2.1. Datblygiad Cynaliadwy
2.1.1. Cefnogwyd y cysyniad o 'ddatblygiad
cynaliadwy' ar y lefel uchaf gan y rhan fwyaf o lywodraethau'r byd ac mae'n
dylanwadu'n fawr ar bolisïau'r Cynllun Datblygu Unedol hwn. Diffinnir datblygiad
cynaliadwy fel arfer fel datblygiad sy'n bodloni anghenion y presennol heb
beryglu gallu cenedlaethau i ddod i fodloni eu hanghenion nhw. Hynny yw, mae'n
ymwneud â sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i
ddod.
2.1.2. Mae i ddatblygiad cynaliadwy oblygiadau eang ac ni chyfyngir ef i
ddiogelwch amgylcheddol yn unig. I'w gyflawni, rhaid bodloni pedwar nod ar y cyd,
sef:-
- Yr angen am gynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb;
- Yr angen am ddiogelwch amgylcheddol effeithiol;
- Y gofyn am ddefnydd doeth o adnoddau naturiol;
- Y pwysigrwydd o dwf economaidd a chyflogaeth.
Er yr ymdrinnir â'r cysyniad o ddatblygiad cynaliadwy a sut y datblygodd fel
egwyddor hollbwysig yn fanylach yn y bennod am yr amgylchedd (cyfeirier at adran
3.3), mae pob pennod yn ymdrin ag amcanion cyffredinol y cysyniad yn eu tro.
2.1.3. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r cysyniad
o ddatblygiad cynaliadwy'n llawn ac mae'n nod pwysig yn y Cynllun Datblygu
Unedol hwn i fantoli ac integreiddio'r nodau uchod wrth gynnig datblygiad newydd.
Yn y cyd-destun hwn, egwyddor arweiniol y Cynllun Datblygu Unedol yw:-
GWELLA ANSAWDD BYWYD TRIGOLION BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR SY'N
CYD-FYND AG EGWYDDORION DATBLYGIAD CYNALIADWY.
2.1.4. Cefnogwyd yr egwyddor hon yn y Strategaeth Defnydd Tir a gynhyrchwyd
fel cefndir i'r CDU. Troswyd hi i nifer o nodau mwy penodol ar gyfer pob maes
pwnc yn y cynllun. Mae'r nodau fel a ganlyn:-
2.2. Amcanion a Nodau
2.2.1. Amgylchedd
- Parhau i ddiogelu cefn gwlad er mwyn ei dirwedd, adnoddau naturiol a chadw
a gwella ei werth amaethyddol, ecolegol, geolegol, ffisiograffig, hanesyddol,
archeolegol a hamdden;
- Hybu a chadw bioamrywiaeth y fwrdeistref siorl ac annog rheolaeth o nodweddion
y dirwedd sy'n bwysig iawn i'r fflora a ffawna gwyllt, ar y cyd â chynllun
gweithredu bioamrywiaeth lleol cymeradwyedig y Cyngor;
- Ceisio gwella'r economi wledig drwy ystyried yr angen i gynnal sector
amaethyddol dichonol;
- Diffinio a darparu fframwaith polisi cyd-drefnedig er mwyn parhau i gynllunio
a rheoli ardal arfordirol y fwrdeistref sirol yn ei chyd-destun rhanbarthol;
- Gwella ymddangosiad yr amgylchedd adeiledig a gwella ansawdd datblygiadau
newydd;
- Diffinio, diogelu, cynnal a gwella'r amgylchedd hanesyddol adeiledig h.y. hen
gofebion, safleoedd archeolegol, adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth,
parciau, gerddi a thirluniau hanesyddol y fwrdeistref sirol.
2.2.2. Tai
- Darparu ar gyfer anghenion tai dyfodol y fwrdeistref sirol drwy nodi digon
o dir i adeiladu 9950 o anheddau rhwng 1996 a 2016 yn gyson â'r egwyddor o
ddatblygiad cynaliadwy;
- Diwallu ar gyfer ystod ddigonol o dai drwy gydlynu canlyniadau'r Strategaeth
Tai ac Arolwg Anghenion Tai 2002 a fydd yn nodi anghenion lleol a chymdeithasol
penodol;
- Hybu adnewyddiad trefol drwy annog y defnydd o safleoedd tir llwyd ac
adeiladau presennol ar gyfer tai newydd.
2.2.3. Cyflogaeth
- Hybu cydraddoldeb a chyfle drwy gynnig hawl mynediad i gyfleoedd gwaith i'r
holl drigolion, yn briodol i'w sgiliau;
- Hybu defnyddio a throsi safleoedd tir llwyd priodol ac adeiladau gwag neu na
ddefnyddir ddigon ar gyfer datblygiadau diwydiannol a masnachol;
- Sicrhau bod digon o dir ar gael i fodloni gofynion swyddi'r boblogaeth ac
anghenion amrywiol diwydiant, ger cymunedau preswyl presennol ac arfaethedig
lle'n bosibl;
- Sicrhau bod cyflenwad digonol o dir sy'n hawdd ei ddatblygu ar gael drwy
gynnal banc tir;
- Cyfoethogi'r economi drwy ddiogelu swyddi presennol o ran safleoedd a
chyfleoedd a sicrhau buddsoddiad newydd;
- Datblygu manteision lleoliad coridor yr M4 drwy neilltuo safleoedd ger ffyrdd
strategol at ddibenion cyflogaeth arbennig.
2.2.4 Cludiant
- Mabwysiadu ymagwedd rheoli'r coridor at ddatblygu a gwella'r rhwydwaith
cludiant cyfan;
- Diogelu a gwella'r amgylchedd drwy gyflwyno amrywiaeth o fesurau cludo a
thraffig sy'n lleihau defnydd o'r car ac sy'n annog beicio a cherdded;
- Cyfyngu parcio dibreswyl preifat mewn lleoliadau priodol fel rhan o'r
strategaeth i leihau'r defnydd o'r car;
- Annog y defnydd o gludiant cyhoeddus fel prif ffordd o deithio, yn enwedig ar
gyfer teithio i'r gwaith, drwy ddatblygu rhwydwaith cludiant eang;
- Annog datblygiadau i symud i ardaloedd lle mae gan bob rhan o'r gymuned
fynediad cyfartal.
2.2.5. Manwerthu
- Lleihau lefel uchel y gwariant ar nwyddau cymharol i ganolfannau tu allan
i'r fwrdeistref sirol;
- Diogelu'r hierarchaeth fanwerthu bresennol;
- Diogelu a gwella dichonoldeb, dymunoldeb a ffyniant trefi a dosbarthiadau'r
fwrdeistref sirol;
- Hybu ffyrdd eraill o deithio ar gyfer siwrneiau siopa;
- Hybu rôl canolfannau siopa llai a siopau annibynnol lleol yn y fwrdeistref
sirol;
- Hybu a diogelu cyfleoedd siopa sy'n agos i ardaloedd preswyl.
2.2.6. Twristiaeth a Hamdden
- Mantoli ac integreiddio anghenion twristiaeth, cymunedau a'r amgylchedd,
gan gynnwys cefnogi eco-dwristiaeth, tra'n diogelu ardaloedd sy'n amgylcheddol
sensitif;
- Annog datblygiad llety o ansawdd uchel ar gyfer twristiaid a'r farchnad fusnes
mewn lleoliadau priodol, gan gynnwys uwchraddio a gwella'r cyfleusterau
presennol;
- Annog datblygiadau twristiaeth a hamdden sy'n amgylcheddol gynaliadwy yn ac o
gwmpas Pen-y-bont ar Ogwr a choridor yr M4. Dylid cysylltu hyn â gwelliannau i
gyfleusterau a gweithgareddau twristiaeth, hamdden a diwylliannol yng nghanol
trefi'r fwrdeistref sirol. Gellir gwireddu hyn drwy weithredu cynigion a geir yn
yr amryw strategaethau adfywio, yn enwedig y strategaethau ar gyfer trefi Pen-y-bont
ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl;
- Cefnogi gwaith gwella a datblygu Porthcawl fel pen taith o bwys, drwy
weithredu'r Strategaeth Adfywio Pen Taith Porthcawl.
2.2.7. Chwaraeon a Hamdden
- Adfer y diffygion presennol yn y ddarpariaeth o gyfleusterau hamdden lle
mae'r rhain yn cyd-fynd â gwarchod yr amgylchedd trefol a gwledig;
- Diogelu'r cyfleusterau hamdden presennol yn erbyn datblygiad amhriodol ac
annog y cyhoedd i'w defnyddio fwy;
- Darparu'r ystod ofynnol o gyfleusterau hamdden mewn mannau sy'n hawdd mynd
atynt yn y fwrdeistref sirol, sy'n cydweddu â gwarchod yr amgylchedd trefol a
gwledig ac sy'n unol â Strategaeth Cefn Gwlad y Cyngor.
2.2.8. Cyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
- Darparu'r ystod ofynnol o gyfleusterau cymdeithasol a chymunedol ar draws
ardal y cynllun, gan gydweddu â gwarchod yr amgylchedd trefol a gwledig.
2.2.9. Mwnau
- Darparu'n ddigonol ar gyfer cynhyrchu agregau i fodloni cyfraniad presennol
y fwrdeistref sirol i alw rhanbarthol;
- Sicrhau defnydd effeithiol a phriodol o fwnau agregau drwy annog y defnydd o
ddefnyddiau eilaidd ac ailgylchedig yn lle prif agregau;
- Darparu digon o dir i sicrhau cyflenwad parhaus o garreg galch bur iawn ar
gyfer y farchnad ddiwydiannol nad yw'n ymwneud ag agregau;
- Gweld a oes yna safleoedd sy'n amgylcheddol dderbyniol ar gyfer gwaith glo
brig ac y byddai o fantais i'r gymuned leol.
2.2.10. Cael Gwared ar Wastraff
- Darparu ar gyfer ystod o gyfleusterau rheoli a chael gwared ar wastraff yn
unol â'r nodau a osodir allan yn Strategaeth Gwastraff Genedlaethol Cymru a
gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2002.
2.2.11. Tir Ansefydlog
- Peri i'r cyhoedd a datblygwyr fod yn ymwybodol o natur tir ansefydlog yn y
fwrdeistref sirol drwy ddefnyddio'r gronfa ddata sydd ar gael;
- Mwyhau defnydd o'r tir hwn drwy fodloni'r angen i sicrhau y nodwyd yr holl
gyfyngiadau corfforol, gan gynnwys y posibilrwydd o fesurau adfer, ataliol neu
ragofalus, lle'n briodol.
2.2.12. Ynni a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cynyddu effeithiolrwydd ynni drwy gynllunio datblygiadau'n briodol, gan
ystyried nodweddion fel cynllun, cyfeiriad, defnydd cymysg, dwysedd datblygiad,
defnyddiau a thirlunio.
- Sicrhau y bodlonir anghenion rhesymol y fwrdeistref sirol am ynni a
gwasanaethau cyhoeddus ac y gwneir y mwyaf o botensial ynni'r ardal o
ffynonellau adnewyddu lleol a defnydd dŵr, yn gyson â'r angen i ddiogelu'r
amgylchedd.
2.2.13. Adfywio
- Diogelu buddsoddiad blaenorol, yn arbennig mewn ardaloedd trefol, darparu
mwy o sicrwydd ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol a chefnogi sector adfywiad yr
economi;
- Gwella ansawdd isadeiledd y fwrdeistref sirol, gan gynnwys ei hadeiladau ac
ardal gyhoeddus;
- Nodi a darparu fframwaith defnydd tir er mwyn ymdrin ag anghenion cymdeithasol
a'u blaenoriaethu;
- Cefnogi datblygiad cymunedol, cael gwared ar eithriad cymdeithasol a lleihau
troseddu;
- Gwneud defnydd gwell o adnoddau fel tir ac adeiladau, lleihau'r angen i
deithio, helpu i gael gwared ar ddirywiad trefol, hwyluso effeithiolrwydd ynni,
gwella bioamrywiaeth a lleihau pwysau ar gefn gwlad;
- Ysgogi mwy o gyfranogiad a pherchnogaeth gyhoeddus o benderfyniadau cynllunio
a rhoi canolbwynt i weithgareddau cymunedol;
- Helpu i wella sgiliau addysg a gwaith.
2.2.14. Gweithredu, Adnoddau a Monitro
- Mwyhau'r defnydd o'r adnoddau sydd ar gael i weithredu'r cynllun;
- Monitro a gwerthuso'r CDU er mwyn hysbysu'r gymuned, defnyddwyr y cynllun a'r
awdurdod cynllunio o effeithiolrwydd y polisïau a chynigion a rhoi mewnbwn i'r
arolwg a diwygiad olynol.
2.3. Strategaeth Defnydd Tir
2.3.1. Rhan ganolog o'r Strategaeth Defnydd Tir, a gynhyrchwyd fel cefndir
i'r CDU hwn, oedd amcangyfrif y gofyn am anheddau yn y dyfodol a newidiadau mewn
tai yn y fwrdeistref sirol, sydd, yn ei hanfod, yn rhagolwg o'r boblogaeth. Mae
datblygiadau tai yn a bydd yn parhau i fod yn brif ddefnyddwyr tir. Mae'n
briodol i roi ystyriaeth fanwl i'r mater hwn felly.
2.3.2. Mae poblogaeth yr ardal wedi tyfu'n barhaus yn y 30 mlynedd ddiwethaf
yn gyffredinol. Nid yw'r twf wedi bod yn gyson gan fod y lefelau a gofnodwyd yn
y 1960au'n uwch nag unrhyw dyfiant dilynol. Ers y 1960au pan gynyddodd
poblogaeth yr ardal dros 11%, mae'r gyfradd wedi bod yn fwy cymedrol. Fodd
bynnag, mae poblogaeth yr ardal wedi parhau i dyfu ac, yn gyffredinol, tyfodd y
boblogaeth oddeutu 19% rhwng 1961 a 2001.
2.3.3. Wrth wraidd y strategaeth defnydd tir yw tybiaeth y bydd y rhan fwyaf
o'r safleoedd tai a ddyrannwyd yn y cynllun datblygu blaenorol yn cael eu
datblygu yn ystod bywyd y cynllun h.y. hyd at 2006. Fodd bynnag, cydnabyddir bod
gan rai o'r safleoedd broblemau isadeiledd, topograffegol a llygredd a allai
gyfyngu eu datblygiad. O ganlyniad, mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi
ailasesu'r banc tir preswyl ac wedi eithrio rhai safleoedd yr ystyrir na fyddant
yn debygol o gael eu datblygu yn y cyfnod hyd at 2016. Ar yr un pryd, er mwyn
gwneud yn iawn am golli'r safleoedd hyn, cynhwyswyd dyraniadau newydd sydd â mwy
o botensial datblygu. Ceir esboniad llawnach o'r broses hon, ynghyd â rhestr
fanwl o'r safleoedd newydd hyn, yn y bennod am dai yn ail ran y cynllun hwn.
2.3.4. Cynhyrchwyd y rhagolwg poblogaeth ar gyfer y cynllun drwy ddefnyddio
Model Poblogaeth a Chartrefi Chelmer. Seilir y data craidd ar gyfrifiad 1991 er
y diwygiwyd y model i gynnwys ffactorau cywiro lleol 1998 ar gyfer genedigaethau,
marwolaethau a mewnfudo. Yn ychwanegol, cynhwyswyd cyfraddau ffrwythlondeb a
marwolaethau 1998. Cynhyrchwyd y rhagolwg drwy fewnbynnu'r rhaglen adeiladu
hysbys a disgwyliedig o 1996 i 2016. Seilir y rhaglen adeiladu ddisgwyliedig ar
gyfradd gwblhau ar gyfataloedd o 490 annedd y flwyddyn. Adlewyrcha'r gyfradd hon
y cyfnod 19 blynedd o 1981 i 2000 ac ystyrir felly ei bod yn adlewyrchu'r sail
fwyaf cadarn ar gyfer rhagdybio gweithgareddau adeiladu yn ystod bywyd y cynllun.
2.3.5. Drwy fabwysiadu'r tybiaethau hyn, disgwylir i boblogaeth y fwrdeistref
sirol gynyddu 10,143 o unigolion i gyfanswm o 140,375 erbyn 2016. Dangosir prif
elfennau'r dybiaeth hon yn nhabl INT1 a dangosir lefel y newid mewn poblogaeth
yn ffigwr INT1.
Tabl INT 1 Rhagolwg o'r Boblogaeth
|
|
1996 |
2001 |
2006 |
2011 |
2016 |
|
Rhaglen adeiladu[1] |
|
2600 |
2450 |
2450 |
2450 |
|
Cyfanswm yr anheddau |
53,460 |
55,158 |
58,160 |
60,502 |
62844 |
|
Cyfradd eiddo gwag |
5.00% |
5.00% |
5.00% |
5.00% |
5.00% |
|
Cyfanswm y cartrefi |
50,973 |
53,342 |
55,455 |
57,689 |
59,919 |
|
Maint cyfartalog cartref |
2.58 |
2.38 |
2.41 |
2.35 |
2.30 |
|
Cyfanswm y boblogaeth |
130,232 |
128,650 |
135,631 |
137,877 |
140,375 |
1 Ffynhonnell Cwblhau Tai Disgwyliedig Cyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffigwr INT 1 Newid Tybiedig yn y Boblogaeth

2.3.6. Disgwylir i broffil oed y fwrdeistref sirol newid yn weddol sylweddol
yn ystod bywyd y cynllun a dangosir hyn yn
ffigwr INT2. Disgwylir i ganran y
boblogaeth sydd dros oedran ymddeol godi o 19.2% yn 1996 i 22.9% yn 2016, sy'n
cynrychioli cynnydd net o 7,120 o unigolion. Ategir at boblogaeth sy'n heneiddio
gan golledion disgwyliedig ym mhoblogaeth y grwpiau oedran iau. Disgwylir i'r
boblogaeth yn y grŵp oedran 0-14 gwympo 4% yn ystod bywyd y cynllun. Bydd yr
unigolion yn y band oedran economaidd weithredol 30-44 oed yn sefydlog. Fodd
bynnag, disgwylir i'r boblogaeth hŵn sy'n economaidd weithredol dros 45 oed
gynyddu 3,702 unigolyn.
Ffigwr INT 2 Newid yn y Boblogaeth yn ôl Band Oedran

2.3.7. Wrth i gyfanswm y boblogaeth gynyddu dros fywyd y cynllun, disgwylir i
faint cyfartalog cartref fynd yn llai. Mae lleihad ym maint cartref yn duedd
cenedlaethol ac mae ffactorau fel mwy o bobl yn gwahanu, pobl yn byw'n hŵn a
phobl ifanc sengl yn prynu eu cartrefi eu hunain yn brif ffactorau o ran
esbonio'r tuedd hwn. Disgwylir i nifer y cartrefi ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont
ar Ogwr gynyddu 8,946 i 59,919 yn 2016. Mae'r rhagolwg hwn yn uwch na Rhagolwg
Cartrefi 1994 y Swyddfa Gymreig; fodd bynnag, mae'r set hon o ragolygon yn
mabwysiadu set wahanol o dybiaethau ac mae'n cychwyn o ddyddiad sylfaenol
gwahanol, sy'n lleddfu cymariaethau uniongyrchol. Disgwyliodd y Swyddfa Gymreig
i nifer y cartrefi yn y fwrdeistref sirol gynyddu 7,000 rhwng 1996 a 2016.
2.3.8. Wedi dod i lefel briodol o boblogaeth ddisgwyliedig a thwf mewn
cartrefi, mae angen ystyried ffyrdd i ddarparu ar gyfer y twf hwn. Fel a nodwyd
eisoes, mae'r gallu i newid patrymau defnydd tir yn eithafol yng nghyd-destun y
CDU yn gyfyng. Mae darnau mawr o dir wedi eu nodi eisoes yn y cynllun datblygu
presennol a bydd llawer o'r rhain yn meddu ar ganiatâd cynllunio parod. Ni
fyddai'n ddoeth diddymu'r caniatâd hwn o ystyried yr adnoddau sydd ar gael i'r
awdurdod cynllunio. Felly, disgwylir i'r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd
ddigwydd ar safleoedd a ddyrannwyd yn y cynllun datblygu blaenorol. Y brif
broblem yw diwallu'r gofynion tai ychwanegol tu hwnt i 2006 pan ddaw Cynllun
Lleol Bwrdeistref Ogwr i ben. Ystyriwyd y mater hwn yn drylwyr yn y Strategaeth
Defnydd Tir a gynhyrchwyd fel cefndir i'r Cynllun Datblygu Unedol hwn a
theimlwyd mai'r dewis mwyaf cynaliadwy oedd gwasgaru'r twf ychydig.
2.3.9. Yn ei hanfod, ceisia'r ymagwedd hon ddiwallu'r gofyn am anheddau
ychwanegol ar nifer o safleoedd a ddosberthir yn bennaf o fewn prif
anheddiadau'r fwrdeistref sirol. Ni all yr ymagwedd hon o ddatblygu ar nifer fwy
o safleoedd tai cymharol llai greu economïau graddfa i'r un raddfa â datblygu ar
ychydig o safleoedd mawr. Gallai darparu cyfleusterau newydd a gwella'r
rhwydwaith ffyrdd fod yn fwy cyfyng hefyd a gellir dadlau y bydd mwy o bwysau ar
y cyfleusterau presennol. Fodd bynnag, mae bron i bob un o'r safleoedd newydd yn
ychwanegol i'r rhai a nodwyd yn y cynllun datblygu blaenorol yn dir llwyd, yn
dir llwyd sylweddol neu'n safleoedd trefol nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon
o fewn y prif anheddiadau, yn unol ag egwyddorion cynaladwyedd.
2.3.10. Derbyniwn y gallai'r ymagwedd hon roi mwy o bwysau ar yr isadeiledd
presennol. Fodd bynnag, byddai llawer yn dibynnu ar leoliad a nodweddion y
safleoedd dan sylw. Drwy ganolbwyntio twf ar y prif ardaloedd trefol, gellid
rhoi'r nifer gymharol isel o anheddau ychwanegol ar safleoedd tir llwyd heb
newid cymeriad yr amgylchedd yn fawr iawn. Pe bai'r safleoedd hyn wedi eu
lleoli'n strategol yn agos i'r cyfleusterau sy'n bodoli eisoes a'r prif ffyrdd,
byddai eu heffaith ar yr amgylchedd ehangach yn fach.
2.3.11. Arweinia hyn at y Strategaeth Defnydd Tir, sef:-
GWASGARU DATBLYGIADAU NEWYDD YN Y PRIF ARDALOEDD TREFOL, LLE'N BOSIBL AR DIR
TREFOL GWAG NEU DIR NAD YW'N CAEL EI DDEFNYDDIO DIGON A GWNEUD Y MWYAF O
SAFLEOEDD DATBLYGU A BENODWYD EISOES.
2.3.12. Mae'r Cyngor wedi ystyried y cyngor a geir ym Mholisi Cynllunio Cymru
(2002) (paragraff 2.10) a NCT CC(C)20 - 'Yr Iaith Gymraeg - Cynlluniau Datblygu
Unedol a Rheoli Cynllunio'. Nid yw'n ystyried bod yna gymunedau yn y fwrdeistref
sirol lle mae'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn rhan o gyfansoddiad cymdeithasol y
cymunedau at ddibenion creu polisi cynllunio strategol neu fanwl.
2.4. Gwerthusiad Cynaladwyedd
2.4.1. Er mwyn helpu i sicrhau bod egwyddorion datblygiad cynaliadwy'n cael
eu hystyried ac yn cael blaenoriaeth ddilys, mae cyngor y Llywodraeth yn
argymell bod awdurdodau cynllunio lleol yn asesu effaith amgylcheddol eu
polisïau. Gwneir hyn orau drwy werthuso cynaladwyedd y cynllun. Byddai'r ymarfer
hwn yn helpu i sicrhau bod nodau polisi wedi eu hamlinellu'r glir hefyd a bod yr
holl opsiynau wedi eu nodi a'u hasesu.
2.4.2. I fod yn effeithiol, dylid integreiddio'r gwerthusiad i mewn i bob cam
o'r broses creu cynlluniau. Mae gwerthusiad cynaladwyedd y cynllun hwn yn
adlewyrchu hyn, gan fod pob cam o'r gwaith cynhyrchu hyd yma ac a amlinellwyd yn
flaenorol, wedi bod yn destun gwerthusiad cynaladwyedd.

2.5. Strategaethau Perthynol
2.5.1. Mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn gosod dyletswydd ar awdurdodau
unedol yng Nghymru i baratoi strategaethau cymunedol i hybu neu wella lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd ac i gyfrannu at gyflawni
datblygiad cynaliadwy yn y DU.
2.5.2. Esbonia cyfarwyddyd a gafwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sut
ddylai'r Cyngor adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes ar fentrau fel cynllunio
corfforedig a chymunedol, adfywio, cynhwysiad cymdeithasol a datblygiad
cynaliadwy er mwyn datblygu ei strategaeth gymunedol. Dylai'r strategaeth
ddarparu fframwaith strategol ar gyfer holl gynlluniau a strategaethau eraill y
fwrdeistref sirol, er mwyn i bobl weld perthnasedd y cynlluniau hynny a'u
cyfraniad i'r Strategaeth Gymunedol. Mae polisïau a chynigion gofodol y CDU yn
bwysig iawn i'r Strategaeth Gymunedol y mae'r Cyngor yn ei pharatoi ar hyn o
bryd. Yn yr un ffordd, wrth i'r strategaeth gymunedol gael ei llunio, bydd
cynigion a thargedau perthnasol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddefnydd
tir yn y dyfodol, yn helpu i arwain arolwg o'r CDU yn y dyfodol.
2.5.3. Wrth ganlyn ei ymroddiad i ddatblygiad cynaliadwy, mae'r Cyngor
Bwrdeistref Sirol, yn debyg i bob awdurdod lleol arall yn y Deyrnas Unedig, wedi
cynhyrchu strategaeth agenda 21 leol sy'n cwmpasu egwyddorion datblygiad
cynaliadwy. Mae'r Strategaeth Agenda 21 Leol yn ddogfen helaeth nad yw'n
seiliedig ar ddefnydd tir sy'n cyd-fynd â pholisïau defnydd tir y CDU.
2.5.4. Hefyd, cynhyrchwyd nifer o strategaethau eraill gan y Cyngor sy'n
dylanwadu'n uniongyrchol ar y CDU i raddau. Maent fel a ganlyn:-
- Strategaeth Adfywiad Economaidd Cynaliadwy i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont
ar Ogwr;
- Strategaeth Cludiant;
- Strategaeth Cefn Gwlad a Rhaglen Weithredu Integredig;
- Strategaeth Treftadaeth Adeiledig;
- Cynllun Rheoli'r Parth Arfordirol;
- Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol;
- Arolygon Ansawdd Awyr Lleol;
- Strategaeth Lleihau Troseddu;
- Strategaeth Twristiaeth Sir Pen-y-bont ar Ogwr; a'r
- Strategaeth Tai;
ynghyd â strategaethau adfywio penodol sy'n perthyn i:-
- Borthcawl;
- Cwm Garw;
- Canol tref Pen-y-bont ar Ogwr;
- Coridor yr M4;
- Cwm Llynfi;
- Cwm Ogwr; a
- Chymuned Cynffig.
2.5.5. Hefyd, mae Papur Gwyn y Llywodraeth sef 'Dyfodol Cludiant' a
chyhoeddiad y cyn Swyddfa Gymreig 'Cludo Cymru i'r Dyfodol' yn nodi llunio
cynlluniau cludiant lleol a fydd yn cwmpasu, ymysg eraill, cynlluniau cymudo
gwyrdd a theithiau diogel i ysgolion.
<< Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |