access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys y cyfnod hyd at 2016
Fformat y CDU
Yr Ardal a Gwmpasir gan y CDU a’r CYD-DESTUN CYNLLUNIO RHANBARTHOL
Polisïau Rhan 1
Amgylchedd Polisi 1
Amgylchedd Polisi 2
Amgylchedd Polisi 3
Tai Polisi 4
Cyflogaeth Polisi 5
Cludiant Polisi 6
Cludiant Polisi 7
Masnach Polisi 8
Manwerthu Polisi 9
Twristiaeth Polisi 10
Hamdden Polisi 11
Chwaraeon A Hamdden Polisi 12
Gwasanaethau Cymdeithasol A Chymunedol Polisi 13
Mwnau Polisi 14
Mwnau Polisi 15
Mwnau Polisi 16
Gwastraff Polisi 17
Tir Ansefydlog Polisi 18
Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus Polisi 19
Ynni Gwasanaethau Cyhoeddus Polisi 20
Adfywio Polisi 21
Gweithrediad Ac Adnoddau Polisi 22
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

1. CYFLWYNIAD RHAN 1


1.1 Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?

1.1.1 Dyma Gynllun Datblygu Unedol cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chyfeirir ato fel y CDU yn y ddogfen hon.

1.1.2 Mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn gofyn i bob awdurdod unedol yng Nghymru baratoi CDU a fydd yn cymryd lle unrhyw gynlluniau datblygu eraill sy'n cwmpasu eu hardaloedd ac y dylid paratoi'r CDU hwn cyn gynted â phosibl.

1.1.3 Gelwir y cynllun yn gynllun datblygu unedol gan ei fod yn cynnwys polisïau cynllunio strategol a lleol ar gyfer yr ardal. Yn flaenorol, cwmpaswyd y rhain ar wahân mewn cynlluniau gwahanol a, chyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996, paratowyd y rhain gan awdurdodau gwahanol fel arfer.

1.1.4 Mae'r Llywodraeth wedi cynhyrchu cyfarwyddyd i awdurdodau unedol i'w cynorthwyo i baratoi CDU ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) a Chyfarwyddyd Cynllunio (Cymru) Cynlluniau Datblygu Unedol. Ategir at y cyfarwyddyd hwn gan gyfres o nodiadau cyngor technegol sy'n rhoi cyngor manwl am bynciau penodol ac mae'r CDU hwn yn adlewyrchu'r cyfarwyddyd hwn.

1.1.5 Rhaid i'r CDU gynnwys polisïau a chynigion i ddatblygu a defnyddio tir yn y fwrdeistref sirol ac, yn benodol, dylai gynnwys polisïau defnydd tir a chynigion am:-

  • tai;
  • cadw a gwella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig, gan gynnwys dylunio gwell a defnyddio lleiniau glas, os yn briodol;
  • economi, gan gynnwys datblygiadau amaethyddol, coedwigaeth, diwydiant, busnes, manwerthu a datblygiadau eraill sy'n creu swyddi a chyfoeth;
  • strategaeth defnydd tir/cludiant sy'n ymdrin â mynediad a darparu cyfleusterau cludo strategol ac integredig, gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd ac isadeileddau eraill;
  • cloddio mwnau (gan gynnwys gwaredu gwastraff mwnau) a diogelu adnoddau mwnau;
  • diogelu adnoddau naturiol;
  • rheoli a chael gwared ar wastraff, adfer tir, ailddefnyddio a pheryglon;
  • twristiaeth, hamdden, chwaraeon ac adloniant;
  • cadw a chreu ynni, gan gynnwys ynni adnewyddadwy.

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys y cyfnod hyd at 2016.

1.1.6 Pan fydd yn cael ei fabwysiadu, bydd y CDU yn cymryd lle'r cynllun datblygu presennol ar gyfer yr ardal, sy'n cynnwys Cynllun Strwythur Newydd Morgannwg Ganol, Cynllun Lleol Mwnau Morgannwg Ganolog, Cynllun Chwareli Carreg Galch a Chynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr. Ar y cyd, daw'r cynlluniau hyn i ben yn 2006. Mae'r cynllun datblygu presennol yn cynnwys dyraniadau tir sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd neu sydd wedi cael caniatâd cynllunio a bydd gofyn i'r CDU gydnabod llawer o'r ymroddiadau hyn.

1.1.7. Mae Adran 70(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gofyn i unrhyw benderfyniad o ran datblygiad arfaethedig ystyried y cynllun datblygu cyn belled ag y bo'n berthnasol i'r cais ynghyd ag unrhyw ystyriaethau pwysig eraill. Lle mae'r cynllun datblygu'n berthnasol i'r cynnig datblygu, mae Adran 54A o'r Ddeddf (sy'n cymryd lle Adran 26 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991) yn gofyn am benderfynu ar y cais yn unol â'r cynllun, oni bai bod ystyriaethau pwysig yn nodi fel arall.

1.1.8. Wrth wneud penderfyniadau rheoli datblygiadau, bydd yr awdurdod cynllunio yn sicrhau yr asesir pob cynnig yn erbyn yr holl bolisïau perthnasol.

Back to Top


1.2 Fformat y CDU

1.2.1 Mae'r CDU yn cynnwys datganiad ysgrifenedig a map cynigion.

Mae'r datganiad ysgrifenedig yn cynnwys dwy elfen:

Rhan 1

Sef datganiad byr iawn o bolisïau strategol yr ardal. Mae'r polisïau hyn yn creu cyd-destun a fframwaith ar gyfer y polisïau a chynigion mwy manwl a geir yn Rhan 2.

Rhan 2

Sef polisïau a chynigion mwy manwl. Rhennir rhan 2 yn 15 pennod ac atodiadau perthynol. Maent yn cwmpasu'r prif feysydd pwnc, sef yr amgylchedd, tai, cyflogaeth, cludiant, manwerthu, twristiaeth a hamdden, chwaraeon a hamdden, cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol, mwnau, gwastraff, tir ansefydlog, ynni a gwasanaethau cyhoeddus, adfywio a gweithredu, ac adfywio a'r

map cynigion sy'n cynnwys:-

mapiau sy'n dangos, ar sail yr Arolwg Ordnans, mynegiant corfforol polisïau a chynigion y datganiad ysgrifenedig.

1.2.2. Wrth ysgrifennu ei bolisïau, mae'r ACLl wedi defnyddio caniateir neu ni chaniateir lle'n briodol, ar adegau'n amodol ar gynnig yn bodloni meini prawf penodol. Mae achlysuron eraill lle nad yw derbyn neu wrthod cynnig datblygu'n llawn yn cyfeirio at un polisi'n unig. Yn yr achosion hyn, bydd angen asesu ymhellach ac mae'r ACLl wedi defnyddio'r geiriau ffafrir neu ni ffafrir.

Back to Top


1.3 Yr Ardal a Gwmpasir gan y CDU a'r CYD-DESTUN CYNLLUNIO RHANBARTHOL

1.3.1 Mae'r CDU yn cwmpasu bwrdeistref sirol gyfan Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r ardal yng nghanol daearyddol de Cymru. Mae'n cynnwys ardal o ryw 25,500 hectar ac, yn 2001, roedd ganddi boblogaeth o 128,650.

1.3.2 Estyn y fwrdeistref sirol rhyw 20km o'r dwyrain i'r gorllewin, gan gynnwys cymoedd Ogwr, Garw a Llynfi i'r gogledd, a ffinio Môr Hafren i'r de. Yr anheddiadau mwyaf yw trefi Pen-y-bont a Maesteg a thref glan môr Porthcawl. Pen-y-bont yw'r ardal anheddu fwyaf a hon yw canolfan weinyddol yr ardal.

1.3.3 Mae gan y fwrdeistref sirol isadeiledd cludiant rhagorol gyda thraffordd yr M4 yn mynd ar hyd rhan ddeheuol y fwrdeistref sirol o'r dwyrain i'r gorllewin, sy'n cynnig ffordd gyflym i Gaerdydd, Abertawe, gweddill de Cymru a thu hwnt. Yn ychwanegol, mae gwasanaeth trenau cyflym iawn sy'n cysylltu'r ardal â'r rhwydwaith rheilffordd cyfan yn darparu cludiant rheilffordd cyflym ac effeithlon. Mae maes awyr Caerdydd-Cymru rhyw 19km i ffwrdd.

Aerial view of Bridgend Town Centre

1.3.4 Mae tair cyffordd i'r draffordd ym Mhencoed, Sarn a Phîl. Mae manteision y draffordd wedi gweld 'coridor yr M4' yn denu buddsoddiad mewnol sylweddol, ynghyd â bod yn ganolbwynt ar gyfer datblygiadau manwerthu tu allan i drefi. Mae llawer o adeiladwyr tai mawr wedi dewis yr ardal hefyd. Mae coridor yr M4 wedi gweld estyniad cyflym a rhyddhau darnau mawr o dir i'w datblygu yn y 15 mlynedd ddiwethaf, yn canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr a'r cwmpasoedd.

1.3.5 Yn y cyfamser ac yn wahanol i goridor yr M4, mae llawer o gymunedau'r cymoedd tua gogledd y fwrdeistref sirol yn profi problemau amddifadedd. Mae'r ardaloedd hyn a ddibynnai ar y diwydiannau glo a haearn yn y gorffennol wedi dioddef llawer o ran y newid mawr yn strwythur yr economi leol yn y 30 mlynedd ddiwethaf ac wedi colli allan o ran swyddi newydd a buddsoddiad. Yn gynyddol, mae cymunedau a arferai fod yn gymunedau dichonol a chydlynol yn troi'n dameidiog ac yn cael eu heithrio o fuddion twf economaidd. Golyga poblogaeth sy'n lleihau a newidiadau mewn patrymau manwerthu, yn enwedig yng Nghymoedd Ogwr a Garw, na all cymunedau gynnal mentrau masnachol, gan gynnwys siopau hanfodol, ac felly mae gofyn sybsideiddio cyfleusterau cymunedol yn drwm.

1.3.6 Mae'r newidiadau yng nghymunedau'r fwrdeistref sirol yn gysylltiedig â'r newidiadau a welwyd yn yr economi. Mae llawer o gymunedau'r ardal wedi deillio o'r diwydiannau glo a haearn a oedd mor bwysig i'r ardal am 100 mlynedd. Fodd bynnag, ers y 1940au, mae'r diwydiannau trwm traddodiadol hyn wedi diflannu'n raddol. Ymsefydlodd mentrau cynhyrchu modern ac felly swyddi newydd yn rhannau deheuol y fwrdeistref siorl yn bennaf, ar hyd y prif rwydwaith ffyrdd. Mae'r ardal hon yn gartref i sawl cwmni cynhyrchu rhyngwladol pwysig erbyn hyn. Mae cynhyrchu'n ffynhonnell bwysig o swyddi yn yr economi leol. Fodd bynnag, cyflogir y rhan fwyaf o weithlu'r fwrdeistref siorl yn y sector gwasanaeth.

1.3.7 Gwasanaethau ac yn arbennig gwasanaethau cyhoeddus, fel iechyd a gweinyddiaeth gyhoeddus, yw'r prif ffynonellau swyddi yn yr ardal. Menywod sy'n gwneud llawer o'r swyddi a grewyd yn y sector hwn ac mae menywod yn ffurfio 59% o weithlu'r fwrdeistref sirol ar hyn o bryd, canran sylweddol uwch na gweddill Cymru.

Junction 36, M4 Motorway

1.3.8. Mae Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) yn annog awdurdodau cynllunio lleol i barhau i ymgynghori a chydweithredu ar faterion cyffredin a'r rhai sy'n croesi ffiniau. Mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod o Grŵp Cynllunio Strategol De-Ddwyrain Cymru (SEWSPG) sy'n cynnwys 10 awdurdod unedol ac un awdurdod parc cenedlaethol. Mae grŵp cynllunio rhanbarthol y de-ddwyrain yn cyd-fynd ag ardal pwyllgor rhanbarthol y Cynulliad.

1.3.9. Mae SEWSPG wedi cynhyrchu dau rifyn o gyfarwyddyd cynllunio rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Bwriad y rhain yw hybu ymagwedd bolisi gyson ar draws y rhanbarth, gan gynnwys cyfres gyffredin o nodau cynllunio strategol i ddarparu cyd-destun cytunedig ar gyfer paratoi CDU. Er y ffurfiwyd y rhain ar y cyd â'r rownd gyntaf o CDU, nid yw'r Cyngor yn ystyried eu bod yn rheolau terfynol. Byddant yn helpu i lunio polisïau'r CDU wedi ymgynghoriad cyhoeddus a'r broses o ymchwiliadau cyhoeddus.

1.3.10. Mae'r Cyngor yn aros am esboniad pellach gan y Cynulliad o ran statws terfynol y cyfarwyddyd rhanbarthol.

1.3.11. Yn ychwanegol, gan mai'r fwrdeistref siorl yw'r awdurdod unedol mwyaf gorllewinol yn y Grŵp De-Ddwyrain Cymru, mae'n cysylltu'n annibynnol ac yn rheolaidd gyda Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, sy'n ffurfio rhan o Grŵp Cynllunio Strategol De-Orllewin Cymru. Mae'r cyfarfodydd hyn yn ymdrin â materion ar y cyd ac yn hybu cyd-drefnu pellach o bolisïau cynllunio ar draws ffiniau awdurdodau.

Back to Top


POLISÏAU RHAN 1

AMGYLCHEDD
POLISI 1

MAE AMGYLCHEDD BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR YN ADNODD AMRYWIOL A CHYFYNGEDIG. ANOGIR DATBLYGIAD SY'N EI GWELLA, DIOGELU NEU EI GWARCHOD; NI CHANIATEIR DATBLYGIAD SY'N EI DIRYWIO, EI PHERYGLU NEU EI HESGEULUSO.

Back to Top


AMGYLCHEDD
POLISI 2

DYLAI DATBLYGIAD YN Y FWRDEISTREF SIROL DDIOGELU CYFANRWYDD CEFN GWLAD A'R AMGYLCHEDD ADEILEDIG. DRWY LEOLI, CYNLLUNIO A DYLUNIO'N OFALUS, DYLAI DDIOGELU, GWARCHOD A GWELLA:

1. BIOAMRYWIAETH RYNGWLADOL, CENEDLAETHOL, RHANBARTHOL A LLEOL;

2. ARDALOEDD Â THIRWEDD ARBENNIG;

3. YR AMGYLCHEDD ADEILEDIG HANESYDDOL; A'R

4. PARTH ARFORDIROL.

Back to Top


AMGYLCHEDD
POLISI 3

FFAFRIR CYNIGION DATBLYGU LLE MAENT YN CEFNOGI NEU'N ANNOG:-

1. CADW, LLEIHAU, AILDDEFNYDDIO AC AILGYLCHU GWASTRAFF, RHEOLI LLYGREDD A CHADW ADNODDAU NATURIOL;

2. LLEIHAU TEITHIO MEWN CEIR PREIFAT A SYMUDIADAU CERBYDAU A HYBU BEICIO, CERDDED A CHLUDIANT CYHOEDDUS;

3. ADFER TIR GWAG, GWAEL NEU LYGREDIG A'I ADFER I DDEFNYDD BUDDIOL; AC

4. ADFYWIO'R AMGYLCHEDD TREFOL.

Back to Top


TAI
POLISI 4

BYDD TIR AR GAEL I DDARPARU AR GYFER 9950 ANNEDD YCHWANEGOL AT GYFANSWM STOC TAI BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR YN Y CYFNOD 1996-2016.

Back to Top


CYFLOGAETH
POLISI 5

DYRENNIR 306 HECTAR O DIR CYFLOGAETH I FODLONI ANGHENION AMRYWIOL DIWYDIANNAU PRESENNOL, PROSIECTAU BUDDSODDIAD MEWNOL A BUSNESAU BACH.

CLUDIANT
POLISI 6

BYDDWN YN GWELLA'R RHWYDWAITH CLUDIANT ER MWYN:-

1. GWELLA DIOGELWCH Y FFYRDD;

2. PEIDIO AG ANNOG DEFNYDD AMHRIODOL O'R CAR;

3. ANNOG Y DEFNYDD O GLUDIANT CYHOEDDUS A FFURFIAU ERAILL O DEITHIO;

4. HYBU DATBLYGIAD ECONOMAIDD;

5. CYNNIG MYNEDIAD I BAWB; A

6. BOD O FUDD I'R AMGYLCHEDD.

Back to Top


CLUDIANT
POLISI 7

FFAFRIR DATBLYGIAD Y MAE'N BOSIBL DANGOS EI FOD YN HYBU AC YN ANNOG Y CANLYNOL:-

1. DEFNYDD EFFEITHIOL O'R RHWYDWAITH FFYRDD PRESENNOL;

2. CYNYDDU DEFNYDD O GLUDIANT CYHOEDDUS;

3. LLEIHAU NIFER A HYD SIWRNEIAU YN Y CAR;

4. CERDDED A BEICIO; A

5. DARPARU CYFLEUSTERAU CLUDO AR DRENAU.

Back to Top


MASNACH
POLISI 8

DIOGELIR A CHYNHELIR YR HIERARCHAETH FANWERTHU BRESENNOL A BYDDWN YN ANNOG DATBLYGIAD SY'N DIOGELU A GWELLA FFYNIANT, DICHONOLDEB A DYMUNOLDEB CANOLFANNAU TREF A DOSBARTH PRESENNOL.

Back to Top


MANWERTHU
POLISI 9

CANIATEIR MANWERTHU TU ALLAN I GANOLFANNAU DIM OND LLE LLEOLIR EF AR SAFLE MANWERTHU PRESENNOL NEU A DDYRANNWYD A/NEU LLE MAE'R MEINI PRAWF CANLYNOL YN BERTHNASOL:

1. DANGOSWYD BOD ANGEN AM Y DATBLYGIAD;

2. YN NHREFN DEWIS, ASESWYD YR HOLL SAFLEOEDD CANOL TREFI, YMYLON TREFI A DOSBARTHIADAU YN DRYLWYR A GWELWYD NAD OEDD UN OHONYNT YN ADDAS NAC AR GAEL;

3. YN UNIGOL AC YN GYNYDDOL, AR Y CYD Â DATBLYGIADAU MANWERTHU PRESENNOL A'R RHAI A DDYRANNWYD, ASESWYD Y BYGYTHIAD POSIBL I FFYNIANT, DICHONOLDEB A DYMUNOLDEB CANOLFANNAU PRESENNOL AC Y BYDDAI'N DDERBYNIOL;

4. ASESWYD MYNEDIAD I'R PRIF RWYDWAITH FFYRDD A'R EFFAITH AR LIF TRAFFIG A BYDDAI'N DDERBYNIOL;

5. BYDDAI CLUDIANT CYHOEDDUS DA I'R DATBLYGIAD.

Back to Top


TWRISTIAETH
POLISI 10

FFAFRIR CYNIGION AM DDATBLYGIAD TWRISTIAETH LLE MAENT YN:-

1. CYFRANNU AT DWF YR ECONOMI LEOL O RAN SWYDDI NEWYDD A CHREU BUSNESAU NEWYDD;

2. DIOGELU A GWARCHOD ARDALOEDD Â THIRWEDD ARBENNIG, BIOAMRYWIAETH, YR ARFORDIR A'R AMGYLCHEDD HANESYDDOL LLE CYNLLUNIWYD NHW ER MWYN IDDYNT GADW A DIOGELU ANSAWDD YR AMGYLCHEDD LLEOL; A LLE MAENT YN

3. PARCHU ANGHENION AC AMWYNDERAU CYMUNEDAU LLEOL.

Back to Top


HAMDDEN
POLISI 11

CANIATEIR CYNIGION AM DDATBLYGIAD HAMDDEN, GAN GYNNWYS DEFNYDDIAU BWYD A DIOD TU ALLAN I GANOLFANNAU MASNACHOL PRESENNOL LLE:-

1. GWELIR BOD ANGEN BODDHAOL AM Y DATBLYGIAD;

2.NID YW'R DATBLYGIAD ARFAETHEDIG YN BYGWTH FFYNIANT, DICHONOLDEB NA DYMUNOLDEB CANOL TREFI A DOSBARTH PRESENNOL;

3. YN NHREFN DEWIS, ASESWYD YR HOLL GANOL TREFI, YMYLON TREFI, CANOL DOSBARTHIADAU, SAFLEOEDD TU ALLAN I'R CANOL PRESENNOL A GWELWYD NAD OEDD UNRHYW UN OHONYNT YN ADDAS NAC AR GAEL;

4. BYDDAI DEWIS DA O GLUDIANT I'R DATBLYGIAD A BYDDAI'N ARWAIN AT LAI O BOBL YN DEFNYDDIO EU CEIR;

5. NI PHERYGLIR AMWYNDERAU TRIGOLION GERLLAW GAN SŴN, AROGLAU, SBWRIEL NEU BRYDERON AMGYLCHEDDOL ERAILL.

Back to Top


CHWARAEON A HAMDDEN
POLISI 12

ANOGIR CYNIGION DATBLYGU SY'N CYFRANNU AT GYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CHWARAEON A HAMDDEN A/NEU SY'N EU DIOGELU.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL
POLISI 13

ANOGIR CYNIGION DATBLYGU SY'N CYFRANNU AT GYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A CHYMUNEDOL A/NEU SY'N EU DIOGELU.

Back to Top


MWNAU
POLISI 14

FFAFRIR CYNIGION DATBLYGU AM DDATBLYGIAD MWNAU LLE MAENT YN PARHAU CANRAN CYNHYRCHIANT RHANBARTHOL Y FWRDEISTREF SIROL YN AMODOL AR:-

1. SICRHAU BOD EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL Y GWAITH YN DDERBYNIOL; A

2. SICRHAU GWAITH ADFER AC ÔL-OFAL PRIODOL, O ANSAWDD UCHEL A PHRYDLON ER MWYN CAEL ÔL-DDEFNYDD BUDDIOL.

Back to Top


MWNAU
POLISI 15

CEDWIR ADNODDAU MWNOL TRA'N SICRHAU CYFLENWAD HANFODOL DRWY HYBU'R DEFNYDD EFFEITHIOL O BRIF AGREGAU AC ANNOG Y DEFNYDD O DDEFNYDDIAU ERAILL, MEGIS IS-GYNNYRCH DIWYDIANNOL A DEFNYDDIAU AILGYLCHADWY.

Back to Top


MWNAU
POLISI 16

DIOGELIR ADNODDAU MWNOL SY'N DEBYGOL O FOD YN HANFODOL RHAG CAEL EU STERILEIDDIO GAN DDATBLYGIADAU PARHAOL.

Back to Top


GWASTRAFF
POLISI 17

DYLAI CYNIGION DATBLYGU GYFRANNU TUAG AT DDARPARU YSTOD O GYFLEUSTERAU RHEOLI A CHAEL GWARED AR WASTRAFF SY'N:

1 BODLONI NODAU POLISI CENEDLAETHOL MEWN PERTHYNAS Â'R EGWYDDOR O AGOSRWYDD A'R HIERARCHAETH GWASTRAFF;

2 BODLONI TARGEDAU I LEIHAU SWM Y GWASTRAFF A GLADDIR A CHYNYDDU SWM Y GWASTRAFF A ADFERIR, A GOMPOSTIR NEU A AILGYLCHIR.

Back to Top


TIR ANSEFYDLOG
POLISI 18

NI CHANIATEIR DATBLYGU TIR ANSEFYDLOG NEU A ALLAI FOD YN ANSEFYDLOG SY'N CYNNWYS ADEILADU ADEILADAU NEU STRWYTHURAU ONI BAI Y CYTUNIR AR FESURAU LLEDDFU DIGONOL YN YSGRIFENEDIG CYN DECHRAU GYDA'R AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL AC Y CYFLAWNIR Y RHAIN WEDI HYNNY.

Back to Top


YNNI A GWASANAETHAU CYHOEDDUS
POLISI 19

FFAFRIR DATBLYGIADAU TELATHREBU, GWASANAETHAU CYHOEDDUS NEU SY'N GWNEUD Y MWYAF O YNNI ADNEWYDDADWY LLE GELLIR DANGOS Y BYDDAI UNRHYW EFFAITH DDRWG AR YR AMGYLCHEDDAU GORAU A MWYAF SENSITIF (O RAN GWERTH TIRLUN A GOLYGFAOL, PENSAERNÏOL A HANESYDDOL A CHADWRAETH NATUR) YN ISEL IAWN.

Back to Top


YNNI GWASANAETHAU CYHOEDDUS
POLISI 20

DYLAI POB CYNNIG DATBLYGU GEISIO MWYHAU EFFEITHIOLRWYDD YNNI A CHADW DŴR O RAN CYNLLUN, DYLUNIAD, DEFNYDDIAU A FFORDD ADEILADU.

Back to Top


ADFYWIO
POLISI 21

NI CHANIATEIR UNRHYW DDATBLYGIAD SY'N DEBYGOL O BERYGLU STRATEGAETH ADFYWIO.

Back to Top


GWEITHREDIAD AC ADNODDAU
POLISI 22

DYLAI CEISIADAU AM DDATBLYGIAD ADEILEDIG GYNNWYS CYNIGION SY'N DELIO Â GOFYNION ISADEILEDD UNION AC ANUNIONGYRCHOL TEG A RHESYMOL Y DATBLYGIAD A SICRHAU NAD OES COLLED CYNLLUNIO DILYNOL A SYLWEDDOL I'R GYMUNED. LLE'N BRIODOL, SICRHEIR Y CYNIGION HYN DRWY GYTUNDEBAU/RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council