4.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
4.1.1. Yn unol â Strategaeth
Defnydd Tir gymeradwyedig y CDU, mae
polisi 4 yn nodi gofyn 9950 annedd newydd i
fodloni anghenion tai bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y cyfnod
1996-2016.
4.1.2. Fodd bynnag, dylai cyfle a thegwch dewis fod wrth graidd y
ddarpariaeth honno os yw holl drigolion presennol a dyfodol y fwrdeistref sirol
yn mynd i fod mewn sefyllfa i gyfrannu at y ffyniant a'r buddion a ddaw o hyn.
4.1.3. Golyga hyn y dylid cynllunio polisïau tai i wella mynediad i gludiant,
swyddi, siopau, hamdden a chyfleusterau eraill ac i'r gwrthwyneb er mwyn symud y
nodau cynaliadwy hynny yn eu blaen ac ystyried neu fwyhau, lle'n briodol, y
potensial a gynigir gan stoc safleoedd tai sylweddol y fwrdeistref sirol (y mae
gan lawer ohonynt ganiatâd cynllunio am ddatblygiad eisoes) a barhawyd o'r cyn
gynllun datblygu.
4.1.4. Gall ailddatblygu safleoedd tir llwyd a safleoedd nad ydynt yn cael eu
defnyddio digon o fewn ardaloedd trefol presennol fod yn arbennig o fuddiol a
sicrhau nad ydym yn colli safleoedd tir glas ar gyfer tai newydd ac atal trefi a
phentrefi rhag estyn yn ddiangen.
4.1.5. Cynhelir banc pum mlynedd o dir preswyl ledled y fwrdeistref sirol yn
ystod bywyd y cynllun.
4.1.6. Gall gwella'r stoc tai bresennol, ei throsi lle'n briodol a'i hamnewid
gan dai o ddwysedd uwch, efallai mewn datblygiadau defnydd cymysg neu drwy
gynnwys tai uwchben eiddo manwerthu, gyfrannu tuag at gyflawni amcanion
cynaladwyedd y cynllun. Bydd hyn yn cwmpasu dewis teg o leoliad, deiliadaeth ac
amrywiaeth o dai (gan gynnwys tai fforddiadwy) ar gyfer yr holl drigolion a'r
rhai sy'n chwilio am swyddi newydd yn y fwrdeistref sirol.
Rhan 2
4.2. Cyflwyniad
4.2.1. Mae darparu dewis a chyflenwad digonol o dai boddhaol yn angen dynol
sylfaenol ond mae'n rhoi pwysau mawr ar y defnydd o dir. Mae'n faes allweddol
felly yn y Cynllun Datblygu Unedol.
4.2.2. Cydnabyddir bod newidiadau mewn tueddiadau cymdeithasol yn creu pwysau
newydd ar dai i gydweddu â gwahanol ffyrdd o fyw. Ystyriwyd y newidiadau hyn
wrth lunio'r strategaeth defnydd tir sy'n hybu gwasgaru datblygiadau tai i brif
ardaloedd trefol y fwrdeistref sirol, ar dir gwag neu dir nad yw'n cael ei
ddefnyddiol lle'n bosibl, tra'n mwyhau'r defnydd o safleoedd tai presennol, yn
gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Er nad yw'r strategaeth hon yn
debygol o greu'r un economïau graddfa a fyddai wedi datblygu o grynhoad a thwf
ar un neu ddwy o brif aneddiadau'r fwrdeistref sirol, mae'n golygu bod safleoedd
tir llwyd a safleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio'n cael eu hailddefnyddio'n
briodol a dylai gwasgaru'r twf hwn helpu i wella'r amgylchedd lleol.
4.2.3. Mae ystyried cynaladwyedd amgylchedd yn ei ystyr ehangaf yn hollbwysig
yn y CDU o ran asesu pob cynnig datblygu neu newid arfaethedig yn y defnydd o
dir neu adeiladau. Golyga defnyddio'r egwyddor hon i ryddhau tir tai i'w
ddatblygu y dylid lleoli tir lle bydd yn lleihau'r angen i deithio ac yn annog y
defnydd o ffyrdd eraill o deithiol. Bydd yr arolwg o anghenion tai (2002) yn
arwain y Strategaeth Tai Leol a dylai feithrin atebion lleol i anghenion
cymdeithasol yn lle creu problemau amgylcheddol newydd neu waethygu problemau
sy'n bodoli eisoes.
4.2.4. Canolbwynt arall o strategaeth y CDU yw adfywiad trefol. Bydd
ailddefnyddio tir a ddefnyddiwyd eisoes, tir nad yw'n cael ei ddefnyddio digon
neu dir gwag ar gyfer adeiladu tai'n helpu i gyfyngu colli cefn gwlad a
safleoedd tir glas. Bydd hyd teithiau arferol o ddydd i ddydd yn tueddu i fod yn
fyrrach o safleoedd tai yn y prif anheddiadau trefol a byddant yn fwy posibl ar
gludiant cyhoeddus neu i'w cerdded a'u beicio. Mae cyfleusterau cymunedol ac
eraill yn debygol o fod yn haws eu cyrraedd hefyd a gall cynnydd yn y
poblogaethau lleol helpu i gadw'r cyfleusterau hynny ar agor. Fodd bynnag, dylid
nodi nad yw pob safle tir llwyd neu safle trefol nad yw'n cael ei ddefnyddio
digon yn addas ar gyfer tai e.e. gallai fod angen rhai at ddibenion cynllunio
eraill a bydd planhigion wedi dechrau tyfu'n naturiol ar eraill sy'n bwysig i
fioamrywiaeth leol yr ardal.
4.3. Anghenion Tai
4.3.1. Mae poblogaeth bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi tyfu'n
barhaus dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, nid yw lefel y twf hwnnw wedi
bod yn gyson yn ystod y cyfnod hwn. Yn y 1960au, cynyddodd y boblogaeth 11%, tra
bod y twf ers hynny wedi bod yn gymedrol ac wedi arafu rhwng 1991 a 2001. Fodd
bynnag, mae poblogaeth yr ardal wedi parhau i dyfu'n gyffredinol, yn codi o
108,950 yn 1961 i 128,700 yn 2001.
4.3.2. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 35.5% o'r boblogaeth o fewn y prif grwpiau
magu plant, sef 18 - 44.
4.3.3. Mae mewnfudo wedi cael dylanwad sylweddol yn y gorffennol. Er
enghraifft, creodd y gwelliannau mawr i isadeiledd yr ardal - adeiladu'r
draffordd M4 yn y 1970au hwyr a'r 1980au cynnar a phrosiectau buddsoddiad mewnol
llawn bri gan y Ford Motor Co a Sony lawer o swyddi o ansawdd uchel ac â chyflog
da a roddodd hwb i atyniadau Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â'n cymydog agos
Caerdydd. Rhoddodd y buddsoddiad mewnol hwn hwb i dai ychwanegol yn yr ardal a
bodlonwyd yr angen hwn i raddau gan ddatblygiad ardaloedd preswyl newydd e.e.
estyn tref Pen-y-bont i Brackla yn y dwyrain ac estyn ardaloedd preswyl eraill
mewn trefi eraill e.e. estyniad Porthcawl a oedd hefyd yn denu pobl a ddymunai
ymddeol.
4.3.4. Mae'r fethodoleg amcangyfrif a ddefnyddir i gyfrif anghenion tai,
cartrefi a phoblogaeth y fwrdeistref sirol yn cynnwys elfen ymfudo a fyddai'n
darparu ar gyfer ffactorau rhanbarthol a lleol cyfredol a allai ddylanwadu ar
lefelau o dwf yn y fwrdeistref sirol e.e. goblygiadau posibl llain las o gwmpas
Caerdydd a gwireddu potensial llawn Bae Caerdydd. Ystyrir elfen fewnfudo'r
amcangyfrifiad yn sefyllfa realistig ar gyfer twf yn y boblogaeth a thwf mewn
cartrefi.
4.3.5. O ganlyniad i ofyn tai tybiedig y Cyngor a'r newid dilynol,
amcangyfrifir y bydd poblogaeth y fwrdeistref sirol yn tyfu i 140,355 erbyn
2016.
4.3.6. Mae'r twf hwn, ynghyd â thueddiadau cenedlaethol i ffurfio cartrefi
llai, yn creu cynnydd o 10,143 cartref rhwng 1996 a 2016.
4.37. Mae hyn yn cyfateb â gofyn o 9,950 annedd rhwng 1996 a 2016. Cwblhawyd
rhai o'r rhain yn y cyfnod 1996-2000 ac mae'r gofyn wedi lleihau i 7,957.
4.4. Safleoedd Tai
4.4.1. LLEOLIAD DATBLYGIAD TAI
POLISI H1
DYRENNIR Y SAFLEOEDD CANLYNOL AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL YM MWRDEISTREF SIROL
PEN-Y-BONT AR OGWR AR GYFER Y CYFNOD HYD AT 2016:-
| |
YMRODDIADAU SY’N WEDDILL (2000) |
NIFER
DYBIEDIG
YR ANHEDDAU |
Cyswllt â’r Map |
| H1(1) |
(De) Heol
Cefn Glas, Pen-y-bont* |
10 |
27 Canolog |
| H1(2) |
Fenwick
Drive, Brackla, Pen-y-bont |
5 |
28 Gorllewin |
| H1(3) |
The Rowans,
Brackla, Pen-y-bont |
41 |
28 Gorllewin |
| H1(4) |
Briarfields, Brackla, Pen-y-bont |
22 |
28 Gorllewin |
| H1(5) |
Cymdda,
Sarn |
12 |
21 Canolog |
| H1(6) |
Maendy Farm
(1), Bryncethin |
60 |
15 Dwyrain |
| H1(7) |
Heol-y-Gerddi, Pencoed |
11 |
22 Dwyrain |
| H1(8) |
Dwyrain
Bryndu, Mynydd Cynffig* |
15 |
19 Dwyrain |
| H1(9) |
Canol
Bryndu, Mynydd Cynffig |
110 |
19 Dwyrain |
| H1(10) |
Heol
Waunbant, Mynydd Cynffig |
11 |
19 Dwyrain |
| H1(12) |
(Gorllewin)
Heol y Goron, Mynydd Cynffig* |
14 |
19 Dwyrain |
| H1(14) |
Maendy Farm
(2), Bryncethin |
200 |
15 Canolog |
| H1(15) |
De Heol
Coychurch, Pen-y-bont |
58 |
27 Dwyrain |
| H1(16) |
De Heol
Hendre, Pencoed |
300 |
22 Dwyrain |
| H1(17) |
Waterhall
Road, Mynydd Cynffig* |
15 |
19 Dwyrain |
| H1(18) |
Cartref
Nyrsys, Quarella Road, Pen-y-bont* |
30 |
27 Canolog |
| H1(19) |
Gogledd
Heol Mackworth, Pen-y-bont* |
20 |
27 Canolog |
| H1(20) |
Ysbyty
Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr* |
71 |
27 Canolog |
| H1(23) |
Hen Ysbyty
Penyfai, Penyfai* |
83 |
21 Canolog |
| H1(24) |
Broadlands,
De-Orllewin Pen-y-bont |
1,801 |
27 |
| H1(25) |
Parc
Derwen, Gogledd-Ddwyrain Pen-y-bont |
1,500 |
21 Dwyrain |
| H1(26) |
Austin
Avenue, Porthcawl |
9 |
29 Dwyrain |
| H1(27) |
Meadow
Lane, Porthcawl* |
12 |
29 Canolog |
| H1(28) |
Nicholls
Yard, Porthcawl* |
12 |
36 Dwyrain |
| H1(29) |
Rowan
Drive, Porthcawl* |
7 |
30 Gorllewin |
| H1(30) |
Crown Road,
Maesteg |
25 |
5 Canolog |
| H1(31) |
Llan Road,
Pont Rhyd-y-Cyff, Maesteg |
9 |
10 Dwyrain |
| H1(32) |
The Coed,
Maesteg* |
46 |
5 Canolog |
| H1(33) |
Neuadd
Domos, Cwmfelin, Maesteg |
71 |
10 Canolog |
| H1(34) |
Picton
Street, Nantyffyllon, Maesteg* |
14 |
5 Gorllewin |
| H1(35) |
James Road,
Blaengarw |
5 |
6 Canolog |
| H1(36) |
Lower Adare
Street, Pontycymmer* |
16 |
6 |
| H1(37) |
Wood
Street, Pontycymmer* |
10 |
6 Dwyrain |
| H1(38) |
Cyn Ysgol,
Fairy Glen, Wyndham* |
18 |
7 Gorllewin |
| H1(39) |
Cwm Ogwr
Fach, Blackmill |
39 |
16 Canolog |
| H1(40) |
Gogledd y
Sgwâr, Nantymoel* |
70 |
7 Canolog |
| H1(41) |
Gogledd
Bythynnod Aber, Nantymoel |
9 |
7 Canolog |
| H1(42) |
Bettws
Road, Llangeinor |
32 |
11 Dwyrain |
| H1(43) |
Upper Adare
Street, Pontycymmer |
14 |
6 |
| H1(44) |
Gelliron,
Pontycymer |
7 |
6 Dwyrain |
| H1(45) |
Gorllewin
Fountain Terrace, Bettws |
10 |
15 Canolog |
| H1(46) |
De Woodland
Street, Wyndham* |
14 |
7 Gorllewin |
| H1(49) |
Derllwyn
Road, Tondu* |
26 |
15 |
| H1(50) |
Gasworks
Terrace, Tondu* |
17 |
15 Canolog |
| H1(66) |
Haul Bryn,
Nantymoel |
18 |
7 Canolog |
| H1(68) |
Cefn Glas
Road, Gogledd Pen-y-bont |
70 |
27 Canolog |
| H1(69) |
Fferm
Dinas, Betws |
25 |
15 Canolog |
| H1(70) |
Glan y
Nant, Tondu |
12 |
15 |
| H1(71) |
Tir yn
Southmead, De Corneli |
10 |
25 Canolog |
| H1(72) |
Tir ger
Heol Dewi Sant, Betws |
23 |
15 Canolog |
| H1(73) |
Greenacre
Drive, Pencoed |
10 |
22 Dwyrain |
| Ymroddiadau
sy’n weddill - amcangyfrifiad (2000) |
5,049 |
|
| |
DYRANIADAU
TAI NEWYDD |
NIFER
DYBIEDIG
YR ANHEDDAU |
|
| H1(51) |
Gorllewin o
Heol Maesteg, Tondu* |
210 |
15 Gorllewin |
| H1(52) |
Rhan o Hen
Gilffyrdd Heol Coety, Pen-y-bont* |
20 |
21 Canolog |
| H1(53) |
Estyniad
Badgers Mead, Brackla, Pen-y-bont |
28 |
27 Dwyrain |
| H1(54) |
Dwyrain
Heol Coychurch, Brackla, Pen-y-bont |
190 |
28 Gorllewin |
| H1(55) |
Maes Clwb
Pêl Droed, Heol Coychurch, Pen-y-bont* |
40 |
35 Dwyrain |
| H1(56) |
Fferm
Marlas/Heol Fach, Gogledd Corneli |
350 |
19 |
| H1(58) |
Cynllun
Adfywio Porthcawl* |
800 |
37 |
| H1(59)s |
Gogledd
Locks Lane, Porthcawl |
40 |
29 Gorllewin |
| H1(60) |
Cyn Bwll
Glo Ffaldau, Pontycymer |
24 |
6 Canolog |
| H1(61) |
Hen Olchdy,
Maesteg* |
250 |
32 |
| H1(62) |
Fferm
Tremains Uchaf, Brackla, Pen-y-bont |
110 |
28 Gorllewin |
| H1(63) |
Safle’r
Ysgol Gyfun, Heol Pen-y-bont, Maesteg* |
70 |
5 Canolog |
| H1(64) |
Gorllewin
Coed-y-Morfa, Brackla, Pen-y-bont* |
90 |
27 Dwyrain |
| H1(65) |
De Heol
Joslin, Pen-y-bont* |
30 |
21 Dwyrain |
| H1(67) |
Heol
Porthcawl, Gogledd Corneli |
80 |
19 Canolog |
| H1(74) |
Tir ger
Heol Tywith, Nantyffyllon |
12 |
5 |
| H1(75) |
Cyn Ysbyty
Llynfi, Maesteg* |
42 |
5 Gorllewin |
| H1(76) |
Clwb
Cymdeithasol, Heol Pen-y-bont, Maesteg* |
10 |
5 Canolog |
| H1(77) |
Cyn Garej
BP, De Corneli* |
18 |
25 Canolog |
| H1(78) |
Tir ger 51
Heol Castell Coety, Pen-y-bont |
1 |
21 Dwyrain |
| H1(79) |
Safle’r
Triongl, Pencoed |
106 |
28 Dwyrain |
| H1(81) |
Wyndham
Close, Brackla* |
48 |
22 Gorllewin |
| H1(82) |
Tŷ Nant,
Llangeinor |
10 |
11 Dwyrain |
| H1(83) |
Stryd y
Parc, Pen-y-bont* |
17 |
27 Canolog |
| H1(84) |
Cefn Heol
Bryn, Tondu* |
21 |
15 Canolog |
| H1(85) |
Tir ar
Quarella Road, Pen-y-bont* |
11 |
27 Canolog |
| H1(86) |
Hen Ysgol
Tennis, Waterton* |
22 |
28 |
| H1(87) |
The
Esplanade, Porthcawl* |
42 |
37 Gorllewin |
| H1(88)s |
Pwll y
Waun, Porthcawl |
25 |
29 |
| DYRANIADAU
NEWYDD TYBIEDIG |
2,717 |
|
| CYFANSWM Y
DDARPARIAETH |
7,766 |
|
*
dynoda safle a ddiffiniwyd fel tir a ddatblygwyd eisoes h.y. tir llwyd neu dir
sy'n sylweddol 'lwyd' o ran cymeriad
** Bydd datblygu safleoedd H1(59) a H1(88) yn rhan o gynlluniau defnydd cymysg
(polisïau (REG3(5)
a REG3(4)
BYDD DATBLYGIAD SAFLEOEDD H1(14, 16, 24, 25, 51, 52, 54-56, 58, 61 - 67, 75, 79,
81 AC 84) YN UNOL Â MANYLION DATBLYGU A/NEU GYTUNDEBAU CYNLLUNIO/FFYRDD PRIODOL.
RHAID I'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL GYTUNO AR Y RHAIN CYN I'R GWAITH DATBLYGU
DDECHRAU.
4.4.2. Mae polisi H1 yn gyffredinol unol â strategaeth defnydd tir y CDU,
sy'n datgan y bydd darpariaeth ar gyfer 9950 annedd ychwanegol yn y fwrdeistref
sirol ar gyfer y cyfnod 1996 - 2016. Gan ganiatáu am y rhai a gwblhawyd yn ystod
1996-2000, mae gofyn am 7,957 ar gyfer 2000 - 2016. Mae
polisi H1 yn darparu ar
gyfer 97.6% o'r gofyn hwn, gan ddarparu ar gyfer yr ystod eang o anheddau tra'n
cadw cyfle a thegwch dewis ar gyfer holl drigolion presennol a dyfodol y
fwrdeistref sirol.
Ymroddiadau sy'n Weddill (2000)
4.4.3. Bwriad cynlluniau datblygu a CDU yw rhoi sail gadarn ar gyfer
penderfyniadau rhesymol a chyson ar geisiadau ac apeliadau cynllunio. Nodwyd
darnau sylweddol o dir tai yng Nghynllun Lleol Bwrdeistref Ogwr ac mae gan lawer
o'r rhain ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad. Mabwysiadwyd y Cynllun Lleol
yn 1995 a darparodd ar gyfer adeiladu 7,240 annedd rhwng 1991 a 2006. Mae llawer
o'r safleoedd hyn yn dal heb eu datblygu, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol.
Ymysg y rhain yw'r ddau brif safle i'r de-orllewin a'r gogledd-ddwyrain o
Ben-y-bont ar Ogwr, sef Broadlands a Pharc Derwen.
4.4.4. Monitrwyd ac ailaseswyd pob un o safleoedd y Cynllun Lleol. Mae hyn
wedi datgelu bod lleiafrif sylweddol ohonynt yn meddu ar gyfyngiadau difrifol a
fyddai wedi peidio ag annog datblygwyr i'w datblygu, er y dylai'r rhan fwyaf
ohonynt gael eu parhau i'r CDU. Er enghraifft, gwelwyd bod y tir ar rai
safleoedd yn ansefydlog, nid oes gan eraill fynediad da neu mae'r tir wedi ei
lygru ac effeithiwyd ar nifer fach gan gyfyngiadau is-adeileddol eraill neu
maent yn agored i lifogydd. Eithriwyd y safleoedd hyn o
bolisi H1 ac eithrio lle
mae mesurau lleddfu neu lle mae'r Cyngor yn hyderus y gellir goresgyn y
cyfyngiadau hyn drwy gytundebau cynllunio/ffyrdd i'w galluogi i gael eu
gweithredu yn ystod bywyd y CDU.
4.4.5. Ar y sail hon, bydd yr ymroddiadau sy'n weddill yn 2000 yn darparu ar
gyfer datblygiad 5,049 annedd yn y fwrdeistref sirol, sef 64% o'r ddarpariaeth
darged i'w chyflawni ym mholisi H1. Mae hyn yn rhoi cyfyngiad clir ar allu'r
Awdurdod i newid cydbwysedd datblygiad preswyl newydd tuag at safleoedd 'tir
llwyd' yn y CDU cyntaf hwn. Er hynny, bydd datblygu'r holl safleoedd ym
mholisi
H1 yn cyfrannu tuag at well fynediad i gludiant cyhoeddus, swyddi, siopau,
hamdden a chyfleusterau eraill wrth symud nodau cynaladwyedd y Cyngor yn eu
blaen yn gyffredinol.
Dyraniadau Tai Newydd
4.4.6. Mae'r Llywodraeth yn cynghori awdurdodau cynllunio yng Nghymru i
ymdrin â'r cwmpas a'r potensial i adfer, trosi, clirio ac ailddatblygu wrth
ystyried safleoedd addas ar gyfer datblygiadau tai.
4.4.7. Er bod y Llywodraeth wedi nodi targed cyffredinol yn Lloegr i adeiladu
60% o'r anheddau newydd ar dir llwyd neu dir a ddatblygwyd yn flaenorol dros y
10 mlynedd nesaf, nid oes targed penodol tebyg ar gyfer Cymru; fodd bynnag,
cydnabyddir ei fod yn fater y dylid ymdrin ag ef, yn enwedig wrth baratoi CDU.
4.4.8. Cafwyd sawl cyfle ar gyfer datblygiad preswyl newydd yn y fwrdeistref
sirol ers mabwysiadu'r hen Gynllun Lleol, y rhan fwyaf ohonynt yn gyfleoedd
datblygu o fewn prif anheddiadau trefol Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg;
neu a grëwyd gan strategaethau adfywio. Amcangyfrifir y bydd y safleoedd tai
newydd yn darparu ar gyfer 2717 annedd ychwanegol.
4.4.9. Mae bron i bob un o'r safleoedd newydd hyn yn dod o fewn y diffiniad o
dir a ddatblygwyd yn flaenorol (fel a ddiffinnir gan Bolisi Cynllunio Cymru)
neu'n defnyddio tir nad yw'n cael ei ddefnyddio digon yn ardaloedd trefol y prif
anheddiadau. Mae'r holl safleoedd newydd yn unol â'r gyfres chwilio a gefnogir
gan Bolisi Cynllunio Cymru ac maent yn addas i'w cynnwys ym
mholisi H1 felly.
Amcangyfrir canran y tai newydd a fydd yn cael eu hadeiladu ar dir a ddatblygwyd
yn flaenorol o fewn y dyraniadau newydd yn 65%.
4.4.10. O ystyried y nifer sylweddol o ymroddiadau sy'n weddill, mae'r Cyngor
yn ystyried sefydlu fframwaith cadarn a chynaliadwy ar gyfer polisïau tai.
Manylion Datblygu
4.4.11. Bydd pedwar o'r ymroddiadau sy'n weddill, a chanran sylweddol o'r
safleoedd tai newydd ym mholisi H1, yn gofyn am fanylion datblygu a/neu
gytundebau cynllunio neu ffyrdd priodol cyn eu datblygu. Bydd hyn yn rhoi cyfle
i'r Cyngor sicrhau lefel briodol o ofynion isadeiledd perthnasol, gwella
cyfleusterau lleol a/neu wella'r rhwydwaith cludiant lleol ar y cyd â
datblygwyr/perchnogion tir, yn unol â rhan 1 o
bolisi 22.
4.5. Argaeledd Tir Preswyl
4.5.1. TIR AR GAEL AR GYFER TAI
POLISI H2
CYNHELIR CRONFA PUM MLYNEDD O DAI YM MWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR YN
YSTOD BYWYD Y CYNLLUN.
4.5.2. Polisi'r Llywodraeth yw bod awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod
digon o dir ar gael neu'n dod ar gael er mwyn cynnig cronfa 5 mlynedd o dir tai,
a fernir yn erbyn y nodau cyffredinol a maint a lleoliad y datblygiad y darperir
ar ei gyfer yn y cynllun datblygu. I fod ar gael, rhaid i'r safleoedd hyn fod yn
rhydd neu'n hawdd eu rhyddhau o gyfyngiadau cynllunio, corfforol a pherchnogaeth
ac yn gallu cael eu datblygu'n economaidd, mewn ardaloedd lle mae pobl yn dymuno
byw a dylent fod yn darparu ar gyfer yr ystod lawn o fathau o dai. Mae
polisi H2
yn sicrhau y bydd y polisi hirsefydlog hwn yn parhau i gael ei gyflawni drwy
weithredu'r CDU.
4.5.3. Monitrir argaeledd tir preswyl ar sail awdurdod unedol yn flynyddol
gan Isadran Tir ADC a chytunir arno ar y cyd â'r awdurdod cynllunio lleol.
4.6. Safleoedd Tai Ychwanegol
4.6.1. TAI ANNISGWYL AC AR RADDFA FACH O FEWN PRIF ANHEDDIADAU
POLISI H3
YNGHYD Â'R SAFLEOEDD HYNNY YM MHOLISI H1, CANIATEIR SAFLEOEDD TAI 'ANNISGWYL' A
SAFLEOEDD BACH HYD AT AC O FEWN FFINIAU PENODEDIG Y PRIF ANHEDDIADAU CANLYNOL:-
ABERCYNFFIG BLAENGARW PEN-Y-BONT
BRYNCETHIN BRYNMENYN CAERAU
MYNYDD CYNFFIG MAESTEG NANTYMOEL
NANTYFFYLLON GOGLEDD CORNELI DYFFRYN OGWR
PENCOED PONTYCYMMER PORTHCAWL
PRICETOWN PÎL SARN
TONDU
4.6.2 TAI AR RADDFA FACH MEWN ANHEDDIADAU LLAI
POLISI H4
CANIATEIR SAFLEOEDD AR RADDFA FACH HYD AT AC O FEWN FFINIAU PENODEDIG YR
ANHEDDIADAU LLAI CANLYNOL:-
BETWS BLACKMILL CEFN CRIBWR
COETY COYCHURCH COYTRAHEN
EVANSTOWN GLYNOGWR HEOL-Y-CYW
CYNFFIG LALESTON LEWISTOWN
LLANGEINOR LLANGYNWYD MAWDLAM
PANTYRAWEL PENYFAI PONTRHYDYCYFF
PONTYRHYL/LLUEST DE CORNELI
4.6.3. Mae'r strategaeth anheddu a fabwysiadwyd yn y CDU yn cadarnhau'r
strategaeth a sefydlwyd ac a fabwysiadwyd yn y strwythur a chynlluniau lleol
blaenorol ar gyfer y fwrdeistref sirol.
4.6.4. Daw'r term 'prif anheddiad' o Gynllun Strwythur Canol Morgannwg
gwreiddiol (1979). Penderfynwyd ar hyn yn unol â maint ardal adeiledig ac
ystyrir ei fod yn fynegiant rhesymol o'r uned gorfforol a swyddogaethol a
gynrychiola. Rhestrir 'prif anheddiadau' ym
mholisi H3 ac maent yn amrywio, o
ran poblogaeth, o fwy na 35,000 i 3,000 fel a gyfrifwyd yng Nghyfrifiad 1991.
4.6.5. Mae 'anheddiadau llai' yn anheddiadau a ddiffiniwyd ym
mholisi H4 ac
mae gan bob un ohonynt boblogaethau o lai na 3,000 yn 1991. Yn debyg i'r prif
anheddiadau, ystyrir bod ganddynt wasanaethau cymunedol a chyhoeddus rhesymol a
chyfleoedd gwaith digonol. Gallant gefnogi datblygiad a thwf pellach yn eu
poblogaeth felly, yn unol â'u maint presennol ac yn gyson â strategaeth defnydd
tir y CDU a'r egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy; ni fydd unrhyw ddatblygiad yn
arwain at niwed amgylcheddol (gan gynnwys gorgyffwrdd/datblygiad gwasgaredig yn
ein cefn gwlad).

4.6.6. Diffinnir safleoedd annisgwyl fel safleoedd heb eu dyrannu o 10 neu
fwy o anheddau a leolir fel arfer o fewn y prif anheddiadau a ddiffinnir gan
bolisi H3. Gallent gynnwys safleoedd sy'n rhesymoli defnyddiau tir o gwmpas nad
ydynt yn creu niwed amgylcheddol. Gallent hefyd gynnwys adfer/trosi adeiladau
presennol a/neu ailddefnyddio tir gwag neu dir nad yw'n cael ei ddefnyddio
digon. Bydd asesiad manwl yn unol â
pholisi H5.
4.6.7. Er mwyn asesu cyfraniad safleoedd annisgwyl ar ddarpariaeth tai yn y
fwrdeistref sirol, bu angen monitro caniatâd yn ystod bywyd Cynllun Lleol
Bwrdeistref Ogwr. Gwnaed y gwaith monitro hwn rhwng 1995 a 2000 a datgela
gyfradd gwblhau o 20 annedd y flwyddyn ar gyfartaledd, sy'n gyfystyr â 320
annedd ychwanegol a fydd yn cyfrannu at ddarpariaeth tai bellach rhwng 2000 a
2016.
4.6.8. Diffinnir safleoedd graddfa fach fel rhai sydd â llai na 10 annedd a
gallant ymddangos mewn prif anheddiadau ac anheddiadau llai. Bydd safle bach yn
cynnwys 'safle llenwi' sef safle sy'n ymylu ar ddatblygiad presennol o fewn
blaen adeiledig sylweddol neu safle 'cwmpasu cyfyng' a fyddai'n safle sy'n estyn
ardal adeiledig bresennol mewn ffordd sy'n rhesymoli defnydd tir o'i gwmpas ac
nad yw'n arwain at niwed amgylcheddol. Gallai safleoedd ar raddfa fach gynnwys
cynyddu anheddau o ganlyniad i adfer a throsi adeiladau presennol yn briodol
(gan gynnwys isrannu eiddo preswyl ac ailddefnyddio tir gwag neu dir nad yw'n
cael ei ddefnyddio digon y bydd ei asesiad manwl yn destun
polisi H5).
4.6.9. Monitrir y safleoedd hyn yn agos gan yr awdurdod cynllunio lleol bob
blwyddyn a chyhoeddir y canlyniadau gan Isadran Tir ADC. Yn seiliedig ar gyfradd
gwblhau flynyddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae'r CDU yn tybio cyfraniad
pellach o 50 annedd y flwyddyn o leiaf yn ystod y cyfnod 2000-2016, sef 800
annedd ychwanegol i'r cyflenwad tai.
4.6.10. Ffafrir datblygiadau tai newydd ar safleoedd annisgwyl a graddfa fach
o fewn anheddiadau penodedig y fwrdeistref sirol dan bolisïau
H3 a
H4. Fodd
bynnag, byddant yn amodol ar fodloni ystyriaethau cynllunio manwl ar gyfer
cynigion datblygu penodol.
4.6.11. Ynghyd â'r dyraniadau tai hynny a nodir gan
bolisi H1, yn amodol ar
ymdrin â materion manwl yn foddhaol, bydd gwireddu safleoedd annisgwyl a bach yn
ehangu dewis a lleoliad tai yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol. Pan fyddant yn
cael eu hychwanegu at gyfleoedd eraill ar gyfer trosi adeiladu gwledig priodol,
a datblygiadau newydd sydd eu hangen at bwrpasau amaethyddiaeth a choedwigaeth,
ayb, byddant yn sicrhau darpariaeth tai foddhaol.
4.6.12. Wrth asesu cyflenwad tai'r fwrdeistref sirol, mae'r CDU yn tybio
rhaglen dymchwel tai flynyddol o ryw 21 annedd y flwyddyn. Ar y sail hon, mae
cyflenwad tai'r dyfodol rhwng 2000 a 2016 fel a ganlyn:-
|
Safleoedd a ddyrannwyd (polisi H1) |
7,766 |
|
Safleoedd bach heb eu dyrannu (polisïau
H3 a
H4 – ac eithriadau cefn gwlad
dan
EV1) |
800 |
|
Safleoedd annisgwyl heb eu dyrannu |
320 |
|
Dymchweliadau |
-346 |
|
Cyfanswm y cyflenwad (2000-2016) |
8,540 |
|
Cyfanswm y gofyn (2000-2016) |
7,957 |
|
Gweddill |
+583 |
4.6.13. Yn unol â
Pholisi Amgylchedd EV13, ni chaniateir datblygiadau tai
newydd sy'n dwysáu pocedi o ddatblygiad neu bentrefannau gwasgaredig yng nghefn
gwlad h.y. anheddiadau nad ydynt wedi eu rhestru fel prif anheddiadau neu
anheddiadau llai ym mholisïau H3 a
H4 na'r rhai sy'n estyn neu sy'n gorwedd yn
hollol o fewn ein cefn gwlad.
4.7. Trosiadau Preswyl ac Ailddefnyddio Adeiladau neu Dir
Mewn ardaloedd trefol
4.7.1. Mae'r adran hon o'r CDU yn ymdrin â'r sgôp ar gyfer trosi, newid
defnydd, clirio ac ailadeiladu, ac adfer stoc anheddau bresennol (gan gynnwys
stoc wag) y fwrdeistref sirol. Mae
polisi H5 yn manylu ar feini prawf ar gyfer
asesu cynigion tai tebyg mewn ardaloedd trefol.
4.7.2 ADFER/TROSI ADEILADAU I ANHEDDAU TREFOL
POLISI H5
MEWN ARDALOEDD TREFOL, FEL A DDIFFINNIR YM MHOLISÏAU
H3 A
H4, CANIATEIR CYNIGION
MANWL I ADFER NEU DROSI ADEILADAU PRESENNOL NEU LE LLAWR GWAG NEU AILDDEFNYDDIO
TIR GWAG NEU DIR NAD YW'N CAEL EI DDEFNYDDIO DIGON AR GYFER DATBLYGIAD PRESWYL
DIM OND LLE:-
1. MAE FFURF, MAINT A CHYNLLUN UNRHYW ADEILAD A ADFERIR NEU A DROSIR YN UNOL Â'R
HYN O'I GWMPAS;
2. PARCHIR CYMERIAD, CYNLLUN A DEUNYDDIAU ADEILADAU PRESENNOL NEU GYFAGOS, YN
ENWEDIG LLE MAENT O WERTH PENSAERNÏOL A HANESYDDOL NEU FEL RHAN O GRŴP;
3. NA PHERYGLIR AMWYNDERAU PRESWYL;
4. CEIR DARPARIAETH DDIGONOL AR GYFER MYNEDIAD, PARCIO, GWASANAETHAU CYHOEDDUS A
MAN AMWYNDERAU.
4.7.3. Nod y Cyngor yw bod gan bawb sy'n byw neu sydd eisiau byw yn y
fwrdeistref sirol gartref sy'n addas a fforddiadwy. Cydnabyddir y pwysigrwydd
ehangach o dai da o ran penderfynu ar 'ansawdd bywyd' a'r cyfraniad y gall ei
wneud i iechyd da, cyfleoedd addysg, ysbryd cymunedol, rheoli ymddygiad
troseddol, gobeithion swyddi a datblygiad personol erbyn hyn ac amlygir hyn yn
Strategaeth Tai 2003 y Cyngor a'i Strategaeth Lleihau Troseddau 1999/2002. Mae'r
strategaeth gyntaf yn canolbwyntio ar sut i fodloni anghenion tai pobl orau ac
mae'n cydnabod bod yr agenda tai, yn enwedig yng Nghymru, wedi symud o sefyllfa
o adeiladu llawer o dai newydd i ystyried sut i gynnal a chadw cymunedau
presennol drwy hybu adfywiad cymunedol. Croesewir y newid hwn mewn pwyslais ac
mae'n gyson â'r angen i sefydlu 'cymunedau mwy cynaliadwy' yn y fwrdeistref
sirol. Un o nodau'r CDU felly yw cydlynu canlyniadau'r Strategaeth Tai a'r
Arolwg o Anghenion Tai 2002 a fydd yn nodi anghenion lleol a chymdeithasol
penodol a darparu ar gyfer ystod ddigonol o dai, yn enwedig drwy adfywiad ac
adnewyddiad trefol.
4.7.4. Ceisia polisi H5 i fwyhau defnydd y stoc tai bresennol mewn ardaloedd
trefol a chynorthwyo i'w hadfer a'i throsi i ffurfiau o dai y mae eu hangen ar
unwaith. Mae'n cefnogi'r defnydd o dir ac adeiladau priodol eraill hefyd i
fwyhau cyfleoedd tai newydd yn y cymunedau yn y fwrdeistref sirol lle mae eu
hangen fwyaf.
4.7.5. Gellid cefnogi trosi adeiladau eraill i ddefnydd preswyl hefyd. Mae
gan lawer o siopau a swyddfeydd yn ardaloedd masnachol sefydlog y fwrdeistref
sirol loriau uchaf gwag a bydd trosiadau preswyl yn gwneud defnydd mwy
effeithiol o'r adeiladau hyn a chynnal dichonoldeb a bywiogrwydd yr ardal,
ynghyd â chyfrannu at leihau troseddu'n lleol. Dylai mynediad a darpariaeth
parcio ceir yn yr ardaloedd hyn gyd-fynd â safonau newydd y Cyngor a osodir
allan yn ei Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol diwygiedig sy'n adlewyrchu Cyfarwyddyd
Cynllunio Cymru mewn perthynas ag addasu gofynion parcio yng nghanol trefi'n
sensitif yn unol ag amgylchiadau penodol yr ardaloedd hynny.
4.7.6. Mae trosi eiddo mewn ardaloedd trefol yn gynaliadwy gan fod eiddo'n
cael ei ailddefnyddio a bydd llai o ddatblygu tir glas. Darperir llety hefyd
mewn cymunedau sy'n bodoli eisoes lle mae ei angen fwyaf a lle mae cyfleusterau
lleol ar gael. Bydd y tai hyn fforddiadwy - yn enwedig ar gyfer pobl ifanc a lle
gellir osgoi patrymau cymudo estynedig.
4.7.7. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ffafrio trosi adeiladau presennol lle
byddant yn arwain at ddirywiad sylweddol naill ai yng nghymeriad yr adeilad neu
ei ardal neu i'r gwasanaethau a'r amwynderau y mae trigolion a chymdogion yn eu
mwynhau. Gellir cael cyfarwyddyd pellach am drosi neu adfer adeiladau a/neu
ailddefnyddio neu adfer tir ac adeiladau mewn ardaloedd trefol o Gyfarwyddyd
Cynllunio Atodol cyhoeddedig y Cyngor.
Yng nghefn gwlad
4.7.8. Yng nghefn gwlad, mae'r sefyllfa o ran adeiladu o'r newydd ac amnewid
anheddau sy'n bodoli eisoes yn wahanol iawn i'r sefyllfa mewn ardaloedd trefol.
Diffinia polisi EV1 gefn gwlad fel
.... y darn hwnnw o dir sydd y tu hwnt i
ffiniau anheddu penodedig ac, o ystyried y pwysau cyson i ddatblygu yno, a'r
gwerth a roddir ar gefn gwlad, mae angen fframwaith cynllunio cadarn i'w
ddiogelu er ei fwyn ei hun. Mae
polisi EV1 yn cyfyngu unrhyw ddatblygiad yng
nghefn gwlad felly, yn unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol. Felly, rheolir
adeiladu tai newydd neu unrhyw ddatblygiad arall, gan gynnwys amnewid anheddau
presennol, i ffwrdd o'r anheddiadau penodedig yn gaeth yn y CDU ac mae'n amodol
ar bolisïau amgylcheddol
EV1 i
EV8. Cefnogir profion swyddogaethol ac ariannol i
sefydlu unrhyw angen am anheddau newydd. Cefnogir llety amaethyddol neu
goedwigaeth dros dro i brofi dichonoldeb ac unrhyw angen dilynol am anheddau
newydd. Mae cyfarwyddyd y Llywodraeth yn glir nad yw'r anghenion amaethyddol hyn
yn cynnwys darparu anheddau newydd fel cartrefi ymddeol i ffermwyr.
4.7.9. Rheolir pob datblygiad i drosi, estyn neu adfer adeiladau at bwrpasau
preswyl yng nghefn gwlad yn gaeth yn unol â gofynion manwl
polisi EV2 a
pholisi EV6.
4.8. Dwysedd a Chynllun Tai
4.8.1. Mae'r CDU yn cydnabod cyfarwyddyd y Llywodraeth fel a geir ym Mholisi
Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio - sef y dylai dyluniad da
fod yn amcan i bawb sy'n rhan o'r broses ddatblygu. Dylai cynigion sy'n
effeithio ar yr amgylchedd adeiledig neu naturiol (gan gynnwys adeiladu neu
addasu adeiladau unigol neu grwpiau o adeiladau ynghyd â'u cwmpasoedd) a
chynigion datblygu mwy ddangos yr hyn a ystyrir yn gyffredin a/neu'n
broffesiynol fel 'dyluniad da'. Bydd y mesurau hyn yn cynorthwyo i hybu
datblygiad cynaliadwy, gwella ansawdd yr amgylchedd presennol, denu busnesau a
buddsoddiad, atgyfnerthu balchder dinesig ac ymdeimlad o le a gallai arwain at y
cyhoedd yn derbyn yr angen am ddatblygiad newydd (gweler
Amgylchedd - Adran
3.17).

4.8.2. Mae dyluniad da'n arbennig o berthnasol wrth ddatblygu tai newydd. Mae
ymddangosiad y datblygiad arfaethedig, ei faint a'i berthynas â'r ardal o'i
gwmpas yn ystyriaethau cynllunio pwysig ond dylai'r CDU amlinellu disgwyliadau
dylunio'r Cyngor yn glir. Mewn perthynas â hyn, nid yw
polisi EV45 yn ceisio
gorfodi unrhyw arddull pensaernïol penodol ar gynigion datblygu ond mae'n ceisio
hybu neu atgyfnerthu gwahaniaethau lleol a gosod fframwaith ar gyfer Cyfarwyddyd
Cynllunio Atodol y Cyngor o ran dylunio datblygiadau newydd - gan gynnwys tai.
4.8.3. Mae'r Llywodraeth yn amlygu yn ei Chanllaw Arfer Da: Cynllunio ar
gyfer Datblygiad Cynaliadwy: Tuag at Well Arfer (Hydref 1998) bod:-
cynnal a chodi dwysedd preswyl yn gallu helpu tuag at gael ardaloedd trefol
mwy cynaliadwy.
Mae Polisi Cynllunio Cymru'n annog dwysedd uwch hefyd ar safleoedd y mae'n hawdd
mynd atynt er y bydd gofyn cynllunio'r datblygiad yn ofalus i sicrhau amgylchedd
o ansawdd uchel.
4.9. Tai Fforddiadwy
4.9.1 'TAI FFORDDIADWY'
POLISI H7
LLE GWELIR BOD ANGEN LLEOL, BYDD Y CYNGOR YN DISGWYL ELFEN BRIODOL O 'DAI
FFORDDIADWY' AR SAFLEOEDD ADDAS SY'N GALLU DAL 15 UNED NEU FWY NEU SY'N FWY NA
0.5 HECTAR. GWEITHREDIR Y TAI FFORDDIADWY HYN DRWY DDEFNYDDIO AMODAU CYNLLUNIO
PRIODOL A/NEU GYTUNDEBAU/ RHWYMEDIGAETHAU A/NEU DRWY GYTUNDEBAU CONTRACT RHWNG Y
CYNGOR, DATBLYGWYR A LANDLORDIAID CYMDEITHASOL COFRESTREDIG.
4.9.2. Wrth gydnabod bod angen darparu ar gyfer cymysgedd a chydbwysedd
rhesymol o ran maint a math o dai yn yr anheddiadau trefol, mae'r Cyngor yn
cydnabod angen y gymuned am 'dai fforddiadwy' ac ymdrinnir â hyn yn y CDU hwn
felly.
4.9.3. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r canlynol fel diffiniad o dai
fforddiadwy neu gartrefi fforddiadwy, sef y diffiniad a osodir allan yn y
Cyfarwyddyd Cynllunio i Gymru:-
..... tai cost isel ac wedi eu sybsideiddio (beth bynnag fo'r ddeiliadaeth,
perchnogaeth unigol neu ar y cyd, neu drefniadau ariannol) a fydd ar gael i bobl
nad ydynt yn gallu fforddio byw mewn tai sydd ar gael yn gyffredinol ar y
farchnad agored.....
(CC(C) NCT(C)2 para.5)
4.9.4. Ni ddylid drysu rhwng y termau 'tai cymdeithasol' a 'thai fforddiadwy'
fel y cyfeirir atynt yn y CDU. Cyfeiria 'tai cymdeithasol' at dai a sybsideiddir
ac a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ond nid yw'n cynnwys
'tai cost isel'. Hwb strategol y CDU yw gwasgaru datblygiadau tai newydd yn
bennaf i'r prif ardaloedd trefol ac adfywio tir gwag neu dir ac adeiladau nad
ydynt yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd hynny, er mwyn bodloni'r egwyddor
arweiniol o ddatblygiad cynaliadwy a'r nodau tai a osodwyd allan ym mharagraff
2.2.2. Mae'n bwysig cofio bod datblygiad cynaliadwy'n cynnwys ... yr angen am
gynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb. Felly, mae'r Cyngor yn
cydnabod sut gall tai fforddiadwy ac addas fod yn hanfodol bwysig o ran
penderfynu ar ansawdd bywyd ei drigolion ac mae'n cydnabod y bydd angen 'tai
cymdeithasol' cyn belled ag y bo pobl na allant neu sy'n dewis peidio â mynd i'r
sector preifat am dai.
4.9.5. Yn ei Strategaeth Tai Leol, mae'r Cyngor yn ymroddedig i ddarparu mwy
o dai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol er mwyn bodloni anghenion lleol a
defnyddio ymagwedd safonedig.
4.9.6. Er mwyn dangos yr angen am dai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol,
mae'r Cyngor wedi gwneud asesiad o anghenion tai lleol, a baratowyd yn unol â'r
cyhoeddiad 'Asesu Anghenion Tai lleol: Canllaw Arfer Da' y Swyddfa Gymreig (Mai
1999) ac 'Asesu Anghenion Tai Lleol: Canllaw Arfer Da' gan DTLR ym mis
Gorffennaf 2000. Tybia arolwg 2002 fod prinder o 234 o dai fforddiadwy fesul
blwyddyn yn y 5 mlynedd nesaf ac y gellid cyfiawnhau targed o hyd at 40% ar
safleoedd priodol. O'r prinder a nodwyd, gwelodd yr arolwg fod yr angen mwyaf am
dai ag un neu ddwy ystafell wely. Mae'r arolwg yn rhoi cryn dipyn o dystiolaeth
i'r Cyngor i drafod canran sylweddol o dai fforddiadwy gyda datblygwyr. Gellir
cyfiawnhau'r trothwyon a welwyd ym
mholisi H7 gan y lefel bwysig o angen a
welwyd ac mae'n adlewyrchu'r cyfarwyddyd cynllunio mwyaf diweddaf a gyhoeddwyd
gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weithredwr. Dengys data o'r arolwg fod y prinder
mwyaf yn ne'r fwrdeistref sirol.
4.9.7. Lluniwyd polisi H7 felly i adlewyrchu'r cyfarwyddyd cynllunio
diweddaraf a geir yn NCT(C)2 'Cynllunio a Thai Fforddiadwy' (Tachwedd 1996)
(paragraffau 14-19) a'r cyngor arfer da y cyfeiriwyd ato uchod. Gall y Cyngor
ddefnyddio amodau cynllunio a rhwymedigaethau/cytundebau er mwyn datblygu a
defnyddio tir sy'n sicrhau:-
- datblygiad cymysg a fyddai'n cyfrannu at yr angen amlwg am dai fforddiadwy;
a bod
- rhai o'r tai a adeiladir yn mynd i bobl sy'n dod o fewn categorïau penodol o
angen am dai fforddiadwy, naill ai i ddechrau neu am byth.... (NCT(C)2 paragraff
14)
4.9.8. Bydd y Cyngor yn defnyddio trefniadau contract sy'n gyfreithiol
orfodol hefyd. Y nod yw sicrhau darpariaeth leol briodol yn y tymor hir o dai
fforddiadwy yn y cymunedau sydd â'r angen mwyaf yn y fwrdeistref sirol. Ceir
cyfarwyddyd pellach am hyn yn NCT(C)2 a fydd yn helpu'r Cyngor i gyflawni'r nod
hwn.
4.9.9. Ar sail gofynion y gorffennol a chanlyniadau'r asesiad o anghenion
tai, mae'r Cyngor yn disgwyl y bydd y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn y
dyfodol yn parhau yn y 'prif ardaloedd trefol' fel a ddiffinnir ym
mholisi H3 y
cynllun gan na nodwyd llawer o bryderon am brinder tai fforddiadwy yn ardaloedd
gwledig y fwrdeistref sirol. Nid yw hyn yn syndod gan fod y rhan fwyaf o'r
fwrdeistref sirol yn drefol o ran cymeriad ac nid yw unrhyw ran o'r cefn gwlad
yn gorwedd mwy na 4 neu 5 milltir o 'brif' anheddiad drefol. Mae'r Cyngor yn
ystyried bod digon o sgôp i ddarparu tai fforddiadwy i fodloni anghenion trefol
a/neu wledig pobl leol, yn bennaf yn y prif ardaloedd trefol, fel a ddiffinnir
ym mholisi H3 ac, mewn amgylchiadau prin, lle mae'r asesiad anghenion tai'n
cyfiawnhau tai yn yr anheddiadau llai a ddiffinnir gan
bolisi H4. Ni chaniateir
tai fforddiadwy yng nghefn gwlad tu allan i ffiniau anheddu oni bai bod eu
hangen at ddibenion amaethyddiaeth. Yn yr amgylchiadau prin hyn, defnyddir
amodau deiliadaeth amaethyddol priodol yn ychwanegol i'r amodau/trefniadau
contract hynny i sicrhau natur fforddiadwy barhaus yr annedd yn y tymor hwy.

4.9.10. Bydd polisi H7 yn sicrhau bod 'tai fforddiadwy' yn bodloni'r un
safonau uchel sy'n gymwys yn gyffredinol i unrhyw ddatblygiadau tai newydd fel a
ddarperir ar eu cyfer ym
mholisi EV45. Mae'r Cyngor yn cydnabod y dylid annog
dwysedd uwch ar safleoedd sy'n hawdd mynd atynt ac y dylid diogelu amgylchedd o
ansawdd drwy gynllunio'r datblygiad yn ofalus.
4.10. Safleoedd Carafanau a Sipsiwn Preswyl
4.10.1. Nid yw'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol bellach i ddarparu
a rheoli safleoedd sipsiwn. Fodd bynnag, dylent ddangos sut maent wedi ystyried
anghenion lletya sipsiwn drwy wneud darpariaeth ddigonol ar gyfer safleoedd yn y
CDU a thrwy gynnwys polisi sy'n seiliedig ar feini prawf a fydd yn eu galluogi i
ystyried cynigion am safleoedd sipsiwn mewn ffordd briodol.
4.10.2 SAFLEOEDD SIPSIWN
POLISI H8
CANIATEIR SAFLE NEWYDD I ROI LLETY I SIPSIWN SY'N BYW NEU SY'N TEITHIO I'R
FWRDEISTREF SIROL DIM OND LLE MAE:-
1. GANDDO FYNEDIAD RHESYMOL I SIOPAU A GWASANAETHAU HANFODOL;
2. YN OSGOI BOD YN AGOS I DDATBLYGIAD PRESWYL;
3. YN GYDNAWS Â DEFNYDDIAU TIR CYFAGOS;
4. YN HAWDD EI GYRRAEDD O'R RHWYDWAITH FFYRDD AC MEWN MAN CYFLEUS O RAN CLUDIANT
CYHOEDDUS;
5. YN DDERBYNIOL O RAN GWARCHOD YR AMGYLCHEDD A DARPARU GWASANAETHAU CYHOEDDUS;
A LLE
6. GELLIR EI GUDDIO A'I DIRLUNIO'N BRIODOL I SAFON SY'N GYDNAWS Â'R ARDAL DREFOL
NEU WLEDIG O'I GWMPAS.
4.10.3. Nid yw bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr na hen fwrdeistref Ogwr
wedi bod yn ardal lle mae unrhyw nifer sylweddol o sipsiwn wedi byw ynddi yn y
blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, bwriad
polisi H8 yw rhoi cyfarwyddyd eang ar
gyfer datblygu safleoedd sipsiwn yn y dyfodol. Seilir y polisi ar bolisïau tebyg
sydd wedi bod yn dderbyniol ar gyfer cynlluniau strwythurau eraill yng Nghymru
ac mae'n cynnwys nifer o feini prawf i arwain y gwaith o werthuso safle.
4.10.4. Yn unol â pholisi H8, dylai safle feddu ar gyfle rhesymol o gael ei
ddefnyddio (h.y. bod mewn ardal y mae sipsiwn yn ymweld â hi). Golyga hyn na
ddylai fod ymhell o'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Yn ychwanegol, dylai fod yn
gyfleus ar gyfer gwasanaethau mân-werthu a chymunedol (gan gynnwys ysgolion) a
dylai gael ei gwasanaethu gan gludiant cyhoeddus. Dylai'r safle fodloni gofynion
cludo eraill hefyd h.y. ni ddylai arwain at beryglon traffig a dylai fod yn
ddiogel mynd ato o'r ffordd fawr; er y dylid osgoi pennu safle sy'n agos i
ddatblygiad preswyl lle'n bosibl, ni ddylid lleoli safle sy'n creu amodau sy'n
peri ddatblygiad preswyl fod yn amhriodol. Bydd gofyn bod yna wasanaethau
cyhoeddus i'r safle am gostau rhesymol. Mewn rhai amgylchiadau, gallai lleoliad
gwledig fod yn dderbyniol pan nad oes lleoliad trefol ar gael neu'n annerbyniol.
Ym mhob achos, rhaid i safle fod yn dderbyniol o ran cadwraeth amgylcheddol a
diogelu'r tirlun a rhaid iddo gael ei sgrinio neu ei guddio'n briodol.

<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |