7.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
7.1.1. Ystyrir canol trefi i fod yn arbennig o bwysig gan eu bod yn cyflawni
rôl ehangach na rôl fel canolfannau manwerthu ac mae
polisi 8 yn
cydnabod eu pwysigrwydd i'r gymuned o ran gwneud y mwyaf o gymysgedd o
ddefnyddiau tir rhyngddibynnol y mae manwerthu'n rhan ohono'n unig.
7.1.2. Er mwyn i ganol trefi lwyddo, rhaid iddynt gadw a datblygu ystod eang
o atyniadau ac amwynderau ynghyd â chynnig amgylchedd dymunol a diogel.
7.1.3. Adlewyrchir bywiogrwydd ym mhrysurdeb canol tref ar wahanol amserau ac
yn y gwahanol rannau, dymunoldeb y cyfleusterau a'r cymeriad sy'n denu manwerthu
tra bod dichonoldeb yn cyfeirio at allu canol tref i ddenu buddsoddiad.
7.1.4. Mae canol trefi presennol yn tueddu i fod yn haws mynd atynt i bobl
nad oes ganddynt geir ac mae diogelu a gwella'r canol trefi sydd gennym yn
bwysig oherwydd cydraddoldeb cymdeithasol.
7.1.5. Ar y llaw arall, mae llawer o ganol trefi'r fwrdeistref sirol yn
gorfforol neu dopograffegol gyfyng mewn rhyw ffordd, sy'n cyfyngu eu potensial i
dyfu, yn enwedig o ystyried bod llawer o fanwerthwyr yn mynnu safleoedd mawr heb
rwystrau. Mae hyn yn helpu i esbonio'r tuedd tuag at ddatblygiadau tu allan i
ganol trefi. Ceisia
polisi 9 osod meini prawf ar gyfer gwerthuso cynigion am safleoedd
manwerthu i ffwrdd o'r canolfannau presennol.
7.1.6. Wrth ystyried y cynigion hyn, dywed cyngor y Llywodraeth y dylai
cynlluniau datblygu sefydlu angen i ddechrau (a all fod yn fesurol neu'n
ansoddol) ac, os gellir dangos angen, dylid meithrin ymagwedd gyfresol at ddewis
safle. Golyga hyn mai'r dewis cyntaf fyddai canol trefi lle mae safleoedd ac
adeiladau ar gael. Dilynir hyn gan safleoedd ar ymylon trefi, canol
dosbarthiadau ac yna safleoedd a dyraniadau tu allan i ganol trefi sy'n bodoli
eisoes. Gellir ystyried safleoedd newydd tu allan i ganol trefi mewn lleoliadau
y mae'n hawdd eu cyrraedd mewn sawl ffordd. Disgwylir i ddatblygwyr ystyried
cynlluniau defnydd cymysg wrth ystyried safleoedd canol tref.
7.1.7. Dylid defnyddio'r ymagwedd hon ar gyfer pob defnydd allweddol yng
nghanol trefi, nid defnydd manwerthu yn unig, sy'n denu llawer o bobl, gan
gynnwys swyddfeydd masnachol a chyhoeddus, a defnyddiau adloniant a hamdden.
Rhaid i gynigion am ddatblygiadau ar safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer
datblygiadau manwerthu fod ar gyfer y defnydd penodedig. Fel arall, bydd disgwyl
i gynigion ddangos eu bod yn bodloni angen a'r prawf dewis cyfresol. Adlewyrchir
yr ymagwedd hon mewn polisïau eraill sy'n perthyn i'r defnyddiau canol tref hyn
yn y CDU.
7.1.8. Yr unig dro y bydd y polisi'n gymwys ar gyfer datblygiadau presennol
ar safleoedd a ddyrannwyd fydd ar gyfer cynigion i estyn lle llawr ac amrywio
mathau o nwyddau. Ym mhob un o'r amgylchiadau hyn, er mwyn cydymffurfio â meini
prawf
polisi 9, bydd angen cyflawni rhyw fath o asesiad effaith manwerthu os
yw'r datblygiad arfaethedig yn un y gellir ei leoli yng nghanol tref.
Rhan 2
7.2. Cyflwyniad
7.2.1. Mae siopa'n weithgaredd hamdden ac economaidd pwysig ac mae patrymau
gweithgareddau manwerthu'n brif ffactorau sy'n amlygu gobeithion canol trefi.
Gwelir bod y tuedd cenedlaethol tuag at fanwerthu tu allan i ganol drefi yn y
ddau ddegawd diwethaf wedi peryglu ffyniant economaidd sawl hen dref
draddodiadol ac mae cyngor polisi'r Llywodraeth yn ceisio ymdrin â'r pryderon
hyn. Canol trefi yw prif ganolbwynt gweithgareddau manwerthu newydd. Ar yr un
pryd, mae'r hwb tuag at ddatblygiad cynaliadwy'n amlygu'r angen i leihau
dibyniaeth ar y car fel prif ddull cludiant ar gyfer siwrneiau siopa. Mae hyn yn
lleddfu yn erbyn datblygiadau pellach tu allan i dref gan y gwneir y rhan
helaeth o siwrneiau i'r mannau hyn mewn ceir preifat; lle mae gan ganol trefi
fwy o gludiant cyhoeddus.
7.2.2. Yn lleol, mae manwerthu'n ffynhonnell swyddi sylweddol. Darperir rhyw
4,200 o swyddi yn y sector manwerthu sy'n cynrychioli 9.5% o gyfanswm y
gyflogaeth. Mae lefelau cyflogaeth yn y sector hwn yn unol â chyfartaledd Cymru
ac mae manwerthu'n cynnig mwy o swyddi i fenywod na dynion.
7.2.3. Er gwaethaf datblygiadau sylweddol fel adeiladu Designer Outlet
- Cymru ar gyffordd 36 o draffordd yr M4, sefydlwyd bod canran sylweddol o
wariant ar nwyddau cymhariaeth h.y. nad ydynt yn fwyd yn llifo allan o'r
fwrdeistref sirol i ganolfannau eraill, Caerdydd ac Abertawe yn bennaf.
7.3. Yr Hierarchaeth Manwerthu
7.3.1. Mae dosbarthiad cyfleusterau siopa yn y fwrdeistref sirol yn cyd-fynd
â hierarchaeth ranbarthol, gyda'r canolfannau gorau yng Nghaerdydd ac Abertawe,
sef tu allan i'r fwrdeistref sirol. Yn y fwrdeistref sirol, mae hierarchaeth
draddodiadol ac amlwg o ganolfannau siopa tref a dosbarth, pob un yn cyflawni
rôl ei hun yn narpariaeth gyffredinol cyfleusterau manwerthu.
7.3.2. Mae tref Pen-y-bont ar ben hierarchaeth fanwerthu'r fwrdeistref sirol
a diffinnir hi fel canol tref isranbarthol. Mae'n cynnwys y nifer fwyaf ac
ehangaf o siopau o unrhyw ganolfan fasnachol yn y fwrdeistref sirol. Dengys
dadansoddiad manwl o ddalgylch Pen-y-bont mai hon yw'r prif ganolfan siopa ar
gyfer y rhan fwyaf o'r fwrdeistref sirol a rhai cymunedau tu allan. Mae canol
tref Pen-y-bont yn cynnig 655,500 troedfedd sgwâr o le llawr manwerthu, y
mwyafrif ohono ar gyfer siopa cymhariaeth (gweler
ffigwr RET1).
FFIGWR RET1
Manylion o Ddefnyddiau yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

7.3.3. Mae rôl canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn estyn tu hwnt i ganolfan
siopa gan ei bod yn darparu ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau hamdden ac
mae ei hamrywiaeth o ddefnyddiau a welir yn
ffigwr RET1 yn ei gwneud yn ben
taith pwysig ar gyfer y dalgylch cyfan. Fodd bynnag, yn debyg i drefi tebyg yn
ne Cymru, mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi dioddef oherwydd
tan-fuddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau newydd, ynghyd â mwy o gystadleuaeth
gan ganolfannau cyfagos a datblygiadau tu allan i'r canol. O ganlyniad, mae
angen i ymdrin â phroblemau canol y dref ac mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn
gweithredu nifer o fentrau pwysig sy'n ceisio adfywio canol y dref dan deitl
Strategaeth Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
7.3.4. Cefnogir Pen-y-bont ar Ogwr gan drefi llai Maesteg a Phorthcawl. Mae'r
ddwy'n cynnwys ystod eang o siopau a chyfleusterau, gan gynnwys siopau
cyfleusterau maint canolig i fodloni anghenion eu dalgylchoedd. Mae datblygiadau
manwerthu newydd ym Maesteg wedi cryfhau ei statws yn yr hierarchaeth fanwerthu
tra bod Porthcawl yn ymdrin â nifer fawr o dwristiaid, rhai sy'n aros a rhai
sy'n dod am y dydd yn ystod yr haf. Comisiynwyd strategaeth adfywio ar gyfer
Maesteg i helpu i sicrhau ei bod yn gadw ei ffyniant a'i dymunoldeb. Ym
Mhorthcawl, mae strategaeth adfywio wedi bod yn weithredol ers nifer o
flynyddoedd, i ymdrin â lles economaidd y dref. Ar lefel is yn yr hierarchaeth,
mae nifer o ganolfannau dosbarth a ddosberthir ledled y fwrdeistref sirol sy'n
cynnwys archfarchnad fach a nwyddau cyfleusterau a chymhariaeth, ynghyd â
gwasanaethau personol megis is-ganghennau banciau, siopau papur, is-swyddfeydd
post, ayb fel arfer. Mae eu talgylchoedd yn tueddu i fod yn fwy cyfyng ag ystod
gyfyng o nwyddau cyfleustra. Eu rôl yw canolfannau 'ychwanegu' neu 'gerdded i
mewn' yn bennaf, sy'n darparu nwyddau hanfodol yn feunyddiol yn ychwanegol i'r
rhai a ddarperir yng nghanolfannau yn uwch i fyny yn yr hierarchaeth.
7.3.5. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae twf archfarchnadoedd tu allan i
drefi, warysau manwerthu a pharciau manwerthu wedi ychwanegu dimensiwn newydd i
batrymau siopa yn y fwrdeistref sirol sydd wedi gosod yr hierarchaeth
draddodiadol dan bwysau. Cyfyngwyd datblygidau manwerthu tu allan i drefi i
ardal Pen-y-bont ar Ogwr, wrth ddatblygu ac estyn Parc Manwerthu Pen-y-bont a
Pharc Manwerthu Waterton. Mae gan y ddau amrywiaeth o unedau manwerthu sy'n
gwerthu nwyddau swmpus fel nwyddau DIY, carpedi, dodrefn a nwyddau trydanol. Yn
ychwanegol, mae archfarchnad Tesco mawr ac archfarchnad Lidl lai ar Barc
Manwerthu Pen-y-bont tra bod Sainsburys wedi lleoli ei hun yn The Pines. Yn
ddiweddarach, mae datblygu'r tir ar gyffordd 36 o'r M4 ar gyfer Designer Outlet
- Cymru wedi ychwanegu dimensiwn newydd at siopa tu allan i ganol trefi. Er
gwaethaf cystadleuaeth gan ddatblygiadau manwerthu tu allan i ganolfannau, mae'r
hierarchaeth fanwerthu sefydlog wedi parhau i ddatblygu dros y blynyddoedd ac
mae'r canolfannau masnachol presennol yn cyflawni rôl bwysig mewn bodloni nid yn
unig anghenion siopa ond gofynion diwylliannol a hamdden trigolion yr ardal.
Ceisia'r cynllun hwn felly i ddiogelu hierarchaeth fanwerthu sefydlog yr ardal.
7.3.6. Mae polisi R1 yn diffinio natur yr hierarchaeth yn fanylach.
7.3.7. DIOGELU'R HIERARCHAETH FANWERTHU
POLISI R1
DYLID CANOLBWYNTIO DATBLYGIAD MANWERTHU NEWYDD YN Y CANOLFANNAU MASNACHOL
SEFYDLOG SEF:-
| |
|
Cyswllt â'r
Map |
| 1. CANOL TREF IS-RANBARTHOL:- |
PEN-Y-BONT |
34 |
| |
|
|
| 2. CANOL TREFI:- |
MAESTEG |
33 |
| |
PORTHCAWL |
37 |
| |
|
|
| 3. CANOL DOSBARTHIADAU:- |
ABERKENFIG |
21 |
| |
BLAENGARW |
6 Canolog |
| |
BRACKLA |
27 Dwyrain |
| |
CAERAU |
1 Canolog |
| |
NANTYFFYLLON |
5 |
| |
NANTYMOEL |
7 |
| |
BRO OGWR |
7 |
| |
PENCOED |
23 Gorllewin |
| |
PONTYCYMMER |
6 |
| |
PIL/MYNYDD CYNFFIG |
19 |
CANIATEIR DATBLYGIAD MANWERTHU TU ALLAN I'R CANOLFANNAU HYN DIM OND LLE:-
1. YN ACHOS NWYDDAU CYFLEUSTRA LLEOL, BWRIEDIR
GWASANAETHU ARDALOEDD O DAI NEWYDD NEU LLE MAE PRINDER AMLWG MEWN CYFLEUSTERAU
SIOPA O FEWN ARDALOEDD TAI PRESENNOL; NEU
2. YN UNOL Â PHOLISÏAU R9,
R10 A
R11.
7.3.8. Ceisia polisi R1 ddiffinio cyn belled ag sy'n ymarferol terfynau
derbyniol y canolfannau masnachol sy'n cwmpasu'r hierarchaeth fanwerthu. Ceisia
gyfyngu lledu datblygiadau manwerthu newydd pellach tu allan i drefi a cheisia
ganolbwyntio datblygiadau newydd yn y canolfannau masnachol sy'n bodoli eisoes.
Nid yw pob defnydd manwerthu'n cydweddu â'r canol trefi presennol oherwydd
ffactorau fel maint, dyluniad a thraffig a lle mae angen sicrhau bod unrhyw
ddatblygiad newydd yn briodol i'w leoliad. O ganlyniad:-
7.3.9 NATUR DATBLYGIAD MANWERTHU MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL
POLISI R2
CANIATEIR DATBLYGIAD MANWERTHU NEWYDD TU MEWN I GANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG,
FEL A DDIFFINNIR YM MHOLISI R1, OS BYDDAI'N:-
1. CYNNAL NEU'N GWELLA YSTOD AC ANSAWDD Y DDARPARIAETH SIOPA A FFYNIANT,
DICHONOLDEB A DYMUNOLDEB Y CANOLFANNAU HYN; AC OS BYDDAI'N
2. UNOL Â GRADDFA A CHYMERIAD Y GANOLFAN.
7.3.10. Ceisia'r polisi hwn sicrhau y bydd datblygiad manwerthu newydd o fudd
tymor hir i ganolfannau masnachol presennol cyn belled ag sy'n bosibl. Tra'n
cydnabod y gallai sefyllfa canolfannau yn yr hierarchaeth newid dros amser,
dylai datblygiad newydd fod yn unol â chymeriad y canol presennol. Disgwylir i
ddatblygwyr a manwerthwyr fod yn hyblyg a dyfeisgar o ran diwyg, cynllun a
graddfa datblygiadau arfaethedig, gan gynnwys y lle parcio, er mwyn cael
datblygiad newydd sy'n cydweddu â'r canolfannau presennol.

7.4. Defnyddiau nad ydynt yn Rhai Manwerthu
7.4.1. Rhaid i ganol trefi gynnal eu hamrywiaeth os dymunant gadw eu ffyniant
a'u dichonoldeb ond mae ystod ac amrywiaeth y siopau a gwasanaethau wedi newid
dros amser a byddant yn parhau i ddatblygu. Fodd bynnag, mae angen sicrhau nad
yw canolfannau masnachol yn colli eu hunedau manwerthu i'r graddau lle na allant
weithredu fel canolfannau siopa dichonol. Mae perygl o ddefnyddiau eraill yn
cael mwy o flaenoriaeth na defnyddiau manwerthu. Felly, mae angen cael
cydbwysedd rhwng defnyddiau manwerthu a defnyddiau eraill mewn canolfannau
masnachol er mwyn gwella ffyniant a dichonoldeb y canolfannau hun.
