access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Cyfiawnhad O Bolisi Rhan 1
Rhan 2
Cyflwyniad
Tir Ansefydlog Yn Y Fwrdeistref Sirol
Cynigion Datblygu Ar Dir Ansefydlog
Polisi UNS1
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

Delwedd lenwi

13. TIR ANSEFYDLOG


13.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1

13.1.1. Lle mae gwybodaeth berthnasol ar gael, dylai'r cynllun datblygu nodi ardaloedd lle mae angen ystyried ansefydlogrwydd tir i sicrhau na fyddai datblygiad newydd mewn perygl o ymsuddiant, gollyngiadau nwy o waith glo a chladdu sbwriel, tirlithriadau a chreigiau'n cwympo, nad yw datblygiad yn digwydd mewn lleoliadau ansefydlog neu lle byddai gofyn am waith peirianneg cyhoeddus drud i ddiogelu'r datblygiad. Lle mae ansicrwydd ynghylch sefydlogrwydd, cyfrifoldeb y datblygwr fydd penderfynu ar oblygiadau'r cyfyngiadau hyn.

Back to Top


Rhan 2

13.2. Cyflwyniad

13.2.1. Gall tir ansefydlog gael ei achosi gan brosesau naturiol neu a wnaed gan ddyn. Y ffurf fwyaf cyffredin o dir naturiol ansefydlog yw tirlithriadau. Mae erydiad arfordirol yn cyfrif am beth ansefydlogrwydd mewn rhai ardaloedd o'r DU ond, yn ffodus, nid oes enghreifftiau penodol o hyn yn y fwrdeistref sirol. Gall achosion naturiol eraill gael eu hachosi gan gynnydd neu ostyngiad mewn dŵr daear, cywasgiad tir o ganlyniad i waith claddu sbwriel a thywydd eithafol.

Back to Top


13.3. Tir Ansefydlog yn y Fwrdeistref Sirol

13.3.1. Yn y fwrdeistref sirol, lleolir yr ardaloedd mwyaf ansefydlog mewn ardal i'r gogledd o linell a dynnir rhwng Garth, Maesteg a Chwm Ogwr. Yn gyffredinol, mae'r tirlithriadau hyn yn amrywio o ran maint a natur ac rydym yn ffodus bod y rhan fwyaf yn weddol bell o ardaloedd anheddu. Fodd bynnag, mae rhai tirlithriadau'n gorgyffwrdd â rhai ardaloedd â thai a gallent achosi difrod i eiddo. Rhaid pwysleisio fodd bynnag na fydd fawr o symudiadau rheolaidd ar y rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn.

13.3.2. Er mwyn gwneud y mwyaf o dir ar gyfer datblygu, mae'n hanfodol ystyried cyfyngiadau corfforol y tir wrth gynllunio bob amser. Rhaid archwilio unrhyw bosibilrwydd o fesurau adfer, ataliol neu ragofalus hefyd er mwyn peidio â sterileiddio'r tir yn ddiangen.

13.3.3. Mae'n bwysig cydnabod mai cyfrifoldeb y datblygwr yw penderfynu ar faint ac effaith yr ansefydlogrwydd neu unrhyw risgiau eraill. Rôl y Cyngor yw amlygu unrhyw risg hysbys neu bosibl er mwyn i unrhyw ddatblygiad gael ei gyflawni mewn ffordd ddiogel ac amgylcheddol dderbyniol.

13.3.4. Os na ellir goresgyn ansefydlogrwydd yn foddhaol, gall y Cyngor wrthod caniatâd cynllunio. Ar y llaw arall, gellir rhoi caniatâd yn amodol ar amodau ac mae'n bosibl y bydd raid i'r datblygwr wneud gwaith ymchwilio, asesu a lleddfu arbenigol.

13.3.5. Gellir cael cyfarwyddyd am ddatblygiad sy'n effeithio ar dir ansefydlog yn y Nodyn Cyngor Technegol drafft (NCT) - Cymru, dyddiedig Tachwedd 1996 ac yn rhannau o Nodyn Cyfarwyddyd Polisi Cynllunio Rhif 14 (1990).

13.3.6. O ystyried y blaenorol, ystyrir bod y polisi canlynol yn briodol ar gyfer cynigion sy'n effeithio ar dir ansefydlog yn y fwrdeistref.

The Bwlch, Nantymoel

13.3.7. CYNIGION DATBLYGU AR DIR ANSEFYDLOG

POLISI UNS1

LLE MAE CYNIGION YN EFFEITHIO AR DIR LLE TYBIR BOD Y TIR YN ANSEFYDLOG, RHAID I UNRHYW GAIS CYNLLUNIO GYNNWYS ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD SY'N:-

1. NODI AC ASESU FAINT O ANSEFYDLOGRWYDD SYDD;

2. NODI'R MESURAU SYDD EU HANGEN I LEDDFU YN ERBYN UNRHYW RISG A NODIR YN 1 (UCHOD);

3. MANYLU AR FONITRO CYSON LLE'N BRIODOL; AC SY'N

4. YMDRIN Â'R ANGEN AM ASESIAD AMGYLCHEDDOL FFURFIOL YN DEILLIO O UNRHYW WAITH SEFYDLOGI.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council