access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Justification of Part 1 Policy
Part 2
Introduction
General Provision
Provision Of Social & Community Facilities
Policy SC1
Protection Of Existing Social And Community Facilities
Policy SC2
Social Services
Health Services
Provision For Medical Related Developments
Policy SC3
Provision Of New Health Clinics
Policy SC4
Education Services
General Provision Of Education Facilities
Policy SC5
Community Centres
General Provision Of Community Centres
Policy SC6
Library Services
Police Services
Post Office Services
Fire Services
Burial Grounds
Provision For Cemeteries
Policy SC8
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

Delwedd lenwi

10. GWASANAETHAU A CHYFLEUSTERAU CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL


10.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1

10.1.1. Mae angen mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol sylfaenol ar bob cymuned ddichonol. Felly, mae'r Cyfarwyddyd Polisi Cenedlaethol yn cynghori bod angen asesu gallu'r isadeiledd presennol a'i ofynion lleoli i'w galluogi i gwrdd â'r galwadau a osodir arnynt ynghyd ag ystyried effeithiau amgylcheddol y defnyddiau ychwanegol hyn.

10.1.2. Mae'n bwysig diogelu'r cyfleusterau presennol a sicrhau rhai newydd er mwyn diwallu anghenion lleol. Darperir y rhan fwyaf o'r gwasanaethau a chyfleusterau hyn gan y sector cyhoeddus ond yn bennaf gan gyrff tu hwnt i reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Back to Top


Rhan 2

10.2. Cyflwyniad

10.2.1. Mae cyfleusterau a gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol sylfaenol yn cynnwys siopau, celfyddydau/diwylliant/adloniant, addysg, iechyd, hamdden, mannau crefyddol, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, swyddfeydd post, llyfrgelloedd, mynwentydd, yr heddlu a'r gwasanaeth tân. Gellir eu hystyried fel grŵp â llawer o nodweddion cyffredin at ddibenion cynllunio defnydd tir oherwydd dylid ystyried y gofyn am fynediad eang i ddarpar ddefnyddwyr. Mae'n bwysig felly i sicrhau y darperir gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol mewn lleoliadau sy'n hawdd mynd atynt ac sy'n cydweddu â'r amgylchedd lleol.

10.2.2. Mae ystod eang o asiantaethau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn rhan o ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol, y rhan fwyaf ohonynt tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Fodd bynnag, y Cyngor yw'r prif ddarparwr o wasanaethau addysg, hamdden, cymdeithasol a mynwentydd. Darperir gwasanaethau iechyd gan awdurdodau iechyd lleol. Darperir gweddill y gwasanaethau gan gymysgedd o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

10.2.3. Bydd y Cyngor yn annog asiantaethau statudol a gwirfoddol i fuddsoddi yn y gwasanaethau er mwyn gwella ansawdd bywyd yn y fwrdeistref sirol. Er bod gan y gwahanol gyrff orwelion amser gwahanol o ran eu datblygiadau cynlluniedig, bydd y Cyngor yn disgwyl iddynt gychwyn ar y cynlluniau hyn o fewn amserlen y CDU.

10.2.4. Mae'r asiantaethau cyfrifol wedi nodi bod cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol y fwrdeistref sirol yn gyffredinol foddhaol ac eithrio rhai anawsterau a achosir gan oedran a lleoliad rhai ysgolion cynradd, ynghyd â'r gofyn i ddarparu cyfleusterau gofal cymunedol cynyddol.

10.2.5. Mae'r CDU yn ymwneud yn bennaf â goblygiadau defnydd tir a datblygu darpariaeth y cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol hyn yn y fwrdeistref sirol. Ac eithrio pwysigrwydd swyddogaethau mawr fel gwasanaethau addysg, iechyd a chymdeithasol, nid yw dylanwad llawer o'r cyfleusterau hyn ar ddefnydd tir yn fawr iawn. Fodd bynnag, gallai polisïau'r CDU effeithio ar flaengynllunio'r gwasanaethau hyn drwy gyflwyno newidiadau lleoliadol a demograffig yn y boblogaeth. Mae cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol yn bwysig i'r CDU gan eu bod yn dylanwadu ar leoliad datblygiadau ac yn effeithio ar natur rhai polisïau. Yn ychwanegol, mae cyfarwyddyd cynllunio'r Llywodraeth yn gofyn i awdurdodau cynllunio ystyried ystyriaethau cymdeithasol mewn polisïau defnydd tir a sicrhau y darperir tir ar gyfer ysgolion ac addysg uwch, mannau addoli a chyfleusterau cymunedol eraill.

Back to Top


10.3. Darpariaeth Gyffredinol

10.3.1. Er bod rhagdybiaeth gyffredinol o blaid cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol mewn ardaloedd preswyl a dibreswyl, mae'r ddarpariaeth yn dibynnu ar y safleoedd a'r eiddo sydd ar gael, drwy gyflwyno safleoedd datblygu newydd, tir ar gael i'w ailddatblygu, tir neu eiddo'n weddill i ofynion a thrwy estyniadau a throsiadau i eiddo sy'n bodoli eisoes. Lle mae maint datblygiad newydd yn gofyn am ddarparu cyfleusterau newydd, ystyrir ei bod yn briodol i'r datblygiad gyfrannu at eu darpariaeth.

Broadlands Primary School

10.3.2. DARPARU CYFLEUSTERAU CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL

POLISI SC1

CANIATEIR CYNIGION I DDATBLYGU CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL A CHYMDEITHASOL I FODLONI ANGHENION CYMDEITHASOL, OS:-

1. NA FYDD Y CYNNIG YN PERYGLU STRATEGAETH ADFYWIO SY'N BODOLI EISOES;

2. GELLIR DANGOS BOD Y LLEOLIAD YN BRIODOL I'R CYNNIG;

3. MAE CLUDIANT CYHOEDDUS DA I'R CYNNIG AC MAE'N YMDRIN AG ANGHENION TEITHWYR NAD OES GANDDYNT GEIR A'R PRIF RWYDWAITH FFYRDD;

4. GALL Y FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG SY'N CAEL EI GREU GAN Y CYNNIG HEB EFFEITHIO AR LIF A PHATRYMAU TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL;

5. BYDD DIGON O LE I BARCIO CEIR YNO;

6. NAD YW'R DATBLYGIAD YN EFFEITHIO'N DDRWG AR YR ARDALOEDD CANLYNOL A'U CWMPASOEDD:-

i) ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;
ii) cSAC CYNFFIG;
iii) Y GWASTADEDD GLO STRATEGOL AC YMYLON CYMOEDD CYSYLLTIEDIG;
iv) SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG AC ARDALOEDD AMGYLCHEDDOL SENSITIF ERAILL; A

7. GELLIR CYNNWYS Y DATBLYGIAD I MEWN I'R AMGYLCHEDD O RAN EI LEOLIAD, MAINT, DYLUNIAD A THIRLUNIO.

Back to Top


10.3.3. Mae'n bwysig diogelu'r cyfleusterau presennol a sicrhau rhai newydd er mwyn bodloni anghenion lleol. Mae'r cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol presennol yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol. Oni bai eu bod yn wag neu mewn lleoliad gwael, mae'n gwneud synnwyr i wneud y mwyaf ohonynt a gwrthod cynigion a fyddai'n tanseilio eu pwysigrwydd.

10.3.4. DIOGELU'R CYFLEUSTERAU CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL PRESENNOL

POLISI SC2

CANIATEIR DATBLYGIAD SY'N ARWAIN AT GOLLI CYFLEUSTER CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL DIM OND LLE:-

1. MAE LLEOLIAD PRIODOL ARALL AR GAEL AC MAE'R DATBLYGWR YN DARPARU CYFLEUSTER SY'N CYNNIG YR UN BUDD CYMUNEDOL; NEU

2. GELLIR CYNNWYS Y CYFLEUSTER YN Y DATBLYGIAD NEWYDD; NEU

3. YM MARN YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL, MAE GORMOD O DDARPARIAETH YN YR ARDAL EISOES.

Back to Top


10.4. Gwasanaethau Cymdeithasol

10.4.1. Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar y cyd â nifer o asiantaethau statudol, gan gynnwys Awdurdod Iechyd Morgannwg a Mudiad Cyrff Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae asiantaethau annibynnol, gan gynnwys y rhai o'r sector preifat, yn chwarae rhan bwysig mewn darparu ystod o wasanaethau.

10.4.2. Mae newidiadau mewn deddfwriaeth wedi gweld newid pwyslais o ofal mewn sefydliad i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol. Esboniwyd ymroddiad y Llywodraeth i ofal yn y gymuned yn ei Phapur Gwyn "Gofalu am Bobl" ac arweiniodd at ddiwygiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol a Gofal Cymunedol 1990. Yn ddiweddarach, gosododd "Adeiladu ar gyfer y Dyfodol" weledigaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, gan gwmpasu gwerth gorau a fframwaith cynllunio newydd. Mae Deddf Plant 1989 eisoes wedi darparu ar gyfer newidiadau mawr yn y ffordd y mae'r Cyngor ac asiantaethau eraill yn ymateb i anghenion plant. Mae'r rhaglen 'Plant yn Gyntaf' yng Nghymru wedi datblygu agenda diogelu a rheoli perfformiad newydd ar gyfer awdurdodau lleol. Prif oblygiadau defnydd tir y newidiadau hyn yw cau sefydliadau preswyl mawr a rhyddhau safleoedd ar gyfer defnyddiau eraill, ynghyd â'r angen am greu darpariaeth yn y gymuned, megis cartrefi grwpiau bach a chanolfannau gofal dydd.

10.4.3. Mynegwyd pryder yn aml ynghylch y twf yn y sector gofal preswyl preifat. Oni bai eu bod yn cael eu rheoli neu eu darparu gan gorff a gyfansoddir gan fesur seneddol neu wedi eu cynnwys gan siartr frenhinol, rhaid i bob cartref preifat a gwirfoddol, ac eithrio'r rhai â thri gwely neu lai, gyda'r Cyngor neu'r Awdurdod Iechyd. O safbwynt gynllunio, fodd bynnag, mae'r Cyngor yn poeni am yr effaith y mae sefydliad arfaethedig neu ei golled yn ei chael ar amwynderau a'r amgylchedd - hynny yw, materion cynllunio defnydd tir.

Back to Top


10.5. Gwasanaethau Iechyd

10.5.1. Gwelodd y gwasanaethau iechyd newidiadau mawr o ran eu rheolaeth a threfniant yn y 1990au. Mae Awdurdod Iechyd Morgannwg yn comisiynu gwasanaethau iechyd ar ran trigolion bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif ddarparwr y gwasanaethau iechyd yw Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, ystyrir bod y gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn foddhaol.

10.5.2. Bu newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ym mhatrymau gofal, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd, ym marn yr Awdurdod Iechyd, yn grwpiau o flaenoriaeth genedlaethol fel yr henoed, pobl â salwch meddwl a phobl ag anableddau meddwl. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiad strategaethau cynllunio newydd yn yr Awdurdod Iechyd e.e. mae'r pwyslais yng ngofal yr henoed wedi newid o ofal yn yr ysbyty i adfer gweithredol a mwy o bwyslais ar ofal yn y gymuned.

10.5.3. Yn debyg i'r gwasanaethau cymdeithasol, y prif newid defnydd tir yw'r symudiad tuag at ofal cymunedol, sydd wedi arwain at ryddhau safleoedd ysbytai a'r angen am rwydwaith o ysbytai cymunedol.

10.5.4. Yn y gwasanaethau tostrwydd difrifol, mae datblygiadau parhaus mewn arfer meddygol a defnydd mwy o dechnoleg wedi arwain at gleifion yn aros llai o amser yn yr ysbyty. O ganlyniad, gostyngwyd y gofyn am adeilad traddodiadol â wardiau tra bod yr angen am adeiladau ar gyfer cyfleusterau newydd wedi cynyddu. Gan fod llawer o ysbytai wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle na fyddai datblygiad newydd yn cael ei ganiatáu fel arfer, cynhwyswyd polisi SC3 i gefnogi datblygiadau meddygol priodol yn y lleoliadau hyn. Bydd y Cyngor yn asesu datblygiadau ar dir ysbytai'n ofalus iawn. Cefnogir cynigion sydd o fudd i well ofal meddygol ar safleoedd ysbytai.

10.5.5. DARPARU AR GYFER DATBLYGIADAU MEDDYGOL

POLISI SC3

CANIATEIR DATBLYGIADAU MEDDYGOL NEWYDD AR DIR YSBYTAI PRESENNOL OS BYDD Y DATBLYGIAD YN DOD Â BUDD I OFAL IECHYD.

Back to Top


10.5.6. Pwysleisia polisïau iechyd cenedlaethol presennol y rôl gynyddol y bydd gwasanaethau iechyd cymunedol yn ei chwarae o ran atal salwch a chynnig gofal i gleifion sydd ar hyn o bryd yn treulio llawer o amser yn yr ysbyty. Prif hwb Deddf GIG a Gofal Cymunedol yw y dylai cleifion fyw yn y gymuned mewn tai cyffredin a chael mynediad i'r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol personol hynny sydd ar gael i weddill y gymuned. I gael digon o ddarpariaeth ledled y fwrdeistref sirol, mae'r Awdurdod Iechyd yn bwriadu creu clinigau iechyd ym Mhen-y-bont a Bro Ogwr. Fodd bynnag, ni ddiffiniwyd y tir a'i ffiniau hyd yma. Er mwyn darparu'r cyfleusterau hyn:-

10.5.7. DARPARU CLINIGAU IECHYD NEWYDD

POLISI SC4

BYDD SAFLEOEDD AR GYFER CLINIGAU IECHYD NEWYDD YM:

SC4(1) MHEN-Y-BONT, GER YSBYTY TYWYSOGES CYMRU;(Cyswllt â’r Map 27 Dwyrain)
SC4(2) BRO OGWR, DE PENLLWYNGWENT (ESTYNIAD). (Cyswllt â’r Map 7)

Back to Top


10.6. Gwasanaethau Addysg

10.6.1. Y Cyngor fel yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl) sy'n gyfrifol am addysg y fwrdeistref sirol. Bydd y CDU yn ystyried darpariaeth addysg yn nhermau corfforol yn hytrach na'r safonau cyrhaeddiad neu weinyddiaeth y system addysg ei hun.

10.6.2. Rhaid i ysgolion berthyn i'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau am ddau reswm. I ddechrau, maent yn chwarae rôl bwysig fel adeiladau cymunedol ac fel canolbwynt ymarferol a seicolegol i'w cymunedau. Yn ail, gan fod teithiau hir i'r ysgol yn ddrud, anghyfleus ac yn anghynaladwy o ran annog pobl i deithio yn eu car heb angen, mae achos amlwg i leoli cyfleusterau addysg mor agos â phosibl i'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

10.6.3. Penderfynir ar ofynion addysgol unrhyw ardal gan nifer y plant o oedran ysgol yn yr ardal. Yn y cymoedd, adeiladwyd canran uchel o'r ysgolion yn y 19eg a'r 20fed ganrif gynnar. O ganlyniad i newidiadau demograffig, nid oes cymaint o blant yn defnyddio'r ysgolion hyn a golyga hyn, ar y cyd â'u cyflwr corfforol anfoddhaol, y bydd angen newid y sefyllfa. Fodd bynnag, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dyraniad yr AALl o'r Rhaglen Adeiladu Gyfalafol wedi golygu bod y posibilrwydd o amnewid yr ysgolion hyn wedi bod yn gyfyng iawn.

10.6.4. Dengys y map cynigion leoliad cyffredinol y cyfleusterau addysg. Nid yw'r tir a ffiniau safleoedd wedi eu pennu hyd yma. Mae'r lleoliadau cyffredinol fel a ganlyn:-

10.6.5. DARPARU CYFLEUSTERAU ADDYSG

POLISI SC5

CANIATEIR CYFLEUSTERAU ADDYSG YN Y LLEOLIADAU CANLYNOL:-

SC5(1)   BLAENGARW; (Cyswllt â’r Map 6 Canolog)
SC5(2)   PENLLWYNGWENT, BRO OGWR; (Cyswllt â’r Map 7)
SC5(3)   TIR GER YSTAD DDIWYDIANNOL PENLLWYNGWENT, BRO OGWR; (Cyswllt â’r Map 7)
SC5(4)   CAERAU; (Cyswllt â’r Map 1 Canolog)
SC5(5)   SPELTER, NANTYFFYLLON; (Cyswllt â’r Map 1)
SC5(6)   CILGANT Y SANTES FAIR, GARTH; (Cyswllt â’r Map 5)
SC5(7)   TIR GER YSGOL GYNRADD CWMFELIN, CWMFELIN; (Cyswllt â’r Map 10 Canolog)
SC5(8)   TIR GER YSGOL GYNRADD NEWTON, NEWTON, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 29 Canolog)
SC5(9)   TIR GER RHODFA ERW WERDD, PENCOED; (Cyswllt â’r Map 22)
SC5(10) TIR I'R DWYRAIN O GANOL Y DOSBARTH, BRACKLA, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 27 Dwyrain)
SC5(11)  DE-ORLLEWIN PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 27)
SC5(12)  GOGLEDD-DDWYRAIN PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 21)
SC5(13)  TIR GER YSGOL GYFUN UWCH MAESTEG, PONT RHYD-Y-CYFF; (Cyswllt â’r Map 10)
SC5(14)  CYN OLCHDY MAESTEG, MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 5)
SC5(15)  HEOL EGLWYS, PENYFAI. (Cyswllt â’r Map 21)

10.6.6. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cydnabod y potensial i estyn defnydd ysgolion tu hwnt i bwrpasau addysg arferol yn ystod y dydd, yn enwedig lle mae adeiladau ysgol yn adeiladau priodol ar gyfer gweithgareddau cymunedol a hamdden. Mae'r angen i gael y defnydd mwyaf o'r adeiladau hyn yn arbennig o berthnasol ar hyn o bryd gan fod cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus yn atal cyfle i greu cyfleusterau cymunedol a hamdden newydd.

10.6.7. O ran ysgolion newydd neu newid ysgolion presennol, mae'r Cyngor yn ystyried y dylid ymchwilio i ddefnydd cymunedol o'r adeiladau a'r caeau chwarae yn ystod y camau cynllunio dechreuol.

Back to Top


10.7. Canolfannau Cymuned

10.7.1. Er ei bod yn ymddangos bod yna ddigon o ganolfannau cymuned yn y rhan fwyaf o ardaloedd h.y. 20 canolfan ym mis Ionawr 1987, gallai rhai grwpiau unigol fod yn cael anawsterau wrth ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, yn enwedig os mai unigolion neu gwmnïau preifat sy'n berchen arnynt. Gallai fod angen creu canolfannau y mae'r Awdurdod Lleol yn berchen arnynt neu estyn defnydd adeiladau eraill dan berchnogaeth y Cyngor. Mae'n bosibl y bydd gofyn am ragor o ganolfannau cymunedol mewn rhai ardaloedd oherwydd datblygiadau newydd a/neu dwf yn y boblogaeth. Nodwyd lleoliadau bras ar gyfer canolfannau newydd ar y map cynigion ond nid yw'r ffiniau penodol wedi eu cadarnhau hyd yma.

10.7.2 DARPARU CANOLFANNAU CYMUNED

POLISI SC6

CANIATEIR CANOLFANNAU CYMUNED YN YR ANHEDDIADAU CANLYNOL:-

SC6(1)   BLACKMILL (Cyswllt â’r Map 16 Canolog)
SC6(2)   GOGLEDD-DDWYRAIN PEN-Y-BONT AR OGWR (Cyswllt â’r Map 21)
SC6(3)   DE-ORLLEWIN PEN-Y-BONT AR OGWR (Cyswllt â’r Map 27)
SC6(4)   NEWTON (Cyswllt â’r Map 29 Dwyrain)
SC6(5)   PENYFAI (Cyswllt â’r Map 15)
SC6(6)   YSTAD OAKWOOD, MAESTEG (Cyswllt â’r Map 5)
SC6(7)   PONT RHYD-Y-CYFF (Cyswllt â’r Map 21)
SC6(8)   PENDRE (Cyswllt â’r Map 22 Dwyrain)

ESTYNNIR Y CYFLEUSTERAU PRESENNOL YN Y LLEOLIADAU CANLYNOL:-

SC6(9)   COITY (Cyswllt â’r Map 21 Dwyrain)
SC6(10) SARN (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)
SC6(11) WILDMILL (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)

Part of Brackla District Centre, Bridgend

10.7.3. Mae'n bwysig i bob canolfan fod yn ganolbwynt i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu, lle mae gan bob rhan o'r gymuned gyfle i gyfarfod a mwynhau ystod eang o weithgareddau chwaraeon, cymdeithasol, artistig, diwylliannol a chreadigol. Yn ychwanegol, rhaid sicrhau mai'r cymunedau hynny sydd angen arbenigedd ac arian yr awdurdod lleol fwyaf sy'n cael blaenoriaeth a dylid ystyried lefelau o amddifadedd cymdeithasol a chyfoeth felly.

10.7.4. Mae ychydig o orgyffwrdd rhwng cyfleusterau cymunedol a hamdden dan do gan fod canolfannau cymuned yn cael eu defnyddio at bwrpasau cymdeithasol a hamdden fel arfer. Ar y cyd â hyn, mae defnyddio ysgolion yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth gymunedol yn rhan fwyaf o bentrefi a dosbarthiadau preswyl y fwrdeistref sirol.

Back to Top


10.8. Gwasanaethau Llyfrgell

10.8.1. Seilir y gwasanaeth hwn a weinyddir gan y Cyngor gan nifer o ganghennau o fewn y prif anheddiadau trefol a gwasanaeth teithiol i'r pentrefi, anheddiadau llai ac unigolion sy'n gaeth i'w cartrefi. Arweinir lleoliad y cyfleusterau hyn gan ddwy safon genedlaethol.

  1. Dylid darparu llyfrgell sefydlog mewn cymunedau o fwy na 3,000 o drigolion;
  2. Ni ddylai unrhyw drigolyn fyw fwy nag 20 munud ar droed neu ar gludiant cyhoeddus neu gyfuniad o'r ddau o gyfleuster llyfrgell.

10.8.2. Mae'r ddarpariaeth bresennol o lyfrgelloedd yn bodloni safonau cenedlaethol o ran lleoliad ond nid o ran y cyfleusterau a ddarperir. Mae Pen-y-bont, Porthcawl a Maesteg yn llai na thraean o'r maint (o ran maint llawr, stoc, ayb) na'r hyn sy'n ofynnol gan y safonau presennol. Mae amnewid y llyfrgelloedd hyn yn brif flaenoriaethau i'r gwasanaeth. Bydd gofyn am wella cyfleusterau yng Nghwm Garw ym Mhontycymer hefyd.

10.8.3. Mae gan gyfleusterau defnydd deuol sy'n cyfuno llyfrgelloedd â gwasanaethau eraill y Cyngor y potensial i wella'r gwasanaeth a lleihau costau gweithredu. Nodwyd eisoes y bydd y llyfrgelloedd ym Mhîl, Maesteg, Pencoed, Abercynffig a Nantymoel yn fannau gwybodaeth canolog hefyd.

Back to Top


10.9. Gwasanaethau'r Heddlu

10.9.1. Gweinyddir y gwasanaeth heddlu o brif orsaf heddlu dosbarth Pen-y-bont ar Ogwr ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae digon o orsafoedd heddlu yn y fwrdeistref sirol.

South Wales Police HQ

Back to Top


10.10. Gwasanaethau Swyddfa'r Post

10.10.1. Ystyria Swyddfa'r Post bod y ddarpariaeth o wasanaethau post yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol yn annhebygol o fod yn sylweddol wahanol o'r gwasanaeth presennol. Nid oes gan Swyddfa'r Post gynigion i agor rhagor o swyddfeydd post.

Back to Top


10.11. Gwasanaethau Tân

10.11.1. Gweinyddir y Gwasanaeth Tân i Isadran Orllewinol Gwasanaeth Tân De Cymru yn Celtic Court ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae gorsafoedd tân ym Mhontycymer, Nantyffyllon, Bro Ogwr, Mynydd Cynffig, Pencoed, Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd, ni ddisgwylir unrhyw brosiectau neu newidiadau polisi a fyddai'n effeithio ar y gwasanaeth hwn yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol rhagweladwy. Fodd bynnag, gwerthusir safon y gwasanaeth drwy'r amser drwy ystyried cynigion datblygu o bwys.

Back to Top


10.12. Mannau Claddu

10.12.1. Ers y 1960au, mae llosgi fel ffordd o gael gwared ar gyrff wedi cynyddu'n sylweddol ac mae'n cwmpasu 70% o warediadau erbyn hyn. Mae'r tuedd wedi arwain at estyn hyd oes gwreiddiol rhai mynwentydd.

10.12.2. Disgwylir i fynwentydd Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr redeg allan o le yn gynnar ym mywyd y CDU fodd bynnag. Yn achos mynwent Maesteg, mae'r Cyngor yn berchen ar dir ger y fynwent a allai fod yn addas ar gyfer estyn y fynwent, yn amodol ar ymchwiliadau i gyflwr y tir ac asesiadau bioamrywiaeth. Rhoddir ystyriaeth ffafriol i'r defnydd hwn. Fodd bynnag, nid dyma'r achos ym mynwent Pen-y-bont ar Ogwr lle nad oes lle i estyn. Bydd y Cyngor yn helpu i ddarganfod tir ychwanegol pan fydd gofyn amdano ac felly:-

10.12.3. DARPARU AR GYFER MYNWENTYDD

POLISI SC8

CANIATEIR ESTYNIADAU I FYNWENTYDD PRESENNOL OS:-

1. YW'R DEFNYDD YN CYDWEDDU Â DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS;

2. YW'R SAFLE'N CANIATÁU MYNEDIAD I BOBL ALARU A THALU TEYRNGED YN DAWEL A HEB AMHARIAD O DDEFNYDDIAU TIR
CYFAGOS; AC OS

3. OES DIGON O LE I BARCIO.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council