7.4.2. DEFNYDDIAU NAD YDYNT YN RHAI MANWERTHU MEWN PRIF FANNAU SIOPA
POLISI R3
CANIATEIR CYNIGION AM DDATBLYGU, AILDDATBLYGU NEU NEWID DEFNYDD UNEDAU NAD YDYNT
YN RHAI MANWERTHU* AR LEFEL Y LLAWR MEWN PRIF ARDALOEDD SIOPA DIM OND LLE
BODLONIR YR HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
1. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD, OHERWYDD EI NATUR, CYNLLUN A GRADDFA, YN GWANHAU
PARHAD Y PRIF FLAENAU SIOPAU'N SYLWEDDOL;
2. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN GWAETHYGU CRYNHOAD PRESENNOL NAC YN CREU CRYNHOAD
NEWYDD A DIANGEN O DDEFNYDDIAU NAD YDYNT YN RHAI PRESWYL*, NAILL AI YN YR ARDAL
EI HUN NEU YN YR OLYGFA STRYD GYFFREDINOL;
3. NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN ARWAIN AT FFENESTRI BLAEN GWAG - YN HYTRACH BYDDANT
YN YSGOGI CWSMERIAID SY'N CERDDED HEIBIO A BYDDANT YN CADW DIDDORDEB Y CYHOEDD
SY'N SIOPA;
4. NI FYDDAI'N ARWAIN AT BROBLEMAU LLEOL NEWYDD NAC YN GWAETHYGU PROBLEMAU
PRESENNOL OHERWYDD TRAFFIG, TAGFEYDD, DIOGELWCH Y FFYRDD, SŴN, AROGLAU NAC
YSTYRIAETHAU AMWYNDERAU ERAILL;
AT BWRPASAU'R POLISI HWN, DIFFINNIR Y PRIF FANNAU SIOPA FEL A GANLYN:-
PEN-Y-BONT
ADARE STREET (Cyswllt â’r Map 34)
CAROLINE STREET (Cyswllt â’r Map 34)
CANOLFAN Y RHIW (Cyswllt â’r Map 35)
WYNDHAM STREET (Cyswllt â’r Map 35)
NOLTON STREET [RHIFAU 4-24 RHIFAU GWASTAD YN UNIG A THY NOLTON] (Cyswllt â’r Map 35)
CANOLFAN BRACKLA
STREET [RHIFAU 3-15 A'R ARCHFARCHNAD] (Cyswllt â’r Map 35)
MAESTEG
TALBOT STREET
COMMERCIAL STREET [Rhifau 1-21, 128-145 yn gynwysedig] (Cyswllt â’r Map 33)
PORTHCAWL
JOHN STREET [Rhifau 20-88, 1a-83 yn gynwysedig] (Cyswllt â’r Map 36)
WELL STREET [Rhifau
1-16 yn gynwysedig] (Cyswllt â’r Map 37)
(Diffinnir defnyddiau nad ydynt yn rhai manwerthu fel unrhyw ddefnydd heblaw
am y rhai a ddaw dan Ddosbarth A1 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) 1987)
7.4.3. Mae polisi R3 yn cydnabod bod prif fannau siopa canol trefi'r
fwrdeistref sirol yn gofyn am ddiogelwch penodol rhag defnyddiau cystadleuol
eraill ac mae'n gorfodi meini prawf llym i ddiogelu eu ffyniant a dichonoldeb.
Fodd bynnag, tu allan i'r prif fannau siopa, ceir ymagwedd fwy hyblyg.
7.4.4. DEFNYDDIAU NAD YDYNT YN RHAI MANWERTHU TU ALLAN I BRIF FANNAU SIOPA
MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL
POLISI R4
CANIATEIR CYNIGION AM DDATBLYGU, AILDDATBLYGU NEU NEWID DEFNYDD UNEDAU NAD YDYNT
YN RHAI MANWERTHU* AR LORIAU LLAWR TU ALLAN I BRIF FANNAU SIOPA'R CANOLFANNAU
MASNACHOL SEFYDLOG, FEL A DDIFFINNIR YM MHOLISÏAU
R1 AC
R3, OS:-
1. NAD YW'R CYNNIG YN CAEL EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMGYLCHEDD AC AMWYNDER YR
ARDAL;
2. NA FYDDAI'R DATBLYGIAD YN ARWAIN AT BROBLEMAU LLEOL NEWYDD NEU'N GWAETHYGU'R
RHAI SY'N BODOLI EISOES O RAN TRAFFIG, TAGFEYDD, DIOGELWCH Y FFYRDD, SŴN,
AROGLAU NEU YSTYRIAETHAU AMWYNDERAU ERAILL.
(*Diffinnir defnyddiau nad ydynt yn rhai manwerthu fel unrhyw ddefnydd heblaw
am y rhai a ddaw dan Ddosbarth A1 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) 1987).
7.4.5. Fel a fynegir uchod, anela'r Cyngor at gynnal ffyniant a dichonoldeb
canolfannau masnachol y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y
posibilrwydd o ddenu datblygiadau manwerthu newydd i rai o'r canolfannau hyn yn
weddol gyfyng. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cymoedd. Dan yr amgylchiadau hyn,
mae angen meithrin ymagwedd fwy hyblyg ac ymarferol. Yn y rhan fwyaf o
anheddiadau yn y cymoedd, gwasgarwyd canolfannau masnachol ymysg datblygiadau
preswyl ac arferai llawer o'r siopau fod yn anheddau preifat a droswyd. Byddai'r
Cyngor yn poeni pe bai'r siopau hyn yn dal yn wag am amser hir, a fyddai'n
arwain at ddirywiad yn eu cyflwr a difrod amgylcheddol. Mae'n briodol felly i
ddatblygu meini prawf ar gyfer trosi siopau tu allan i'r prif fannau siopa i
ddefnydd preswyl.
7.4.6. DEFNYDD PRESWYL MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL
POLISI R5
CANIATEIR CYNIGION I AILDDATBLYGU NEU NEWID DEFNYDD AR LORIAU LLAWR TU ALLAN I
BRIF FANNAU SIOPA MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG I DDEFNYDD PRESWYL, FEL A
DDIFFINNIR YM MHOLISÏAU R1 AC
R3, OS:-
1. YW'R EIDDO WEDI BOD YN WAG AM O LEIAF DWY FLYNEDD AC WEDI EI FARCHNATA'N
BRIODOL YN YR AMSER HWNNW;
2. NAD YW'R EIDDO'N FFURFIO RHAN O FLAEN BARHAUS O DAIR SIOP NEU FWY;
3. NA FYDD GAN Y CYNNIG EFFAITH ANNERBYNIOL AR AMGYLCHEDD NEU AMWYNDER YR ARDAL;
4. NA FYDD Y CYNNIG YN CAEL EFFAITH DDRWG O RAN CREU TRAFFIG, TAGFEYDD A
DIOGELWCH Y FFYRDD.
7.4.7. Mae trosi unedau siop yn arwain at wasgaru blaenau masnachol yn aml,
ond ystyriwn ei bod yn well gwneud hyn i eiddo sydd wedi bod yn wag am hir. Fodd
bynnag, mae'r Cyngor yn ymroddedig i ategu at ffyniant masnachol holl
ganolfannau masnachol y fwrdeistref sirol ac mae'n cynnig grantiau i eiddo
masnachol mewn meysydd a benodwyd ar gyfer gwelliannau masnachol ac
amgylcheddol. Gall canol trefi greu lle ar gyfer ffurfiau eraill o gyflogaeth ac
eithrio manwerthu a gall y gweithgareddau hyn arwain at amrywiaeth yn y
canolfannau hyn a fydd yn eu gwneud yn fwy dymunol a ffyniannus. Wedi dweud
hynny, mae'n rhaid cael cydbwysedd er mwyn peidio â gwanhau craidd siopa
canolfannau masnachol yn ormodol. Er bod gweithgareddau a ddaw o fewn dosbarth
B1 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 yn dderbyniol
yn ardaloedd preswyl o ran eu safonau amgylcheddol, ni fydd y Cyngor yn
caniatáu'r defnyddiau hyn ar lefel y llawr yn y prif fannau siopa neu lle
byddai'r cynnig yn arwain at golli lle llawr manwerthu rhywle arall. Gellir
darparu ar gyfer y defnyddiau hyn uwchben lefel y llawr yn y prif fannau siopa
ac yn eiddo nad yw'n eiddo manwerthu mewn canolfannau masnachol sefydlog.
7.4.8. DEFNYDDIAU B1 MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL
POLISI R6
NI CHANIATEIR DEFNYDD SY'N DOD O DAN DDOSBARTH B1 O ORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A
THREF (DOSBARTHIADAU DEFNYDD) 1987 AR LEFEL Y LLAWR YN Y PRIF FANNAU SIOPA, FEL
A DDIFFINNIR YM MHOLISI R3. GELLIR CANIATÁU'R DEFNYDD HWN RHYWLE ARALL MEWN
MANNAU MASNACHOL SEFYDLOG, FEL A DDIFFINNIR YM
MHOLISI R1, AR LEFEL Y LLAWR OS
NAD YDYNT YN ARWAIN AT GOLLI LLE LLAWR MANWERTHU.
7.4.9. Ni ystyrir bod defnydd diwydiannol cyffredinol yn briodol unrhyw le
arall yng nghanolfannau masnachol y fwrdeistref sirol. Mae canlyniadau
amgylcheddol y defnydd hwn yn difrïo defnyddiau eraill fel arfer a byddai'n
peryglu amwynder amgylcheddol y canolfannau masnachol.
7.4.10. DEFNYDD DIWYDIANNOL CYFFREDINOL MEWN CANOLFANNAU MASNACHOL
POLISI R7
NI CHANIATEIR DEFNYDD DIWYDIANNOL CYFFREDINOL* UNRHYW LE ARALL YN Y CANOLFANNAU
MASNACHOL SEFYDLOG FEL A DDIFFINNIR GAN
BOLISI R1.
(*Dosbarthiadau defnydd B2 a B8)
7.5. Safleoedd Ailddatblygu Manwerthu Allweddol
7.5.1. Mae llwyddiant hirdymor canolfannau masnachol y fwrdeistref sirol yn
dibynnu ar fuddsoddiad gan fenter breifat. Bydd methiant i fuddsoddi'n arwain at
ddirywiad. Mae'n hanfodol felly bod y Cynllun Datblygu Unedol yn nodi cyfle ar
gyfer y buddsoddiad hwn a fydd yn helpu i adfywio'r canolfannau masnachol
sefydlog:-
7.5.2. SAFLEOEDD AILDDATBLYGU MANWERTHU ALLWEDDOL
POLISI R8
FFAFRIR ADFYWIO CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG DRWY AILWAMPIO NEU AILDDATBLYGU
SAFLEOEDD AC ADEILADU ALLWEDDOL AR GYFER DEFNYDD MANWERTHU, MASNACHOL A HAMDDEN
PERTHYNOL, OS YW'R DATBLYGIAD YN UNOL Â MAINT A CHYMERIAD Y GANOLFAN. NODWYD Y
CANLYNOL FEL SAFLEOEDD ALLWEDDOL:-
R8(1) Y MAES PARCIO A'R TIR CYFAGOS I'R GOGLEDD O STRYD BRACKLA, PEN-Y-BONT AR
OGWR; (Cyswllt â’r Map 34)
R8(2) ELDER YARD, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 34)
R8(3) MAES PARCIO'R RHIW A'R MODURDY CYFAGOS, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 35)
R8(4) DOCK STREET, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 37)
R8(5) MAES PARCIO HILLSBORO PLACE A'R TIR CYFAGOS, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 37)
R8(6) TIR I'R GOGLEDD O STRYD Y FARCHNAD, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 34)
R8(7) TIR GER MAES RYGBI MAESTEG, HEOL LLYNFI, MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 33)
R8(8) SAFLE SINEMA'R EMBASSY A'R TIR CYFAGOS AR LÔN Y BRAGDY A HEOL TONDU,
PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 34)
R8(9) Y GERDDI GOSOD A DEPO'R CYNGOR I'R DE O STRYD BRACKLA, PEN-Y-BONT AR OGWR.
(Cyswllt â’r Map 35)

7.5.3. Mae'r rhain yn safleoedd canol tref neu ymyl tref ac maent yn unol â
chyngor y Llywodraeth felly o ran y prawf cyfresol. Bydd ailddatblygu'r
safleoedd hyn yn llwyddiannus yn arwain at well amgylchedd siopa. Mae cludiant
cyhoeddus yn mynd a dod i'r mannau hyn a dylai fod yn hawdd i holl grwpiau'r
gymuned eu cyrraedd felly.
7.5.4. Datgelodd dadansoddiad manwl gan Colliers CRE yn 2002 o batrymau
siopau am fwyd yn y fwrdeistref sirol fod potensial i ddatblygu lle llawr
cyfleustra pellach, er gwaethaf y siopau bwyd yn y trefi a thu allan i'r trefi.
Nodwyd prinder mewn siopau bwyd yn nhref Pen-y-bont, Porthcawl a Maesteg. Yn
wir, mae llawer o drigolion Porthcawl a Maesteg yn teithio i Ben-y-bont i brynu
eu nwyddau bwyd. Wrth wneud hyn, maent yn creu nifer fawr o siwrneiau yn y car.
Bydd cynnwys maes parcio Hillsboro Place a'r tir ger cae Clwb Rygbi Maesteg ar
gyfer siopau nwyddau cyfleus mawr, ynghyd ag elfen lai o nwyddau cymhariaeth, yn
helpu i ymdrin â'r anghydbwysedd hwn.
7.5.5. Yn debyg, mae bwlch yn y ddarpariaeth fwyd yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr
a phwysleisir hyn gan lif y gwariant i siopau eraill tu allan i'r fwrdeistref
sirol. Tra bod gan Ben-y-bont ar Ogwr nifer resymol o siopau bwyd da, fel a
welir gan eu llwyddiant gwerthu, mae'r amrywiaeth a'r ystod o gwmnïau'n gyfyng.
Nododd ymchwil ychwanegol gan Colliers CRE ym mis Rhagfyr 2002 (a ddiweddarwyd
ym mis Mehefin 2004) fod angen mwy o le llawr ar gyfer nwyddau cyfleus yn y
dref, o ran nifer ac ansawdd. Mae'r asesiad manwl yn dangos bod gan Ben-y-bont
ar Ogwr le ar gyfer un siop fwyd fawr arall hyd at 2016.

7.5.6. O ystyried y caniatâd cynllunio diweddar ar gyfer Asda yn Cheapside,
Pen-y-bont ar Ogwr a'r posibilrwydd o siopau nwyddau cyfleus newydd yn
Broadlands a Pharc Derwen, ystyria'r awdurdod cynllunio lleol nad oes angen
rhagor o siopau nwyddau cyfleus tu allan i drefi hyd at 2016. Ystyrir bod
polisïau manwerthu eraill y Cynllun yn ddigon cryf i ymdopi ag unrhyw newidiadau
mewn amgylchiadau a allai godi yn ystod bywyd y Cynllun.
7.5.7. Casglodd yr un asesiad angen fod angen 13,816 metr sgwâr o nwyddau nad
oeddent yn swmpus a 42,649 metr sgwâr o nwyddau cymhariaeth swmpus yn nhref
Pen-y-bont ar Ogwr hyd at 2016. Mae'r awdurdod cynllunio lleol yn credu y gellir
bodloni'r angen hwn yng nghanol trefi a dosbarthiadau Pen-y-bont ar Ogwr, gan
gynnwys y safleoedd ailddatblygu manwerthu allweddol a ddyrennir gan
bolisi R8
uchod, y canolfannau yn Broadlands a Pharc Derwen a'r tir ar ddatblygiadau
manwerthu presennol tu allan i ganol trefi (gweler
polisi R10); ni wnaed unrhyw
ddyraniadau newydd tu allan i'r canolfannau. Gofynnir i ddatblygwyr fod yn
hyblyg a mentrus o ran diwyg, cynllun a maint datblygiadau er mwyn gwneud hyn
cyn i'r farn hon gael ei diystyried ac wedyn dim ond ar ôl i feini prawf
Polisi
R9 gael eu cyflawni.
7.6. Manwerthu Newydd Tu Allan i Ganolfannau
7.6.1. Fel a fynegwyd eisoes, mae'r Cynllun hwn yn adlewyrchu cyngor y
Llywodraeth o ran canolbwyntio ar ganol trefi a chreu datblygiadau manwerthu
newydd. Byddwn yn gwrthwynebu cynigion ar gyfer datblygiadau mawr tu allan i
ganol trefi, gan gynnwys estyniadau i'r unedau presennol a chynigion i amrywio'r
nwyddau a werthir mewn siop, oni bai eu bod yn bodloni'r holl feini prawf a geir
ym mholisi R9.
7.6.2. MEINI PRAWF AR GYFER ASESU DATBLYGIAD MANWERTHU YCHWANEGOL TU ALLAN I
GANOL TREFI
POLISI R9
CANIATEIR CYNIGION AM DDATBLYGIAD MANWERTHU MAWR TU ALLAN I GANOL TREFI DIM OND
OS BODLONIR YR HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-
1. MAE ANGEN AM Y DATBLYGIAD;
2. YN NHREFN EU DEWIS: NID OES SAFLEOEDD PRIODOL AR GAEL AR GYFER Y CYNNIG O
FEWN CANOL TREFI; AR YMYL CANOL TREF; YNG NGHANOL DOSBARTH; NEU AR SAFLE NEU
DDYRANIAD MANWERTHU PRESENNOL;
3. NI FYDD Y CYNNIG, AR EI BEN EI HUN NEU AR Y CYD Â CHANIATÂD CYNLLUNIO NEU
YMRODDIADAU ERAILL YN Y CYNLLUN DATBLYGU, YN NIWEIDIO FFYNIANT NA DICHONOLDEB
CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG;
4. MAE MAINT, DEFNYDDIAU A CHYNLLUN Y CYNNIG YN DDERBYNIOL AC NID YW'N
NIWEIDIO'R AMWYNDER PRESWYL NAC AMGYLCHEDDOL;
5. GALL Y FFYRDD LLEOL YMDOPI Â'R TRAFFIG A FYDD YN CAEL EI GREU A BYDD MANNAU
PARCIO A GWASANAETHAU PRIODOL AR Y SAFLE;
6. LLEOLIR Y CYNNIG ER MWYN IDDO LEIHAU NIFER A HYD SIWRNEIAU CAR A GALL
DDIWALLU AR GYFER SIOPWYR NAD OES GANDDYNT GEIR A BYDD YN HAWDD EI GYRRAEDD MEWN
SAWL FFORDD, GAN GYNNWYS AR GLUDIANT CYHOEDDUS;
7. NI LEOLIR Y CYNNIG AR DIR A DDEFNYDDIR NEU A DDYRENNIR AR GYFER DIWYDIANT NEU
FUSNES SY'N GORFOD BODLONI NODAU CYFLOGAETH Y CYNLLUN;
8. NID YW'R CYNNIG YN PERYGLU STRATEGAETH ADFYWIO GYFREDOL.
7.6.3. Mae'r polisi hwn yn gofyn i ddatblygwyr brofi i'r Cyngor fod angen am
unrhyw gynnig i greu datblygiad manwerthu tu allan i ganol trefi. Nid yw'n
rhwydd diffinio angen ond byddai raid i'r Cyngor fod yn fodlon bod unrhyw gynnig
yn llenwi bwlch yn y patrwm o ddarpariaeth fanwerthu a bod digon o nerth gwario
i gyfiawnhau'r datblygiad. Dylai angen ymdrin â materion ansawdd hefyd a dylai
datblygwyr ddangos bod unrhyw ddatblygiad tu allan i ganol tref yn diwallu ar
gyfer marchnad nad yw'n cael ei bodloni ar hyn o bryd. Diffinnir angen ansoddol
yn bennaf fel cynnig mwy o ddewis, hygyrchedd a'r buddion amgylcheddol sy'n
gysylltiedig â lleihau dibyniaeth ar y car, ond gallai anghenion manwerthu ac
economaidd fod yn ystyriaethau pwysig hefyd.
7.6.4. Ar ôl sefydlu angen am unrhyw ddatblygiad, sy'n bodloni'r awdurdod
cynllunio lleol, gofynnir i ddatblygwyr ddangos eu bod wedi dilyn yr ymagwedd
gyfresol at ddewis safle. Atgoffir darpar ddatblygwyr o gyngor y Llywodraeth ar
y gofyn i fod yn hyblyg am gynigion ar gyfer datblygiadau newydd a dylent
ddangos pam na allant ddatblygu elfennau o'r cynllun mwy ar safleoedd llai mewn
mannau mwyn canolog â llai o le i barcio.
7.6.5. Yn hanfodol, bydd raid i'r awdurdod cynllunio lleol fod yn siŵr na
fydd datblygiad newydd yn cael effaith annerbyniol ar ganolfannau masnachol
sefydlog o ran symud masnach, nid yn unig yn y fwrdeistref sirol ond yn yr
ardaloedd cyfagos hefyd. Bydd raid i'r Cyngor fod yn sicr o ddyluniad
cydymdeimladol cynnig ac nad yw'n creu llif traffig annerbyniol.
7.6.6. Yn ychwanegol, dylai fod yn hawdd cyrraedd datblygiadau mewn sawl
ffordd, yn unol ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Diogelir tir a ddyrennir
ar gyfer cyflogaeth rhag defnyddiau eraill fel manwerthu ac ystyrir y mater hwn
yn fanylach yn y bennod am gyflogaeth. I gloi, bydd raid i'r Cyngor fod yn siŵr
na fydd unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn peryglu canlyniad neu weithrediad
arfaethedig a geir mewn unrhyw un o'i strategaethau adfywio cymeradwyedig.
7.7. Datblygiadau Manwerthu Sefydlog Tu Allan i Ganolfannau Masnachol
Sefydlog
7.7.1. Yn y fwrdeistref sirol, rhestrir y datblygiadau manwerthu sefydlog tu
allan i'r canolfannau masnachol ym
mholisi R10. Mae'r siopau yn y ddau barc
manwerthu'n tueddu i werthu nwyddau swmpus fel nwyddau DIY, nwyddau trydan a
dodrefn. Mae posibilrwydd cyfyng o ddatblygu Parc Manwerthu Pen-y-bont
ymhellach. Ym Mharc Manwerthu Waterton, mae peth datblygiad
chwaraeon/hamdden/ffitrwydd. Yn ychwanegol, mae dwy archfarchnad sefydlog tu
allan i'r ardaloedd masnachol ond o fewn amgylchedd trefol Pen-y-bont ar Ogwr.
7.7.2. SAFLEOEDD MANWERTHU SEFYDLOG TU ALLAN I GANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG
POLISI R10
DYRENNIR Y SAFLEOEDD CANLYNOL AR GYFER GWEITHGAREDD MANWERTHU TU ALLAN I'R
CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG:-
| SIOP |
CYFEIRIAD |
LLEOLIAD |
Cyswllt â’r Map |
| R10(1) AMRYWIOL |
PARC MANWERTHU PEN-Y-BRYN |
TU ALLAN I'R CANOL |
27 Dwyrain |
| R10(2) AMRYWIOL |
AMRYWIOL PARC MANWERTHU W |
TU ALLAN I'R CANOL |
28 Canolog |
| R10(3) SAINSBURY'S |
CEFN HIRGOED, |
TU ALLAN I'R CANOL |
21 |
| R10(4) TESCO |
LÔN Y BRAGDY, |
YMYL Y CANOL |
34 |
7.7.3. Mae polisi R10 yn cydnabod presenoldeb y datblygiadau ac ymroddiadau
hyn a cheisia gyfyngu eu maint yn y dyfodol, yn unol â'r polisi i gynnal a hybu
canol trefi a dosbarthiadau sefydlog.

7.8. Cyfyngiadau Maint ar Unedau Manwerthu Tu Allan i'r Canol
7.8.1. Oherwydd bod y parciau manwerthu traddodiadol yn Waterton a
Phen-y-bont ar Ogwr yn gwerthu nwyddau swmpus, mae holl unedau'r parciau hyn yn
adeiladau mawr o'u cymharu â siopau yng nghanol trefi. Mae natur yr unedau
manwerthu'n cydweddu â'r math o nwyddau sydd ganddynt o ran digon o le storio
a'r gallu i arddangos ystod eang o gynhyrchion swmpus. Byddai'r awdurdod
cynllunio lleol yn gwrthod unrhyw gynnig a fyddai'n ceisio isrannu'r unedau hyn
yn unedau llai. Wrth wneud hyn, mae perygl y byddai natur yr unedau a'r nwyddau
a werthir yn newid ac y byddent yn debycach i unedau a geir yng nghanol trefi,
gan gystadlu'n uniongyrchol â'r canol trefi felly. Ar gyfer datblygiadau newydd,
byddwn yn ychwanegu amodau at ganiatâd cynllunio.
7.9. Designer Outlet Village - Cymru
7.9.1. Mae datblygiad y Designer Outlet - Cymru ar gyffordd 36 o'r M4 wedi
rhoi dimensiwn newydd i fanwerthu tu allan i ganolfannau'r fwrdeistef sirol. Ers
iddo gael ei gwblhau yn 1998, mae'r datblygiad hwn wedi denu mwy na 2 filiwn o
ymwelwyr y flwyddyn. Rheolir natur y manwerthu a ganiateir gan gytundeb Adran
106 sy'n ei gwneud yn ganolfan fanwerthu benodol iawn. Mae'r ganolfan yn rhoi
cyfle i gynhyrchwyr werthu stoc y tymor blaenorol, nwyddau ail-law ac
enghreifftiau o nwyddau brand, gan gynnwys dillad, dillad chwaraeon, cyfarpar
ty, ayb am brisiau is. Mae'r ganolfan unigryw'n denu ymwelwyr a siopwyr o ardal
eang iawn a dengys tystiolaeth a gafwyd o arolygon fod 25% o'r gwerthiannau'n
deillio o gwsmeriaid sy'n byw mwy na 30 munud i ffwrdd yn y car; mae 12% o'r
gwerthiannau'n dod o gwsmeriaid sy'n byw mwy nag awr i ffwrdd. Gellir cymharu'r
Designer Outlet Cymru fel ffurf o weithgaredd siopa sydd ar wahân i'r
hierarchaeth fanwerthu arferol. Mae yna botensial i hybu canol trefi i ymwelwyr
i'r fwrdeistref sirol drwy deithiau siopa cysylltiedig er mwyn atgyfnerthu
ffyniant a dichonoldeb y canol trefi hynny. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn
ymwybodol y gallai datblygiad manwerthu nad yw'n cael ei gyfyngu ar y safle hwn
danseilio rôl y canol trefi. Bydd raid i'r Cyngor fod yn siŵr nad yw unrhyw
ddatblygiad pellach ar y safle hwn yn peryglu ffyniant a dichonoldeb canol
trefi, yn y fwrdeistref sirol a thu hwnt.

7.9.2. DESIGNER OUTLET VILLAGE - CYMRU
POLISI R11 (Cyswllt â’r Map 21)
DYRANNWYD TIR AR GYFFORDD 36 O'R M4 AR GYFER DESIGNER OUTLET - CYMRU. CANIATEIR
CYNIGION AM DDATBLYGIAD PELLACH AR Y SAFLE HWN OS:-
1. YW'R DATBLYGIAD ARFAETHEDIG YN UNOL Â'R CYTUNDEB ADRAN 106 SY'N CWMPASU'R
SAFLE;
2. NA FYDD UNRHYW EFFAITH DDRWG AR FFYNIANT A DICHONOLDEB Y CANOL TREFI
PRESENNOL;
3. NA FYDD YN ANNERBYNIOL OHERWYDD CREU TRAFFIG, TAGFEYDD TRAFFIG NEU BERYGLU
DIOGELWCH Y FFYRDD.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |