a gerddi hanesyddol Gradd II:-
3.15.5. Cyflwynir y safleoedd uchod yn y gofrestr ochr yn ochr â chynlluniau sy'n gwahaniaethu rhwng eu ffiniau, gerddi, gerddi cegin, tir pleser (mewn rhai achosion), golygfeydd pwysig a gosodiadau hanfodol. Bydd y Cyngor yn ystyried pob un o'r ffactorau hyn wrth weithredu polisi EV42(A) mewn perthynas ag unrhyw gynigion datblygu perthnasol sy'n effeithio ar y parciau a gerddi hanesyddol hynny.
3.15.6. Trafodwyd elfennau golygfa a bywyd gwyllt tirwedd y fwrdeistref sirol eisoes yn adrannau cynharach y bennod hon ac mae'r rhain wedi eu cydnabod a'u gwerthfawrogi ers tro. Ni roddwyd yr un ystyriaeth i'r elfen hanesyddol (sydd wrth ei chraidd yn aml) yn y gorffennol. Mae ail ran cofrestr Cadw/CCGC/ICOMOS a'r Cyngor yn ceisio ymdrin â'r pryderon hyn, drwy weithredu polisi EV42(B) o'r CDU.
3.15.7. Mae rhan 2.1 o'r gofrestr o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru'n cynnwys dwy ardal yn y fwrdeistref sirol fel 'tirwedd hanesyddol neilltuol':-
3.15.8. Nodweddir pob ardal dan grynoadau o dywod a chwythwyd gan y gwynt ac maent yn ffurfio nodweddion o dwyni ger arfordir y fwrdeistref sirol. Mae gan dwyni Merthyr Mawr hen dirwedd yn gyffredinol, â safleoedd archegolegol a gladdwyd dan y tywod. Mae gan Gynffig dirwedd tywod hefyd o ganlyniad i dywydd drwg a ffenomena'r môr yn yr Oesoedd Canol ac ynghynt. Mae 'gosodiad' Merthyr Mawr a Chynffig yn cydweddu â'r parth arfordirol a nodwyd ar gyfer polisi EV15 (yn gynharach) - a dengys hyn ar y map cynigion.
3.15.9. Mae rhan 2.2 o'r gofrestr yn cynnwys yr ardal ganlynol fel tirwedd o 'ddiddordeb hanesyddol arbennig':-
Estynna rhan sylweddol o'r dirwedd hon i'r dwyrain o Fwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot i mewn i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
3.15.10. Mae Mynydd Margam yn floc penodol o uchdeldir De Cymru a leolir ar ymyl dde-orllewin 'Blaenau Morgannwg' hanesyddol sy'n arddangos parhad, dwysedd ac amrywiaeth deiliadaeth ddynol o'r cyfnod cynhanesyddol i'r gorffennol diweddar. Mae'r ardal yn cynnwys cofebion o'r Oes Efydd, caerau bryn mawr o'r Oes Haearn, anheddiadau, amgaeadau (gan gynnwys 'Y Bwlwarcau' ger Llangynwyd), traciau, ffordd Rufeinig, grŵp pwysig o gofebion Cristnogol cynnar, ayb, gwaith amddiffyn canoloesol a nodweddion hwyrach o bwysigrwydd hanesyddol hyd yr Ail Ryfel Byd. Dangosir maint y dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn y fwrdeistref sirol ar y map cynigion hefyd.
3.16.1. Mae gweddillion archeolegol yn adnoddau cyfyngedig ac anadnewyddadwy ac, yn y rhan fwyaf o achosion, maent yn hawdd i'w herydu, difrodi a dinistrio. Fel cynnyrch gweithgareddau dynol yn y fwrdeistref sirol ers yr oes gynhanesyddol, mae cyflwr a chyfanrwydd y gweddillion hyn yn amrywio'n fawr. Mae rhai gweddillion yn fach ac yn anodd eu gweld yn y dirwedd fodern e.e. carnedd neu bentwr claddu o'r Oes Efydd, rhagfur i gaer bryn o'r Oes Haearn neu batrwm cae canoloesol ond bydd eraill yn fwy sylweddol ac wedi eu cadw'n dda e.e. Castell Coety, yr Hen Bont ym Mhen-y-bont, a Gwaith Haearn Bedford (ger Cefn Cribwr).
3.16.2. Dinistrwyd llawer o weddillion archeolegol gan weithgareddau dynol e.e. gan ddulliau adeiladu modern mewn datblygiadau trefol ac estyn y rhwydwaith ffyrdd, drwy arferion amaethyddol newidiol neu drwy gloddio am fwnau a thipio gwastraff. Mae rheoli'r adnoddau hyn yn briodol yn hanfodol felly i sicrhau nad yw gweddillion archeolegol yn cael eu dinistrio ac yn goroesi er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau fel rhan o'n treftadaeth ddiwylliannol y gall trigolion ac ymwelwyr ei mwynhau.
3.16.3. Mae'n ddyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gydosod a chynnal rhestr o hen gofebion o bwysigrwydd cenedlaethol dan Ddeddf Hen Gofebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Mae Cadw: Cofebion Hanesyddol Cymru yn gyfrifol am gynghori pa gofebion ddylid eu rhestru, a ddylid tynnu rhai o'r rhestr neu eu diwygio. Ni ellir rhestru anheddau ac eglwysi sy'n cael eu defnyddio ond gellir rhestru cofebion ar dir y Goron, er y byddant yn parhau i fod yn destun gweithdrefn anstatudol o'r enw Cliriad Cofebion a Restrir mewn perthynas â datblygiad neu waith arall sy'n effeithio arnynt.
3.16.4. Ar hyn o bryd, mae 55 hen gofeb a restrir yn y fwrdeistref sirol (Ionawr 2001), yn ôl Cadw. Fodd bynnag, mae adnoddau archeolegol hysbys y fwrdeistref sirol yn cynnwys nifer uwch o safleoedd heb eu rhestru. Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent Cyf wedi cadarnhau nad yw'r holl safleoedd sy'n cyflawni'r meini prawf o bwysigrwydd cenedlaethol wedi eu nodi hyd yma ac mae yna safleoedd heb eu rhestru sy'n werth eu diogelu'n statudol.
3.16.5. I weithredu'r uchod a'r polisïau sy'n dilyn, bydd y Cyngor yn dibynnu llawer ar y wybodaeth a ddarperir gan Cadw, gwybodaeth bellach a geir yn y Cofnod Sirol o Safleoedd a Chofebion a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent Cyf ac adroddiad a baratowyd gan Mr Philip Ridden ym mis Mawrth 1992 ar gyfer y cyn Gyngor Bwrdeistref Ogwr o'r enw Treftadaeth Ddiwydiannol Ogwr (i helpu'r cyn awdurdod i lunio polisi cadwraeth a dehongli ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol ei ddosbarth ac sy'n parhau i fod yn gyfarwyddyd gwerthfawr i'r Cyngor). Bydd yr arolwg LANDMAP a gyflawnir gan y Cyngor ar hyn o bryd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am adnoddau archeolegol y fwrdeistref sirol. Gall arteffactau unigol, os cofnodir nhw'n gywir, roi tystiolaeth o symudiadau hen gymunedau o bobl a rhoi mewnwelediad gwerthfawr i hen ddatblygiadau a hen ddiwylliannau traddodiadol neu leol.
3.16.6. Mae pob hen gofeb yn ystyriaethau sylweddol yn y broses gynllunio. Mae'r Cyngor yn ystyried adnoddau archeolegol y fwrdeistref sirol i fod yn sylweddol ac amrywiol a dylid eu rheoli'n briodol felly ac er budd datblygiad cynaliadwy. Cynlluniwyd y polisïau canlynol i sicrhau y diogelur hen gofebion a'u gosodiadau ac ardaloedd archeolegol sensitif rhag datblygiad amhriodol a sicrhau y cyflawnir yr ymchwiliadau a/neu gofnodion hanfodol o safleoedd ac arteffactau cyn, yn ystod ac ar ôl creu datblygiad os caniateir ef.
POLISI EV43
OS YW DATBLYGIAD A/NEU WAITH YN DEBYGOL O EFFEITHIO AR SAFLE HYSBYS, POSIBL NEU
DYBIEDIG O BWYSIGRWYDD ARCHEOLEGOL, CYFLWYNIR GWERTHUSIAD ARCHEOLEGOL
CYMERADWYEDIG I'R AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL CYN PENDERFYNU AR Y CYNNIG ER MWYN
PENDERFYNU AR EFFAITH Y CYNNIG AR YR ADNODD ARCHEOLEGOL.
3.16.8. Os yw datblygiad yn debygol o effeithio ar safle hysbys neu safle lle mae rheswm da i dybio y bydd gweddillion archeolegol yn cael eu heffeithio, bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwr drefnu am werthusiad archeolegol proffesiynol a chymeradwyedig cyn penderfynu ar y cais (ceisiadau). Bydd y Cyngor yn disgwyl i gynlluniau manwl ystyried canlyniadau'r gwerthusiadau hynny a/neu eu canlyniadau.
POLISI EV44
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD A/NEU WAITH SY'N METHU Â DIOGELU, GWELLA NEU WARCHOD
SAFLE O BWYSIGRWYDD ARCHEOLEGOL OS CYFLAWNWYD ASESIAD ARCHEOLEGOL AC Y
CYFLWYNWYD EF I'R CYNGOR YN UNOL Â
PHOLISI EV43, SY'N NODI Y BYDDAI SAFLE O
BWYSIGRWYDD ARCHEOLEGOL MEWN PERYGL, ONI BAI:-
1. NAD OES SAFLE ARALL AR GAEL AR GYFER Y DATBYGIAD/ GWAITH;
2. MEWN PERTHYNAS Â CHOFEBION O BWYSIGRWYDD, BOED YN RHESTREDIG NEU BEIDIO, A'U
GOSODIADAU, BYDDAI'R DATBLYGIAD O FUDD CENEDLAETHOL;
3. AR GYFER Y RHAN FWYAF O SAFLEOEDD ARCHEOLEGOL, GELLIR GWEITHREDU MESURAU
LLEDDFU A FYDDAI'N DIOGELU, GWARCHOD NEU WELLA'R GWEDDILLION ARCHEOLEGOL A'U
GOSODIADAU 'IN SITU';
4. OS OES GWEDDILLION ARCHEOLEGOL LLAI PWYSIG YNGHLWM NEU OS YW YSTYRIAETHAU
SYLWEDDOL ERAILL YN GWRTHBWYSO EU PWYSIGRWYDD, GELLIR GWEITHREDU MESURAU I
SICRHAU CLODDIO A/NEU ACHUB A CHOFNODI'R GWEDDILLION A CHYHOEDDI'R CANLYNIADAU.
OS YW'N BRIODOL, GOFYNNIR I DDATBLYGWYR GYDYMFFURFIO Â MANYLION GWYLIO GAN
ARCHEOLEGYDD NEU GORFF ARCHEOLEGOL CYN, YN YSTOD A/NEU AR ÔL GWAITH DATBLYGU AR
FFURF RHWYMEDIGAETHAU/CYTUNDEBAU CYNLLUNIO PERTHNASOL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y
CYNGOR A/NEU GAN AMODAU A ATODIR AT GANIATÂD CYNLLUNIO.
3.16.10. Er mwyn diogelu, gwella a gwarchod hen gofebion a'u gosodiadau, mae'n hanfodol bod cynigion datblygu'n cydnabod eu pwysigrwydd. Anela polisi EV44 at gysylltu unrhyw angen am ddatblygiad â'r dybiaeth o blaid gwarchod hen gofebion a'u gosodiadau. Ni chaniateir datblygiadau nac unrhyw waith arall sy'n cael effaith negyddol ar y safleoedd hyn os oes ymagwedd arall yn bodoli. Os yw'r safle'n genedlaethol bwysig, bydd y Cyngor yn caniatáu'r cynnig dim ond os gellir dangos bod y datblygiad yn hanfodol er budd cenedlaethol. Os yw gweddillion archeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol, boed yn rhestredig neu beidio, a'u gosodiadau'n cael eu heffeithio gan ddatblygiad arfaethedig, bydd rhagdybiaeth o blaid eu cadw. Dywed cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol mai ond rhyw 4% o adnoddau archeolegol cofnodedig Cymru sy'n mwynhau diogelwch arbennig fel 'hen gofebion rhestredig' (cyfeirier at gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 60/96 'Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Archeoleg'). Fodd bynnag, mae Cadw wedi cychwyn ar raglen arolygu sy'n disgwyl arwain at ychwanegiadau sylweddol i'r categori hwn. Er nad yw pob hen gofeb yn genedlaethol bwysig, mae gweddillion archeolegol yn cynrychioli adnoddau cyfyngedig ac unigryw. O ganlyniad, mae dymunoldeb gwarchod unrhyw gofeb a'i osodiad yn ystyriaeth bwysig wrth benderfynu ar gais cynllunio. Felly, os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn gwybod am fygythiad gwir a phenodol i safle archeolegol hysbys, bydd yn gweithredu'r pwerau sydd ganddo dan Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddiddymu unrhyw hawliau datblygu a ganiateir a sicrhau y ceir caniatâd cynllunio cyn i unrhyw ddatblygiad fynd yn ei flaen. Mewn rhai amgylchiadau, gellir caniatáu i ddatblygiad fynd yn ei flaen er iddo gael effaith negyddol ar hen gofeb a/neu ei osodiad.
3.16.11. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n ddoeth ac yn arfer da, os yw datblygiad arfaethedig yn effeithio ar 'hen gofeb rhestredig' a/neu ei osodiad neu ardal sy'n archeolegol sensitif, cael unrhyw ganiatâd cofeb rhestredig cyn neu ar y cyd â chyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datbygiad hwnnw. Ni ddylid dinistrio hen gofebion; dylid eu gwarchod naill ai drwy eu cynnwys yn sensitif mewn cynllun newydd i ddod yn rhan o adeiladwaith yr ardal neu drwy gloddio a gwarchod, ar y safle os bydd angen. Mewn rhai amgylchiadau, os na ellir diogelu buddiant archeolegol safle'n ddigonol gan addasiadau i'r datblygiad cynlluniedig, gall y Cyngor ofyn i'r datblygwr a pherchennog y tir fynd i rwymedigaeth/gytundeb cynllunio priodol gyda'r awdurdod cynllunio lleol dan delerau côd ymddygiad Grŵp Archeolegwyr a Datblygwyr Prydain (BADLG) i wneud ymchwiliad archeolegol cyn datblygu'r safle.
3.16.12. Mae'n bosibl y bydd amodau cynllunio'n diffinio'r gofyn am wneud cofnod archeolegol o safle o fewn cyfnod penodol o amser cyn y gwaith datblygu neu gallai archeolegwyr cymeradwyedig/cymwysedig ofyn am 'fanylion gwylio' cyn neu yn ystod y cyfnodau adeiladau neu'n llai aml yn ystod cyfnod ôl-adeiladu. Os bydd darganfyddiadau archeolegol newydd yn cael eu datgelu yn ystod datblygiad ac os yw Llywodraeth Cynulliad Cymru'n ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol yn unol â meini prawf cyhoeddedig, mae ganddynt y pŵer i restru'r gweddillion hynny. Byddai angen caniatâd cofeb rhestredig cyn i'r gwaith barhau ar y safle hwnnw. Gall yr awdurdod cynllunio lleol neu'r Cynulliad ddiddymu caniatâd cynllunio os bydd angen. Yn y rhan fwyaf o achosion, fodd bynnag, mae'n bosibl i'r ddwy ochr ddatrys materion sy'n ymddangos drwy drafodaeth wirfoddol a chynhyrchu trefniadau derbyniol ar gyfer datblygiad y safle.
3.17.1. Dylai'r amcan o ddyluniad da fod yn gymwys ar gyfer pob cynnig sy'n effeithio ar yr amgylchedd adeiledig neu naturiol, gan gynnwys adeiladu neu newid adeiladau unigol a grwpiau o adeiladau, ynghyd â'u gosodiadau, a chynigion datblygu mwy cynhwysfawr a mwy. Mae ymddangosiad datblygiad newydd, ei faint a'i berthynas â'i amgylchedd yn ystyriaethau cynllunio pwysig. Felly, mae'r holl bolisïau canlynol yn nodi disgwyliadau dylunio cyffredinol y Cyngor ar gyfer datblygiadau newydd. Dylai datblygwyr ystyried canllawiau dylunio cyhoeddedig y Cyngor hefyd sy'n cynnwys cyfarwyddyd cynllunio atodol (CCA) i'r CDU hwn, sef:-
3.17.2. Paratowyd yr uchod gan yr hen Gyngor Bwrdeistref Ogwr ond mae'r Cyngor hwn wedi eu diweddaru. Yn ychwanegol, mae'r Cyngor yn gweithredu CCA manwl a geir yn y ddogfen ganlynol a gyhoeddwyd gan y cyn Gyngor Sir Morgannwg Ganol:-

3.17.3. Adlewyrchir y prif newididau mewn polisïau cynllunio a chludiant cenedlaethol sy'n anelu at leihau'r twf mewn teithiau yn y car drwy annog pobl i ddefnyddio ffyrdd eraill o gludiant mewn dogfen Polisi a Safonau Parcio Drafft a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm Awdurdodau Lleol De Cymru (SWCOLA) yn 1998. Bydd y ddogfen hon yn cymryd lle canllawiau'r gynhadledd sefydlog ar barcio a gymeradwywyed yn 1993 a dylid ei thrin felly fel y CCA diweddaredig ar gyfer yr agwedd bwysig hon o dylunio a chynllunio datblygiadau newydd yn y fwrdeistref sirol.
POLISI EV45
CANIATEIR DATBLYGIAD NEWYDD SY'N CYRRAEDD SAFON DDA O DDYLUNIAD DRWY:
1. GAEL ARDDULL NEU GYMERIAD CYSON;
2. PARCHU CYD-DESTUN Y DATBLYGIAD;
3. BOD YN BRIODOL I FAINT AC AMLYGRWYDD Y DATBLYGIAD;
4. CYNNWYS Y NODWEDDION HYNNY O'R SAFLE SY'N BWYSIG I'R AMGYLCHEDD LLEOL, GAN
GYNNWYS EI DOPOGRAFFEG, BIOAMRYWIAETH A STRWYTHURAU O DDIDDORDEB HANESYDDOL;
5. DEFNYDDIO LLEOLIAD, CYNLLUN, FFURF, DEFNYDDIAU A MANYLION PENSAERNÏOL A
CHELFYDDYD GYHOEDDUS I GREU YMDEIMLAD O LE;
6. DIOGELU AMWYNDERAU PRESWYL Y CYMDOGION YN RHESYMOL, GAN GYNNWYS PREIFATRWYDD,
AMGYLCHEDD TAWEL, GOLAU DYDD A GOLAU HAUL;
7. CYDWEDDU Â'R DDARPARIAETH DDIGONOL O AMWYNDERAU (GAN GYNNWYS MAN AGORED) I
DRIGOLION NEU DDEFNYDDWYR Y DATBLYIAD;
8. CYDWEDDU Â CHREU AMGYLCHEDD SY'N DDIOGEL, YN GYFEILLGAR I BOBL ANABL, YN
GYNALIADWY, YN RHEOLADWY AC YN RHYDD O LYGREDD;
9. CYDWEDDU Â DEFNYDDIO FFYRDD CYNALIADWY O ADEILADU, DEFNYDDIAU, CADW YNNI A
RHEOLI DŴR.
3.17.5. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn disgwyl safon uchel o ddyluniad pensaernïol a threfol mewn datblygiadau newydd. Mae polisi EV45 yn gosod allan meini prawf ar gyfer asesu ansawdd dyluniad. Mae'r nodiadau canlynol yn estyn y meini prawf hyn ychydig. Gellir cael mwy o gyngor am ddylunio yng nghyfres canllawiau dylunio'r Cyngor.
3.17.6. Ystyrir bod arddull neu gymeriad cyson yn cyfrannu at ymdeimlad o le. Mae'n arbennig o berthnasol i ddatblygiadau tai lle bu tueddiad anffodus i gymysgu arddulliau, defnyddiau a ffurfiau. Nid yw'n golygu cael cymeriad undonog nac ailadrodd unedau tebyg; mae'n ymwneud â sefydlu amrywiaeth ddiddorol ond unol.
3.17.7. I gryfhau hunaniaeth ranbarthol y fwrdeistref sirol, dylai dyluniad 'cyfnod' berthyn yn agos i'r cynllun pensaernïol lleol. Dylai dyluniad dyfeisgar, cyfoes barchu lliw a theimlad defnyddiau lleol (cerrig, rendr a llechi'n bennaf) neu'r dirwedd leol. Yn gyffredinol, dylai strwythurau newydd gydweddu â maint ac ansawdd adeiladau cyfagos, er y mae'n bosibl bod yn fwy llac o ran adeiladau achlysur neu dirnod (gweler isod).
3.17.8. Dylai natur y dyluniad adlewyrchu maint ac amlygrwydd y datblygiad. Gall adeilad unigol fod yn dirnod, yn achlysur, neu'n adeilad cyd-destun fel rhan o olygfa'r stryd. Bydd adnabod adeiladau tirnod, achlysur a chyd-destun yn gam at greu dyluniad trefol da. Yn gyffredinol, bydd adeiladau cyd-destunol yn anymwthiol a chwrtais. Bydd adeiladau achlysur yn creu ychydig o ddiddordeb ac yn creu hunaniaeth. Tra'n parchu'r prif gymeriad, bydd eu manylion yn amrywio ac yn denu sylw. Bydd adeiladau tirnod yn dirnodau oherwydd eu maint, eu lleoliad neu eu swyddogaeth. Dyma'r adeiladau sydd â'r potensial mwyaf o ran dyfeisgarwch ond maent yn gofyn am gryn dipyn o ddychymyg. Dylid lleoli adeiladau tirnod yn briodol gan ystyried dyluniad trefol ehangach eu cyd-destun.
3.17.9. Mae gwaith dylunio da'n gweithio gyda nodweddion safle, yn defnyddio llethrau, nentydd, cloddiau a choed i wella tirlun datblygiad newydd. Mae ailddefnyddio'r strwythurau presennol, os yn bosibl, yn fwy cynaliadwy na chlirio safle. Os oes gan y strwythurau hyn werth pensaernïol neu hanesyddol, mae'r datblygiad yn debygol o fanteisio o ran cymeriad a diddordeb.
3.17.10. Mae'r Cyngor yn ceisio dyluniad da gan ei fod yn dymuno i ddatblygiad greu neu warchod ymdeimlad o le. Ystyrir hunaniaeth unigol y fwrdeistref sirol, ei threfi a phentrefi, fel elfen allweddol o ran ansawdd bywyd.
3.17.11. Er mwyn gwella neu feithrin ymdeimlad newydd o le, bydd y Cyngor yn ceisio annog gwaith celfyddyd ar ddatblygiadau newydd. Gall amgylchedd ysgogol godi hwyliau pobl, creu balchder a gall peidio ag annog pobl i gam-drin eu hamgylchedd. Gall celfyddyd gyhoeddus roi wyneb dynol i fannau cyhoeddus a gall annog cymunedau i adfer eu mannau cymdeithasol, yn enwedig os ydynt wedi bod yn rhan o'r broses ddylunio neu ddewis.
3.17.12. Bydd y Cyngor yn annog datblygwyr i ddyrannu canran o gostau cyfalaf adeilad newydd, ailwampio neu estyn er mwyn gwella dyluniad adeilad a'i gyd-destun fel rhan o gynllun 'Canran i Gelf'. Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn briodol darparu gwaith celfyddyd dros dro yn ystod y gwaith adeiladau ynghyd ag ar ôl ei gwblhau.
3.17.13. Os ceir datblygiad ger tai, rhaid ystyried amwynderau preswyl y perchnogion. Er y bydd rhai newidiadau drwg i osodiad y tai presennol yn anochel, dylid lleihau hyn. Ni ddylai effeithio ar ansawdd bywyd cymdogion yn afresymol.
3.17.14. Os cynigir datblygiad sy'n ymwneud â thai newydd, rhaid i'w gynllun gydweddu ag amwynder preswyl rhesymol y preswylwyr. Disgwylir i ddatblygiadau tai newydd greu man agored a darpariaeth hamdden digonol ar gyfer ei drigolion hefyd.
3.17.15. Dylai dyluniad cynigion datblygu ystyried anghenion diogelwch a chyfleustra defnyddwyr y datblygiad, gan gynnwys pobl anabl. Dylid darparu ar gyfer mynediad i gludiant cyhoeddus, beiciau a cherddwyr.
3.17.16. Dylai cynnig datblygu anelu at leihau troseddu neu'r gofid ohono. Rhaid ystyried cynllun tai newydd, ansawdd y goleuadau a thirlunio, lleoliad seddi ac amwynderau mewn mannau siopa a nifer a lleoliadau mynedfeydd ac allanfeydd datblygiadau.
3.17.17. Bydd dyluniad da'n cynnwys mesurau i leihau a delio ag unrhyw lygredd sy'n deillio o ddatblygiad. Un agwedd yw lleihau'r llygredd a gynhyrchir wrth ei adeiladu a'i ddefnyddio. Mae technegau o adeiladu cynaliadwy a lleihau defnydd o ynni'n cael eu datblygu a fydd yn cael effaith sylweddol ar ddyluniad. Bydd y Cyngor yn croesawu ffurfiau dychmygol a dyfeisgar o ddatblygiad sy'n ceisio lleihau ei effaith ar adnoddau prin.
3.17.18. Oherwydd y pwysigrwydd y mae'n rhoi i ddyluniad da, mae'r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn i unrhyw gais am ganiatâd cynllunio gynnwys datganiad dylunio. Dylai hwn ddangos sut mae'r ymgeisydd wedi ystyried yr angen am ddyluniad da yn eu cynigion ac yr ystyriwyd polisïau datblygu a chyfarwyddyd cynllunio atodol perthnasol. Dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n briodol i natur a maint y cynigion.
3.17.19. Fel isafswm, dylai'r datganiad dylunio gynnwys datganiad ysgrifenedig byr yn gosod alan yr egwyddorion dylunio a fabwysiadwyd ynghyd â lluniau. Dylai ddangos y cyd-destun ehangach, nid safle'r datblygiad a'r adeiladau cyfagos yn unig. Ar gyfer cynigion syml neu fach, bydd hyn yn cynnwys ffotograffau o'r safle datblygu a'i gwmpasoedd, lluniau o'r dyluniad arfaethedig a chynlluniau o'r cynllun arfaethedig mewn perthynas â defnyddiau datblygu cyfagos. Ar gyfer datblygiad cymhleth neu fawr, adeiladau tirnod a datblygiad sy'n cynnwys safleoedd sensitif, mae'n debygol y bydd yn briodol i gynnwys golygfeydd perthnasol hefyd.
3.17.20. Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn gosod rhwymedigaethau newydd ar awdurdodau lleol, yr heddlu, awdurdodau iechyd a phwyllgorau prawf (ymysg eraill) i weithio mewn partneriaeth ar ddatblygu a gweithredu strategaeth i daclo trosedd ac anhrefn yn eu hardal. Cyn cynhyrchu'r strategaeth, cynhyrchodd y Cyngor archwiliad trosedd ac anhrefn a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth 1999. Roedd strategaeth gychwynnol y Cyngor mewn lle felly erbyn mis Awst 1999. Gall atal troseddu fod yn ystyriaeth bwysig pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ystyried ceisiadau cynllunio, gan fod rhaid iddo ystyried yr angen i atal troseddu ym mhob un o'i benderfyniadau.
POLISI EV46
FFAFRIR MESURAU DYLUNIO SY'N ANELU AT LEIHAU TROSEDDU A'R GOFID AM DROSEDDU.
3.17.22. Mae polisi EV46 yn cydnabod yr angen i wella defnydd penodedig mannau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mewn ffordd sy'n atal troseddu a phobl yn poeni amdano. Gall cynllun datblygiadau tai newydd, y trefniadau eistedd a mwynhau amwynderau mewn canolfannau siopa trefi a dosbarthiadau neu nifer a lleoliadau mynedfeydd ac allanfeydd datblygiadau helpu i wella diogeledd ardal a gwella canfyddiadau'r cyhoedd o droseddu yn yr ardal honno. Mae Heddlu De Cymru'n annog datblygwyr i fabwysiadu canllawiau i uwchraddio diogeledd yn erbyn troseddau a hybu diogelwch rhag tân drwy'r cynllun 'Diogel drwy Ddyluniad'. Mae'r cynllun yn cwmpasu dyluniadau ystadau, ynghyd â materion tu allan i gwmpas rheoli cynllunio.
3.17.23. Er bod y Cyngor yn cefnogi pob mesur i leihau troseddu'n gyffredinol, rhaid iddo gydbwyso anghenion diogeledd ymgeiswyr yn erbyn pryderon amgylcheddol, gweledol ac amwynderau wrth ystyried ceisiadau cynllunio, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae ganddo fesurau rheoli arbennig e.e. ardaloedd cadwraeth neu wrth ystyried cynigion sy'n effeithio ar adeiladau rhestredig a/neu eu gosodiadau.
3.18.1. Mae datblygu tir ac adeiladau'n rhoi cyfle i greu amgylchedd mwy hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn, pobl ag anableddau eraill, yr henoed a phobl â phlant bach.
3.18.2. Y nod cyffredinol yw 'amgylchedd heb rwystrau' i bawb. Bydd yn haws gwneud hyn wrth gefnogi'r cysyniad o 'deithio esmwyth' ac ystyried materion mynediad i bobl sy'n cael problemau wrth symud o gwmpas yn gynnar iawn yn y broses dylunio datblygiadau newydd neu ailddatblygiadau.
POLISI EV47
BYDD CYNIGION DATBLYGU Y DISGWYLIR I'R CYHOEDD EU DEFNYDDIO NEU YMWELD Â NHW'N
DARPARU AR GYFER POBL AG ANGHENION ARBENNIG E.E. Y RHAI AG ANABLEDDAU, POBL Â
PHLANT BACH, A'R HENOED.
3.18.4. Mae'r gofyn am hygyrchedd yn glir ym mhob gweithgaredd yn yr amgylchedd adeiledig e.e. mae dylunio lle rhwng ac o gwmpas adeiladau a lleoliad a maint darpariaeth barcio'n arbennig o bwysig er mwyn sicrhau mynediad da i'r adeiladau hynny. Boed yn achos datblygiadau newydd neu lle bwriedir estyn neu newid adeiladau, dylai datblygwyr ystyried yr angen i ddarparu mynediad i bawb a fydd yn defnyddio'r adeilad.
3.18.5. Yn achos ceisiadau cynllunio am ddatblygiadau newydd lle mae prinder amlwg o ddarpariaeth ar gyfer pobl llai symudol (gan gynnwys pobl anabl), bydd y Cyngor yn ceisio datrys y mater drwy drafod gyda'r darpar ddatblygwr yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, os oes angen clir am y ddarpariaeth, bydd y Cyngor yn gorfodi amodau priodol ar unrhyw ganiatâd cynllunio i sicrhau bod mynediad digonol ar gyfer pobl anabl a'r rhai ag anghenion arbennig.
3.18.6. Os bydd y cyhoedd yn cael mynediad i adeilad, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn ystyried i ba raddau y gellir cyfiawnhau'r ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl ar sail gynllunio. Mae gan y Cyngor ddyletswydd wrth roi caniatâd cynllunio am adeiladau newydd neu addasiadau i dynnu sylw ymgeiswyr at eu rhwymedigaethau statudol dan Ddeddf Unigolion Ddifrifol Sâl ac Anabl 1970 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. Nid yw cynllun mewnol adeiladau (ac eithrio rhai adeiladau rhestredig) yn ystyriaeth gynllunio bwysig fel arfer. Mae Rhan M o Atodiad 1 i Reoliadau Adeiladu 1991 yn gorfodi gofynion ar sut ddylid dylunio ac adeiladu adeiladau annomestig i fodloni anghenion statudol pobl ag anableddau. Nid yw'n briodol i'r CDU ddelio â'r materion hyn felly. Fodd bynnag, wrth ddelio â chynigion sy'n effeithio ar adeiladau rhestredig a'u gosodiadau, ac adeiladau eraill o bwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol, bydd y Cyngor yn edrych ar y mesurau eraill hynny (i addasu nodweddion yr adeiladau) y gellid eu cymryd i gael mynediad priodol i bobl anabl a'r rhai hynny ag anghenion symud o gwmpas arbennig.
3.18.7. Mae Rhan M o'r Rheoliadau Adeiladu yn gofyn i bob ddatblygiad preswyl newydd gael eu hadeiladu i safonau sy'n briodol ar gyfer y rhai hynny ag anableddau, yr henoed neu bobl â phlant bach. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys llethrau graddol i anheddau, trothwyon lefel, mannau troi mwy a thoiledau ar y llawr gwaelod, ynghyd â lwfans am lifftiau grisiau, ayb i fynd i fyny'r llofft. Rhaid cynllunio datblygiadau siopa newydd, gan gynnwys newid defnydd, gan ystyried y materion hyn. Dylid addasu'r siopau sydd eisoes yn bodoli i ddarparu ar gyfer anghenion pobl llai symudol. Yn yr un ffordd, dylid darparu digon o fannau parcio mewn datblygiadau siopa a masnachol newydd. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, gallai 'cynlluniau symudedd' gynnig darpariaeth briodol arall ar gyfer canol trefi, er enghraifft.
3.18.8. Mae Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW) wedi paratoi rhestr o arfer da'n ddiweddar o'r enw Mynediad i Bawb (Creu Amgylchedd heb Rwystrau) yr argymhellir y Cyngor i'w fabwysiadu fel CCA i bolisi EV47 yn ystod bywyd y cynllun.
3.19.1. Mae bron i bob hysbyseb yn yr awyr agored yn destun rheolaeth yr awdurdod cynllunio lleol, er budd amwynderau a/neu ddiogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, eithrir rhai hysbysebion o'r rheolaeth fanwl ac mae categorïau penodol eraill yn gymwys ar gyfer caniatâd tybiedig, os ydynt yn cydymffurfio ag amodau a chyfyngiadau penodol.
POLISI EV48
NI CHANIATEIR HYSBYSEBION YN YR AWYR AGORED A FYDDAI'N GWAETHYGU AMWYNDERAU
GWELEDOL NEU'N PERYGLU DIOGELWCH CYHOEDDUS. OT BE PERMITTED. CANIATEIR CYNIGION
SY'N:-
1. PERTHYN YN OFALUS I GYMERIAD, MAINT A NODWEDDION PENSAERNÏOL YR ADEILAD LLE
BWRIEDIR EU GOSOD;
2. ATAL CREU 'CLWSTWR' O HYSBYSEBION DRWY EU HEFFAITH GYNYDDOL;
3. BODLONI GOFYNION POLISI EV29 OS YDYNT YN CAEL EU GOLEUO AC ARWAIN AT
OSTYNGIAD MEWN LLYGREDD GOLAU GYDA'R NOS YN HYTRACH NA CHYNNYDD;
4. WEDI EU LLEOLI A'U CYNLLUNIO I BEIDIO Â THARFU AR DDEFNYDDWYR FFYRDD,
LLWYBRAU BEICIO A LLWYBRAU CERDDED;
5. SICRHAU LLWYBR DIOGEL A HAWDD I GERDDWYR, A PHEIDIO AG AMHARU AR SYMUDIADAU
POBL ANABL, YR HENOED, A PHOBL Â PHLANT BACH; AC SY'N
6. CYDYMFFURFIO Â SAFONAU AMWYNDERAU A DIOGELWCH DERBYNIOL.
3.19.3. Ceisia polisi EV48 reoli hysbysebion yn yr awyr agored mewn ardaloedd lle byddai arddangos hysbysebion a gynlluniwyd yn wael yn arbennig o niweidiol ac felly'n ystyriaeth bwysig mewn penderfyniadau cynllunio. Fodd bynnag, dylid pwysleisio bod y Cyngor yn asesu teilyngdod amwynderau a diogelwch cyhoeddus penodol hysbyseb arfaethedig bob amser o ran ei leoliad arfaethedig.
3.19.4. Bydd y Cyngor yn rheoli hysbysebion yn llym, gan gynnwys y rhai a osodir ar eiddo busnes, arddangosiadau poster, baneri, mewn llochesi bysiau ac arddangosiadau unigol. Dylid cynllunio a lleoli hysbysebion ac arwyddion i gyd-fynd â'u hamgylchedd, yn enwedig y rhai yng nghefn gwlad - lle byddai llwyth o hysbysebion yn arwain ymwelwyr i fusnesau unigol, ayb yn weledol ymwthiol ac annerbyniol. Anogir busnesau i gyfuno eu hanghenion hysbysebu hanfodol bob amser a rhannu arwyddion cyffredin, ynghyd â gwrando ar gyfarwyddyd y Llywodraeth. Mae angen diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig rhag hysbysebion ymwthiol, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd dymunol e.e. Arfordir Treftadaeth Morgannwg sydd heb ei ddatblygu, tirweddau hanesyddol Merthyr Mawr a Chynffig a pharciau a gerddi hanesyddol, ac ardaloedd cadwraeth.
3.19.5. Ni ddylai hysbysebion beryglu diogelwch y cyhoedd a rhaid i'r Cyngor ystyried diogelwch pob ffordd o deithio a'r bobl sy'n eu defnyddio. Mae'r ystyriaeth hon yn gymwys ar gyfer cerddwyr, beicwyr a gyrwyr. Gall golau gormodol o hysbysebion achosi peryglon traffig a pheryglu cerddwyr gan eu bod yn tynnu sylw. Hefyd, mae'n ddymunol cyfyngu nifer yr hysbysebion a oleuir er mwyn lleddfu llygredd golau gyda'r nos.
3.19.6. Mae arwyddion ar eiddo busnes yn codi materion ychwanegol gan eu bod yn cyfrannu cymaint i ymddangosiad cyffredinol golygfa stryd. Rhaid iddynt fod yn unol â blaenau siopau a chadw cymeriad blaenau traddodiadol, yn enwedig ar gyffyrdd strydoedd a mannau lle mae cerddwyr yn troi. Os cynigir gosod hysbysebion/arwyddion ar eiddo busnes mewn ardaloedd cadwraeth penodedig, gellir disgwyl cyfyngiadau ychwanegol neu ofynion arbennig, er ni fydd y penodiadau hyn yn cyfiawnhau diffiniad o ardaloedd rheoli hysbysebion arbennig o reidrwydd.
3.19.7. Ystyrir bron i bob hysbyseb ar adeiladau rhestredig neu hen gofebion rhestredig fel addasiad i'r adeilad neu gofeb a bydd gofyn am ganiatâd adeilad rhestredig neu gofeb rhestredig felly - ynghyd ag unrhyw ganiatâd hysbysebu. Dylid bod yn arbennig o ofalus i sicrhau nad yw unrhyw hysbyseb / arwydd a osodir ar neu ger adeilad rhestredig neu gofeb yn tynnu wrth gyfanrwydd dyluniad yr adeilad, ei gymeriad neu strwythur hanesyddol nac yn difwyno ei osodiad.
3.19.8. Mae gan y fwrdeistref sirol arfordir a chefn gwlad prydferth sy'n denu llawer o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae Porthcawl yn gyrchfan i dwristiaid. Mae wedi denu datblygwyr hefyd sy'n adeiladu ystadau tai newydd ac mae'r rhain yn cynhyrchu hysbysebion diangen/gormodol o bryd i'w gilydd. Er y cydnabyddir yr angen i hysbysebu rhai pen teithiau i ymwelwyr a/neu draffig adeiladu, mae'r rhan fwyaf o'r hysbysebion cyfeirio hyn yn creu annibendod annerbyniol ar hyd ffyrdd. Byddai problemau amwynderau difrifol pe bai'r Cyngor yn caniatáu iddynt gynyddu mewn nifer. Felly, bydd y Cyngor yn parhau i gydweithredu gydag ymgeiswyr er mwyn datblygu cynllun arwyddion. Bydd yn parhau i gael gwared ar unrhyw arwyddion diangen ger ffyrdd dan y pwerau perthnasol sydd ganddo. Fodd bynnag, bydd rhai arwyddion twristiaeth 'ymlaen llaw' yn dderbyniol os yw'n hawdd eu hadnabod fel hysbysebion 'gwyn ar frown' yn unol â chyfarwyddyd Cymdeithas Swyddogion Technegol Cymru am arwyddion twristiaeth yng Nghymru. Ar ôl dweud hynny, bydd disgwyl i'r rhain gael eu gosod mewn man lle nad ydynt yn cael lle blaenllaw ar olygfa'r stryd a pheidio ag ymwthio i osodiadau gwledig na threfol.
<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>
|
|
Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council |