access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Cyfiawnhad O Bolisi Rhan 1
Tabl EMP1 Anghenion Cyflogaeth Tybiedig 1996-2016 Ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr
Rhan 2
Cyflwyniad
Cefndir
Ffigwr 5.1. Cyfraddau Hawlwyr Budd-Daliadau
Gofyn Am Dir Diwydiannol
Argaeledd Tir Sy’n Barod I’w Ddatblygu
Polisi E1
Safleoedd Cyflogaeth Cyffredinol
Dyraniadau Cyflogaeth ‘Allweddol’
Polisi E2
Industrial And Commercial Allocations
Polisi E3
Dyraniadau Busnesau Bach
Polisi E4
Gwella Ac Ailddatblygu Safleoedd Cyflogaeth A Nodwyd
Polisi E5
Safleoedd Cyflogaeth Arbennig
Diogelu Dyraniadau Cyflogaeth Arbennig
Polisi E6
Defnydd Arall Ar Gyfer Tir Diwydiannol
Diogelu Safleoedd Cyflogaeth A Nodwyd
Polisi E7
Datblygiad Diwydiannol A Masnachol Ar Safleoedd Heb Eu Dyrannu
Safleoedd Tir Llwyd Mewn Mannau Trefol
Polisi E9
Datblygu Swyddfeydd
Polisi E10
Datblygiad Masnachol Mewn Cefn Gwlad
Polisi E11
Gweithio Gartref
Polisi E12
Diwydiannau Sy’n Llygru A Datblygiadau Sy’n Cynnwys Sylweddau Peryglus
Diwydiannau Sy’n Llygru
Polisi E13
Diwydiannau Peryglus
Polisi E14
Safleoedd Sy’n Hysbysadwy
Polisi E15
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

Delwedd lenwi

5. CYFLOGAETH


5.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1

5.1.1. Er mwyn creu'r amodau iawn ar gyfer ffyniant economaidd, mae'n bwysig iawn cael cyflenwad digonol o dir i fodloni anghenion datblygu. Dywed cyngor y Llywodraeth y dylai awdurdodau lleol anelu at sicrhau bod digon o dir ar gael sy'n gallu cael ei ddatblygu ac a gefnogir yn dda gan isadeiledd, ar amrywiaeth o safleoedd, a chynnig cydbwysedd rhwng cyflogaeth a phoblogaidd cyn belled ag sy'n bosibl.

5.1.2. Un ffordd o asesu gofyn tir diwydiannol ardal yw amcangyfrif y gofyn am swyddi drwy gyfrif poblogaeth yr ardal yn y dyfodol a chyfraddau gweithgarwch economaidd. Trosir y gofyn hwn am swyddi i ofyn am dir drwy gymhareb dwysedd swyddi. Mae tabl EMP1 yn dangos y fethodoleg hon sy'n dibynnu ar y dybiaeth y bydd y gyfradd gweithgarwch economaidd ar gyfer dynion yn cwympo o 79.3% yn 1996 i 77% erbyn 2016; ac y bydd yn codi o 66.2% yn 1996 i 70% erbyn 2016 i fenywod. Seilir y dybiaeth hon ar gyfraddau cenedlaethol a gynhyrchwyd gan y cyn Swyddfa Gymreig yn y ddogfen Tueddiadau Economaidd Cymru ac ystyrir eu bod yn sail gadarn ar gyfer cyfrif, gan fod cyfraddau gweithgarwch economaidd 1991 ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn agos iawn i'r cyfraddau ar gyfer Cymru gyfan. Awgryma'r defnydd o'r cyfraddau hyn i'r boblogaeth o oedran gwaith y gallai poblogaeth economaidd weithredol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynyddu 3,783 yn ystod bywyd y cynllun o lefel 1996 o 57,205 i 60,988 erbyn 2016.

5.1.3. Mae tabl EMP1 yn tybio hefyd y bydd canran y boblogaeth sy'n economaidd weithredol, heblaw am y rhai sy'n teithio allan o'r fwrdeistref sirol a'r rhai ar un o gynlluniau'r Llywodraeth, yn aros ar lefel Cyfrifiad 1991 yn ystod bywyd y cynllun. Felly, byddai 'bwlch' o ryw 7,500. Wrth dybio dwysedd cyflogaeth o 50 fesul hectar ar gyfartaledd ac y darperir yr holl swyddi newydd ar safleoedd newydd, byddai angen 76 hectar o dir cyflogaeth er mwyn cynnal lefel 1996 o ddiweithdra. Er mwyn gostwng diweithdra i ddim, byddai gofyn am 146.26 hectar.

TABL EMP1
Anghenion Cyflogaeth Tybiedig 1996-2016 ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

A Cyflogaeth economaidd weithredol 57,205
B Di-waith 1996 3,548
C Ar gynllun hyfforddiant y Llywodraeth 687
D Gweithio yn yr ardal 47,495
E Gweithio tu allan i'r ardal 5,493
F Poblogaeth economaidd weithredol 2016 60,988
G Llai'r rhai sy'n gweithio  (C+D+E) 53,675
H Bwlch posibl (F-G) 7,313
I Twf posibl yn y bwlch swyddi (F-A) 3,783
J Tir sydd ei angen i gynnal lefel diweithdra 1996 (I/50) 75.66 Ha
K Tir sydd ei angen i ostwng diweithdra i ddim (H/50) 146.26 Ha

5.1.4. Tybia'r fethodoleg hon y darperir pob swydd newydd ar safleoedd newydd, sy'n anwybyddu'r posibilrwydd o gwmnïau brodorol yn dwysáu ac estyn. Ffordd fwy realistig o gyfrif gofynion tir cyflogaeth fyddai allosod y ganran hanesyddol o dir masnachol a diwydiannol y gofynnir amdano. Datgelodd yr arolwg o dir diwydiannol yn 2002 a wnaed gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol fod 479 hectar o dir yn cael ei ddefnyddio at bwrpasau diwydiannol a masnachol ar y safleoedd ac ystadau diwydiannol presennol. Gofynnwyd am y rhan fwyaf o hyn yn yr 20-30 mlynedd ddiwethaf. Mae'r Arolwg o Dir Diwydiannol 2002 yn datgelu bod 188 hectar o dir diwydiannol wedi ei ddatblygu ers 1985. Cynrychiola hyn gyfradd o ryw 11 hectar y flwyddyn ar gyfartaledd.

5.1.5. Mae'r 306 hectar o dir a ddyrannwyd ym Mholisi 5 ar gyfer datblygiad diwydiannol a masnachol yn fwy na digon felly i fodloni gofynion tir diwydiannol a masnachol disgwyliedig y fwrdeistref sirol yn y dyfodol. Yn ychwanegol, fel a welir yn nhabl EMP1, mae'r dyraniad tir yn ddigon i fodloni anghenion y boblogaeth dybiedig. Fodd bynnag, cydnabyddir bod anghenion diwydiannau mor amrywiol y dylai'r cyflenwad o dir diwydiannol fod yn fwy na'r galw disgwyliedig er mwyn cynnig dewis a hyblygrwydd a fydd yn helpu i farchnata safleoedd yn llwyddiannus.

5.1.6. Mae elfen o hyblygrwydd yn bwysig o ystyried nad yw canran sylweddol o'r tir diwydiannol a ddyrennir dan berchnogaeth gyhoeddus. Felly, bydd amseru a rhyddhau tir ar gyfer datblygiad diwydiannol yn dibynnu'n aml ar benderfyniadau masnachol perchnogion unigol a/neu ddatblygwyr eiddo ac ni all y Cyngor Bwrdeistref Sirol ddylanwadu arnynt yn uniongyrchol. Yn ychwanegol, cadwyd neu neilltuwyd rhan o'r dyraniad cyfan yn benodol ar gyfer estyn diwydianwyr penodol yn y dyfodol.

Back to Top


Rhan 2

5.2. Cyflwyniad

5.2.1. Un o brif swyddogaethau'r Cynllun Datblygu Unedol yw darparu fframwaith cynllunio er mwyn cyflawni'r nod economaidd o gynyddu ffyniant trigolion y fwrdeistref sirol.

5.2.2. Ceisia'r cynllun wella cyfleoedd gwaith drwy weithredu cynigion i ddefnyddio tir yn briodol a pholisïau eraill a anelir at hybu twf cyflogaeth yn llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn ymroddedig i gefnogi datblygiad yr economi leol heb beryglu'r nod cyffredinol o ddatblygiad cynaliadwy.

5.3. Cefndir

5.3.1. Bu newid sylweddol yn strwythur cyflogaeth Pen-y-bont ar Ogwr ers y 1980au cynnar. Llywodraethir proffil cyflogaeth heddiw gan y sector gwasanaeth, newid a ddigwyddodd ar draul dirywiad yn y diwydiannau gwneuthuriad a chynradd trwm yn bennaf.

5.3.2. Er gwaethaf llwyddiant sylweddol buddsoddiad mewnol a'r trawsffurfiad economaidd lleol o ddibyniaeth ar lo a pheirianneg drom i'r sefyllfa bresennol lle mae gwasanaethau a pheirianneg/gwneuthuriad ysgafn yn amlwg iawn, mae gwendidau sylweddol yn yr economi leol. Mae swyddi newydd a sefydlir yn y sector gwasanaeth sy'n tyfu'n tueddu i fod yn rhai rhan-amser ac felly nid ydynt yn digolledu am y swyddi a gollwyd yn y diwydiannau glo a chynhyrchu trwm.

5.3.3. Mae sawl dangosydd economaidd allweddol a ddefnyddir i sefydlu iechyd yr economi leol, megis niferoedd sy'n hawlio budd-daliadau a chyfraddau cyflogau, ynghyd â ffactorau cymdeithasol economaidd eraill, megis sylfaen sgiliau isel a phrinder sgiliau mentro, yn dangos gwendid sylfaenol yr economi. Nid yw'r cynnydd diweddar wedi bod yn ddigon i oresgyn y problemau economaidd a chymdeithasol cymhleth a sefydlog sydd gan y fwrdeistref sirol, yn enwedig yn ardaloedd difreintiedig y cymoedd.

Ffigwr 5.1. Cyfraddau Hawlwyr Budd-daliadau (fel canran y boblogaeth breswyl o oedran gwaith)

Figure 5.1 COMPARATIVE CLAIMANT COUNT RATES

5.3.4. Mae hybu datblygiad economaidd yn gyfrifoldeb nifer o gyrff gwahanol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu ei Uned Datblygiad Economaidd ei hun i wella gobeithion yr ardal. Mae hybu datblygiad economaidd yn effeithiol yn dibynnu ar gydweithrediad agos â'r cyrff a'r asiantaethau eraill, fel Awdurdod Datblygu Cymru, ELWA (Education and Learning Wales), Coleg Pen-y-bont ar Ogwr a Business in Focus sy'n helpu i hybu datblygiad diwydiannol a masnachol a lles yr economi leol a'i gweithlu.

5.3.5. Gall cyd-fentrau gyda'r cyrff hyn gael effaith sylweddol ar obeithion economaidd yr ardal, yn enwedig pan gydlynir nhw drwy raglenni adfywio cynhwysfawr. Mae'r Cynllun Datblygu Unedol yn elfen hanfodol yn y gweithrediad llwyddiannus o ymagwedd datblygiad economaidd gyd-drefnedig fel hon.

5.3.6. Dylai polisïau cyflogaeth atgyfnerthu a chydweddu â gobeithion datblygiad economaidd ac adfywio'r Cyngor ac asiantaethau allanol mewn ffordd gynaliadwy, heb beryglu nodau amgylcheddol a chymdeithasol y cynllun.

Back to Top


5.4. Gofyn am Dir Diwydiannol

5.4.1. ARGAELEDD TIR SY'N BAROD I'W DDATBLYGU

POLISI E1

BYDD CYFLENWAD O DIR SY'N BAROD I'W DDATBLYGU, SYDD AG ISADEILEDD DA, AR GAEL AT DDIBENION DIWYDIANNOL A MASNACHOL AR AMRYWIAETH O SAFLEOEDD.

55.4.2. Mae rhan 1 yn amlinellu'r achos am ddyraniad strategol 306 hectar o dir diwydiannol a masnachol. Fodd bynnag, er mwyn gwella gobeithion economaidd y fwrdeistref sirol, mae'n hanfodol cynnal cyflenwad o dir sy'n barod i'w ddatblygu. Bydd y polisi uchod yn sicrhau y gall y Cyngor fod yn fwy ymatebol i anghenion diwydiannau drwy gynnig cyfleoedd i fusnesau newydd neu rai sy'n ehangu. Felly, bydd cyflenwad ac ystod y tir cyflogaeth yn cael eu monitro'n flynyddol a chedwir gwybodaeth ar gronfa ddata sy'n adnabod tir sy'n gallu cael ei ddatblygu ar unwaith neu a fydd yn barod ymhen blwyddyn. Golyga hyn y bydd angen paratoi tir wrth i safleoedd eraill gael eu defnyddio a'u datblygu. Mae'r mesurau hyn yn unol â'r Cyfarwyddyd Cynllunio Strategol ar gyfer De-Ddwyrain Cymru. Mae'r tabl a geir yn yr Atodiad Cyflogaeth EMP1 yn categoreiddio tir diwydiannol gwag yn ôl ei argaeledd. Ym mis Rhagfyr 2002, roedd oddeutu 90 hectar o dir ar gael ar unwaith, sy'n cynrychioli mwy nag 8 blynedd o dir diwydiannol, ar sail cyfraddau derbyn blaenorol. Bwriedir diweddaru Atodiad Cyflogaeth EMP1 a'i wneud ar gael i'r cyhoedd bob blwyddyn er mwyn arwain Polisi E1 a rhoi gwybod am statws tir cyflogaeth sydd ar gael ar amryw safle fel a ddiffinnir gan bolisïau E2, E3, E4 ac E6.

Bridgend Business Park

5.4.3. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi a gweithredu mewn partneriaeth â sefydliadau preifat a chyhoeddus, ac unigolion, i hybu a rhyddhau safleoedd cyflogaeth ledled ardal y cynllun, drwy gyd-fentrau ariannu a chanlyn ffurfiau newydd o gymorth grant o'r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwn, gallai defnyddio arian Amcan 1 posibl fod yn sylweddol bwysig i adfywiad economaidd cyffredinol y fwrdeistref sirol gyfan. Bydd angen sicrhau ceisiadau llwyddiannus am gyllid drwy ymagwedd gyd-drefnedig o bartneriaeth, fel rhan o becyn cymdeithasol economaidd ehangach o fentrau adfywio.

Back to Top


5.5. Safleoedd Cyflogaeth Cyffredinol

5.5.1. DYRANIADAU CYFLOGAETH 'ALLWEDDOL'

POLISI E2

NEILLTUIR TIR AR GYFER BUDDSODDIAD AR RADDFA FAWR YN BENNAF AR Y SAFLEOEDD CYFLOGAETH 'ALLWEDDOL' CANLYNOL:-

    DEFNYDDIAU
PENODEDIG

Cyswllt â’r Map

E2(1) YSTAD DDIWYDIANNOL BRACKLA B1, B2, B8

21 Dwyrain

E2(2) YST. DDIW. PEN-Y-BONT AR OGWR B1, B2, B8

28 Gorllewin

E2(3) BRO-GASTELL B1, B2, B8

31

E2(4) YSTAD DDIWYDIANNOL WATERTON B1, B2, B8

28 Canolog

BYDD DATBLYGIAD SAFLE E2(3) YN UNOL Â PHECYN DATBLYGU A/NEU GYTUNDEB CYNLLUNIO/PRIFFYRDD PRIODOL. RHAID I'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL GYMERADWYO HYN YMLAEN LLAW CYN I'R DATBLYGIAD DDECHRAU.

Bridgend Ford Factory

Back to Top


5.5.2. DYRANIADAU DIWYDIANNOL A MASNACHOL

POLISI E3

DYRENNIR TIR AR GYFER DATBLYGIADAU DIWYDIANNOL A MASNACHOL SY'N DOD O FEWN Y DEFNYDDIAU PENODEDIG AR Y SAFLEOEDD CANLYNOL:-

   

DEFNYDDIAU
PENODEDIG

Cyswllt â’r Map
E3(1) YSTAD DDIWYDIANNOL ABERGARW* B1, B2, B8 15 Dwyrain
E3(2) PENCADLYS BRYNCETHIN* B1 15 Dwyrain
E3(3) YSTAD DDIWYDIANNOL BRYNMENYN B1, B2, B8 15
E3(4) COEGNANT, MAESTEG* B1, B2, B8 1 Canolog
E3(5) CORONATION WORKS, EVANS TOWN B1, B2, B8 13 Canolog
E3(6) YSTAD DDIWYDIANNOL EWENNY B1, B2, B8 28 Gorllewin
E3(7) YSTAD DDIWYDIANNOL HEOL EWENNY B1, B2, B8 5 Canolog
E3(8) YSTAD DDIWYDIANNOL YR EFAIL B1, B2, B8 32 Gorllewin
E3(9) GEORGIA PACIFIC, LLANGYNWYD B1, B2, B8 10 Dwyrain
E3(10) GREEN MEADOW, LLANGEINOR B1, B2, B8 11 Dwyrain
E3(11) YSTAD DDIWYDIANNOL HEOL TY GWYN* B1, B2, B8 5 Gorllewin
E3(12) YSTAD DDIWYDIANNOL ISFRYN* B1 16 Canolog
E3(13) TIR AR HEOL Y SPLOTT* B1, B2, B8 25 Canolog
E3(14) TIR YN NHONDU* B1, B2, B8 21 Gorllewin
E3(15) YSTAD DDIWYDIANNOL LITCHARD B1, B2, B8 21 Dwyrain
E3(16) SAFLE GORSAF BŴER LLYNFI* B1, B2 15 Gorllewin
E3(17) PENCADLYS MORGANNWG GANOL, WATERTON* B1, B2, B8 28 Gorllewin
E3(18) YSTAD DDIWYDIANNOL PENLLWYNGWENT* B1, B2 7
E3(19) YSTAD DDIWYDIANNOL DE CORNELI B1, B2, B8 25 Canolog
E3(20) YSTAD DDIWYDIANNOL FFERM Y PENTREFB1 B1, B2, B8 19 Dwyrain
E3(21) WERN TARW B1, B2, B8 16 Dwyrain
E3(22) CYN FFATRI BAIRDWEAR, PÎL B1, B2 19 Dwyrain

(* safle 'tir llwyd')

BYDD DATBLYGIAD SAFLEOEDD E3(14) AC E3(21) YN UNOL Â PHECYNNAU DATBLYGU A/NEU GYTUNDEBAU CYNLLUNIO/FFYRDD PRIODOL. RHAID I'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL GYMERADWYO'R RHAIN CYN I'R DATBLYGIAD DDECHRAU.

5.5.3. Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr hanes rhagorol o ddenu prosiectau buddsoddi mawr, yn bennaf oherwydd cyfathrebiadau ardderchog y fwrdeistref sirol - tair cyffordd i ffwrdd o'r M4, prif reilffordd a bod yn agos i Faes Awyr Caerdydd. Yn ychwanegol, gall yr ardal gynnig carfan fawr o weithwyr am gostau cystadleuol. Un nodwedd o'r 1990au yw cynnydd yn y gystadleuaeth am ddenu buddsoddiad newydd a gostyngiad yn y nifer o brosiectau a'u maint. Prif ffactor mewn bod yn llwyddiannus yw cael safleoedd sy'n hawdd mynd atynt sy'n agos i'r rhwydwaith ffyrdd strategol.

5.5.4. Mae Pen-y-bont yn dal i allu cynnig y gofynion hanfodol i ddenu prosiectau buddsoddi mawr ac mae'r Awdurdod hwn yn dal i fod yn ymroddedig i'r nod hwn. Mae'n hanfodol bwysig felly bod y CDU yn adnabod a diogelu'r safleoedd cyflogaeth 'allweddol' o ansawdd uchel, sy'n addas ar gyfer cyfleoedd buddsoddi, rhag datblygiadau eraill yn ystod bywyd y cynllun.

5.5.5. Nodweddir a gwahaniaethir y safleoedd cyflogaeth 'allweddol' a nodir gan bolisi E2 o safleoedd cyflogaeth eraill gan eu mynediad uniongyrchol i'r rhwydwaith ffyrdd strategol a'r ffaith eu bod yn fwy na 50 hectar. Gallant ddal defnyddwyr sengl graddfa fawr ar gyfer yr ystod lawn o weithgareddau B1, B2 a B8 ac maent yn ddigon agos i ganolfannau poblogaeth. Mae'r safleoedd hyn yn asedau pwysig i'r fwrdeistref sirol o ran swyddi presennol a'u gallu i ddenu prosiectau buddsoddi mawr pellach a chreu nifer sylweddol o swyddi ychwanegol.

5.5.6. Yn achos ystadau diwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr a Brackla, mae'r rhain wedi bod yn brif ganolbwynt ar gyfer prosiectau buddsoddiad mewnol mawr yn y fwrdeistref sirol ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol yn bresennol arnynt. Fel safleoedd cyflogaeth 'allweddol' dan bolisi E2, disgwylir iddynt barhau i wireddu'r swyddogaeth hon o ran datblygiad y tir gwag sydd ar ôl ac unrhyw gynigion ailddatblygu pwysig. Mae safle Bro-gastell yn safle heb ei ddatblygu a gafwyd gan Gynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr lle dyrannwyd ef at ddibenion cyflogaeth yn rhannol. Ystyrir mai Bro-gastell yw ased mwyaf y Cyngor o ran denu buddsoddiadau mawr oherwydd y 52 hectar o dir. Datblygir Bro-gastell yn unol â phecyn datblygu cymeradwyedig.

5.5.7. Os dymuna Pen-y-bont ar Ogwr gadw ei sylfaen ddiwydiannol gystadleuol, mae'n hanfodol i'r ardal gynnig portffolio eang o safleoedd. Yn ogystal â'r safleoedd pwysig hynny a nodwyd ac a ddiogelwyd dan bolisi E2, mae polisi E3 yn nodi amrywiaeth o safleoedd cyflogaeth sy'n briodol ar gyfer pob math o ddefnyddiau cyflogaeth o feintiau a mathau amrywiol.

5.5.8. Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd heb eu datblygu a gynhwysir ym mholisi E3 yn 'dir llwyd' a gellir eu hadnabod gan serennig*. Ac eithrio tir ar Heol y Splott, Pencadlys Bryncethin a chyn ffatri Bairdwear, dyrannwyd yr holl safleoedd uchod at ddibenion cyflogaeth gan Gynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr a/neu mae ganddynt ganiatâd cynllunio. Bydd gofyn ailddatblygu safleoedd mwy heb eu datblygu, fel y tir yn Nhondu a gorsaf bŵer Llynfi, a gwireddir eu potensial datblygu llawn dim ond os gellir sicrhau buddsoddiad isadeiledd o bwys. Bydd y buddsoddiad hwn yn dibynnu'n fawr ar flaenoriaethau ariannu asiantaethau allanol fel Awdurdod Datblygu Cymru ac ar geisiadau llwyddiannus am arian Ewropeaidd. Nodir a thrafodir y tir yn Nhondu ymhellach yn y penodau am adfywio a chludiant - cyfeirier at bolisïau REG 3(3) a T14(8).

Back to Top


5.5.9. DYRANIADAU BUSNESAU BACH

POLISI E4

DYRENNIR Y SAFLEOEDD CANLYNOL AC FE'U HYSTYRIR FEL SAFLEOEDD SY'N BRIODOL AR GYFER BUSNESAU BACH YN Y FWRDEISTREF SIROL:-

   

DEFNYDDIAU
PPENODEDIG

Cyswllt â’r Map
E4(1) IARD COYCHURCH, PEN-Y-BONT B1, B2, B8 27 Dwyrain
E4(2) YSTAD DDIWYDIANOL IARD CROSBY B1, B2, B8 27
E4(3) CILFFYRDD HEOL COETY, PEN-Y-BONT* B1, B2, B8 27
E4(4) PWLL Y WAUN, PORTHCAWL B1 29
E4(5) CANOLFAN FENTER, TONDU B1, B2, B8 15
E4(6) YSTAD DDIWYDIANNOL FFALDAU B1, B2, B8 6 Canolog
E4(7) HEOL Y GLAN, PORTHCAWL B1, B2, B8 29 Canolog
E4(8) SAFLE GOLCHDY MAESTEG B1 32 Dwyrain
E4(9) YSTAD DDIWYDIANNOL PENYBONT B1, B2, B8 27
E4(10) YSTAD DDIWYDIANNOL SPELTER B1, B2, B8 1
E4(11) TREWS FIELD, YSTAD DDIWYDIANNOL B1, B2, B8 27 Canolog

(* safle sy'n destun pecyn datblygu cymeradwyedig)

5.5.10. Un o wendidau economi de Cymru yw prinder diwylliant mentro. Yn draddodiadol, mae'r ardaloedd hynny sydd â sector busnes brodorol cryf yn fwy tebygol o oresgyn y cylchoedd ffynnu/methu sy'n nodweddiadol o economïau marchnad; felly, bydd iechyd a sefydlogrwydd yr economi leol yn fwy sicr os gallwn gyflymu a chynyddu nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn.

5.5.11. Anela'r polisi uchod at helpu yn y broses hon drwy adnabod safleoedd yn neu ger yr ardal drefol ar gyfer busnesau bach. O ran eu hygyrchedd â rhwydweithiau cludiant cyhoeddus a chymunedau preswyl, mae'r safleoedd hyn yn cyfrannu at nod cyffredinol y cynllun o hybu datblygiad cynaliadwy ac mae'n unol â'r cyngor a roddir ym Mholisi Cynllunio Cymru o ran ystyried anghenion busnesau bach. Nid yw llawer o fentrau sy'n cefnogi busnesau bach yn seiliedig ar ddefnydd tir ond yn hytrach maent yn canolbwyntio ar gyngor, hyfforddiant a chefnogaeth weinyddol. Fodd bynnag, wrth gydnabod mai safleoedd yn neu'n agos i'r ardal drefol yw'r dewis lleoliad ar gyfer datblygiadau bach sy'n debyg i weithdai, anela polisi E4 at gefnogi'r sector hwn o'r economi leol sy'n hawdd ei niweidio o ran defnydd tir.

Back to Top


5.5.12. GWELLA AC AILDDATBLYGU SAFLEOEDD CYFLOGAETH A NODWYD

POLISI E5

CANIATEIR GWELLIANNAU, AILDDATBLYGIADAU, ESTYNIADAU, TROSIADAU A DATBLYGIADAU LLENWI O FEWN DEFNYDDIAU PENODEDIG AC SY'N CYNNAL NEU'N GWELLA'R AMGYLCHEDD AR SAFLEOEDD A NODIR GAN BOLISÏAU E2, E3 A E4.

5.5.13. Mae polisi E5 yn darparu ar gyfer ystadau diwydiannol cyfredol ac arfaethedig i barhau i addasu ar gyfer amodau economaidd newidiol. Yn ychwanegol, cydnabyddir bod amgylchedd rhai ystadau wedi dirywio dros y blynyddoedd, gan wneud yr ardaloedd yn salw a pheidio ag annog buddsoddwyr. Er mwyn goresgyn y dirywiad hwn, mae gan y Cyngor y pŵer i ddatgan 'ardaloedd gwella diwydiannol' lle mae ganddo bwerau ac adnoddau arbennig i ddarparu gwelliannau amgylcheddol a chymorth ariannol i fusnesau preifat. Mae ardal gwelliant diwydiannol a rhaglen gwella ystad ddiwydiannol ar ystadau diwydiannol Fferm y Pentref, Brackla a Litchard ar hyn o bryd. Mae pecyn integredig o fentrau gwaith a chymuned wedi canolbwyntio ar Ystad Ddiwydiannol Fferm y Pentref fel rhan o Strategaeth Adfywiad Economaidd Cymuned Cynffig ac mae hyn wedi gwella amgylchedd a chyfleoedd gwaith yr ystad a'r gymuned. Ym Mrackla a Litchard, mae rhaglen wella'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd mewn partneriaeth ag ADC a Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr a dan arweiniad y Cydlynydd Amgylcheddol Busnes a gyflogir gan y Cyngor. Bwriad y polisi uchod felly yw cydweddu a chefnogi mentrau fel hyn.

Back to Top


5.6. Safleoedd Cyflogaeth Arbennig

5.6.1. DIOGELU DYRANIADAU CYFLOGAETH ARBENNIG

POLISI E6

DYRENNIR A DIOGELIR TIR AR GYFER SEFYDLU 'SAFLEOEDD CYFLOGAETH ARBENNIG' O ANSAWDD UCHEL. RHAID DATBLYGU'R SAFLEOEDD HYN I'R SAFONAU CYNLLUNIO AC AMGYLCHEDDOL UCHAF A CHEDWIR NHW'N BENODOL AR GYFER BUSNES UWCH DECHNOLEG A CHYNHYRCHU, YMCHWIL A DATBLYGIAD A SWYDDFEYDD PERTHYNOL, AC NID AR GYFER UNRHYW DDIBENION ERAILL. FELLY, DYRENNIR SAFLEOEDD FEL A GANLYN:-

    Cyswllt â’r Map
E6(1) PARC GWYDDONIAETH PEN-Y-BONT/FFERM YNYS; 27 Canolog
E6(2) TIR I'R DE-ORLLEWIN O SONY, PEN-COED; 23
E6(3) Y SAFLE TRIONGL, PEN-COED; 28 Dwyrain
E6(4) PARC TECHNOLEG PEN-COED; A 23
E6(5) FFERM TY DRAW, GOGLED CORNELI 19 Canolog

5.6.2. Nodwyd, diogelir a gwahaniaethir yr holl safleoedd uchod o safleoedd cyflogaeth eraill ar sail eu nodweddion corfforol a lleoliadol, yn enwedig eu lleoliadau ymylol ond amlwg ger mannau gwledig a'u hagosrwydd at y rhwydwaith ffyrdd strategol.

5.6.3. O ystyried lleoliadau sensitif y safleoedd hyn, byddai'r gofyn am safonau amgylcheddol a chynllunio uchel a chyson o fewn fframwaith cysyniadau cyffredinol yn hanfodol ar gyfer unrhyw ddatblygiad.

5.6.4. Lleolir tir i'r de-orllewin o Sony, y safle triongl ar gyffordd 35 a Fferm Ty Draw ar gyffordd 37 o draffordd yr M4 mewn mannau gweladwy ac amlwg. Mae'r tir ar Barc Technoleg Pen-coed yn ffurfio rhan o ddarn mwy o dir, rhyw 31.51 ha. Lleolir y rhan fwyaf ohono o fewn ffin weinyddol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a nodir ef at ddibenion cyflogaeth arbennig yng Nghynllun Lleol Taf Elai hefyd. Mae'r tir ar Fferm yr Ynys yn estyniad heb ei ddatblygu o Barc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr a ddatblygwyd yn llwyddiannus fel parc busnes gwyddoniaeth o fri a lle ceir nifer o fusnesau uwch dechnoleg. Mae darn presennol y safle'n cael budd o dirlunio helaeth ac mae'r adeiladau wedi eu cynllunio'n dda. Disgwylir i'r tir ar Fferm yr Ynys gael ei ddatblygu mewn ffordd debyg.

Back to Top


5.7. Defnydd Arall ar gyfer Tir Diwydiannol

5.7.1. DIOGELU SAFLEOEDD CYFLOGAETH A NODWYD

POLISI E7

NI CHANIATEIR CYNIGION SY'N ARWAIN AT GOLLI TIR DIWYDIANNOL PRESENNOL NEU FWRIADEDIG NEU ADEILADAU AR SAFLEOEDD A NODIR YM MHOLISÏAU E2, E3 AC E4. BYDD ANGEN CYFIAWNHAU EITHRIADAU AR UN O'R SEILIAU CANLYNOL:-

1. MEWN MANNAU PRIODOL, NIFER CYFYNG O'R DEFNYDDIAU HYNNY YR YSTYRIR EU BOD YN CYDWEDDU A/NEU'N ATEGU AT BRIF DDEFNYDD Y TIR AT DDIBENION DIWYDIANNOL; NEU

2. MEWN MANNAU PRIODOL, Y DEFNYDDIAU CYFLOGAETH SUI GENERIS HYNNY YR YSTYRIR EU BOD YN BRIODOL AR GYFER TIR DIWYDIANNOL.

5.7.2. Anela'r polisi hwn at ddiogelu swyddi presennol a sicrhau bod digon o gyfleoedd gwaith eang eraill ar gael ledled y fwrdeistref sirol, drwy wrthod ailddatblygu tir diwydiannol ac adeiladau a ddyrannwyd ar gyfer pwrpasau eraill. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan leolir safleoedd penodedig ger ffyrdd strategol a lle maent wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Yn yr amgylchiadau hyn, mae pwysau mawr iawn ar gyfer cynigion datblygu eraill, yn bennaf ar gyfer datblygiadau tai a manwerthu. Mae anghenion y datblygiadau hyn yn cael eu diwallu'n ddigonol mewn rhan arall o'r cynllun hwn.

5.7.3. Mae polisi E7 yn cydnabod hefyd bod ardaloedd diwydiannol yn gweithredu'n fwy effeithiol os gallant ddarparu elfen o wasanaeth i'w gweithwyr a chleientiaid. Yn y cyd-destun hwn, gellir ystyried defnyddiau nad ydynt yn ddiwydiannol os ydynt yn cydweddu ac yn ategu at y prif ddefnydd diwydiannol. Er hynny, bydd eu heffaith gynyddol yn ffactor i'w hystyried wrth benderfynu ar gynigion unigol. Yn ychwanegol, nid yw llawer o ddefnyddiau cyflogaeth sui generis yn cydweddu'n hawdd â chanol trefi neu ger ardaloedd preswyl; oherwydd eu natur, mae'n well lleoli'r rhain ar ystadau diwydiannol.

5.7.4. Rhaid nodi nad yw rhai safleoedd ac adeiladau diwydiannol wedi eu hamlygu'n benodol ar y map o gynigion. Mewn rhai achosion, gallai rhai datblygiadau fod yn ddefnyddiau amhriodol neu wrthgymdeithasol a byddai'n werth eu hadleoli neu osod defnydd mwy addas yn eu lle. Nid yw polisi E7 yn eithrio'r rhain gan eu bod yn ymwneud â safleoedd a nodir yn unig.

Back to Top


5.8. Datblygiad Diwydiannol a Masnachol ar Safleoedd heb eu Dyrannu

5.8.1. SAFLEOEDD TIR LLWYD MEWN MANNAU TREFOL

POLISI E9

CANIATEIR AILDDATBLYGU TIR AC ADEILADAU DIFFAITH, NAD YDYNT YN CAEL EU DEFNYDDIO, DARFODEDIG NEU WAG MEWN MANNAU TREFOL AT DDIBENION CYFLOGAETH, OS:-

1. YW'R DEFNYDD ARFAETHEDIG YN CYDWEDDU Â DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS

2. NAD YW'R DATBLYGIAD YN CYNNWYS COLLI BLAEN STRYD SIOPA PWYSIG NEU EIDDO MANWERTHU AR LEFEL Y LLAWR O FEWN ARDAL FASNACHOL SEFYDLOG

3. YW'R DATBLYGIAD ARFAETHEDIG YN GWELLA AMWYNDERAU AMGYLCHEDDOL LLEOL

4. YW'R FFYRDD YN GALLU YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y CYNNIG HEB UNRHYW EFFAITH ANNERBYNIOL AR LIF NA PHATRWM Y TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL

5.8.2. Mae'r polisi uchod yn hybu egwyddor sylfaenol y cynllun hwn o batrwm mwy cynaliadwy o ddatblygiad ac yn cwmpasu credau diweddaraf y Llywodraeth o ran y syniad o'r 'pentref trefol'. Mae'r ymagwedd hon yn cynnwys meithrin cymunedau mwy integredig drwy hybu datblygiadau defnydd cymysg.

5.8.3. O ran amwynderau gweledol, mae gan y polisi hwn fantais o roi defnydd i adeiladau salw sy'n cael effaith negyddol ar ardal ac sy'n atal buddsoddiad yn y dyfodol; mae hyn yn cydweddu â mentrau adfywio ledled y fwrdeistref sirol felly.

55.8.4. Mae'n briodol nodi y gall defnyddiau cyflogi fodoli yng nghanol aneddiadau heb fawr o darfu annerbyniol. Yn wir, o ran diffiniad, mae defnyddiau Dosbarth B1 o Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 yn cael eu hystyried yn rhai y gellir eu cael mewn ardal breswyl. Yn debyg, gallai cynigion cyflogaeth eraill a gyfyngir i gynhyrchu traffig ysgafn na fyddent yn effeithio ar amwynderau ardal fod yn dderbyniol.

Ravenscourt Offices - Bridgend

Back to Top


5.8.5. DATBLYGU SWYDDFEYDD

POLISI E10

BYDD CANOL TREFI PRESENNOL YN BRIF GANOLBWYNTIAU AR GYFER SWYDDFEYDD. FEL ARALL, CANIATEIR DATBLYGU SWYDDFEYDD DIM OND OS:-

1. YN NHREFN EU DEWIS, ASESWYD POB SAFLE CANOL TREF, AR YMYL CANOL Y DREF A THU ALLAN I DREFI'N DRYLWYR A GWELWYD NAD OES YR UN OHONYNT YN ADDAS

2. MAE CLUDIANT CYHOEDDUS DA I'R DATBLYGIAD ARFAETHEDIG

YNG NGHYD-DESTUN YR UCHOD, DYRENNIR Y SAFLEOEDD CANLYNOL:-

   

Cyswllt â’r Map

E10(1)

HEN BENCADLYS SWALEC, HEOL TREMAINS;

34

E10(2)

TIR I'R DE O STRYD MACKWORTH, PEN-Y-BONT AR OGWR;

34

E10(3)

THIR AR HEOL COETY, PEN-Y-BONT AR OGWR; A

34

E10(4)

HEN SAFLE PENCADLYS COURAGE, HEOL TONDU, PEN-Y-BONT
AR OGWR.

34

5.8.6. Ategir at nod y Llywodraeth o gynnal a gwella ffyniant, dymunoldeb a dichonoldeb canol trefi gan gyngor i annog amrywiaeth o ddefnyddiau o fewn canol trefi. Mae hyn yn cydnabod bod ffyniant canolfannau siopa'n dibynnu ar eu gallu i dynnu buddsoddiad o sectorau eraill o'r economi, ynghyd â sicrhau amrywiaeth ac ystod eang o siopau. Lle nad yw eiddo neu le gwag uwchben siopau'n debygol o gael eu hailddefnyddio at ddibenion manwerthu neu lle mae tir gwag neu dir nad yw'n cael llawer o ddefnydd yn bodoli ar ymylon ardal fasnachol, gallai fod yn briodol annog ystod o ddefnyddiau creu cyflogaeth. Gan fod gan ganol trefi gludiant cyhoeddus da fel arfer, bydd gosod defnyddiau creu cyflogaeth yn y canolfannau hyn yn cyfrannu at y nod cyffredinol o gynaladwyedd, drwy fwyhau'r cyfle sydd ar gael i weithwyr a siopwyr i ddefnyddio cludiant heblaw am eu ceir. Mae swyddfeydd yn ychwanegu at amrywiaeth mewn canol trefi hefyd a gallant ddenu nifer fawr o'r cyhoedd i'r ardaloedd hynny. Yn ychwanegol, gallant helpu i amrywio proffil cyflogaeth yr ardal a helpu i greu swyddi.

Back to Top


5.8.7. DATBLYGIAD MASNACHOL MEWN CEFN GWLAD

POLISI E11

CANIATEIR CYNIGION SY'N CYNNWYS DATBLYGU A/NEU AILWAMPIO ADEILADAU PRESENNOL YNG NGHEFN GWLAD DIM OND OS YDYNT YN AMRYWIO'R ECONOMI WLEDIG YN BRIODOL AC YN UNOL Â PHOLISÏAU  EV1, EV6 AC EV7.

5.8.8. Yn gyffredinol, mae datblygiad diwydiannol a masnachol gwledig yn debygol o amharu'n weledol ar y tirlun, bod yn gorfforol ynysig o gymunedau ac yn annhebygol o gael budd o wasanaeth cludiant cyhoeddus da. Felly, ni chaniateir datblygiadau cyflogaeth yn ein cefn gwlad lle byddai'n fwy priodol eu lleoli o fewn safleoedd diwydiannol sefydlog a dyranedig yn yr ardal drefol.

5.8.9. Fodd bynnag, mae rhai defnyddiau cyflogaeth yn briodol ar gyfer ardaloedd gwledig, yn bennaf mentrau amaethyddol neu goedwigaeth, datblygiadau sy'n perthyn i hamdden neu dwristiaeth sy'n gofyn am leoliad gwledig neu, ar gyfer ffurf briodol o amrywiaeth wledig, rhywbeth sy'n gysylltiedig â gweithdai crefft.

5.8.10. Yn arbennig, mae prosiectau amrywio ffermydd yn debygol o ddod yn gynyddol bwysig i'r gymuned ffermio ar adeg pan fo dulliau ffermio traddodiadol a magu anifeiliaid byw dan fygythiad ac mae incwm o ffermio'n gostwng. Yn unol â pholisi EV1, er y dylid rhoi ystyriaeth i addasu adeiladau presennol ar ffermydd, gallai darparu adeiladau newydd a gynlluniwyd yn sensitif yn gysylltiedig â chynllun amrywio fferm ar fferm sy'n gweithio ar dir fferm presennol fod yn briodol lle nad oes cyfle i drosi adeilad yn bodoli.

5.8.11. Disgwylir i'r gweithgareddau masnachol hynny a ystyrir yn briodol ac nad ydynt yn gwrthdaro â pholisïau amgylcheddol rywle arall yn y cynllun ar raddfa gymharol fechan. Gallai dwysáu defnydd sydd wedi cael caniatâd beri iddo fod yn ymwthiol ac felly gallai fod yn briodol cyfyngu datblygiadau yn y dyfodol gan amod neu gytundeb cynllunio i ddiogelu cymeriad gwledig ein cefn gwlad.

Back to Top


5.8.12 GWEITHIO GARTREF

POLISI E12

CANIATEIR CYNIGION I WEITHREDU BUSNES BACH O'R CARTREF OS:-

1. NA FYDD YN CAEL EFFAITH DDRWG AR GYMERIAD AC YMDDANGOSIAD YR ANNEDD;

2. NA FYDD UNRHYW DRAFFIG YCHWANEGOL A GYNHYRCHIR GAN Y CYNNIG YN ACHOSI GORMOD O BROBLEMAU AMWYNDERAU O RAN SŴN A PHARCIO AR STRYDOEDD AC NA FYDD YN PERYGLU DIOGELWCH Y FFYRDD;

3. NAD YW AMWYNDERAU PRESWYL YN CAEL EU COLLI OHERWYDD SŵN, AROGLAU, LLWCH, GOLAU NEU STORFEYDD DIOLWG.

5.8.13. Golyga datblygiad technoleg gyfrifiadurol fwy soffistigedig, defnyddio'r rhyngrwyd a chyfathrebiadau digidol fod mwy o'r boblogaeth yn ystyried gweithio o'u cartrefi. Nid yw tele-weithio'n mynnu llawer o addasiad i strwythur anheddau preswyl ac, mewn sawl achos, lle nad yw'r gwaith yn cynnwys gweithwyr ychwanegol heblaw am breswylwyr y cartref neu bobl sy'n galw heibio, ni fydd angen caniatâd cynllunio. Mae polisi E12 yn perthyn i'r ceisiadau dwysach hynny lle mae gofyn am ganiatâd cynllunio er y gallant fod yn amodol ar fodloni'r meini prawf uchod heb unrhyw effaith ddrwg ar y gymdogaeth gyfagos. Bydd datblygiadau fel hyn yn cael effaith sylweddol ar batrymau gwaith ac yn lleihau'r angen i deithio i'r gwaith bob dydd. Bydd yn cyfrannu at nod cyffredinol y cynllun felly o gyflawn patrwm datblygu cynaliadwy.

5.8.14. Yn ychwanegol, mae achlysuron lle gall mentrau bach weithredu o fodurdai neu adeiladau allanol sy'n rhan o gartref. Mae rheoli dwysedd a maint y mentrau hyn a'u heffaith ar eiddo cyfagos yn ystyriaeth hanfodol wrth benderfynu ar y cynigion ac anelir y meini prawf sy'n perthyn i bolisi E12 at helpu i gael cydbwysedd priodol.

science Park, Bridgend

Back to Top


5.9. Diwydiannau sy'n Llygru a Datblygiadau sy'n cynnwys Sylweddau Peryglus

5.9.1. DIWYDIANNAU SY'N LLYGRU

POLISI E13

CANIATEIR DATBLYGIADAU DIWYDIANNOL A ALLAI ACHOSI LLYGREDD NEU FOD YN BERYGL I IECHYD A DIOGELWCH DIM OND OS GELLIR DANGOS BOD FFORDD O FONITRO A RHEOLI GWAITH DIWYDIANNOL AC UNRHYW OLLYNGIADAU I FODLONI SAFONAU A NODAU ANSAWDD AMGYLCHEDDOL.

5.9.2. Mewn sawl achos, gellir goresgyn effeithiau llygredd rhai defnyddiau diwydiannol drwy weithredu amodau cynllunio. Fodd bynnag, ystyrir pob cynnig ar ei deilyngdod ei hun. Rhoddir sylw penodol i allu'r awdurdod lleol a chyrff rheoleiddio eraill i fonitro a rheoli unrhyw ddefnyddiau sy'n llygru a gallu'r cyrff rheoleiddio i erlyn, os eir y tu hwnt i'r lefelau cytunedig a derbyniol o ollyngiadau. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am asesiadau effaith amgylcheddol er mwyn helpu i benderfynu ar gynigion lle ystyrir bod datblygiad yn cael effaith amgylcheddol sylweddol tebygol oherwydd ffactorau fel ei natur, maint neu leoliad, yn unol â'r cyngor yng nghylchlythyr y Swyddfa Gymreig 11/99.

5.9.3. Ystyriaethau eraill fydd yr angen i leoli'r datblygiadau hyn i ffwrdd o ardaloedd preswyl a masnachol. Yn ychwanegol, mae sawl cwmni presennol yn mynnu amgylchedd o ansawdd, gan gynnwys aer glân.

Back to Top


5.9.4. DIWYDIANNAU PERYGLUS

POLISI E14

ARCHWILIR CYNIGION SY'N CANIATÁU I DDATBLYGIAD DIWYDIANNOL FEWNFORIO, STORIO, CYNHYRCHU, LLOSGI, GWAREDU NEU DDOSBARTHU SYLWEDDAU PERYGLUS YN OFALUS. NI CHANIATEIR Y RHAI SY'N BERYGLUS I BOBL, EIDDO NEU'R AMGYLCHEDD ONI BAI Y GELLIR GOSOD A CHYNNAL MESURAU LLINIARU I GAEL GWARED AR Y PERYGLON HYN NEU EU GORESGYN.

5.9.5. Mae'r polisi uchod yn perthyn i'r diwydiannau hynny sy'n mewnforio, storio, cynhyrchu, llosgi, gwaredu neu ddosbarthu sylweddau peryglus diffiniedig mewn meintiau sy'n golygu y byddent yn destun Rheoliadau Cynllunio (Rheoli Prif Beryglon Damweiniau) (COMAH) 1999 A1 Rhif 981. Oherwydd natur drefol y rhan fwyaf o'r fwrdeistref sirol, ni ystyrir y dylid sefydlu diwydiannau fel y rhain yn yr ardal.

5.9.6. Nid oes gan y fwrdeistref sirol unrhyw ddiwydiannau sy'n destun Rheoliadau Cynllunio (COMAH) 1999 A1 Rhif 981. Fodd bynnag, mae gan yr ardal nifer o safleoedd a phrosesau a bennir fel rhai y dylid eu hysbysu i'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch oherwydd symiau'r sylweddau peryglus a gedwir neu a gludir ganddynt. Er eu bod yn destun rheolaeth gaeth dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, ystyriwn ei fod yn ddoeth rheoli datblygiad yn agos iddynt, proses a gyflawnir yn drylwyr fel rhan o'r broses rheoli datblygiad. Mae'r polisi canlynol yn gymwys felly.

Back to Top


5.9.7. SAFLEOEDD SY'N HYSBYSADWY

POLISI E15

CANIATEIR DATBLYGU GER SAFLEOEDD HYSBYSADWY PRESENNOL DIM OND AR ÔL I'R AWDURDOD CYNLLUNIO GAEL CYNGOR GAN Y WEITHREDIAETH IECHYD A DIOGELWCH.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council