6.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
6.1.1. Cyfeiriwyd buddsoddiad yn yr isadeiledd ffyrdd tuag at estyn gallu ffyrdd
er mwyn lleihau tagfeydd a bodloni rhagolygon o dwf cynyddol mewn llifau traffig
yn draddodiadol. Erbyn hyn, cytunir nad yw'r ymagwedd hon o 'ragolygu a darparu'
yn gynaliadwy. Cydnabyddir yn genedlaethol na all adeiladu ffyrdd ar ei ben ei
hun ddatrys y broblem o dwf mewn traffig a chynnydd mewn tagfeydd ac, os ystyrir
bod adeiladu ffyrdd newydd yn hanfodol, dylid ei gyfiawnhau gan ffactorau eraill
yn hytrach nag anelu i ddiwallu ar gyfer cynyddiau mewn traffig yn unig.
6.1.2. Yn yr un ffordd, cydnabyddir nad yw adeiladu ffyrdd yn datrys yr holl
broblemau a achosir gan dagfeydd er ei fod yn creu mwy o le. Dylid ystyried
mesurau sy'n amgylcheddol mwy derbyniol, fel lleihau maint ffyrdd, wrth ymdrin
â'r materion dan sylw. Mae'r Cyngor yn cydnabod y bydd dilyn yr ymagwedd hon,
sy'n gyfiawn ar seiliau economaidd ac amgylcheddol, yn golygu colli rhai ceir,
yn enwedig yn ystod oriau brig, a bydd hyn yn achosi anghyfleustra i
ddefnyddwyr. Fodd bynnag, byddai'r colledion hyn yn cael eu gwrthbwyso gan
ddarparu mesurau blaenoriaeth eraill i helpu bysiau, beiciau a cherddwyr i
deithio o gwmpas yn haws, gan ategu at y cynnydd a wnaed gan gynlluniau
pedestreiddio, llwybrau beicio a chymunedol a darparu teithiau diogel i ysgolion
y fwrdeistref sirol ac annog pobl i weithio oriau hyblyg. Mae'r Cyngor yn
hyderus y bydd effaith gyffredinol ei bolisïau cludiant o fudd cymdeithasol,
amgylcheddol ac economaidd i holl drigolion y fwrdeistref sirol.
6.1.3. Mae'r Cyngor yn cydnabod y bydd addasiadau i'r rhwydwaith ffyrdd yn cael
effaith ar gostau cludiant, patrymau teithio i'r gwaith, datblygiad economaidd
(gan gynnwys newidiadau arfaethedig i gludiadau manwerthu a chyfyngiadau
llwythi) ac felly lleoliad defnyddiau tir yn y dyfodol. Bydd raid i
benderfyniadau i addasu neu ailddyrannu ffyrdd gael eu harwain gan y rôl y bydd
yr isadeiledd cludiant cyhoeddus, yn enwedig rheilffyrdd, yn ei chwarae mewn
chwarae effeithiolrwydd cyffredinol y rhwydwaith cludiant cyfan.
6.1.4. Er ei bod yn gyffredinol ddymunol i gyfyngu maint ffyrdd mewn rhai
ardaloedd o'r fwrdeistref sirol er mwyn peidio ag annog pobl i ddefnyddio'r car,
mewn ardaloedd eraill, gallai fod angen mawr i wella'r rhwydwaith ffyrdd drwy
adeiladu ffyrdd newydd neu wella'r rhai presennol. Mewn amgylchiadau priodol,
gall adeiladu ffordd newydd ysgogi cyfleoedd economaidd drwy ddenu buddsoddiad
mewnol, fel a ddigwyddodd ar goridor traffordd yr M4. Mae effeithiau positif
posibl adfywiad yn cyfiawnhau cadw'r dewis o adeiladu rhai ffyrdd newydd, yn
enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae tir datblygu dymunol ac amgylcheddol
dderbyniol ar gael. Cyflwynwyd
polisi 6 i'r cynllun
am y rhesymau hyn.
66.1.5. Bydd math, ansawdd a lefel yr isadeiledd yn y fwrdeistref sirol yn
dylanwadu ar ddewis cludiant a natur y datblygiad arfaethedig. Yn eu tro, bydd y
ffactorau olaf hyn yn dylanwadu ar berfformiad gwaith yr isadeiledd cludiant a
ffyrdd presennol, gofynion buddsoddiad y dyfodol ac unrhyw raglen weithredu.
Cyflwynwyd polisi 7
yn y cyd-destun hwn.
6.1.6. I ganlyn yr amcan o gydlynu ac integreiddio defnydd tir â darpariaeth
cludiant, er mwyn lleihau hyd teithiau a dibyniaeth ar y car tra'n gwella
potensial cludo trenau, rhaid rheoli'r rhwydwaith ffyrdd gyda golwg ar
atgyfnerthu'r buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a geir o'r
datblygiadau y mae'n eu gwasanaethu. Mae'n hanfodol felly i lunio polisïau
cludiant a fydd yn dylanwadu ar leoliad a natur y datblygiad drwy annog
datblygiadau defnydd cymysg mewn mannau sy'n agos i goridorau cludiant
cyhoeddus. Mae'r ymagwedd hon yn cwmpasu gostyngiad yn nifer a hyd teithiau, yn
enwedig y rhai a wneir mewn ceir. Bydd yn gwella ac yn annog siwrneiau ar
gludiant cyhoeddus, ar feiciau neu ar droed er mwyn gwneud defnydd mwy
effeithiol o'r rhwydwaith cludiant cyfan a lleihau llygredd amgylcheddol.
Cynhwysir yr ymagwedd hon yn strategaeth y CDU sy'n hybu coridorau aml-gludiant
wrth graidd y rhwydwaith cludiant.
6.1.7. I helpu yn y broses uchod ac mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd ac awdurdodau
lleol eraill yn rhanbarth de Cymru, mae'r Cyngor yn cynnig safonau parcio
diwygiedig a fydd yn rheoleiddio a phenderfynu ar lefel y ddarpariaeth barcio ar
ddatblygiadau newydd. Mae'r gofyn i ddefnyddio mwyafswm safonau parcio, yn unol
â Pholisi Cynllunio Cymru 2002, yn ffurfio sail ar gyfer y gwaith.
Unwaith eto, y nod yw: lleihau dibyniaeth ar y car ac annog pobl i ddefnyddio
cludiant cyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae digon o hyn yn bodoli neu
lle mae potensial i'w hybu ymhellach.
6.1.8. Felly, er mwyn cyflawni amcanion a nodau'r safonau diwygiedig, bydd y
Cyngor yn cyflwyno polisïau sy'n gofyn i ddatblygwyr gyflwyno asesiad o gludiant
cyhoeddus a darpariaeth ar gyfer beicwyr a cherddwyr, fel rhan o'u cynigion
datblygu. Bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr cynigion
gweithgareddau/defnyddiau sy'n creu cyflogaeth gyflwyno 'cynlluniau cymudo neu
deithio' ynghyd ag esboniad llawn o sut fydd eu cynlluniau'n helpu i greu
rhwydwaith cludiant lleol effeithiol.
6.1.9. Mae'r Cyngor yn gwybod y gallai fod achlysuron lle byddai cynigion
datblygwr yn cael effaith ddrwg ar y rhwydwaith cludiant a'r amgylchedd lleol.
Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir i'r datblygwr dan sylw gyflwyno mesurau
priodol i'w gywiro. Bydd y Cyngor yn archwilio'r holl asesiadau/cynlluniau uchod
yn ofalus a bydd gofyn iddo eu cymeradwyo hefyd.
6.1.10. Mae rheoli'r rhwydwaith cludiant a phenderfyniadau buddsoddi'n cael eu
dylanwadu gan symudiadau effeithiol pobl a nwyddau, ymysg pethau eraill. Er bod
symud nwyddau ar hyd ffyrdd wedi bod yn cynyddu, mae canran y diwydiant
rheilffyrdd o draffig cludo wedi aros yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd
bynnag, awgryma strwythur allbwn economaidd a diwydiannol y fwrdeistref sirol
fod potensial sylweddol i'r rheilffyrdd gydio mewn canran fwy o'r traffig hwnnw
er budd economaidd ac amgylcheddol yr ardal. Felly, i annog rheilffyrdd i gludo
nwyddau'n lleol, bydd y Cyngor yn ffafrio cynigion datblygu sy'n anelu at leoli
ar safleoedd priodol a fydd yn hwyluso symud nwyddau ar drenau. Gallai'r
datblygiadau hyn ddenu cymorth ariannol dan Adran 249 o Ddeddf Cludiant 2000
hefyd.
Rhan 2
6.2. Cyflwyniad
6.2.1. Mae cludiant yn hanfodol o ran sicrhau lles economaidd, amgylcheddol a
chymdeithasol y fwrdeistref sirol. Gall natur y rhwydwaith cludiant ddylanwadu'n
fawr ar leoliad, math a maint datblygiadau a'r ffordd yr eir atynt. I'r
gwrthwyneb, mae perfformiad gwaith y rhwydwaith a gofynion y dyfodol yn cael eu
dylanwadu gan ddatblygiadau defnydd tir. Cydnabyddiaeth o'r berthynas hon sy'n
ffurfio sail cyfarwyddyd cenedlaethol ac sy'n cefnogi integreiddio cynllunio
defnydd tir a chludiant.
6.2.2. Yn hanesyddol, mae patrymau defnydd tir ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont
ar Ogwr wedi bod yn ffactor sylweddol wrth ddarparu tai, cyflogaeth,
cyfleusterau siopa, addysg a hamdden. Felly, mae nifer a hyd teithiau wedi
cynyddu ac mae mwy o bobl yn dibynnu ar eu ceir. Anogwyd y tuedd hwn gan isafswm
safonau parcio a blaenoriaethau rheoli'r rhwydwaith ffyrdd, y ddau wedi arwain
at ddirywiad cludiant cyhoeddus a ffyrdd eraill o deithio.
6.2.3. Fodd bynnag, nid yw'r dirywiad mewn cludiant cyhoeddus dim ond o
ganlyniad i bobl yn defnyddio ceir a chrynhoi datblygiadau ar ymylon anheddiada
trefol. Dylanwadwyd arno hefyd gan yr integreiddiad annigonol o'r gwahanol
ffyrdd o deithio a chysylltiadau gwael â datblygiadau. Mae hyn wedi cyfrannu at
anghydraddoldeb cymdeithasol hefyd. Er enghraifft, dim ond ychydig o gludiant
cyhoeddus oedd yn mynd i fannau manwerthu a mannau gwaith tu allan i drefi ac ni
allai amlder y gwasanaethau gynnal na chefnogi patrymau teithio heblaw am
deithiau yn y car. Yn yr amgylchiadau hyn, daeth cartrefi nad oedd ganddynt gar
yn gymdeithasol eithriedig o'r buddion economaidd a ddarperir gan y datblygiadau
hyn h.y. swyddi neu brisiau is.
6.2.4. Mae'r costau cymdeithasol ac amgylcheddol y mae'r eithriad hwn yn gorfodi
ar y fwrdeistref sirol yn tueddu i leihau effeithiau da gwell rwydwaith
cludiant. Felly, amcan y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) yw llunio polisïau sy'n
lleihau'r costau hyn ac sy'n lleihau eithriad cymdeithasol er mwyn cael
datblygiad cynaliadwy.
6.2.5. Mae problemau cludiant y fwrdeistref sirol yn amrywiol gan nad yw'r
ddarpariaeth yn gyson ac nid oes dewis cyfartal. Dangosir hyn gan y rhwydwaith
ffyrdd presennol i'r gogledd a'r de o'r M4 a nodweddion cymdeithasol economaidd
gwahanol y fwrdeistref sirol.
6.2.6. Mae rhai problemau cludiant gwledig unigryw'n amlwg hefyd, fel
cyfleusterau cludiant cyhoeddus annigonol a llai o fynediad hawdd i amwynderau
na ddylid anghofio amdanynt yn yr hwb i ddatrys problemau cludiant trefol (megis
tagfeydd traffig) drwy fentrau ariannol, cyfyngu traffig a mesurau rheoli
eraill.
6.2.7. Er mwyn ymdrin ag anghenion cludiant amrywiol y fwrdeistref sirol, mae
gofyn am becyn hyblyg o fesurau cludiant integredig a fydd yn gwneud symud o
gwmpas yn haws ac yn rhoi mynediad cyfartal i'r holl drigolion. Bydd yn cynnwys
mesurau i reoli a chyfyngu traffig, creu blaenoriaeth i feicwyr, cerddwyr a
bysiau. Bydd llai o bwyslais ar adeiladu ffyrdd newydd ond bydd raid i'r pecyn
cludiant integredig hyn gynnwys ychydig o waith adeiladu ffyrdd newydd, ynghyd â
rhai gwelliannau i ffyrdd presennol, er mwyn cwrdd â'r her yn gyffredinol.
6.2.8. Fodd bynnag, mae strategaeth cludiant y Cyngor yn ystyried y cyngor a
geir ym Mholisi Cynllunio Cymru 2002, sy'n gosod allan fframwaith i hybu
cludiant integredig wrth gyflawni nodau datblygiad cynaliadwy. Mae'r cyfarwyddyd
yn cydnabod yr angen i gyfyngu'r twf parhaus yn ein defnydd o'n cer a'r twf mewn
lefelau traffig, ynghyd â'r anallu i barhau i ddarparu ar gyfer y galw a
ragwelir oherwydd y costau cymdeithasol ac ariannol drud o adeiladu ffyrdd.
Mae'r cyfarwyddyd yn gofyn am ddatblygu polisïau cludiant integredig i gyfrannu
tuag at leihau twf traffig, lleihau ein dibyniaeth ar y car ac annog pobl i
ddefnyddio dulliau eraill o gludiant.

6.2.9. Bydd yr angen i leihau dibyniaeth ar y car yn annog datblygwyr i ddewis
safleoedd datblygu sydd â chludiant cyhoeddus da iddynt, ynghyd â llai o le i
barcio, er mwyn cefnogi amcanion cynaladwyedd y CDU. Ceir cyfarwyddyd manwl sy'n
cefnogi'r amcanion uchod ym MMholisi Cynllunio Cymru 2002 sy'n hybu'r
cysyniadau perthnasol a osodir allan yn Neddf Lleihau Traffig y Ffyrdd 1997.
6.2.10. I gydnabod y pwyslais llai ar adeiladu ffyrdd fel prif elfen o fuddsoddi
mewn cludiant, mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynlluniau cludiant lleol yn brif
ganolbwynt ar gyfer cyflawni ei nodau ar gyfer cludiant integredig ar lefel
leol. Dylai mesurau cynlluniau cludiant lleol gynnwys cynigion cyfalaf a refeniw
ynghyd â mentrau nad ydynt yn ymwneud â defnydd tir, fel cynlluniau cludiant
gwyrdd a phartneriaethau ansawdd gyda chwmnïau cludo a chludiant cyhoeddus. Mae
cynllun cludiant y fwrdeistref sirol yn cynnwys rhaglen bum mlynedd a fonitrir
ac a arolygir bob blwyddyn sy'n hybu cludiant integredig a datblygiad
cynaliadwy.
6.2.11. Mae'r ymagwedd newydd hon i gynllunio cludiant integredig wedi helpu i
lunio'r ffordd y bwriada'r Cyngor weithredu ei strategaeth, blaenoriaethau a
rhaglen fuddsoddi mewn cludiant. Bydd y CDU yn cynnwys cynlluniau o bwysigrwydd
strategol h.y. gan gynnwys y rhai a gychwynnir gan ddatblygiad arfaethedig,
ynghyd â'r rhai y diogelwyd tir ar eu cyfer eisoes; tra bydd y cynllun cludiant
yn ymdrin â materion cludiant lleol. Bydd yn cynnwys cynlluniau cludiant,
cynigion a mesurau rheoli traffig (yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar goridorau
cludiant strategol fel a nodir yn hwyrach dan
bolisi T13). Nodir
cynlluniau'n flynyddol yn arolwg y Cyngor o'i Gynllun Cludiant Lleol a bydd yn
helpu i fonitro polisïau'r CDU. Fel hyn, bydd y CDU a'r CCLl yn cadw ymagweddau
cyson at strategaethau a pholisïau cludiant sy'n hanfodol os dymunwn gyflawni
ein hamcanion.
6.2.12. Bydd yr ymagwedd hon yn creu dau allu newydd hefyd:-
-
Bydd yn galluogi'r Cyngor i ddatblygu pecyn o gynlluniau
nad ydynt yn dameidiog h.y. gan gynnwys prosiectau bach sy'n cadw at feini
prawf a ddiffiniwyd dan ymagwedd newydd y Llywodraeth ar werthuso; a
-
Bydd proses y CCLl yn hwyluso datblygiad rhaglenni
realistig o fuddsoddiad a blaenoriaethau cludiant sy'n cysoni arian ar gyfer
prosiectau cymwys.
6.3. Cludiant a'r Amgylchedd
6.3.1. Mae Polisi Cynllunio Cymru 2002 yn cefnogi ymagwedd integredig at
gludiant a chynllunio defnydd tir er mwyn i gludiant a chynllunio gydweithio i
gefnogi dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a lleihau'r angen i deithio. Mae'r
ddogfen yn awgrymu hefyd y dylai'r ymagwedd gyffredinol at gynllunio cludiant
anelu at ddiogelu a gwella'r amgylchedd a gwasanaethu anghenion datblygiadau
drwy leihau'r angen i deithio a gwella mynediad i swyddi, hamdden a
gwasanaethau. Felly, er mwyn lleihau'r galw am deithio, dylid lleoli
datblygiadau lle byddant yn perthyn i ddefnyddiau tir a gwasanaethau eraill y
mae gofyn iddynt ryngweithio â'i gilydd.
6.3.2. HYBU DULLIAU CLUDO CYNALIADWY
POLISI T1
DYLID LLEOLI DATBLYGIAD MEWN ARDAL A WASANAETHIR NEU SY'N GALLU CAEL EI
GWASANAETHU GAN DDULLIAU CLUDO HEBLAW AM Y CAR PREIFAT. DYLAI DATBLYGIAD DDEWIS
LLEOLIAD SY'N ARWAIN AT YR EFFAITH LEIAF O RAN TRAFFIG, SŴN,
LLYGREDD, AYB.
6.3.3. Mae a polisi T1 yn
cydnabod yr effaith sylweddol y gall lleoliad a natur datblygiad ei chael ar y
rhwydwaith cludiant a'r amgylchedd. I helpu i ddiogelu'r amgylchedd rhag
effeithiau gweithgareddau sy'n perthyn i gludiant, mae gofyn sefydlu fframwaith
sy'n annog unigolion i ddewis y dulliau teithio mwyaf addas ac amgylcheddol
dderbyniol ar gyfer eu teithiau. Elfen allweddol o hyn yw darparu gwir ddewis o
ran cludiant i ac o ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer y rhai sy'n gweithio yno
neu sy'n eu defnyddio. Felly, lleolir datblygiadau lle gall rhwydweithiau
presennol o gludiant cyhoeddus a ffyrdd ddiwallu ar eu cyfer, ynghyd â dewis
effeithiol o deithio sy'n briodol i natur a maint y datblygiadau.
6.3.4. Lleolir datblygiadau arfaethedig y bydd llawer o'r cyhoedd yn mynd iddynt
yn neu ger canolfannau presennol o weithgareddau ac sydd â chludiant cyhoeddus
da iddynt. Gorfodir y gofyn hwn gan y Cyngor a bydd yn ystyried natur y
datblygiadau a'r arferion newidiol a gyflwynir e.e e-fasnach. Dim ond mewn achos
datblygiad y byddai ei ddarpariaeth nwyddau a gwasanaeth arfaethedig yn cael ei
hamharu os byddai raid dibynnu ar gludiant cyhoeddus y bydd y Cyngor yn llacio'r
gofyn hwn. Bydd yn parhau i ofyn bod datblygiad a leolir mewn adeilad arddangos
mewn canolfan bresennol sy'n cynnig gwasanaethau newydd fel cludo i'r cartref am
ddim ac efasnach yn parhau i gael ei leoli yn y canolfannau hynny sydd â
chludiant cyhoeddus da iddynt. Mae'r Cyngor yn cydnabod hefyd bod gan rai
datblygiadau tu allan i drefi rolau i'w chwarea a bydd angen cryn dipyn o
hygyrchedd arnynt ond bydd y gofyn i'w lleoli yn y canolfannau sy'n bodoli
eisoes yn dal i fod. Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid i safleoedd eraill ar eu
cyfer fod yr un mor hygyrch o ran amrywiaeth o ffyrdd o deithio.
6.3.5. Mae cymudwyr yn teithio mewn ceir yn un o'r prif ffynonellau o dagfeydd
traffig a rhaid gweithredu pob mesur i gyfyngu ei dwf ac annog pobl i ddefnyddio
cludiant cyhoeddus i deithio i'r gwaith. Felly, lleolir swyddfeydd a
chynhyrchwyr tebyg eraill o deithiau i gymudwyr lle gall y rhwydweithiau
presennol o gludiant cyhoedus ddarparu dewis effeithiol arall yn lle'r car
preifat h.y. o fewn canol trefi fel arfer. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i
ganolfannau galwadau sy'n creu cryn dipyn o deithio i gymudwyr. Yn debyg,
lleolir datblygiadau preswyl newydd lle bydd rhwydweithiau presennol, gwell neu
arfaethedig o gludiant cyhoeddus, beicio a cherdded yn cynnig dewis effeithiol
yn y ffordd mae pobl yn teithio.
6.3.6. Mewn ardaloedd gwledig, rhaid ystyried cadw neu greu cymunedau cynaliadwy
gan gynnwys cyfleusterau fel siopau, ysgolion a swyddfeydd post. Rhaid i'r
cyfleusterau hyn gynnwys cyfleoedd gwaith, yn enwedig wrth ystyried natur ansicr
y diwydiant amaethyddiaeth. Felly, ni ddylai prinder cludiant cyhoeddus eithrio
datblygiadau manwerthu, gwasanaeth neu gyflogaeth o faint priodol a fyddai'n
bodloni anghenion lleol.
6.3.7. Mae beicio a cherdded yn ffyrdd o deithio nad ydynt yn achosi llygredd ac
sydd o fudd i iechyd unigolyn. Mae annog beicio a cherdded fel ffyrdd o
deithio'n elfennau pwysig o strategaeth cludiant y Cyngor. Yn realistig, fel
ffordd o deithio yn hytrach na gweithgaredd hamdden, mae terfynau i'r pellter y
gellir ystyried cerdded neu feicio fel dewis dilys. Ystyrir bod pellter o rhwng
2 filltir a 5 milltir ar gyfer cerdded a beicio'n rhesymol. Fodd bynnag, i
fwyhau potensial beicio, bydd y Cyngor yn annog mesurau a chyfleusterau sy'n
hybu beicio ar y cyd â chludiant cyhoeddus, yn enwedig trenau. Bydd y mesurau
hyn yn cynnwys cyfleusterau parcio beiciau diogel mewn gorsafoedd trên, yng
nghanol trefi a thu allan i sefydliadau addysg. Ystyrir lleoliad datblygiad
arfaethedig o ran sut mae'n mwyhau potensial y ffyrdd cynaliadwy ac amgylcheddol
dderbyniol hyn o deithio i fodloni anghenion ei ofynion mynediad.
6.3.8. Ynghyd â chyfiawnhau lleoliad, gofynnir i ddatblygwyr ddangos y
datblygwyd strategaethau mynediad a gyflwynir i gefnogi eu cynigion gyda golwg
ar ddarparu'r cyfleusterau cludiant mwyaf, yn gyson â natur, ffurf a maint y
datblygiad mewn perthynas â cherdded, beicio a chludiant cyhoeddus. Fel hyn,
sicrheir dewis o ffyrdd o deithio i ddefnyddwyr y datblygiad.
6.3.9. I gydymffurfio â pholisi
T1,, gofynnir i gynigion datblygu gael eu cynllunio mewn ffordd sy'n hwyluso
cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus. Yn ychwanegol, gellir gofyn i ddatblygwr
wella'r isadeiledd presennol.
6.3.10. GWELLIANNAU CYNALIADWY I'R FFYRDD PRESENNOL
POLISI T2
DYLID CYNNWYS ASESIAD CLUDIANT GYDA CHYNIGION AM DDATBLYGIAD MAWR NEU
DDATBLYGIAD SY'N DEBYGOL O GYNYDDU NEU NEWID CYMERIAD TRAFFIG AR Y RHWYDWAITH YN
SYLWEDDOL. OS YW HYN YN DANGOS Y BYDDAI CYNNIG YN CAEL EFFAITH DDRWG AR
DDIOGELWCH Y FFYRDD NEU ANSAWDD YR AMGYLCHEDD A BYDDAI'N METHU I DDARPARU
MYNEDIAD CYFLEUS O RAN DEWIS O DDULLIAU TEITHIO, DYLID ARCHWILIO A SICRHAU'R
POSIBILRWYDD O ORESGYN Y PROBLEMAU DRWY DDARPARU'R CANLYNOL:
1. NODWEDDION DIOGELWCH Y FFYRDD;
2. CYFLEUSTERAU BEICIO;
3. SYMUDIADAU CERDDWYR;
4. CYFLEUSTERAU CLUDIANT CYHOEDDUS;
5. NODWEDDION RHEOLI CYFLYMDRA; A
6. GWELLIANNAU AMGYLCHEDDOL.
6.3.11. Dylai creu amgylchedd o ansawdd uchel ar y cyd â chyfleusterau am
ddulliau eraill o gludiant a nodweddion diogelwch fod yn gyson â hygyrchedd
boddhaol. Os yw'r Cyngor yn ystyried bod gofyn am welliannau i'r isadeiledd
presennol er mwyn i ddatblygiad fynd yn ei flaen, gofynnir i'r datblygwr
weithredu'r gwelliannau hynny i safonau uchel drwy ymdrin â materion diogelwch,
annog ffyrdd eraill o deithio, gwella'r amgylchedd o ran ei ymddangosiad ac
effaith; a chyfyngu atebolrwydd cynnal a chadw. Felly, o ran maint a natur
datblygiadau arfaethedig, gweithredir yr ystyriaethau sy'n perthyn i gludiant ac
a restrir dan bolisi T2.
6.3.12. Mae llawer o bobl yn cael eu rhwystro rhag gwneud siwrneiau ar feic neu
ar droed oherwydd y problemau o groesi ffyrdd, traffig, sŵn, llygredd a
phryderon am ddiogelwch. Disgwylir i ddatblygwyr sicrhau y darperir cyfleusterau
beicio a cherdded diogel, a llwybrau tu mewn a thu allan i ddatblygiadau
arfaethedig, er mwyn cael gwared ar y pryderon hyn a mwyhau'r defnydd o'r ffyrdd
hyn o deithio i ac o'r datblygiad. Ni ddylai'r datblygiad ei hun fod yn rhwystr
i'r ffyrdd hyn o deithio. Felly, lle mae hyn yn briodol, gofynnir i lwybrau
beicio a cherdded ganiatáu llwybr diogel a dymunol drwy'r datblygiad. Dylai hyd
yn oed y cynigion mwyaf bach gydweddu â diogelwch y ffyrdd a dylai hwyluso
cyfleoedd mynediad priodol ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
6.3.13. Bydd cynigion datblygu'n annog y rhaniad mwyaf posibl o blaid cludiant
cyhoeddus a lywodraethir gan fysiau a disgwylir i ddatblygwyr hybu'r elfen hon
mewn strategaethau mynediad mewn cysylltiad â chwmnïau lleol, a rhoi sylw
penodol i ofynion siwrneiau gwaith a siwrneiau eraill. Rhaid i amlder y
gwasanaeth ganiatáu i'r bws gyfateb â dymunoldeb y car preifat a disgwylir i
ddatblygwyr ddarparu manylion o unrhyw wasanaethau ychwanegol a fydd eu hangen
er mwyn gwireddu potensial cludiant cyhoeddus. Lle bydd angen, gofynnir i
ddatblygwyr ddarparu arian i hybu'r gwasanaethau hyn i ddechrau a chychwyn ar
gytundebau cyfreithiol orfodol i sicrhau y darperir y gwasanaethau hyn. Rhaid i
ddyluniad datblygiadau unigol gynnwys mesurau a chyfleusterau i sicrhau bod
cludiant cyhoeddus yn gallu symud yn effeithiol ac yn ddiogel o gwmpas y
datblygiadau.
6.3.14. Ffurfia tacsis ran o'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus hefyd a disgwylir i
ddatblygwyr ddangos y gwnaed darpariaeth briodol ar gyfer eu gofynion hefyd.
6.3.15. Os yw gwasanaethau trên yn bosibl o ddatblygiadau arfaethedig, rhaid i
ddatblygwyr ddarparu ac annog y rhaniad mwyaf posibl o blaid cludiant cyhoeddus
sy'n seiliedig ar y rheilffyrdd. Disgwylir iddynt ddatblygu'r elfen hon o'u
strategaethau mynediad mewn cysylltiad â'r cwmnïau trenau a rhoi sylw priodol i
ofynion siwrneiau i'r gwaith a siwrneiau eraill. Rhaid i ddatblygwyr ddarparu
cyfleusterau a theithiau diogel gyda'r bwriad o fwyhau'r defnydd o drenau.
6.3.16. Er ei fod yn ddymunol gwneud siwrneiau cyfan ar gludiant cyhoeddus, gall
defnydd priodol o gynlluniau parcio a theithio sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau
bysiau neu drenau wneud cyfraniad sylweddol i gludiant mwy cynaliadwy drwy annog
pobl i wneud rhannau o'r teithiau ar gludiant cyhoeddus. Bydd cyfraniad cynllun
parcio a theithio o ran bodloni galwadau teithio o galyniad i gynigion
datblygu'n ystyriaeth bwysig felly. Mewn amgylchiadau priodol, gofynnir i
ddatblygwyr ddarparu cyfleusterau parcio a theithio a chynnig arian ychwanegol
ar gyfer cludiant cyhoeddus yn ystod camau cynnar eu cynigion.
6.3.17. Mae gan unrhyw ddefnydd, gwelliant neu estyniad i'r rhwydwaith cludiant
effaith ar yr amgylchedd. Felly, mae'r Cyngor yn asesu'n ofalus y ffordd y mae
datblygiad yn effeithio ar y rhwydwaith hwnnw yn y fwrdeistref sirol. Os bydd
datblygiad yn gwaethygu problemau amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant neu'n
creu rhai newydd (boed yn lleol neu ar hyd coridor strategol), gofynnir i
ddatblygwyr ddarparu neu ariannu gwelliannau isadeiledd i ffwrdd o'r safle a/neu
ffyrdd o weithio a fydd yn lleddfu'r problemau hynny. Os bydd angen, bydd angen
dod i gytundebau cyfreithiol orfodol gyda'r Cyngor cyn dechrau ar y datblygiad.
6.3.18. Mae problemau amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant yn cynnwys pethau fel
tagfeydd, sŵn, llygredd awyr, dirgryniad, ymwthiad gweledol, tor-cysylltiad,
risg neu risg ganfyddedig o ddamwain. Bydd natur a maint y problemau posibl hyn
yn dibynnu ar yr ardal yr effeithir arni - e.e. a ydynt yn anheddiadau, yn gefn
gwlad neu'n fannau masnachol sefydlog, ayb.
6.3.19. Mae'n ofyn cynllunio arferol i ddatblygwyr gyflwyno cynlluniau priodol
o'u cynigion (gan gynnwys unrhyw fanylion technegol, gwybodaeth o arolygon ac
astudiaethau perthnasol) er mwyn i'r Cyngor asesu effaith eu cynigion ar
effeithiolrwydd y rhwydwaith cludiant. Fodd bynnag, bydd swm y wybodaeth sydd ei
hangen yn amrywio yn ôl natur a maint y datblygiad arfaethedig. Er enghraifft,
bydd un annedd ar safle cyfredol o fewn anheddiad benodedig yn mynnu datganiad o
effaith syml oni bai ei fod wedi ei leoli mewn ardal sensitif (e.e. ardal
gadwraeth). Bydd angen asesiad effaith cludiant cynhwysfawr ac archwiliad
mynediad i gludiant cyhoeddus ar ddatblygiad mwy cymhleth neu fwy o ran maint er
mwyn gallu asesu ei effaith lawn ar y rhwydwaith cludiant. Dylid datrys unrhyw
amheuaeth ynghylch lefel y wybodaeth sydd ei angen drwy wneud 'astudiaethau
maint' mewn ffordd y mae'r Cyngor wedi cytuno arni.
6.3.20. O ystyried amrywiaeth y problemau posibl a all godi, gallai natur y
mesurau lleddfhu hanfodol fod yr un mor amrywiol, yn dibynnu, er enghraifft, ar
ba goridorau strategol a effeithir. Bydd y Cyngor yn derbyn atebion y mae'n
bosibl eu gwarantu gan gytundebau cyfreithiol orfodol, fel sy'n briodol, yn yr
amgylchiadau hynny a/neu'n seiliedig ar ganlyniad asesiadau cludiant. Os yw
asesiadau cludiant yn nodi bod angen gwelliannau ffyrdd neu gludiant cyn cychwyn
ar ddatblygiad, bydd y Cyngor yn gorfodi darpariaeth am hyn ar ffurf amodau
cynllunio. Fel arall, os yw'r problemau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â
chludiant yn debygol o beidio â chael eu datrys a/neu eu lleddfu, ni chaniateir
y datblygiadau hynny.
6.4. Y Rhwydwaith Cludiant
6.4.1. Mae rhwywaith cludiant effeithiol a gweithredol yn hanfodol i economi'r
fwrdeistref sirol, felly ni chaniateir datblygiad sy'n effeithio'n ddrwg ar
effeithiolrwydd y rhwydwaith hwnnw. Gofynnir i ddatblygwyr ddangos na fydd eu
cynigion yn cael effaith ddrwg ar effeithiolrwydd y rhwydwaith lleol ac mewn
perthynas â'r coridor strategol. Felly, bydd y Cyngor archwilio'r ffactorau
canlynol sy'n berthnasol i gyflwyniadau: mynediad, diogelwch y ffyrdd,
symudiadau cerddwyr a beicwyr, traffig ychwanegol, parcio, cynllun y ffyrdd,
cludiant cyhoeddus a materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â chludiant.
6.4.2. Os penderfynir y byddai datblygiad arfaethedig yn gwaethygu neu'n creu
problemau i'r rhwydwaith cludiant, naill ai'n lleol neu ymhellach i ffwrdd e.e.
gan effeithio ar goridor cludiant strategol, gofynnir i ddatblygwyr ddarparu
a/neu ariannu gwelliannau priodol i ffwrdd o'r safle a gwneud unrhyw fesurau
eraill, drwy drefniadau gwaith, i leddfu'r problemau hynny er boddhad y Cyngor.
Cynhyrchir cytundebau cyfreithiol priodol, os bydd angen; fel arall, ni
chaniateir y cynigion hyn.
6.4.3. Gall natur y problemau cludiant, sy'n cael eu gwaethygu neu eu creu gan
gynigion datblygu, fod yn amrywiol. Er enghraifft, gallant berthyn i allu ffyrdd
neu gyffyrdd, risg o ddamweiniau, prinder cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr,
cludiant cyhoeddus cyfyng neu fwy o draffig trwm. Bydd lefel yr ystyriaeth a
roddir i'r materion amrywiol hyn yn dibynnu ar yr amgylchedd lle disgwylir i'r
traffig deithio. Er enghraifft, os gofynnir i'r traffig deithio drwy ardaloedd
preswyl neu os ydynt yn mynd heibio i ysgolion neu ganolfannau manwerthu lle mae
llawer o bobl yn cerdded, rhoddir blaenoriaeth i fwy o'r materion hynny a
restrir uchod na phe bai ardaloedd llai sensitif yn cael eu heffeithio.

6.4.4. O ystyried amrywiaeth y materion a allai godi, bydd natur y mesurau i
leddfu'r problemau'r un mor amrywiol. Felly, gall natur unrhyw welliannau i
ffwrdd o'r safle y gofynnir i ddatblygwr eu gwneud fod yn wahanol iawn. Yn
dibynnu ar ba goridor strategol sy'n cael ei effeithio, mae'n bosibl na fydd
unrhyw effaith leol. Mae'n bosibl na fydd gwelliannau corfforol yn unig fod yn
ddigon i ddatrys rhai problemau cludiant. Yn yr achosion hyn, rhaid chwilio am
atebion eraill e.e. cynlluniau rheoli traffig, ailddyrannu ffyrdd neu gefnogi
cludiant cyhoeddus. Dylid ystyried atebion eraill, fel sicrhau bod datblygiad yn
mabwysiadu patrymau gwaith priodol i gyfyngu ei effaith ar y rhwydwaith neu
ddefnyddio trenau i gyflenwi a dosbarthu nwyddau. Bydd y Cyngor yn atodi'r
amodau priodol at unrhyw ganiatâd cynllunio dilynol. Bydd y Cyngor yn ystyried
atebion eraill i'r problemau amgylchedd neu gludiant hynny a bydd yn mynd i
gytundeb cyfreithiol orfodol (a allai fod yn gymwys ar gyfer holl ddefnyddwyr y
safle yn y dyfodol) er mwyn sicrhau hyn.
6.4.5. DEFNYDDIO TRENAU I SYMUD NWYDDAUU
POLISI T3
FFAFRIR DATBLYGIAD SY'N ANNOG Y DEFNYDD O DRENAU, GAN GYNNWYS TRENAU I GLUDO
NWYDDAU.
6.4.6. Dymuna'r Cyngor chwarae rhan mewn gwella a datblygu cludiant cyhoeddus
sy'n seiledig ar y rheilffyrdd gan fod ganddo'r potensial i leihau defnydd pobl
o'u ceir. Bydd cadw a gwella cyfleusterau i deithwyr mewn gorsafoedd trên a
chreu cyfleusterau newydd yn hanfodol er mwyn gwireddu potensial llawn y
rhwydwaith rheilffyrdd.
6.4.7. Mae'r rheilffyrdd yn adnodda gwerthfawr a dylid ei ddatblygu er mwyn
sicrhau ei fod yn cludo mwy o nwyddau. Bydd hyn yn lleddfu pwysau ar y ffyrdd ac
yn dod â buddion amgylcheddol perthynol. Mae'r Cyngor yn cefnogi estyn gwaith
cludo ar drenau felly.
6.4.8. Bydd y Cyngor yn annog cyfleoedd i wella neu ddatblygu'r rheilffyrdd at
ddibenion cludiant cyhoeddus a chludo nwyddau a bydd yn ffafrio datblygiadau a
fydd yn gwneud y mwyaf a/neu sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith rheilffyrdd.
6.4.9. AIL-AGOR NEU AILDDEFNYDDIO HEN REILFFYRDD GWAG
POLISI T4
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD SY'N RHWYSTRO'R POTENSIAL I AIL-AGOR NEU AILDDEFNYDDIO
HEN REILFFYRDD GWAG AT DDIBENION CLUDIANT ERAILL.
6.4.10. Mae pedwar o'r coridorau cludiant a nodir ym
mholisi T13 yn gysylltiedig
ag elfennau o hen reilffyrdd sydd wedi cau, sy'n rhedeg o Bîl i Borthcawl; ar
hyd cymoedd Garw ac Ogwr; ac o Frynmenyn i Lanharan. Ailddatblygwyd darnau o'r
rheilffyrdd hyn eisoes fel llwybrau cymunedol a bydd darnau eraill (nad ydynt
wedi eu rhaglennu ar gyfer defnydd cludiant arall eto) yn cael eu hasesu i weld
beth yw eu potensial. Mae polisi T4 yn sicrhau y diogelir y rheilffyrdd gwag
sydd wedi cau rhag datblygiadau nad ydynt yn gysylltiedig â chludiant, hyd nes
i'r asesiadau priodol gael eu cyflawni. Fodd bynnag, mewn ardaloedd lle
dyrannwyd tir cyfagos ar gyfer datblygiad, bydd yn ddymunol gweld beth yw
dichonoldeb cynnwys yr hen reilffordd wag yn y gofynion cludiant arfaethedig ar
gyfer y datblygiad hwnnw.
6.4.11. DATBLYGIAD O FEWN CORIDORAU RHEILFFYRDD
POLISI T5
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD O FEWN CORIDORAU RHEILFFYRDD A FYDD YN ATAL GWELLA'R
RHWYDWAITH RHEILFFYRDD I DDIWALLU AR GYFER CLUDIANT CYHOEDDUS A CHLUDO NWYDDAU.
6.4.12. Ystyria'r Cyngor y cyfleusterau rheilffyrdd presennol a'r rhwydwaith yn
y fwrdeistref sirol i fod yr isafswm lefel o wasanaeth ac ni fydd yn derbyn
unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'r Cyngor wedi adnabod teithiau ar y
rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yn y fwrdeistref sirol fel coridorau
rheilffyrdd sy'n cynnwys: traciau, gorsafoedd a mynediad iddynt, cyfleusterau
parcio a theithio a'r ardal o gwmpas. Bydd y coridorau hyn yn annog lleoli
cyflogaeth leol ac yn ffurfio sail ar gyfer buddsoddi mewn cludiant yn y
dyfodol.
6.4.13. DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO AR GORIDOR YR M4 A'I GYFFYRDD
POLISI T6
CANIATEIR DATBLYGIAD A FYDDAI'N EFFEITHIO AR EFFEITHIOLRWYDD TRAFFORDD YR M4
A/NEU EI CHYFFYRDD DIM OND OS GELLIR SICRHAU MESURAU LLEDDFU PRIODOL.
6.4.14. Mae'r darn o'r M4 yn y fwrdeistref sirol yn rhan o'r Rhwydwaith
Traws-Ewropeaidd yn rhedeg o Bont Môr Hafren i Orllewin Cymru ac mae'n ffurfio
rhan o'r cyswllt strategol rhwng Iwerddon, Llundain a gweddill Ewrop. Rhoddir
pwysigrwydd arbennig i'r rhwydweithiau hyn (ar y cyd â chronfeydd strwythurol a
pholisi amgylcheddol) yn y Perspectif Datblygiad Gofodol Ewropeaidd (1999) gan
eu bod yn effeithio'n uniongyrchol ar weithgareddau datblygu yn rhanbarthau
Ewrop. Mynegwyd pryderon ynghylch y difrod i'r economi yn ei chyfanrwydd os
caniateir i dagfeydd traffig gael effaeith ddrwg ar y coridor hwn. Mae'r
tagfeydd hyn yn fwy sylweddol ar gyffyrdd traffordd yr M4.
6.4.15. Bydd y Cyngor yn asesu pob cynnig datblygu ar hyd coridor (y Rhwydwaith
Traws-Ewropeaidd) yr M4 i sicrhau na fyddant yn effeithio ar effeithiolrwydd
traffordd yr M4, yn arbennig cyffyrdd 35, 36 a 37 yn y fwrdeistref sirol.
Oherwydd y pryderon hyn, nodwyd cyffyrdd 35 a 36 eisoes ar gyfer gwelliannau
sy'n perthyn i ddatblygiadau yn y CDU (cyfeirier at bolisïau
T14(5) a T14(13).
6.4.16. Ni chaniateir datblygiadau newydd a/neu estyn datblygiadau presennol
sy'n cynnwys mynediad arfaethedig ar neu ger cyffyrdd y draffordd felly, oni bai
y gellir gosod mesurau lleddfu priodol i ymdrin ag unrhyw effeithiau drwg; a/neu
gellir dangos bod y rhwydwaith cludiant yn gallu ymdopi ag effaith traffig y
cynigion hynny.

6.5. Parcio
6.5.1. DATBLYGU MANNAU PARCIO DIBRESWYL PREIFAT I GEIR
POLISI T7
FFAFRIR DATBLYGIAD SY'N CEISIO AILDDATBLYGU NEU AILDDEFNYDDIO MANNAU PARCIO
DIBRESWYL PREIFAT, YN ENWEDIG MEWN ARDALOEDD LLE MAE DIGON O GLUDIANT CYHOEDDUS.
6.5.2. Mae lle i barcio ceir yn ddylanwad mawr ar ddewisiadau teithio a gall fod
yn ffactor pwysicach na lefel gymharol y ddarpariaeth o gludiant cyhoeddus.
Felly, os yw strategaeth y Cyngor i annog symud tuag at ffurfiau mwy cynaliadwy
o deithio'n mynd i lwyddo, mae'n bwysig rheoli'r stoc parcio gyfan, gan gynnwys
parcio preifat dibreswyl, yn ofalus. Pan fydd y cyfle'n codi, bydd rheoli mannau
parcio dibreswyl preifat yn dod o dan gwmpas strategaeth parcio'r Cyngor. Felly,
bydd y Cyngor yn ffafrio cynigion sy'n cynnwys ailddatblygu mannau presennol o
barcio dibreswyl gyda golwg â gwneud y ddarpariaeth yn gyson â safonau presennol
ar gyfer parcio ceir.
6.5.3. MANNAU PARCIO ANWEITHREDOL O FEWN ARDALOEDD MASNACHOL SEFYDLOG
POLISI T8
NI CHANIATEIR MANNAU PARCIO ANWEITHREDOL O FEWN CWRTIL DATBLYGIAD NEWYDD YN Y
CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG.
6.5.4. Mae'r Cyngor yn ceisio annog pobl i ddefnyddio ffyrdd eraill o deithio i
ganolfannau masnachol sefydlog y fwrdeistref sirol hefyd. Seilir darpariaeth yn
y dyfodol ar anghenion yr ardal gyfan yn hytrach nag ar ddarpariaeth benodedig
ar gyfer datblygiadau unigol. Hybir darparu mannau parcio i ffwrdd o'r stryd i'w
rhannu rhwng defnyddiau tir hefyd.
6.5.5. Bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr asesu gofynion mynediad eu cynigion
a dangos yr angen am gyfleusterau cludiant cyhoeddus a mannau parcio
anweithredol ar gyfer eu datblygiadau yn eu strategaethau mynediad. Mae parcio
anweithredol yn barcio sy'n darparu ar gyfer anghenion parcio'r rhai nad yw eu
defnydd o gerbyd yn hanfodol ar gyfer gweithrediad datblygiad defnydd tir. Ar
sail yr asesiadau hynny, gofynnir i ddatblygwyr ddarparu mesurau cludiant eraill
i ddiwallu ar gyfer effaith y mwyafswm safonau parcio i ffwrdd o'r stryd. Bydd y
mesurau hyn yn lleddfu effaith y datblygiadau hyn drwy hybu cludiant cyhoeddus,
beicio, cerdded, diogelu ardaloedd preswyl rhag materion parcio ar y stryd a,
lle'n briodol, yn gwella cyfleusterau parcio mewn canolfannau masnachol
sefydlog.
6.5.6. MANNAU PARCIO ANWEITHREDOL TU ALLAN I GANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG
POLISI T9
CYFYNGIR AR DDARPARIAETH BARCIO ANWEITHREDOL YN LLYM MEWN PERTHYNAS Â
DATBLYGIADAU A LEOLIR TU ALLAN I'R CANOLFANNAU MASNACHOL SEFYDLOG.
6.5.7. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi gofynion manwl am safonau parcio ar
ddatblygiadau newydd fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol i'r CDU ymhen amser. Bydd
yn defnyddio'r canllawiau hyn i sefydlu gofynion parcio anweithredol holl
ddatblygiadau newydd. Dangoswyd bod darparu mannau parcio i geir ar ddatblygiad
wedi bod yn ddylanwad mawr ar ddewisiadau teithio pobl. Mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru'n cynghori awdurdodau lleol i ystyried lleihau lefelau parcio
sydd eu hangen lle mae ffyrdd eraill o deithio ar gael.
6.5.8. Bydd y Cyngor yn gofyn i ddatblygwyr safleoedd tu allan i ganolfannau
masnachol sefydlog ddangos bod eu cynigion yn mwyhau ffyrdd o deithio mwy
cynaliadwy. Byddant yn cynnwys manylion o unrhyw isadeiledd newydd a gynigir fel
rhan o'r datblygiadau hynny ond unrhyw gyllid sydd ei angen er mwyn gwireddu
potensial safle o ran cludiant cyhoeddus. Ar ôl nodi sut y gellir bodloni
galwadau teithio sy'n deillio o'u datblygiadau, gofynnir i ddatblygwyr ddarparu
asesiadau dros ben o unrhyw anghenion y bydd ceir preifat yn gallu eu bodloni.
Bydd y Cyngor yn asesu strategaethau mynediad datblygwyr ac yn penderfynu ar y
lefelau priodol ond cyfyng o fannau parcio ceir a ganiateir ar gyfer y
datblygiadau hynny.
6.5.9. Bydd y Cyngor yn gweithredu
polisi T9 hefyd er mwyn ategu at ddymunoldeb
a chystadleuaeth canolfannau masnachol sefydlog y fwrdeistref sirol drwy sicrhau
nad yw darpariaeth anweithredol ar gyfer datblygiadau tu allan i'r canolfannau
hynny'n peryglu'r ddarpariaeth ar gyfer y canolfannau sefydlog.
6.6. Cludiad
6.6.1. PARCIO ARFAETHEDIG I LORÏAU
POLISI T10
CANIATIEIR DATBLYGU SAFLEOEDD YCHWANEGOL AR GYFER PARCIO LORÏAU MEWN MANNAU
STRATEGOL YN Y FWRDEISTREF SIROL OS:-
1. GELLIR DANGOS EU BOD YN UNOL AG AMCANION CLUDIANT CYNALIADWY;
2. NAD YDYNT YN ACHOSI PRYDERON AMGYLCHEDDOL; AC OS
3. NAD YDYNT YN PERYGLU'R AMWYNDERAU PRESENNOL.
6.6.2. Mae'r gwasanaethau traffordd ym Mharc Sarn ar gyffordd 36 o'r M4 yn
darparu lle i barcio lorïau, ynghyd â lluniaeth a llety dros nos ar gyfer
teithwyr. Er mwyn atal pobl rhag defnyddio cilffyrdd, meysydd parcio a mannau
amhriodol eraill i barcio lorïau a llwythi, bydd y Cyngor ond yn ffafrio
cynigion i ddatblygu parciau lorïau ychwanegol ar safleoedd priodol yn y
fwrdeistref sirol. Felly, bydd y defnydd arfaethedig yn unol â'r holl amcanion a
pholisïau cludiant cynaliadwy a geir yn y Cynllun ac ni ddylai greu pryderon
amgylcheddol na pheryglu'r amwynderau sy'n bodoli eisoes.
6.6.7. LLEDDFU SYMUDIADAU CLUDIAD AR YR AMGYLCHEDD
POLISI T11
FFAFRIR DATBLYGIAD NEU ESTYNIAD I DDATBLYGIAD MEWN ARDALOEDD A FYDD YN CREU
A/NEU'N DENU MWY O SYMUDIADAU NWYDDAU:-
1. SY'N HAWDD MYND ATYNT; AC
2. SY'N CAEL YR EFFAITH LEIAF AR YR AMGYLCHEDD; NEU
3. SY'N DEFNYDDIO'R RHWYDWAITH RHEILFFYRDD I SYMUD NWYDDAU.
BWRIEDIR ADEILADU GORSAF CLUDO NWYDDAU YM MROCASTELL, PEN-Y-BONT AR OGWR.
6.6.8 Mae'r gallu i gludo nwyddau'n effeithiol ac yn ddibynadwy'n hanfodol
bwysig i economi'r fwrdeistref sirol. Felly, gofynnir i ddatblygiad sy'n creu
traffig ar ffurf lorïau leoli mewn mannau y mae'n hawdd eu cyrraedd a lle bydd
llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cludo ar
ffyrdd ar hyd coridorau'r cymoedd y manylir arnynt ym
mholisi T13. Ffafrir
datblygiadau sy'n ffafrio cludo nwyddau ar drenau er mwyn lleihau'r effaith ar
yr amgylchedd hefyd. Yn achos cludo ar ffyrdd, mae sawl cyfle derbyniol yn
bodoli yn y fwrdeistref sirol a chyfeirir at y rhain yn hwyrach ym
mholisi T13
lle ystyrir coridorau cludiant.

6.6.9 Wrth gydnabod angen diwydiant a masnach lleol i symud rhai nwyddau ar
ffyrdd y fwrdeistref sirol, bydd y Cyngor yn ceisio mynd i gytundebau gwirfoddol
gyda'r gymuned fusnes a'r cwmnïau lorïau dan sylw, gyda golwg ar gyfyngu'r
defnydd o ffyrdd anaddas os oes ffyrdd eraill neu ddewisiadau eraill yn bodoli.
Ategir at y cytundebau hyn, lle bydd angen, gan orchmynion rheoli traffig y
ffyrdd. O ran y rheilffyrdd, mae'r Cyngor yn cefnogi defnyddio ac estyn
rhwydwaith rheilffyrdd y fwrdeistref sirol er mwyn cludo nwyddau. Yn wir, bydd
mynnu defnyddio trenau ar gyfer symud a chludo nwyddau'n ffafrio rhai cynigion
datblygu a fyddai'n cael eu hystyried yn annerbyniol mewn egwyddor fel arall.
6.7. Hawliau Tramwy Cyhoeddus
6.7.1. DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO AR HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS
POLISI T12
NI CHANIATEIR CYNIGION DATBLYGU NAD YDYNT YN DIWALLU AR GYFER 'HAWLIAU TRAMWY
CYHOEDDUS' AR DDATBLYGIADAU NEWYDD A/NEU NAD YDYNT YN DIOGELU'R RHWYDWAITH
PRESENNOL AT DDEFNYDD Y CYHOEDD.
6.7.2. Mae 'hawliau tramwy cyhoeddus' fel y cyfeirir atynt ym
mholisi T12 yn
perthyn i ffyrdd nad ydynt yn cario cerbydau ac maent yn cynnwys llwybrau troed,
llwybrau ceffyl, is-ffyrdd sy'n agored i draffig a lonydd beicio: pob un ohonynt
yn ffyrdd statudol.
6.7.3. Roedd llwybrau troed a cheffyl yn ffordd hanfodol o fynd i'r gwaith,
ymweld â thylwyth a ffrindiau a chyrraedd sawl gweithgaredd arall yn
draddodiadol. Heddiw, gwneir llawer o'r siwrneiau hyn mewn car neu ar ffurf
arall o gludiant a gwelir y cyfleusterau hyn felly fel ased hamdden. O fewn
cyd-destun cludiant cynaliadwy, mae'n bwysig annog cerdded, fel ffordd o
deithio; felly, dylid diogelu a datblygu cyfleusterau i gwrdd ag anghenion y
cerddwr. Bydd y Cyngor yn diogelu 'hawliau tramwy cyhoeddus' o blaid cerdded fel
ffordd o symud o gwmpas.
6.7.4. Bydd llwybrau ceffyl yn cael eu diogelu hefyd yng nghyd-destun cludiant
gan eu bod yn hawliau tramwy i'r cyhoedd gerdded neu farchogaeth ar eu hyd ac
maent yn cyfrannu at gyfleusterau sy'n annog cerdded felly.
6.7.5. Rhaid i ddatblygiadau ddiwallu ar gyfer yr hawliau presennol drwy naill
ai ddiogelu'r hawl dramwy neu drwy gynnig taith sydd yr un mor effeithiol. Yn y
naill achos, rhaid drin yr hawl dramwy dan sylw mewn ffordd sy'n darparu
amgylchedd diogel a dymunol i bob cerddwr ac a fydd yn annog pobl i'w defnyddio
yn y dyfodol.
6.7.6. Yn debyg i gerdded, nid yw beicio'n creu llygredd ac mae'n ffordd
gynaliadwy o gludo y dylid ei hannog. Rhaid i ddatblygiadau ddiwallu ar gyfer
lonydd beicio hefyd drwy ddiogelu'r lonydd presennol neu drwy gynnig lonydd
effeithiol eraill sy'n ddiogel a dymunol i'w defnyddio.
6.8. Coridorau Cludo
6.8.1. DATBLYGU AR GORIDORAU CLUDO
POLICY T13
NODIR Y CORIDORAU CLUDO CANLYNOL FEL Y PRIF FFYRDD YN Y FWRDEISTREF SIROL AR
GYFER SYMUD POBL A NWYDDAU. NI CHANIATEIR DATBLYGIADAU A FYDDAI'N:-
(A) EFFEITHIO'N DDRWG AR SYMUDIADAU DIOGEL AC EFFEITHIOL AR Y CORIDORAU HYN
A/NEU A FYDDAI'N
(B) CREU NEU'N GWAETHYGU NIWED I'R AMGYLCHEDD AR EU HYD; AC NA FYDDAI'N
(C) BOSIBL LLEDDFU'R EFFEITHIAU HYN.
MAE'R CORIDORAU FEL A GANLYN:
T13(1) M4;
T13(2) LLYNFI;
T13(3) GARW;
T13(4) OGWR;
T13(5) PÎL-ABERCYNFFIG;
T13(6) A473-A48;
T13(7) CYLCHFAN WATERTON-LALESTON;
T13(8) A4106-A4229;
6.8.2. Gan fod angen ystyried pob ffordd o symud a theithio, cysylltiadau
cludiant ac isadeiledd ar hyd llwybrau cludo yng nghyd-destun nodweddion
topograffig y fwrdeistref sirol (yn enwedig ei chymoedd a chynllun presennol y
rhwydwaith ffyrdd), mae'n hanfodol ystyried symudiadau o fewn yr ardal ar sail
coridorau strategol. Mae'r ffordd hon o ystyried rhwydwaith cludiant presennol
yr Awdurdod, a'i effaith ar ddatblygiadau, yn adlewyrchu'r gwir sefyllfa'n
gywirach.
6.8.3. Mae'r ymagwedd hon yn caniatáu i ni reoli a dyrannu'r rhwydwaith ffyrdd
presennol yn fwy effeithiol; er enghraifft, gellir asesu lleoliad cynigion
datblygu a'u galwadau ar safonau cludiant ac amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o
bwysig wrth asesu cynigion datblygu ar goridorau'r cymoedd lle mae ansawdd y
rhwydwaith cludiant yn amrywio'n fawr a lle nad oes ffyrdd cludo eraill ar gael
fel arfer.
6.8.4. Bydd y safonau i'w hystyried yn cael eu cyfyngu i allu traffig, sy'n cael
ei benderfynu gan led a chyfliniad y ffyrdd a chyffyrdd. Ystyrir ffactorau fel y
flaenoriaeth i'w rhoi i gerddwyr, beicwyr a chludiant cyhoeddus, penodiadau
ardaloedd cadwraeth, ardaloedd preswyl, parcio ar y stryd, lleoliad ysgolion ac
ysbytai, sŵn, ansawdd awyr a'r risg o ddamweiniau hefyd. Bydd y ffactorau hyn yn
helpu i asesu'r gallu mwyaf posibl a natur y cerbydau sy'n cydweddu â'r safonau
amgylcheddol derbyniol sy'n gysylltiedig â materion cludiant.
6.8.5. Rheolir y coridorau er mwyn hyrwyddo cludiant cyhoeddus, beicio a
cherdded, yn enwedig gan fod hyn yn perthyn i siwrneiau i'r gwaith. Cydnabuwyd
eisoes fod symud a chludo nwyddau mewn ffordd effeithiol a dibynadwy'n bwysig
iawn i economi'r fwrdeistref sirol. Felly, gofynnir i ddatblygiad sy'n creu
symudiadau lorïau leoli i ardaloedd y mae'n hawdd eu cyrraedd a lle na fydd
llawer o effaith ar yr amgylchedd oherwydd y symudiadau hyn. Mae hyn yn arbennig
o bwysig i goridorau'r cymoedd fel y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol.
6.8.6. Maen manylion o'r coridorau a nodir ym
mholisi T13 fel a ganlyn:-
1. Coridor yr M4
6.8.7. Mae'r coridor hwn yn cynnwys prif rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd
strategol De Cymru h.y. traffordd yr M4 a'r brif reilffordd o Paddington i
Abergwaun, gan gynnwys y brif orsaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er ei bod yn
gyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae traffordd yr M4 yn gwasanaethu
anghenion strategol y fwrdeistref sirol hefyd ac yn gweithredu fel cyswllt
effeithiol o'r dwyrain i'r gorllewin. O ystyried ei statws fel rhwydwaith
traws-Ewropeaidd (TERN) a'i phwysigrwydd i Dde Cymru i gyd, mae'n hanfodol bod y
Cyngor a'r awdurdodau cyfagos yn cydweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i
reoli traffordd yr M4 yn effeithiol.
6.8.8. Bydd y Cyngor yn asesu pob cynnig datblygu ar hyd coridor yr M4 i sicrhau
nad ydynt yn cael effaith ddrwg ar effeithiolrwydd y draffordd, yn enwedig
cyffyrdd 35, 36 a 37. Nodwyd cyffordd 36 ar gyfer gwelliannau sy'n perthyn i
ddatblygiadau ym mholisi T14(5).
6.8.9. Y coridor hwn sy'n cynnig y cyfle gorau i gefnogi datblygiadau sy'n
cynhyrchu symudiadau lorïau gan ei fod yn hawdd mynd ato a gellir lleihau
effaith y cludiadau ffyrdd ar yr amgylchedd, os yw'n bosibl adnabod lleoliadau
priodol a gwelliannau i'r ffyrdd.
6.8.10. Bydd raid ystyried unrhyw ddatblygiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar
gyffyrdd traffordd yr M4 yn y fwrdeistref sirol yn ofalus iawn. Mae datblygiad â
mynediad uniongyrchol sy'n agos iawn i'r cyffyrdd hynny'n debygol o gael effaith
ddrwg ar eu heffeithiolrwydd a gallai hyn gael effaith negyddol ar y fwrdeistref
sirol gyfan a goblygiadau posibl i Dde Cymru hefyd. Felly, bydd y Cyngor yn
gwrthwynebu datblygiadau fel y rhain oni bai y gellir dangos y gall y draffordd
a'i chyffyrdd ymdopi ag effaith traffig y cynigion yn y tymor byr neu'r tymor
hir.
6.8.11. Cyfrifoldeb Network Rail yw'r brif reilffordd drwy Dde Cymru ond mae'n
gyswllt strategol arall yn y fwrdeistref sirol y mae angen ei ddiogelu. Bydd y
Cyngor yn ffafrio datblygiadau a mesurau rheoli a fydd yn annog cymudwyr a
chludiad i'w ddefnyddio felly (gweler
polisi T11).
2. Coridor Llynfi
6.8.12. Mae coridor Llynfi yn seiliedig ar y brif ffordd A4063 sy'n rhedeg o
ffin ogleddol y fwrdeistref sirol drwy anheddiadau Cwm Llynfi uchaf, gan gynnwys
Maesteg, i ymuno â choridor Pîl-Abercynffig yn Abercynffig. O fan yma, mae'r
coridor yn parhau i ddilyn yr A4063 i'r de i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac
i'r dwyrain ar hyd Cyswllt Sarn i gyrraedd cyffordd 36 o'r M4. Mae'r coridor yn
cynnwys rheilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr hefyd.
6.8.13. Mae natur yr A4063 yn amrywio wrth iddi deithio i lawr coridor Llynfi.
O'r gogledd, wrth basio drwy Gaerau, Nantyffyllon, canol tref Maesteg a Phont
Rhyd-y-Cyff, mae ei safon yn gyfyng a cheir mateiron amgylcheddol sy'n perthyn i
gludiant. Ymhellach i'r de, mae cyfliniad yr A4063 yn gwella, yn enwedig o'r
Melinau Papur i Goytrahen. Fodd bynnag, drwy bentref Coytrahen a than y bont
reilffordd lle mae'r A4063 yn cwrdd â'r A4065, mae cyfliniad a safon y ffordd,
agosrwydd eiddo preswyl a mynediadau i eiddo'n cyfyngu ar allu'r ffordd ac,
unwaith eto, mae materion amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant yn cael eu codi.
O bont y rheilffordd ar hyd Cyswllt Sarn i gyffordd 36, mae'r ffordd yn dda â
llai o faterion amgylcheddol. O'r bont i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r
ffordd o safon dda'n gyffredinol. Fodd bynnag, mae rhai problemau mewn perthynas
â'r ysbyty, y gallu i weld yn dda a chyffyrdd eraill.l.
6.8.14. Mae cyfle i wella a rheoli'r coridor hwn o ran y materion amgylcheddol
sy'n perthyn i gludiant. Fodd bynnag, bydd y materion gallu o ran symudiadau'n
dal i fodoli ac nid yw'n bosibl eu hosgoi. Un safle mawr nad yw'n cael ei
effeithio gan y cyfyngiad hwn ond sy'n mynnu gwaith yw'r tir i'r gorllewin o
Heol Maesteg (sy'n cynnwys yr hen waith haearn), Tondu (cyfeirier at
bolisi REG3(3) ac ymdrinnir â'r mynediad iddo dan
bolisi T14(8).

6.8.15. Ystyrir datblygiadau a wasanaethir gan y ffyrdd, nid yn unig o ran sut
fyddant yn effeithio ar yr ardal leol ond o ran eu heffaith ar y coridor i'r
gogledd a'r i'r de'n arbennig, wrth i gerbydau deithio tuag at goridor yr M4.
6.8.16. Mae'r rheilffordd o Faesteg i Ben-y-bont ar Ogwr yn brif ased i'r
coridor a gellir ei defnyddio i symud cymudwyr a nwyddau. Felly, mae'r cyfle i
ddatblygu o fewn y coridor yn sylweddol a bydd y Cyngor yn annog hyn er mwyn
mwyhau ei fuddion posibl.
3. Coridor Garw
6.8.17. Seilir coridor Garw'n bennaf ar y brif ffordd A4064 sy'n rhedeg i'r de o
anheddiad Blaengarw gan basio drwy Bontycymer a Llangeinor. Ymhellach i'r de,
mae'r ffordd yn rhannu ac, fel yr A4065, mae'n pasio drwy Ynysawdre, yn ymuno â
choridor Llynfi ger bont y rheilffordd yn Abercynffig ac ymuno â choridor Ogwr
ar ei gyffordd â'r A4061.
6.8.18. Er bod natur yr A4064 yn amrywio wrth iddi redeg ar hyd y coridor, mae
ei safon yn gyffredinol gyfyng ac mae hyn yn creu problemau amgylcheddol sy'n
perthyn i gludiant. Mae cyfle i reoli a gwella'r coridor ond ychydig o botensial
sydd i gynyddu ei allu a bydd hyn yn gyfyngiad mawr felly. Y ddwy ardal
gyflogaeth ar hyd y coridor hwn sy'n dioddef o lai o gyfyngiadau gallu yw
ystadau diwydiannol Abergarw a Brynmenyn. Fodd bynnag, mae'r ddau safle'n creu
problemau amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant ar goridor Ogwr.
6.8.19. Ystyrir datblygiadau a wasanaethir gan y ffyrdd, nid yn unig o ran sut
fyddant yn effeithio ar yr ardal leol ond o ran yr effaith gludiant ar y coridor
tua'r gogledd ac, yn arbennig, tua'r de wrth i gerbydau deithio tuag at goridor
yr M4.
4. Coridor Ogwr
6.8.20. Seilir coridor Ogwr yn bennaf ar y brif ffordd A4061 sy'n dechrau o ffin
ogleddol y fwrdeistref sirol â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yna'n
rhedeg i'r de drwy anheddiadau Nantymoel, Pricetown, Bro Ogwr, Lewistown,
Pantyrawel, Blackmill a Bryncethin. Mae'n croesi traffordd yr M4 ar gyffordd 36,
yn mynd ar hyd ffordd ddosbarthu ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gorffen yng
nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r coridor yn cynnwys y brif ffordd A4093
sy'n rhedeg i'r dwyrain o Blackmill i'r ffin â Rhondda Cynon Taf.
6.8.21. Mae natur yr A4061 yn amrywio wrth iddi redeg ar hyd coridor Ogwr yn
pasio drwy ardaloedd trefol â mynedfeydd i flaenau eiddo, ardaloedd preswyl ac
ardaloedd gwledig. Mae safon y ffordd yr un mor amrywiol, yn newid o lôn gul i
ffordd ddeuol.
6.8.22. Mae cyfle I reoli a gwella’r Coridor ar yr A4061 a’r A4093 o ran materion amgylcheddol sy’n berthnasd I gludiant. Fodd bynnag, ceir amryw o leoliadau ar hyd y ffordd lle mae materion amgylcheddol sy’n berthnasol I gludiant a chyfaint y draffordd yn cyfyngu datblygiad.
6.8.23. Ystyrir datblygiadau nid yn unig o ran sut fyddant yn effeithio ar yr
ardal leol ond o ran eu heffaith gludiant ar y coridor i'r gogledd ac, yn fwy
penodol, i'r de, wrth i gerbydau deithio tuag at goridor yr M4.
5. Coridor Pîl-Abercynffig
6.8.24. Seilir coridor Pîl-Abercynffig ar y B4281 o ble mae'n cwrdd â'r A48 yng
Nghroes Pîl ac yn rhedeg i'r dwyrain drwy Bîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr cyn
dod i ben ar y gyffordd â'r A4063.
6.8.25. Mae safon y ffordd hon yn isel ac mae hyn yn creu llawer o faterion
amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant, gan gynnwys y risg o ddamweiniau yn
enwedig lle mae'n pasio drwy ardaloedd preswyl a manwerthu.
6.8.26. Mae cyfle i reoli a gwella'r coridor o ran y materion hynny ond nid oes
cyfle i wella maint y ffordd. Felly, mae cyfyngiadau sylweddol ar allu'r coridor
hwn i gefnogi datblygiadau. Bydd gofyn gwneud ymdrech hefyd i sicrhau nad yw'r
gwaith cloddio arfaethedig ym Margam yn cael effaith ddrwg ar y coridor hwn.
6. Coridor yr A48-A473
6.8.27. Dechreua'r coridor hwn ar y pwynt lle mae'r A473 yn cyrraedd y
fwrdeistref sirol o Rondda Cynon Taf drws nesaf ac yn rhedeg ar hyd Ffordd Osgoi
Pencoed i gyffordd 35 o'r M4. Mae'n parhau wedyn fel yr A473 hyd nes iddi ymuno
â'r A48 ar gylchfan Waterton. O gylchfan Waterton, mae'r ffordd yn parhau fel yr
A48 hyd nes iddi gwrdd â ffin y fwrdeistref sirol i'r gorllewin o Bîl ac yna'n
mynd drwy fwrdeistref sirol Castell Nedd Port Talbot.
6.8.28. Mae defnyddio'r coridor hwn yn codi materion cyfyngu ar gyffyrdd ei
daith a rhai materion amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant, yn arbennig ar ei
ben gorllewinol a dwyreiniol. Ac eithrio hyn, mae'r coridor yn darparu cyfle i
gefnogi datblygiadau sy'n creu symudiadau lorïau gan ei fod yn bosibl mynd
iddo'n hawdd ac mae'n bosibl lleihau effaith symudiadau cludiadau ffyrdd ar yr
amgylchedd os gellir adnabod lleoliadau priodol ar gyfer gwelliannau i'r ffyrdd.
7. Coridor Cylchfan Waterton-Laleston
6.8.29. Seilir y coridor hwn ar y brif ffordd A473 o ble mae'n cwrdd â'r A48 ar
gylchfan Waterton yn rhedeg i'r gogledd-orllewin i ffordd osgoi fewnol
Pen-y-bont ar Ogwr, yna i'r gorllewin ac yn dod i ben ar y gyffordd â'r A48 i'r
gorllewin o Laleston.
6.8.30. Mae'r ffordd yn amrywio o ran safon o ffordd ddeuol i ffordd sengl ac
mae'r ardaloedd a wasanaethir yn drefol eu natur, ac eithrio darn mwyaf
gorllewinol y daith. Mae'r coridor hwn darparu mynediad i ganol tref Pen-y-bont
ar Ogwr o'r de, Coleg Technegol Pen-y-bont, pencadlys Heddlu De Cymru a sawl
ardal breswyl fawr. Mae cartrefi'n blaenu ar rai darnau o'r ffordd.
6.8.31. Mae'r coridor yn dioddef o dagfeydd ac mae yna bryderon eraill yn
ymwneud â chludiant a'i effaith ar yr amgylchedd. Mae cyfle i reoli a gwella'r
coridor o ran y materion hynny a cheir cynllun gwella ffyrdd ym
mholisi T14(4) i
adeiladu'r Cyswllt Heol Coychurch - Heol Bontfaen yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.
6.8.32. Mae'r coridor yn fynedfa bwysig i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr a rhaid
diogelu hyn. Yn ychwanegol, mewn sawl man ar hyd y ffordd, bydd gallu/maint y
ffordd a materion amgylcheddol yn gweithredu fel cyfyngiadau. Ystyrir unrhyw
ddatblygiad o ran ei effaith gludiant yn sgil y cyfyngiadau hyn.
8. Coridor yr A4106-A4229
6.8.33. Seilir y coridor hwn ar y brif ffordd A4106 o ble mae'n cwrdd â'r A48 ar
gylchfan Redhill i deithio i'r de-orllewin i'r gyffordd â'r brif ffordd A4229 ym
Mhorthcawl. Mae'r coridor yn dilyn yr A4229 i'r gogledd wedyn i'r gyffordd â'r
B4283 pan mae'r ffordd yn rhannu ac yn parhau, fel yr A4229, drwy gyffordd 37 ar
draffordd yr M4 ac yn dod i ben ar y gyffordd â'r A48 ar gylchfan Pîl. Fel y
B4283, mae'n parhau i'r gogledd tuag at Ogledd Corneli wrth iddi gwrdd â ffin y
fwrdeistref sirol lle mae'n mynd i mewn i Gastell Nedd Port Talbot.
6.8.34. Mae'r ffordd yn amrywio o ran ei natur gyda darnau o ffordd ddeuol a
lonydd gwledig ond mae'r rhan fwyaf ohoni'n un lôn sengl. Mae'r coridor yn
darparu mynediad i ganol tref Porthcawl a'i chyfleusterau i dwristiaid.
6.8.35. O ran ei allu i wasanaethu Porthcawl, mae gan y coridor ddigon o allu i
ddarparu ar gyfer y boblogaeth breswyl ac, i raddau, ei gofynion fel cyrchfan i
dwristiaid. Nid oes ganddo'r cyfleuster i ddiwallu ar gyfer llifau traffig ar
ddiwrnodau brig yn y flwyddyn, megis gwyliau banc heulog, a bydda'n amgylcheddol
annerbyniol i ddarparu ar gyfer y lefel honno.

6.8.36. I ganiatáu datblygiadau ychwanegol ac ailddatblygu canol tref Porthcawl
ac i'r gyrchfan symud yn ei blaen, cynigir cyfleusterau parcio a theithio newydd
(cyfeirier at bolisi T18) yn gysylltiedig â thaith bws benodedig yn y CDU a bydd
gofyn am well gyfleusterau cludiant cyhoeddus ar gyfer y coridor hwn.
6.8.37. Mae cyfle i reoli a gwella'r coridor, ar yr A4106 a'r A4229, o ran
materion amgylcheddol sy'n ymwneud â chludiant ond nid oes cyfle derbyniol i
wella gallu'r coridor i dderbyn mwy o draffig. .
6.8.38. Ystyrir datblygiadau yn y coridor hwn, gan gynnwys datblygiadau yng
nghanol tref a chyrchfan Porthcawl, am eu heffaith cludiant nid yn unig o ran
sut maent yn effeithio ar yr ardal leol ond am eu heffaith ar y ffyrdd i
gyffordd 37 o'r M4 ac i'r A48.
6.8.39. Cyfyngir y B4283, sy'n rhan o'r coridor hwn, gan bont isel wrth iddi
basio dan draffordd yr M4. Mae'r ffordd hon yn gwasanaethu cymuned breswyl
Gogledd Corneli ac mae ganddi nifer sylweddol o eiddo â blaenau'n agos i'r
ffordd, parcio ar y stryd, siopau, ysgol a cherddwyr. Nid yw'r rhwydwaith ffyrdd
presennol yn briodol o ran ymdopi â rhagor o draffig a fyddai'n cael ei greu gan
ddatblygiadau pellach ac nid yw'n bosibl ei wella ymhellach.
6.8.40. Am y rhesymau a nodir ym mharagraff 6.8.39 uchod, nid yw'r B4283 yn
addas i gario lefelau sylweddol o gerbydau nwyddau trwm. Fodd bynnag, oherwydd
pont isel ym mwrdeistref sirol Castell Nedd Port Tablot, mae'n rhaid i'r
cerbydau hyn sy'n mynd i Ystad Ddiwydiannol Cynffig ddefnyddio'r ffordd hon.
Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell
Nedd Port Talbot i ddarparu mynediad mwy cyfleus i Ystad Ddiwydiannol Cynffig a
symud y cerbydau nwyddau trwm o'r coridor hwn. Mae cyfle i reoli a gwella'r
B4283 o ran materion amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant ond ni fydd yn bosibl
cynyddu ei allu i ymdopi â mwy o draffig. Felly, mae cyfyngiadau sylweddol ar
allu'r coridor hwn i gefnogi datblygiadau. Rhaid gwneud ymdrechion hefyd i
sicrhau nad yw cerbydau nwyddau trwm yn rhoi rhagor o bwysau ar y B4283.
6.9. Y Rhwydwaith Ffyrdd
6.9.1. Disgrifiwyd y prif rwydwaith ffyrdd, sy'n cyflawni rôl allweddol ar holl
goridorau cludiant y fwrdeistref sirol, yn fanwl yn adran 6.8 o'r Cynllun hwn.
Hefyd, yn yr adran honno, amlygodd y Cyngor yr ardaloedd a'r mannau hynny lle
mae cludiant a materion amgylcheddol sy'n perthyn i gludiant yn bodoli neu'n
debygol o fodoli yn y dyfodol. Mae'r cynigion a geir ym
mholisi T14 (isod) yn
ymdrin â'r materion hyn. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd gofyn gwneud
astudiaethau dichonoldeb yn y dyfodol i nodi mesurau digonol eraill i'w
gweithredu fel rhan o'r broses CCLl a diwallu ar gyfer cynigion datblygu defnydd
tir lleol penodol. Bydd raid ailystyried cynigion sy'n deillio o arolygon tymor
byrrach y Cynllun Cludiant Lleol hefyd wrth arolygu'r CDU.
6.9.2. GWELLIANNAU MAWR I'R RHWYDWAITH FFYRDD
POLISI T14
GWNEIR GWELLIANNAU MAWR I'R RHWYDWAITH FFYRDD YN Y MANNAU CANLYNOL:-
T14(1)(A & B) FFORDD FYNEDFA I YSTAD DDIWYDIANNOL BRACKLA, PEN-Y-BONT AR OGWR;
(Cyswllt â’r Map 28 Gorllewin)
T14(2) GWELLA'R B4281/HEOL SIMONSTON, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 28)
T14(3) FFORDD FEWNOL PENCOED; (Cyswllt â’r Map
22 Dwyrain)
T14(4) CYSWLLT HEOL COYCHURCH-HEOL BONTFAEN, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 35 Dwyrain)
T14(5) CYFFORDD 36 O'R M4; (Cyswllt â’r Map 21)
T14(6) MYNEDIAD I HEN OLCHDY MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 33 Dwyrain)
T14(7) MYNEDIAD WERN TARW/ROCKWOOL; (Cyswllt â’r Map
22 Dwyrain)
T14(8) MYNEDIAD I DIR I'R GORLLEWIN O HEOL MAESTEG, TONDU; (Cyswllt â’r Map 21 Gorllewin)
T14(9) A48/A473 CYSWLLT BROCASTELL, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map31)
T14(10) MYNEDIAD I SAFLE FFERM MARLAS, PÎL; (Cyswllt â’r Map 19)
T14(11) MYNEDIAD I HEOL MERTHYR MAWR/PARC GWYDDONIAETH PEN-Y-BONT, A48,
PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 27 Canolog)
T14(12) A473 MYNEDIAD I BARC TECHNOLEG SONY, PENCOED; (Cyswllt â’r Map 23 Dwyrain)
T14(13) M4 CYFFORDD 35; (Cyswllt â’r Map 23 Dwyrain)
T14(14) FFORDD OSGOI COETY, PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 22 Gorllewin)
A BYDDANT YN DESTUN CYTUNDEBAU FFURFIOL GYDA'R CYNGOR A/NEU FEL A GYMERADWYIR O
FEWN Y PECYNNAU GWYBODAETH DATBLYGU PRIODOL.
6.9.3. Gwnaed nifer o ddyraniadau ar gyfer datblygiadau yn y CDU sy'n debygol o
gael effaith sylweddol ar y rhwydwaith cludiant presennol. Mae
polisi T14 o'r
cynllun yn nodi 14 cynllun gwella ffyrdd a ddylai oresgyn problemau'r rhwydwaith
y disgwylir i gynigion datblygu newydd eu hachosi. Ac eithrio
polisi T14(4),
sy'n cael ei hybu gan y Cyngor ei hun (fel rhan o Strategaeth Adfywio Canol Tref
Pen-y-bont ar Ogwr), mae'r holl gynlluniau sy'n weddol yn perthyn i gynigion
defnydd tir sylweddol.
6.9.4. Bydd y Cyngor yn disgwyl i'r pecynnau gwybodaeth datblygu ymdrin â
nodweddion a manylion yr holl gynigion cludiant uchod a fydd yn cael eu paratoi
a'u cyflwyno i'r Awdurdod ar gyfer cymeradwyaeth, cyn penderfynu ar y geisiadau
cynllunio perthnasol am ddatblygiadau safle. Bydd y pecynnau gwybodaeth hyn yn
manylu ar y gofynion cludiant cyffredinol, gweithrediad, meini prawf
amgylcheddol ac effaith i'w hwynebu ar gyfer pob safle; manylion o unrhyw
astudiaethau i'w cyflawni; neu adroddiadau i'w paratoi er mwyn sefydlu lefelau
derbyniol o draffig ar y safleoedd h.y. drwy asesiadau cludiant. Bydd datblygwyr
yn gyfrifol am gyflawni unrhyw astudiaethau a rhaid i'r cynigion datblygu
terfynol, pan gyflwynir nhw fel ceisiadau cynllunio, gydymffurfio â'r gofynion y
manylir arnynt yn y pecynnau gwybodaeth. Dylid nodi y bydd yr holl ddatblygiadau
sy'n gysylltiedig â pholisi T14 yn destun
holl bolisïau cludiant y Cyngor. r.
6.9.5. Pan fyddant wedi eu cymeradwyo, bydd y manylion datblygu'n ffurfio sail
ar gyfer amodau cynllunio priodol y Cyngor ar gyfer unrhyw ganiatâd cynllunio i
ddatblygu safleoedd perthnasol. Bydd y manylion cymeradwyedig yn manylu ar
unrhyw faterion 'o bwys' (gan gynnwys effaith debygol y cynigion ar y rhwydwaith
ffyrdd a nodi unrhyw fesurau lleddfu) y mae'r Cyngor yn gofyn i
ddatblygwyr/perchnogion safleoedd ymdrin â nhw ar ffurf goblygiadau/cytundebau
cynllunio ffurfiol. Felly, pwysleisir y bydd y Cyngor yn gofyn am gyfraniadau
priodol gan ddatblygwyr/perchnogion safleoedd sy'n 'gysylltiedig' â'r cynlluniau
gwella ffyrdd hynny a restrir dan
bolisi T14 ynghyd ag unrhyw bolisïau, nodau ac
amcanion eraill yn y CDU a'r CCLl y mae'r Cyngor yn ystyried eu bod 'o bwys' o
ran datblygu'r safleoedd hynny'n foddhaol a sicrhau y bodlonir gofynion 'prawf
cyfreithiol' y cysylltiadau hyn bob amser.
6.9.6. Mae manylion y 14 cynllun a nodwyd ym
mholisi T14 fel a ganlyn:-
1. (A & B) Ffordd Fynediad i Ystad Ddiwydiannol Brackla, Pen-y-bont
6.9.7. Bydd estyn ac ailddatblygu Ystad Ddiwydiannol Brackla (polisi
E2(1)) a'r
dyraniad ar gyfer datblygiad preswyl (polisi H1(81)) yn cynyddu traffig ar hyd
Heol Simonston i lawr ei chyffordd â'r A473 ar gylchfan Coychurch. Uwchraddir
Heol Simonston felly yn unol â pholisi T14(2). Hefyd, gofynnir i ddatblygwyr
polisïau
E2(1) a
H1(81) gyfrannu at welliannau ffyrdd i ddarparu cyswllt o
ansawdd uchel o Heol Simonston i Rodfa'r Dywysoges a'r gylchfan er mwyn ymdrin
â'r traffig cynyddol a gwahanu traffig diwydiannol a phreswyl sy'n defnyddio
Wyndham Close.
6.9.8. Rhennir polisi T14(1) yn ddwy adran felly - (A) a (B). Bydd darparu adran
(A) o'r cynllun ffyrdd yn ofynnol ar gyfer datblygu'r ffin ogleddol i ddyraniad
preswyl
H1(81) 'Wyndham Close, Brackla, Pen-y-bont'; a bydd adran (B) yn helpu'r
cyswllt ffordd newydd i Rodfa'r Dywysoges - cylchfan BNDR i'w ddarparu gan
ddatblygwyr/ailddatblygwyr y darnau newydd o dir a'r darnau sy'n weddill ym
mholisi
E2(1) 'Ystad Ddiwydiannol Brackla, Pen-y-bont ar Ogwr'.'.
2. Gwella'r B4281/Heol Simonston, Pen-y-bont ar Ogwr
6.9.9. Bydd datblygu ac ailddatblygu ardaloedd newydd a dros ben Ystad
Ddiwydiannol Brackla'n cynyddu'r traffig ar hyd Heol Simonston/B4281, o'r
gyffordd â ffordd fynedfa arfaethedig yr ystad ddiwydiannol i'r gyffordd â'r
A473 ar gylchfan Coychurch. Mae'r daith yn is-safonol yn gyffredinol o ran lled,
cyfliniad, natur weladwy, cyfleusterau i gerddwyr a chynllun y cyffyrdd ac nid
yw'n addas i ymdrin â'r traffig a fydd yn cael ei gynhyrchu gan y datblygiadau
arfaethedig; felly, rhaid ei gwella er mwyn galluogi'r datblygiadau hyn i symud
yn eu blaen.
6.9.10. Gofynnir i ddatblygwyr ac ailddatblygwyr y darnau newydd a'r darnau dros
ben o dir ar Ystad Ddiwydiannol Brackla gytuno ar oblygiadau neu gytundebau
cynllunio priodol a/neu bydd y Cyngor yn gorfodi'r amodau cynllunio priodol ar
ganiatâd cynllunio perthnasol i sicrhau y darperir y gwaith ffyrdd a'r
gwelliannau hanfodol. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl gan y datblygiadau hynny
a, lle mae'n briodol, bydd yn cynnwys ailgyflinio'r ffyrdd, gwella cyffyrdd,
gwella gallu a darparu cyfleusterau llawn i gerddwyr er mwyn dileu gwrthdaro â'r
traffig ychwanegol sy'n cael ei greu.
3. Ffordd Liniaru Fewnol Pencoed
6.9.11. Gan fod y rhwydwaith ffyrdd presennol yn cael ei gyfyngu gan y brif
reilffordd sy'n pasio drwy Bencoed, ni chaniateir datblygiad pellach i orllewin
y rheilffordd hyd nes i gynllun gael ei weithredu i ganiatáu i'r rhwydwaith
ymdopi â thraffig ychwanegol sy'n gysylltiedig â datblygiad. Bydd y cynllun
ffyrdd gofynnol yn cynnwys pont newydd dros y rheilffordd a chyswllt priodol i
safonau cymeradwyedig, yn dechrau o Heol Hendre, yna'n pasio dros y bont newydd
i gysylltu â Heol Pencoed. Gofynnir i ddatblygwyr yr holl safleoedd i'r
gorllewin o'r rheilffordd fynd i gytundebau gyda'r Cyngor i gyfrannu symiau
priodol o arian i sicrhau y cyflawnir y gwaith ffyrdd a'r gwelliannau hanfodol
hyn. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl gan y datblygiadau hynny.
6.9.12. Dylid nodi bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer 200 o dai i'r
gorllewin o'r rheilffordd yn unol â'r darpariaethau a geir yng Nghynllun Lleol
Bwrdeistref Ogwr. Roedd y caniatâd hwnnw'n destun adeiladu ffordd liniaru dros
dro a chyffyrdd â signalau. Fodd bynnag, mae'r gwaith ffyrdd hwn yn ddigon i
ymdrin â symudiadau sy'n perthyn i'r datblygiad hwnnw'n unig ac ni ellir ei
ddefnyddio fel ffordd o symud unrhyw ddatblygiad arall yn ei flaen i'r gorllewin
o'r rheilffordd hyd nes i'r cynllun newydd y cyfeiriwyd ato ym
mharagraff 6.9.11
(uchod) gael ei weithredu.
4. Cyswllt Heol Coychurch - Heol Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr
6.9.13. Mae'r Cyngor yn ystyried bod y cynllun hwn yn elfen bwysig o adfywio
canol tref Pen-y-bont ar Ogwr oherwydd bydd ei weithrediad yn cwblhau 'blwch'
ffyrdd mewnol integredig o gwmpas canol y dref. Bydd yn caniatáu cau'r gyffordd
bresennol ar Heol Coychurch a Heol Bontfaen (sy'n ddifrifol gyfyngedig o ran
cynllun a gweladwyedd ac sydd â record diogelwch gwael) a/neu gynnig mynediad
lleol cyfyng yn unig. Pe byddai'r gyffordd bresennol yn cael ei gwella, byddai'n
cynnig buddion lleol cyfyng iawn a byddai angen dymchwel eiddo ychwanegol.
Felly, nid yw'r Cyngor yn ffafrio hyn.
6.9.14. Mae llinell y ffordd gyswllt arfaethedig yn cydymffurfio â safonau
cynllunio ffyrdd presennol, gan gynnwys llifau traffig disgwyliedig, ac mae'n
adlewyrchu cyfarwyddyd cynllunio cyfredol a pholisïau'r Cyngor sy'n ceisio
diogelu eiddo preswyl rhag cael eu dymchwel yn ddiangen oherwydd datblygiad.
5. Cyffordd 36 yr M4
6.9.15. Cyffordd 36 ar yr M4 yn Sarn yw'r gyffordd strategol bwysicaf yn y
fwrdeistref sirol ac mae dan bwysau sylweddol oherwydd traffig sy'n mynd i'r
datblygiad manwerthu yn yr ardal, ar y cyd â'r traffig lleol a strategol ar y
rhwydwaith o'i chwmpas. Nid yw cyfyngiadau presennol y gyffordd yn addas i
ymdopi â thraffig ychwanegol a fyddai'n cael ei greu gan ddatblygiadau pellach.
Ni chaniateir y datblygiad ar safle datblygu Parc Derwen (cyfeirier at
bolisi
H1(25)) nac unrhyw ddatblygiad neu estyniad arall a fyddai'n cael effaith
uniongyrchol ar y gyffordd hon hyd nes iddi gael ei gwella. Y nod yw cynyddu
gallu'r gyffordd i lefel lle gall ymdopi â thraffig ychwanegol sy'n cael ei
gynhyrchu gan ddatblygiadau heb orfodi effeithiau drwg ar draffig lleol neu
strategol.

6.9.16. Gofynnir i ddatblygwyr safle Parc Derwen neu unrhyw ddatblygiad neu
estyniad i ddatblygiad sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y gyffordd fynd i
gytundeb gyda'r Cyngor i sicrhau y cyflawnir gwaith ffordd a gwelliannau
priodol. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl gan y datblygiadau hynny ac ni
chaniateir datblygiadau nac estyniadau tameidiog.
6. Mynediad i Gyn Safle Golchdy Maestegteg
6.9.17. Nodwyd cyn safle golchdy Maesteg ar gyfer datblygiad defnydd cymysg, gan
gynnwys ysgol uwchradd newydd ac felly mae'n rhaid i'r safle gael mynediad
priodol. Bydd y trefniadau hyn yn darparu mynediad i'r safle cyfan a bydd yn
cynnwys darpariaeth effeithiol ar gyfer ceir, cludiant cyhoeddus, beiciau a
cherddwyr. Rhoddir ystyriaeth arbennig i'r darpariaethau mynediad diogel sy'n
ofynnol ar gyfer yr ysgol a fwriedir. Lle mae'r isadeiledd yn cwrdd â'r
rhwydwaith ffyrdd presennol, bydd cyffyrdd yn cael eu hadeiladu i ddiwallu ar
gyfer y datblygiad cyfan h.y. y traffig sy'n cael ei greu ynghyd â'r traffig ar
y rhwydwaith presennol. Rheolir y traffig a'i natur er mwyn sicrhau na fydd yn
effeithio ar draffig ar y rhwydwaith lleol presennol.
6.9.18. Bydd yr holl fanylion sy'n perthyn i faterion mynediad i'r safle'n cael
eu diffinio a'u rheoli gan y wybodaeth ddatblygu sy'n ofynnol dan
bolisi REG 3(1) fel y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau 6.9.4 a 6.9.5 ynghynt.
7. Mynediad Wern Tarw/Rockwool
6.9.19. Nodwyd y ffatri bresennol a'r tir i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin ar
gyfer defnydd cyflogaeth yn Wern Tarw. Mae'r ffordd i ac o'r safle'n ffordd
annosbarthedig o'r ffatri i'r B4280, y B4280/ffordd fynediad ddiwydiannol
Penprysg, yna'r A473/ffordd osgoi Pencoed i gyffordd 35 o'r M4. Gofynnir i
ddatblygwyr y safle hwn gyflawni unrhyw welliannau i'r ffordd hon sydd eu hangen
er mwyn iddi ymdopi'n ddiogel ac yn effeithiol ac unrhyw draffig ychwanegol sy'n
cael ei greu gan y datblygiadau a/neu'r estyniadau hyn. Bydd y gwelliannau hyn
yn cynnwys gwella'r ffordd annosbarthedig a'r B4280 rhwng mynedfeydd y safle a
phen gorllewinol ffordd fynediad ddiwydiannol Penprysg, y darn o'r A473 rhwng
cylchfan ddwyreiniol y ffordd fynediad ddiwydiannol a chylchfan ogleddol ffordd
osgoi Pencoed. Byddant yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau sydd eu hangen i'r
cylchfannau hynny neu unrhyw ddarnau eraill o'r ffyrdd ar hyd y daith gan
gynnwys darpariaethau ar gyfer diogelu beicwyr a cherddwyr.
6.9.20. Felly, gofynnir i ddatblygwyr safle Wern Tarw ac unrhyw estyniadau
sylweddol i ddatblygiad Rockwool fynd i gytundebau/goblygiadau cynllunio gyda'r
Cyngor i sicrhau y gwneir y gwaith ffordd a'r gwelliannau priodol. Ariennir y
gwaith hwn yn gyfan gwbl gan y datblygiadau a/neu'r estyniadau i ddatblygiad
Rockwool.
8. Mynediad i Dir i'r Gorllewin o Heol Maesteg, Tondu
6.9.21. Nodwyd y tir i'r gorllewin o Heol Maesteg (A4063), Tondu yn y CDU ar
gyfer datblygiadau cymysg o ddefnyddiau cyflogaeth, preswyl a threftadaeth.
Mae'r A4063 i'r de o'r bont reilffordd gyfagos yn ddigon da i ymdopi â'r traffig
sy'n ymwneud â datblygu'r safle. Fodd bynnag, wrth iddi fynd i'r gogledd o'r
signalau traffig, dan y bont reilffordd, a throi i'r dwyrain, mae'r ffordd yn
is-safonol, mae'n anodd gweld yn iawn ac mae ganddi sawl fynediad. Er mwyn
datblygu'r safle'n gynhwysfawr, bydd angen ailgyflinio'r A4063, Heol Maesteg,
i'r gogledd o'r signalau traffig presennol er mwyn adeiladu mynediad priodol ar
gyfer y datblygiad. Rhaid i ddatblygiad cynhwysfawr y safle fod yn unol â phecyn
gwybodaeth datblygu (fel y cyfeirir ato ym mharagraffau 6.9.4 a 6.9.5 ynghynt)
i'w gymeradwyo gan y Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau isadeiledd ffyrdd effeithiol ar
gyfer y safle cyfan.
6.9.22. Gofynnir i ddatblygwyr y safle fynd i rwymedigaethau/cytundebau
cynllunio gyda'r Cyngor i sicrhau y cyflawnir y gwaith ffordd a'r gwelliannau
priodol. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl gan y datblygiad ac ni chaniateir
datblygiadau nac estyniadau tameidiog.
9. A48/A473 Cyswllt Brocastell, Pen-y-bont ar Ogwr
6.9.23. Bydd datblygu safleoedd diwydiannol Brocastell a Waterton at ddibenion
cyflogaeth h.y. rhwng y gwaith peiriannau ceir presennol a'r A48 yn creu mwy o
draffig ar gylchfan cyffordd yr A48 â'r A473 yn Waterton wrth i draffig deithio
i'r gogledd-ddwyrain i'r M4 drwy gyffordd 35. Byddai ailgynllunio a gosod
signalau ar gylchfan Waterton yn cynnig ateb rhannol i'r broblem yn unig. Y
ffordd orau o fynd i'r safle fydd cyswllt ffordd newydd a fydd yn mynd i
gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol yn gyffredinol o gyffordd newydd ar yr A48 i'r
gylchfan fwyaf deheuol ar Ystad Ddiwydiannol Waterton ac yna i'r gogledd, ynghyd
â gwelliannau cysylltiedig i gylchfan Coychurch i ymuno'r A473 â'r draffordd.
Bydd natur a maint y gwaith ffordd yn cael eu penderfynu gan asesiad cludiant.
Bydd rhan o linell y ffordd gyswllt arfaethedig yn gorwedd yn ardal Bro
Morgannwg a byddwn yn ceisio caniatâd a chydweithrediad y Cyngor hwnnw er mwyn
symud y datblygiad hwn yn ei flaen.
6.9.24. Gofynnir i ddatblygwyr safleoedd diwydiannol Brocastell a Waterton
(rhwng y gwaith peiriannau ceir a'r A48) fynd i rwymedigaethau/cytundebau
cynllunio priodol gyda'r Cyngor a Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau y cyflawnir y
gwaith ffordd a'r gwelliannau hanfodol. Ariennir y gwaith hwn yn gyfan gwbl gan
y datblygwyr hynny ac ni fyddwn yn caniatáu datblygiadau nac estyniadau
tameidiog.
10. Mynediad i Safle Fferm Marlas, Pîl
6.9.25. Gellid cael mynediad i safle tai arfaethedig Fferm Marlas naill ai drwy
ffordd ddeheuol i Heol Fach ac yna drwy bentref Gogledd Corneli; neu i'r gogledd
ar hyd Pont Marlas a Heol Marlas i Groes Pîl. Mae'r ffordd gyntaf yn broblemus o
ran cerbydau wedi parcio, cerbydau gwasanaeth a siopau, ysgolion, diogelwch
cerddwyr, cyffyrdd - yn enwedig y gyffordd â Fairfield yn arwain i'r A48 - a
phont isel ar y cyswllt uniongyrchol i'r M4. Ni all y rhwydwaith ffyrdd
presennol ymdopi â'r traffig ychwanegol a fyddai'n cael ei gynhyrchu gan y
datblygiad tai arfaethedig, heb welliannau sylweddol. Mae'r ail ffordd yn lôn
gul, dros Bont Marlas, sy'n is-safonol o ran ei lled a chyfliniad, ar hyd Heol
Marlas tuag at Groes Pîl a nodwyd fel ffordd â phroblemau diogelwch y ffyrdd
hefyd.
6.9.26. Gall datblygiad ar safle preswyl Fferm Marlas fynd yn ei flaen yn amodol
ar welliannau ffordd ar Bont Marlas a Heol Marlas er mwyn ymdopi â'r traffig
ychwanegol a fyddai'n cael ei greu gan y datblygiad. Hefyd, mae'n rhaid gwella'r
lôn o'r safle a fyddai'n mynd i Bont Marlas i safonau ffyrdd priodol, ynghyd â
llwybr mynediad gwell i gerddwyr i Orsaf Pîl gerllaw.
6.9.27. Gofynnir i ddatblygwyr safle Fferm Marlas i fynd i gytundebau gyda'r
Cyngor i sicrhau y gwneir y gwaith ffordd a'r gwelliannau priodol, ynghyd ag
unrhyw ofynion cynllunio perthnasol. Ariennir y gwaith hwn yn gyfan gwbl gan y
datblygiad ac ni chaniateir datblygiadau tameidiog.
11. Mynediad i Heol Merthyr Mawr/Parc Gwyddoniaeth Pen-y-bont/Tir ar Fferm yr
Ynys, A48, Pen-y-bont ar Ogwr
6.9.28. Nodir Parc Gwyddoniaeth Pen-y-bont/tir ar Fferm yr Ynys fel safle
cyflogaeth arbennig (cyfeirier at
bolisi E6(1), sy'n seiliedig ar nifer o
ofynion. Un ohonynt yw ei fod yn hawdd mynd ato o goridor yr M4. I ddarparu'r
mynediad effeithiol hwn a chydymffurfio â gofynion y rhwydwaith ffyrdd, bydd
angen cyffordd newydd ar yr A48 er mwyn estyn y parc gwyddoniaeth presennol ar
Fferm yr Ynys mewn man a fydd yn effeithio ar Heol Merthyr Mawr (gogledd a'r de
o'r A48), ynghyd â chyfleusterau cyffyrdd. Felly, rhaid rhoi ystyriaeth ofalus
i'r gyffordd hon i sicrhau nad yw hi na'r traffig cysylltiedig yn cael effaith
ddrwg ar effeithiolrwydd y rhwydwaith ffyrdd o gwmpas.
6.9.29. Gofynnir i ddatblygwyr estyniad y parc gwyddoniaeth i fynd i
rwymedigaethau/cytundebau cynllunio gyda'r Cyngor i sicrhau y gwneir y gwaith
cynllunio a'r gwelliannau priodol, ynghyd ag unrhyw ofynion cynllunio
perthnasol. Ariennir y gwaith hwn yn gyfan gwbl gan y datblygiad ac ni
chaniateir datblygiad tameidiog.
12. A473 Mynediad i 'Barc Technoleg Pencoed', Pencoed
6.9.30. Nodir 'Parc Technoleg Pencoed' fel safle cyflogaeth arbennig
polisi E6(4), sy'n gofyn i'r tir fod yn hawdd mynd ato o goridor yr M4. Mae'r safle'n
ardal fawr o dir, rhyw 31.5 Ha, ac er bod y rhan fwyaf ohono o fewn ffin
weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd ei ofynion mynediad
yn dibynnu'n bennaf ar gyffordd 35 o'r M4 ym Mhencoed. Felly, mae'r materion
cludiant cysylltiedig o ran gwasanaethu'r safle hwn yn foddhaol a sicrhau
mynediad effeithiol i'r draffordd yn gorffwys gyda'r Cyngor hwn.
6.9.31. Gellir mynd i'r datblygiad Sony presennol o gylchfan ar yr A473 sy'n
darparu cysylltiadau i ddwyrain a gorllewin Heol Felindre. Mae'r gylchfan hon yn
destun problemau ar adegau penodol o'r dydd gan mai hon yw'r mynediad i gyffordd
y draffordd i'r de o'r gylchfan. Ystyriaeth arall yw lleoliad mynwent a fyddai'n
agos iawn i unrhyw welliannau i'r isadeiledd os bwriedir mynd i'r safle
polisi E6(4) o gyffordd ar Heol Felindre. Felly, rhaid i'r cynigion ar gyfer mynd i'r
safle hwn ddiwallu ar gyfer gwelliannau i'r isadeiledd ffyrdd. Bydd hyn yn
sicrhau bod cylchfan Sony a chyffordd y draffordd yn diwallu ar gyfer y traffig
ychwanegol sy'n cael ei greu ac y diogelir y fynwent rhag effeithiau drwg y
traffig sy'n cael ei greu, ac unrhyw welliannau hanfodol.
6.9.32. Gofynnir i ddatblygwyr Parc Technoleg Pencoed fynd i
rwymedigaethau/cytundebau cynllunio gyda'r Cyngor i sicrhau y gwneir y gwaith
ffyrdd a'r gwelliannau, ynghyd ag unrhyw ofynion cynllunio perthnasol eraill.
Ariennir y gwaith hwn yn gyfan gwbl gan y datblygiad ac ni chaniateir
datblygiadau tameidiog.
13. Cyffordd 35 yr M4
6.9.33. Mae cyffordd 35 y draffordd ym Mhencoed yn gyffordd strategol bwysig yn
y fwrdeistref sirol. Er bod gallu presennol y gyffordd yn ddigon ar gyfer y
galwadau presennol, ni all ymdopi â'r holl draffig ychwanegol a fydd yn cael ei
greu gan ddatblygiadau pellach heb welliannau. Felly, bydd tir yn cael ei
ddiogelu er mwyn gwella cyffordd y draffordd yn y dyfodol. Disgwylir y gellir
gwella gallu'r gyffordd yn raddol er mwyn ymdopi â datblygiadau newydd wrth
iddynt ddatblygu.
6.9.34. Gofynnir i ddatblygwyr y mae eu datblygiadau neu eu hestyniadau'n cael
effaith ar gyffordd 35 wella gallu'r gyffordd i lefel lle gall ymdopi â'r
traffig ychwanegol (sy'n cael ei greu gan y datblygiad(au)) heb gael effaith
ddrwg ar draffig lleol na thraffig strategol.
6.9.35. Gofynnir i ddatblygiadau neu estyniadau sy'n effeithio ar gyffordd 35
o'r M4 fynd i rwymedigaethau/cytundebau cynllunio gyda'r Cyngor i sicrhau y
gwneir y gwaith ffyrdd a'r gwelliannau priodol. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl
gan y datblygiadau hyn ac ni chaniateir datblygiadau nac estyniadau tameidiog.
14. Ffordd Osgoi Coety, Pen-y-bont ar Ogwr
6.9.36. Byddai datblygiad safle Parc Derwen (cyfeirier at
bolisi H1(25) yn
cynyddu'r traffig sy'n mynd drwy bentref Coety'n sylweddol os na chyflawnir
gwaith ffordd cysylltiedig. Mae'r B4281 drwy bentref Coety'n gyfredinol
is-safonol o ran lled, cyfliniad, natur weladwy, darpariaeth i gerddwyr a
chynllun y cyffyrdd. Mae'r ardal yn ardal gadwraeth benodedig hefyd.
6.9.37. Nid oes cyfle i wella'r ffordd drwy bentref Coety ac ni fyddai hyn yn
amgylcheddol dderbyniol beth bynnag. Felly, mae'n rhaid adeiladu ffordd osgoi
i'r pentref os yw datblygiad safle Parc Derwen i fynd yn ei flaen. Disgwylir i'r
ffordd osgoi ddarparu mynediad i'r darnau tir hynny a benodir ar gyfer pwrpasau
cyflogaeth (dan
bolisi
E2(1) o'r cynllun), i'r de o'r ffordd osgoi arfaethedig.
Gofynnir i ddatblygwyr safle Parc Derwen fynd i rwymedigaeth / cytundeb
cynllunio gyda'r Cyngor i sicrhau y gwneir y gwaith ffordd a'r gwelliannau
priodol, yn unol â'r pecyn gwybodaeth datblygu i'w baratoi a'i gyflwyno i'r
Cyngor ei gymeradwyo. Bydd y gwaith ffordd a'r gwelliannau hynny'n cynnwys
ffordd osgoi i'r pentref, cyfleusterau i'r ardaloedd hynny sy'n cael eu
hamgylchynu gan dir ar hyn o bryd o
bolisi
E2(1) a mesurau priodol i sicrhau na
fydd traffig ychwanegol yn teithio drwy'r pentref. Bydd y gwaith ffordd arall yn
cynnwys mannau mynediad digonol, effeithiol a phriodol i'r safleoedd datblygu i
sicrhau bod traffig yn symud yn ddigonol ar y safleoedd ac ar y rhwydwaith
ffyrdd presennol. Ariennir y gwaith yn gyfan gwbl gan ddatblygwyr datblygiad
Parc Derwen ac ni chaniateir iddynt ddatblygu'n dameidiog.
6.10. Darparu Isadeiledd Cludiant Cyhoeddus
6.10.1. ESTYN GORSAF FYSIAU PEN-Y-BONT AR OGWR
POLISI T15 (Cyswllt â’r Map 34 Canolog)
DIOGELIR TIR I ALLUOGI GORSAF FYSIAU CANOL TREF PEN-Y-BONT AR OGWR I GAEL EI
AILDDATBLYGU.YGU.
6.10.2. Mae'r orsaf fysiau bresennol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael
ei defnyddio i'w photensial llawn. Felly, mae angen ailddatblygu'r potensial
hwnnw i fodloni galw presennol a dyfodol gan gwmnïau lleol a chenedlaethol.
6.10.3. CYFNEWIDFA CLUDIANT ARFAETHEDIG
POLISI T16
DIOGELIR TIR I ALLUOGI ADEILADU CYFNEWIDFA TRAFNIDIAETH A FFYRDD PERTHNASOL YNG NGHANOL TREF PEN-Y-BONT.

6.10.4. Mae Polisi T16 yn darparu ar gyfer Cyfnewidfa aml-ddefnydd yng nghanol tref Pen-y-Bont a fyddai yn galluogi trafnidiaeth hawdd a chyflym i deithwyr drwy unrhyw fodd o deithio. Bydd cyswllt dynol rhwng yr orsaf bysiau a’r orsaf rheilffordd yn cael ei gynnwys i fewn i’r cynllun a fiddai hefyd yn cynnwys cyfnewidfa i fws a tacsi ger yr orsaf rheilffordd.
6.10.5. GWELLIANNAU I’R RHWYDWAITH RHEILFFORDD I DEITHWYR
POLISI T17
DIOGELIR TIR I ALLUOGI'R PRIF WELLIANNAU CANLYNOL I'R RHWYDWAITH RHEILFFYRDD
TEITHWYR:-
T17(1) ADEILADU GORSAF DRENAU BRACKLA A CHYFLEUSTER PARCIO A THRENAU; (Cyswllt â’r Map28 Gorllewin)
T17(2) GWELLA GORSAF DRENAU PEN-Y-BONT AR OGWR; (Cyswllt â’r Map 34)
T17(3) GWELLA RHEILFFORDD MAESTEG; A
T17(4) DATBLYGU CYFLEUSTERAU PARCIO (Cyswllt â’r Map 21 Canolog) A THRENAU YN WILDMILL A PHENCOED.
(Cyswllt â’r Map 23 Gorllewin)
6.10.6. Mae gan reilffyrdd rôl gynyddol ym maes cludiant cyhoeddus yn y CDU. Er
gwaethaf eu hanhyblygrwydd, lle maent yn bodoli, maent yn tueddu i feithrin
ymdeimlad o barhad ac yn gwella'r potensial ar gyfer datblygu ac adfywio. Mae'r
Cyngor a'r consortiwm awdurdodau lleol South Wales Integrated Fast Transit
(SWIFT) wedi cydnabod y nodweddion hyn ac maent wedi nodi pedwar cynllun, pob un
ohonynt yn darparu potensial ychwanegol i hwyluso gwella'r rheilffyrdd. Rhoddir
manylion o'r cynlluniau hynny isod:-
1. Gorsaf Drenau Brackla a Chyfleuster Parcio a Theithiothio
6.10.7. Lleolir gorsaf drenau arfaethedig Brackla ar y brif reilffordd yn Ne
Cymru o Lundain i Abergwaun. Ffurfia rhan o fenter SWIFT i hybu teithiau trenau
esmwyth rhwng Maesteg a Llanharan ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd
yr orsaf yn cynnig cyfleuster integredig a fydd yn cynnwys dau blatfform, pont
droed, mynediad ar feic a chyfleuster parcio a theithio. Dewiswyd safle'r orsaf
arfaethedig i wella ei dichonolrwydd masnachol a bodloni anghenion cludiant
cyhoeddus yr ystad ddiwydiannol ac anghenion y datblygiadau tai presennol a
dyfodol yn nwyrain Pen-y-bont ar Ogwr. Disgwylir i'r prosiect gael ei ariannu
gan gyfraniadau datblygwyr a'r Grant Cludiant.
2. Gwella Gorsaf Drenau Pen-y-bont ar Ogwr
6.10.8. Mae darparu platfform bae yng ngorsaf Pen-y-bont yn ffurfio rhan o'r
estyniad arfaethedig o reilffordd Bro Morgannwg sy'n cael ei defnyddio gan
draffig cludo ar hyn o bryd ac i wyro trenau teithwyr ar adegau. Bydd y cynllun
gwella arfaethedig yn hwyluso gwasanaeth bob awr bob dydd a gwasanaeth bob
hanner awr ar adegau prysur. Bydd yn rhoi cyfle i draffig cludo gynyddu ei
ddefnydd ac ymchwilir i'r potensial o ddefnyddio cilffordd Ford fel gorsaf ar
gyfer traffig cludo.

3. Gwella Rheilffordd Maesteg
6.10.9. Mae rheilffordd Maesteg yn rhan annatod o goridor cludiant Llynfi. Bydd
y cynllun gwella'n darparu dolen gyswllt i hwyluso gwasanaeth bob hanner awr a
diogelu'r posibilrwydd o'i estyn yn hwyrach ar gyfer traffig cludo nwyddau. Bydd
gwella'r rheilffordd yn helpu gyda Strategaeth Adfywio Cwm Llynfi hefyd.
Ariennir y cynllun hwn gan arian o'r Grant Cludiant hefyd. yd.
4. Cyfleusterau Parcio a Theithio Pellach yng Ngorsafoedd Wildmill a Phencoed
6.10.10. Bydd cyfleusterau parcio a theithio yn Wildmill a Phencoed yn rhoi
cyfle am gyfnewidfa effeithiol rhwng ceir a chludiant cyhoeddus i hwyluso
gostyngiad yn hyd a nifer y siwrneiau ceir, yn enwedig y siwrneiau i ac o'r
gweithle. Yn ychwanegol, bydd cyfleuster parcio a theithio Wildmill yn cynnig
cylch troi i fysiau yn yr orsaf bresennol a fydd yn caniatáu cyfleusterau parcio
a theithio ar gyfer bysiau a threnau.
6.10.11. CYFLEUSTER PARCIO A THEITHIO ARFAETHEDIG AR GYFER PORTHCAWL
POLISI T18
DARPERIR CYFLEUSTER PARCIO A THEITHIO BYSIAU I FODLONI ANGHENION PORTHCAWL YN Y
DYFODOL. DEWISIR EI LEOLIAD GYDA'R NOD O WNEUD Y MWYAF O DWRISTIAETH GYNALIADWY,
A NODAU CLUDIANT, CYMDEITHASOL AC AMGYLCHEDDOL Y STRATEGAETH ADFYWIO A BARATOIR
AR GYFER Y DREF.
6.10.12. Penodwyd y tir rhwng y porthladd a safle carafanau Trecco Bay ym
Mhorthcawel dan bolisi adfywio
REG3(2) y Cynllun ar gyfer ailddatblyigad cynhwysfawr. Bydd manylion
datblygu'n cael eu paratoi fel Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA) i'r CDU a fydd
yn manylu ar ofynion cynllunio a dylunio Ardal Adfywio Porthcawl (cyfeirier at
baragraff.
15.12.10 yn hwyrach). Bydd
cyfleusterau parcio a theithio'n seiliedig ar fysiau, o ddewis ar safle tir
llwyd o fewn a/neu'n agos i'r ardal adfywio'n ffurfio cynnig cludiant
'integredig' allweddol o fewn y manylion datblygu hynny.
6.10.13. Bydd y cyfleuster yn helpu i wyro siwrneiau yn y car i ac o Borthcawl i
fysiau a bydd hyn yn lleihau tagfeydd yng nghanol y dref. I raddau, gallai
leihau nifer y siwrneiau i'r gwaith yn y car ond y prif atyniad fydd ei
botensial i ddal traffig twristiaid sy'n anelu am ganol y dref yn yr haf. Bydd y
cyfleuster yn lleihau'r pwysau i estyn potensial y rhwydwaith ffyrdd lleol yng
nghanol y dref hefyd ac yn lleihau'r galw am ddefnyddio safleoedd ailddatblygu
gwerthfawr yn yr ardal adfywio ar gyfer darparu cyfleusterau parcio ceir trwy
gydol y flwyddyn. Bydd angen dewis y cyfleuster parcio a theithio newydd yn
ofalus iawn er mwyn cyflawni nodau twristiaeth gynaliadwy, cludiant,
cymdeithasol ac amgylcheddol y manylion datblygu. Felly, bydd angen lôn fysiau
briodol a mesurau rheoli traffig yng nghanol y dref er mwyn helpu bysiau i
deithio o gwmpas yn hawdd. Dylid penderfynu ar leoliad y cyfleuster o fewn
cyd-destun manwl y manylion datblygu ar gyfer Cynllun Adfywio Porthcawl.
awl.
6.11. Darpariaeth Parcio Ceir Gyhoeddus i Ffwrdd o'r Stryd
6.11.1. DARPARIAETH ARFAETHEDIG I BARIO CEIR I FFWRDD O'R STRYD - CANOL TREF
PEN-Y-BONT AR OGWR
POLISI T19 (Cyswllt â’r Map 34)
DIOGELIR TIR ER MWYN MWYHAU MAES PARCIO HEOL TREMAINS, PEN-Y-BONT AR OGWR A
CHYNYDDU CYFLEUSTERAU PARCIO I FFWRDD O'R STRYD YNG NGHANOL TREF PEN-Y-BONT AR
OGWR.GWR.
6.11.2. Bydd y ddarpariaeth barcio a nodir dan
bolisi T19 yn cydweddu â'r nodau
adfywio ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yn bodloni rhai o anghenion
parcio datblygiadau newydd canol y dref na fydd yn denu darpariaeth barcio hael
bellach yn unol â chyflwyniad mwyafswm safonau parcio i ffwrdd o'r stryd yr
ymdrinnir â nhw dan bolisi T8. Ar hyn o bryd, dyrennir oddeutu 60% o stoc parcio
canol y dref ar gyfer parcio arhosiad byr. Fel rhan o'r strategaeth i gynyddu
gweithgareddau siopa yng nghanol y dref, bwriada'r Cyngor i gynyddu'r ganran hon
i 80% o'r stoc drwy brisiau graddedig. Bwriedir gwella darpariaeth cludiant
cyhoeddus hefyd er mwyn ymdrin â'r nod o gael llai o barcio arhosiad hir fel a
gynhwysir yn y Cynllun Cludiant Lleol.
6.11.3. Mae maes parcio presennol Heol Tremains a safle sinema'r Embassy,
Pen-y-bont ar Ogwr (polisi R8(8)) yn agos i brif deithiau rheiddiol canol y
dref.
6.11.4. I ddelio â diffygion ar ymyl ogleddol canol y dref, bydd maes parcio
presennol Heol Tremains yn cael ei fwyhau i ddiwallu ar gyfer parcio ceir i
ffwrdd o'r stryd. Bydd ei reolaeth a'i benodiad fel maes parcio'n destun
arolygon achlysurol o bolisi codi taliadau'r Cyngor a monitro meysydd parcio
canol y dref. Ystyrir hyn ymhellach yn y Cynllun Cludiant Lleol.
6.11.5. Bydd datblygu siop fwyd newydd a pharcio ar safle sinema'r Embassy
(cyfeirier at
bolisi R8(8) o'r Cynllun) yn darparu digon o barcio arhosiad byr i
alluogi siopwyr canol y dref i'w ddefnyddio, ynghyd â chwsmeriaid y siop. Bydd
hyn yn helpu i leihau'r prinder presennol mewn mannau arhosiad byr ar ymyl
ogleddol canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfunir rheolaeth y maes parcio â
strategaeth barcio'r Cyngor a bydd y Cyngor yn mynd i gytundeb gyda gweithredwr
y siop o ran y strwythur prisio ynghyd â materion rheoli eraill. Yn debyg i
fwyhau maes parcio Heol Tremains, bydd y cytundeb rheoli'n destun arolwg
achlysurol o bolisi codi taliadau'r Cyngor a monitro meysydd parcio canol y dref
i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol i anghenion y siop a strategaeth barcio'r
Cyngor fel a osodir allan yn y Cynllun Cludiant Lleol.
6.12. Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol - Cludiant
6.12.1. Yn ei ddogfen gyfarwyddyd Cynlluniau Datblygu Unedol - Cymru (2001)
(paragraff 2.12 et.al.) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cynghori awdurdodau
er y dylau CDU gynnwys polisïau a chynigion a fydd yn darparu sail ar gyfer
penderfynu ar geisiadau cynllunio ac ar yr amodau i'w hatodi at ganiatâd
cynllunio, dylent osgoi gormod o fanylion. Dylai awdurdodau ystyried defnyddio
cyfarwyddyd cynllunio atodol (CCA) fel ffordd o osod alla cyfarwyddyd mwy manwl
am y ffordd y gweithredir polisïau'r cynllun mewn amgylchiadau neu ardaloedd
penodol. Gall y CCA fod ar ffurf cyfarwyddyd dylunio neu fanylion datblygu ardal
a dylid eu croesgyfeirio'n glir â pholisïau perthnasol yn y Cynllun. Gwneir
cyfeiriadau priodol at sawl pwynt trwy gydol hyn a darnau eraill o'r Cynllun i
unrhyw CCA a gyhoeddwyd eisoes a/neu sy'n cael ei baratoi, ei gyflwyno a'i
fabwysiadu gan y Cyngor.

6.12.2. Mae'r Cyngor yn gweithredu'r CCA canlynol eisoes o ran polisïau cludiant
a gynhwysir yn ei gynllun datblygu mabwysiedig (1995/1997):-
-
Cynhadledd Sefydlog cymeradwyedig De Cymru Canllawiau Safonau Parcio (fel y'u
diwygir o bryd i'w gilydd) ad) a
-
Chanllaw Dylunio Ffyrdd Preswyl ac Ystadau Diwydiannol mabwysiedig cyn Gyngor
Sir Morgannwg Ganol
6.12.3. Fodd bynnag, ers 1997, mae sawl papur ymgynghori a datganiad polisi gan
y Llywodraeth wedi ymddangos mewn perthynas â chludiant a datblygiad cynaliadwy.
O ganlyniad i'r agenda cludiant newydd, mae'r Cyngor yn disgwyl paratoi,
cyhoeddi ac ymgynghori ar ganllawiau a safonau cludiant diwygiedig, cyn
mabwysiadu CCA newydd yn ystod bywyd y CDU. Er enghraifft, bydd yn ail-edrych ar
ei Ganllaw Dylunio ar gyfer Ffyrdd Preswyl ac Ystadau Diwydiannol er mwyn
cynnwys safonau dylunio cynhwysol ar gyfer 'mynediad i bobl ag anableddau' a'r
arferion da hynny ar gyfer 'cludiant a symudiad' a geir yn PCC (NCT) 12: Dylunio
(2002). Ar y cyd ag awdurdodau eraill yn Ne Cymru, bydd yn diwygio Canllawiau
Parcio ac yn symud tuag at gefnogi 'mwyafswm safonau' yn hytrach na'r 'isafswm
mein prawf' presennol er mwyn adlewyrchu'r cyfarwyddyd a geir yn PCC (2002). Yn
ychwanegol, bydd yn ail-edrych ar gyfarwyddyd am 'fanylion datblygu ar safleoedd
datblygu mawr' a 'chyfraniadau datblygwyr' ac yn ymateb i unrhyw gyfarwyddyd
cenedlaethol sy'n ymddangos mewn perthynas â thariffau datblygu.
6.12.4. Bydd y Cyngor yn disgwyl i bob cynnig datblygu ystyried a, lle'n
briodol, cydymffurfio â'i ganllawiau a safonau cludiant dros fywyd y CDU. Bydd y
pwysau a roddir i'w gyfarwyddyd CCA yn dod yn sylweddol fwy ar ôl cwblhau
prosesau ymgynghori, ayb ac ar ôl mabwyiadu'r CCA perthnasol.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |