15.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1
15.1.1. Mae strategaeth adfywio'n ffordd o weithredu
polisïau a chynigion y CDU yn gynhwysfawr a manwl mewn lleoliad penodol. Yn
aml, hybir hi'n effeithiol drwy bartneriaeth o fuddiannau yn y sector
cyhoeddus a phreifat/masnachol, ynghyd â swm sylweddol o fuddsoddiad
ariannol ac adnoddau oddi wrth bawb dan sylw, yn seiliedig ar raglenni
ariannu cytunedig. Bydd strategaeth adfywio wedi cael cefnogaeth gyhoeddus
gyffredinol hefyd drwy broses o gyfranogiad a chynnwys y gymuned.
15.1.2. Felly, gall strategaeth adfywio gael cyfnod
cyflwyno a gweithredu hir iawn. Bydd yn delio â materion fel gwella'r
amgylchedd corfforol a diwylliannol, datblygiad cymunedol, adeiladu a
chynnal hyder busnesau, denu buddsoddiad newydd, ailddiffinio delwedd ardal
ac adfywio diddordeb a balchder y cyhoedd yn yr ardal.
15.1.3. Fodd bynnag, mae'n hawdd ei pheryglu drwy
ddatblygiad amhriodol sy'n gwrthwynebu neu sy'n difetha dewisiadau ar gyfer
datblygiadau cynlluniedig. Cynlluniwyd
polisi 21 i
atal hyn.
Rhan 2
15.2. Cyflwyniad
15.2.1. Mae adfywio'n ymwneud ag ardaloedd trefol a
gwledig a gellir ei ddiffinio fel proses o fuddsoddi mewn ardal lle mae neu
lle gwelwyd dirywiad amlwg er mwyn gwella'r amgylchedd corfforol, economaidd
a chymdeithasol. Gall buddsoddi mewn cludiant, cyflogaeth, tai, manwerthu,
twristiaeth a'r amgylchedd arwain at adfywio ardal. Rhaid ystyried adfywiad
felly dan bynciau defnydd tir y CDU. Yn ychwanegol, gall buddsoddi mewn
cyflogaeth, sgiliau addysgol ac adnoddau dynol arwain at adfywio ardal.
15.2.2. Hybir adfywiad yn fwyaf effeithiol drwy
bartneriaeth o fuddiannau o'r sector cyhoeddus a phreifat/masnachol, ynghyd
â swm sylweddol o fuddsoddiad ariannol ac adnoddau oddi wrth bawb dan sylw,
yn seiliedig ar raglenni ariannu cytunedig. Rhaglenni buddsoddiad cyfalaf
yw'r arf ariannu a ddefnyddir i drefnu adeiladu ac ariannu gwaith adfywio,
er y mae'n rhaid cofio bod y cyllid hwn yn dibynnu ar gymorth grant o
ffynonellau Ewropeaidd a chenedlaethol.
15.2.3. Bydd sefydlu partneriaeth strategol rhwng
asiantaethau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn allweddol i wireddu mentrau
adfywio ardal. Mae rôl y gymuned wrth gynllunio ac adfywio ardal yn bwysig
er mwyn i fentrau gael eu derbyn gan y cyhoedd.
15.2.4. Yn olaf, mae'r Llywodraeth yn ystyried adfywiad
corfforol, sy'n cynnwys ailddefnyddio tir a ddatblygwyd eisoes, fel nod
allweddol o ran creu patrwm mwy cynaliadwy o ddatblygu. Mae'r Llywodraeth yn
cefnogi canolbwyntio datblygiadau ar gyfer defnydd sy'n creu nifer fawr o
deithiau mewn lleoliadau sydd â chludiant cyhoeddus da, er enghraifft yng
nghanol trefi. Y dewis cyffredinol yw datblygu tir o fewn ardaloedd trefol,
yn enwedig ar safleoedd 'tir llwyd' a ddatblygwyd eisoes, cyn ystyried
datblygu safleoedd tir glas.
15.2.5. Mae nodau allweddol yn cynnwys:-
Safbwynt strategol
15.2.6. Mae'n hanfodol i'r Cyngor gynnal fframwaith
strategol ar gyfer adfywiad lle gellir canlyn rhaglenni thematig ac sy'n
canolbwyntio ar ardal. Dylai unrhyw fframwaith strategol geisio:-
-
hybu ymagwedd gyfannol at adfywio ac ymdrin â'r ystod
eang o faterion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n wynebu
cymunedau lleol;
-
nodi nodau a blaenoriaethau strategol;
-
integreiddio strategaethau a chynlluniau allweddol
eraill y Cyngor (gan gynnwys y Strategaeth Datblygiad Economaidd
Cynaliadwy, y Strategaeth Addysg, y Cynllun Gwasanaethau Plant, y
Cynllun Gofal Cymdeithasol, y Strategaeth Tai a'r Cynllun Gweithredol
a'r Strategaeth Lleihau Troseddu);
-
adeiladu ar weithgareddau adfywio cyfredol;
-
ystyried galwadau a gofynion newidiol rhaglenni
ariannu allanol;
-
sefydlu cynlluniau gweithredu ag adnoddau ac
amserlenni clir er mwyn gweithredu ac arolygu.
Cydlyniad mewnol
15.2.7. Bydd y Cyngor yn trefnu a chydlynu gweithgareddau
adfywio'n fewnol ar draws ei gyfarwyddiaethau a meysydd gwasanaeth
traddodiadol drwy:-
-
dargedu adnoddau, gan gynnwys amser staff, ar
flaenoriaethau strategol, yn enwedig mewn perthynas ag ardaloedd
daearyddol;
-
rheoli lefel yr adnoddau, yr ystod o arbenigedd a'r
amser sydd ei angen i gynnal lefel uchel o weithgarwch ar fentrau
adfywio;
-
rheoli cyllidebau i hwyluso gwaith
rhyng-gyfarwyddiaeth a defnyddio cyllid allanol.
Cydlyniad allanol
15.2.8. Mae adfywiad llwyddiannus yn mynnu ystod o
fuddsoddiadau na all unrhyw un asiantaeth na sector eu darparu. Er mwyn
taclo'r problemau a chyflwyno digon o adnoddau, bydd y Cyngor Bwrdeistref
Sirol yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Bydd hyn yn
cynnwys:-
-
adnabod partneriaid 'strategol' y Cyngor;
-
datblygu ymagwedd o bartneriaeth;
-
cynnwys datblygwyr, buddsoddwyr, tirfeddianwyr a'r
sector gwirfoddol yn y strategaethau adfywio;
-
cyd-drefnu â chynghorau cyfagos.
Cynnwys y gymuned
15.2.9. Cydnabyddir bod cynnwys y gymuned yn elfen
allweddol o adfywiad llwyddiannus. Mae'n cynnwys:-
-
penderfynu beth yw 'cynnwys y gymuned' mewn
cyd-destunau gwahanol;
-
adnabod pwy sy'n cynrychioli'r gymuned;
-
cynnwys grwpiau dan anfantais/a eithrir;
-
cynnal rôl tymor hir y gymuned leol;
-
cysoni agenda'r gymuned ac agenda'r Cyngor;
-
nodi'r gofynion amser ac adnoddau ar y Cyngor wrth
geisio cynnwys cymunedau lleol mewn mentrau adfywio.
15.3. Strategaethau Adfywio yn y
Fwrdeistref Sirol
15.3.1. Lluniwyd nifer o strategaethau ar gyfer
bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r nod o adfywio ardaloedd penodol.
Gwelir hyn fel elfen hanfodol o wella ansawdd bywyd drwy wella dymunoldeb
cyffredinol y fwrdeistref fel lle i fyw, gweithio, siopa ac ymlacio ynddo.
15.4. Strategaeth Adfywio Canol Tref
Pen-y-bont ar Ogwr
15.4.1. Yn 1995, mewn ymateb i'r cyfle a gafwyd gan
rwydwaith ffyrdd gwell a phryderon nad oedd canol y dref yn cyrraedd ei
photensial llawn, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Ogwr a Chyngor Sir
Morgannwg Ganol Ove Arup and Partners i wneud arolwg cynhwysfawr o'i
photensial economaidd ac adfywio.
15.4.2. Etifeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr yr astudiaeth yn 1996. Cadarnhaodd y canlyniadau fod potensial i hybu
adfywiad canol y dref. Lluniodd Ove Arup strategaeth adfywio eang felly i
gefnogi datblygiad safleoedd newydd, cynigion ar gyfer rheoli traffig,
gwelliannau amgylcheddol ac ymagwedd ddiwylliannol.
15.4.3. Teimlwyd bod hybu canol y dref yn gofyn am raglen
gyd-drefnedig o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, gyda'r nodau canlynol:-
15.4.4. Cynhyrchwyd cynllun gweithredu ac ariannu. Mae
llwyddiant rhaglen adfywio'n gofyn am ymagwedd o bartneriaeth er mwyn
sicrhau ystod eang o ffynonellau ariannu, ynghyd ag adnoddau a rennir.
Gwelwyd tystiolaeth o hyn pan benodwyd swyddog prosiectau adfywio ar gyfer
canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2002 sy'n swydd a ariennir gan y
Cyngor ac Awdurdod Datblygu Cymru.
15.4.5. Mae strategaeth ddatblygu arfaethedig canol y
dref yn cynnwys datblygu safleoedd strategol - Elders Yard, ardal Nolton
Street, safle British Telecom a'r gerddi ar osod. Mae prosiectau eraill yn
canolbwyntio ar brosiectau diwylliannol ac amgylcheddol, gan gynnwys creu
amgylchedd wedi ei bedestreiddio a rheoli traffig. Manylir ar y safleoedd
datblygu a'r prosiectau arfaethedig dan y penodau pwnc perthnasol, yn
benodol manwerthu, cludiant ac adfywiad.
15.5. Strategaeth Coridor yr M4
Pen-y-bont ar Ogwr
15.5.1. Ym mis Mai 1996, cynhyrchodd yr ymgynghorwyr
cynllunio a datblygu EDAW strategaeth datblygiad economaidd ar gyfer ardal
coridor yr M4. Mae'n cwmpasu ardal sy'n estyn o Bencoed yn y dwyrain ar hyd
y coridor gan ddod i ben ym Mhîl/Corneli yn y gorllewin. Mae'r astudiaeth yn
canolbwyntio ar y sector diwydiannol a phrosiectau a rhaglenni cysylltiedig.
Seilir y strategaeth ar ystod eang o raglenni, sy'n cynnwys:-
-
safleoedd ac ystadau diwydiannol;
-
datblygu a hyfforddi busnesau;
-
twristiaeth; a
-
chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a chanolfannau
cyfagos.
15.5.2. Mae'r strategaeth yn gwneud argymhellion ac yn
nodi prosiectau i'w gweithredu rhwng 1996-2006 gyda phartneriaid allweddol
yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae gwireddu potensial
ardaloedd coridor yr M4 yn dibynnu ar sicrhau bod rhaglen weithredu briodol
yn ei lle i reoli a chydlynu'r strategaeth. Mae'r mentrau arfaethedig ym
meysydd safleoedd ac ystadau diwydiannol, adnoddau dynol a chwmnïau,
twristiaeth a gwelliannau i ganolfannau cymdogaethol, gan gynnwys Pencoed,
Abercynffig, Pîl a Mynydd Cynffig.
15.5.3. Ystyrir y mentrau a'r materion argymelledig sy'n
deillio o'r strategaeth ymhellach yn y penodau pwnc perthnasol, yn enwedig
diwydiant a chyflogaeth.
15.6. Strategaeth Adfywio Tref Lan
Môr Porthcawl
15.6.1. Ym mis Gorffennaf 2003, penododd y Cyngor
Bwrdeistref Sirol CDN Planning, ar y cyd â Halcrow and Alder King,
i baratoi pecyn gwybodaeth datblygu ar gyfer ardal adfywio Porthcawl, fel a
ddyrannwyd gan bolisi
REG3(2) y CDU. Pwrpas y pecyn gwybodaeth yw arwain datblygiad
cynhwysfawr o'r safle cyfan a sicrhau bod yna fframwaith gweithredu, o fewn
o fframwaith polisi, fel a osodir allan yn y CDU. Bwriada'r Cyngor
fabwysiadu'r pecyn gwybodaeth fel cyfarwyddyd cynllunio atodol i'r CDU.
Nodau'r pecyn gwybodaeth fydd:-
-
darparu cyfarwydd manwl am faterion cynllunio ac
eraill o fewn ardal adfywio Porthcawl; drwy brif gynllun;
-
sefydlu canllawiau cynllunio a dylunio trefol; a
-
darparu cyd-destun ar gyfer datblygu a phenderfynu ar
geisiadau cynllunio.
15.6.2. Bydd y pecyn yn gosod allan y gofyn i ddatblygu'r
ardal adfywio'n gynhwysfawr ond yn raddol; wrth gynnwys
polisi R8(5) y cynllun
sy'n dyrannu tir ar gyfer siop fwyd ym maes parcio Hillsboro Place a
dyraniad tai dan
bolisi H1(58). Disgwylir i'r rhain gyd-fynd ag amcan cyffredinol
polisi TM7
sef gwella a datblygu Porthcawel fel prif dref lan môr y fwrdeistref sirol.
15.6.3. Bydd y pecyn gwybodaeth drafft yn destun
ymgynghoriad cyhoeddus helaeth yn ystod ac ar ôl ei baratoi a disgwylir i'r
Cyngor ei fabwysiadu yn hwyr yn 2004.
15.7. Strategaeth Adfywio Cwm Garw
15.7.1. Yma, seilir y strategaeth ar weithredu cynlluniau
mawr a bach a anelir at wella'r amgylchedd yn raddol.
15.7.2. Prif linynnau'r strategaeth yw:-
-
cwblhau cynllun adfer Cwm Garw - cynllun adfer tir o
bwys a ariennir gan ADC â chost dybiedig o £14m. Ei bwrpas yw adfer y
cwm a'r mynydd yn gyfan gwbl;
-
gweithredu Strategaeth Werdd Cwm Garw - strategaeth
ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghwm Garw sy'n cynnwys adnabod
prosiectau a fydd yn gwella a glasu'r cwm;
-
gweithredu Strategaeth Werdd Betws - menter o
welliannau amgylcheddol a gyfeirir at bentref Betws yn benodol;
-
hybu cynlluniau hamdden a thwristiaeth yn seiliedig
ar dreftadaeth Cwm Garw, gan gynnwys cyflwyno trên stêm gan Gwmni
Rheilffordd Cymoedd Pen-y-bont, â chysylltiadau i Barc Gwledig Bryngarw;
-
estyn grantiau gwelliannau masnachol er mwyn
uwchraddio eiddo amgylcheddol a manwerthu.
15.7.3. Yn debyg i strategaethau eraill, manylir ar
fentrau sydd â goblygiadau defnydd tir dan y penodau pwnc perthnasol.

15.8. Strategaeth Adfywio Cwm Llynfi
15.8.1. Targedir y strategaeth yn bennaf at addysg
gymunedol, datblygiad cymdeithasol a mentrau cyflogaeth.
15.8.2. Ceir 5 thema strategol a sefydlwyd fel agenda
weithredu:-
-
Datblygu sylfaen sgiliau addysgol trigolion y cwm;
-
Datblygu safleoedd diwydiannol/masnachol lleol a
sefydlu partneriaethau gyda diwydiannau lleol yn unol â'r Strategaeth
Datblygiad Economaidd Cynaliadwy;
-
Datblygu gallu'r gymuned o fewn cymdogaethau lleol;
-
Datblygu cynllun gweithredu i ymdrin â phroblemau
cymdeithasol y cwm ac, yn arbennig, pobl ifanc sydd wedi colli
diddordeb; a
-
Datblygu balchder cyfiawn mewn tai a'r tirlun
amgylcheddol trefol a gwledig.
15.8.3. Cynigir nifer o fentrau i symud y themâu
strategol yn eu blaen a chychwynnwyd ar rai ohonynt eisoes. Seilir cyllid ar
y cyfle sydd ar gael i'r ardal am gais i gael cyllid gan y Swyddfa Gymreig a
chyllid Ewropeaidd. Gan fod mentrau'r strategaeth yn gymdeithasol eu natur
yn bennaf, ymdrinnir â materion sydd â goblygiadau defnydd tir yn y bennod
am gyfleusterau a gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol.
15.9. Strategaeth Adfywio Cwm Ogwr
15.9.1. Ar 4 Mehefin 1997, cymeradwyodd y Cyngor arian
dirprwyedig o'r Cynllun Datblygu Strategol am swm o £10,000 ar gyfer
astudiaeth o strategaeth adfywio Cwm Ogwr. Comisiynodd yr Awdurdod
Groundwork Pen-y-bont i gynhyrchu astudiaeth ddrafft i gynnwys y materion
canlynol:-
15.9.2. Mae Groundwork wedi paratoi strwythur drafft ar
gyfer paratoi'r astudiaeth yn seiliedig ar gynhwysiad y gymuned. Mae'r
strwythur yn cynnwys rhaglen am ymgynghoriad cyhoeddus. Un o nodau
datganedig y strategaeth yw llywio gweithrediadau asiantaethau yn y
bartneriaeth.
15.10. Strategaeth Adfywiad
Economaidd Cymuned Cynffig
15.10.1. Mae ardal y strategaeth yn cwmpasu cymunedau
Mynydd Cynffig, Pîl a Chorneli. Anela'r strategaeth at ddarparu ymateb
cynhwysfawr i'r problemau cymhleth o ddiweithdra uchel, amddifadedd a
phroblemau cymdeithasol sy'n bodoli yn y cymunedau hyn.
15.10.2. Prif nodau'r strategaeth yw:-
-
ymdrin ag eithriad cymdeithasol, yn enwedig ymysg
pobl ifanc sydd wedi colli diddordeb;
-
gwella sgiliau'r boblogaeth leol a natur gystadleuol
busnesau bach a chanolig lleol;
-
creu cyfleoedd gwaith newydd a chynaliadwy ar gyfer
pobl leol; a
-
gwella cyflwr corfforol Ystad Ddiwydiannol Village
Farm.
15.10.3. Cynigia'r strategaeth ymateb integredig at angen
lleol diffiniedig - hyfforddiant a gwaith. Ceisia integreiddio ystod eang o
fentrau cymunedol er mwyn creu sylfaen ar gyfer strategaeth adfywio yn yr
ardal.
15.10.4. Disgwylir i'r strategaeth greu buddion
economaidd a gwaith drwy:-
-
sefydlu isadeileddau hyfforddiant lleol,
-
adeiladu canolfan fenter gymunedol,
-
uwchraddio Ystad Ddiwydiannol Village Farm a'i gwneud
yn lleoliad dymunol i fusnesau bach a chanolig.
Daw'r strategaeth â phartneriaid allweddol at ei gilydd
ac mae ganddi gefnogaeth ystod eang o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

15.11. Strategaeth Adfywio Canol
Tref Maesteg
15.11.1. Yn 2000, comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr ac Awdurdod Datblygu Cymru strategaeth canol tref a
chynllun gweithredu ar gyfer adfywio canol tref Maesteg. Mae adroddiad URBED
yn cynnwys strategaeth adfer yn seiliedig ar 5 rhaglen ddatblygu, fel a
ganlyn:
-
Hawdd mynd at ganol y dref, gan gynnwys
lleihau tagfeydd traffig, symleiddio parcio a'i gwneud yn haws i bobl
gerdded a beicio yn y dref a gwneud y mwyaf o'r cyswllt trên i Gaerdydd
a Phen-y-bont
-
Balchder yn y dref, gan gynnwys glasu'r
strydoedd, penodi ardal gadwraeth a gwella'r amgylchedd er mwyn gwneud y
mwyaf o gymeriad Edwardaidd y dref
-
Canol y dref, canolbwyntio gwelliannau ar
adeiladau allweddol, gan gynnwys neuadd y dref a'r farchnad
-
Datblygu busnes a
-
Menter gymunedol
15.11.2. Ers cyhoeddiad yr adroddiad, mae ymdrechion i
gael adnoddau ar gyfer y gwelliannau a amlygwyd yn y strategaeth wedi bod yn
llwyddiannus ac maent wedi arwain at benodi swyddog prosiectau adfywio
penodol ar gyfer canol tref Maesteg. Yn gweithio mewn partneriaeth ag
Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, CADW a'r Lotri
Treftadaeth, mae'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn datblygu pecyn o brosiectau
gwella sy'n dangos ymagwedd integredig a chyfannol at adfywiad corfforol y
dref.
15.11.3. Yn 2003, cynhyrchwyd strategaeth ardaloedd cyhoeddus a phrif
gynllun sy'n amlinellu cynigion i wella strydoedd a lleoedd ledled canol y
dref. Cynlluniwyd y cam cyntaf o welliannau - glasu Commercial Street - i
ddechrau yng ngwanwyn 2004. Mae ystod o anogaethau ariannol mewn lle i annog
busnesau a deiliaid eraill yng nghanol y dref i fuddsoddi yn eu heiddo. Mae
astudiaethau dichonoldeb i botensial safleoedd ac adeiladau allweddol gyda'r
bwriad o sicrhau dyfodol cynaliadwy ar eu cyfer wedi cychwyn hefyd.
15.12. Gweithredu
15.12.1. Ynghyd â pholisïau sy'n perthyn i bynciau
penodol, ystyrir bod y canlynol yn hanfodol er mwyn helpu i weithredu
cynigion, cynlluniau a phrosiectau strategaethau adfywio amrywiol y
fwrdeistref sirol:-
15.12.2. CYNLLUNIAU ADFYWIO
POLISI REG1
CANIATEIR DATBLYGIAD SY'N HELPU I WEITHREDU CYNLLUNIAU ADFYWIO A GWELLIANNAU
AMGYLCHEDDOL, YN ENWEDIG LLE BYDD YN ARWAIN AT:-
1. AILDDEFNYDDIO AC ADFER TIR LLWYD AC ADEILADAU GWAG, NAD YDYNT YN CAEL
DIGON O DDEFNYDD;
2. GWELLA ANSAWDD YR AMGYLCHEDD TREFOL, YN ENWEDIG FFYNIANT, DICHONOLDEB A
DYMUNOLDEB CANOL TREFI PEN-Y-BONT, PORTHCAWL A MAESTEG;
3. GWELLA CYFLEUSTERAU PRESWYL, MASNACHOL, HAMDDEN A THWRISTIAETH;
4. DEFNYDD MWY EFFEITHIOL AC EFFEITHLON O'R RHWYDWEITHIAU FFYRDD A CHLUDIANT
CYHOEDDUS PRESENNOL.
15.12.3. Mae gweithredu cynlluniau a mentrau a geir yn y
strategaethau adfywio'n arwain at welliannau yn yr amgylchedd trefol.
Cydnabyddir bod hyn yn brif ffactor sy'n denu ymwelwyr a buddsoddiad mewnol.
Mae adfywio tir gwag yn gofyn am waith clirio ac ailddatblygu sy'n arwain at
dirlunio, creu mannau wedi eu pedestreiddio, coed, palmentydd a seddi. Mae
ailddefnyddio safleoedd tir llwyd yn rhoi cyfle i ddarparu cyfleusterau
newydd a hawdd mynd atynt ar ffurf datblygiadau defnydd cymysg, gan gynnwys
tai, a defnyddiau masnachol a manwerthu. Canlyniad hyn yw amgylchedd o
ansawdd uchel yn yr ardaloedd trefol hŵn ac ar ystadau tai ac felly gwella
ansawdd bywyd yn y fwrdeistref sirol. Lle mae polisïau
REG1 a
REG3 (isod) yn nodi
pum safle adfywio 'allweddol', pob un ohonynt o fewn neu ger ardaloedd
trefol presennol y fwrdeistref sirol, nid yw'n bosibl i gyfleoedd eraill am
adfywio tir mewn ardaloedd mwy gwledig y fwrdeistref sirol yn ystod bywyd y
CDU. Defnyddir darpariaethau
polisi REG1 yn yr
achlysuron hyn, os byddant yn codi. Dylid nodi bod y cyfarwyddyd cynllunio
Cymreig diweddaraf yn cynnwys diffiniad clir o 'dir a ddatblygwyd eisoes
(neu dir llwyd)' sy'n perthyn i leoliadau trefol a gwledig (cyfeirier at
adran 2.7 Polisi Cynllunio Cymru). Defnyddir hwn wrth weithredu
polisi REG1.
15.12.4. DATBLYGIAD NAD YW'N UNOL
 STRATEGAETH ADFYWIO
POLISI REG2
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD SY'N DEBYGOL O GAEL EFFAITH ANNERBYNIOL NEU
NEGYDDOL AR WEITHREDIAD STRATEGAETH ADFYWIO.
15.12.5. Mae strategaethau adfywio'n ffurfio gweledigaeth
gynhwysfawr ar gyfer dyfodol yr ardaloedd dan sylw. Byddwn yn gwrthwynebu
cynigion am ddatblygiad neu weithrediad sy'n groes i nodau ac amcanion
strategaeth neu sy'n atal gweithrediad rhaglen. Mae enghreifftiau o gynigion
annerbyniol yn ddatblygiadau sy'n arwain at fwy o draffig, cynigion tu allan
i drefi a allai beryglu ffyniant canol trefi a dyluniad o ansawdd isel.
Monitrir effaith gynyddol datblygiadau newydd bach a newidiadau mewn defnydd
hefyd er mwyn sicrhau nad oes effeithiau drwg yn y tymor hir. Gallai fod
angen gwrthod y datblygiadau hyn hefyd os ydynt yn debygol o beryglu
strategaeth.
15.12.6. SAFLEOEDD ADFYWIO A
DEFNYDD CYMYSG ALLWEDDOL
POLISI REG3
CYNIGIR DATBLYGIAD CYNHWYSFAWR O'R SAFLEOEDD CANLYNOL FEL RHAN O ADFYWIAD YR
ARDALOEDD NEU AR GYFER CYNLLUNIAU DEFNYDD CYMYSG PRIODOL. BYDD GWEITHREDIAD
POB UN YN UNOL Â PHECYN DATBLYGU A/NEU GYTUNDEBAU CYNLLUNIO/ FFYRDD PRIODOL.
RHAID I'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL GYTUNO AR Y RHAIN CYN I'R DATBLYGIAD
GYCHWYN:-
1. SAFLE HEN OLCHDY MAESTEG A'R TIR GERLLAW; (Cyswllt â’r Map 32)
2. TIR RHWNG Y PORTHLADD A BAE TRECCO, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 37)
3. TIR I'R GORLLEWIN O HEOL MAESTEG, TONDU; (Cyswllt â’r Map 15)
4. PWLL-Y-WAUN, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 29)
5. GOGLEDD O LOCKS LANE, PORTHCAWL. (Cyswllt â’r Map 29 Gorllewin)
15.12.7. Mae'r safleoedd allweddol uchod yn cynnig cyfle
ar gyfer cynlluniau cynhwysfawr a fydd yn gwella amgylchedd ac economi'r
fwrdeistref sirol drwy greu swyddi, denu ymwelwyr neu ddarparu mannau
hamdden. Bydd angen gwaith ar rai safleoedd ac adleoli defnyddiau presennol,
bydd angen adfer tir ar eraill. Hybir eu potensial drwy baratoi pecyn
datblygu neu gytundeb ffyrdd/cynllunio priodol. Dyma'r ffordd orau o ddatrys
materion cynllunio, fel mynediad, defnydd cymysg, dyluniad trefol,
bioamrywiaeth neu warchod adeiladau ac ardaloedd hanesyddol.
Safle Hen Olchdy Maesteg a Thir
Gerllaw
15.12.8. Lleolir y safle hwn yn union i'r
gogledd-ddwyrain o ganol tref Maesteg. Diffinnir ymylon gorllewinol a
deheuol y safle gan yr hen reilffordd mwnau ond ni ddiffinnir y ffiniau
gogleddol a dwyreiniol gan unrhyw nodweddion corfforol gan fod y tir yn dir
adferedig agored, gan gynnwys safle'r hen olchdy. Ar hyn o bryd, dim ond
rhan fach o gyfanswm y safle sy'n cael ei defnyddio. Ceir cae chwarae bach
yng nghornel dde-orllewinol y safle sy'n cyffwrdd ar storfa dosbarthu glo.
Mae llawer o'r safle yn cynnwys tipiau a adferwyd a rhostir agored.
15.12.9. Er mwyn adfer y safle'n foddhaol, byddai angen
ailbroffilio a thirlunio'r tipiau a'r ochrau llethr. Byddai gofyn delio ag
unrhyw fannau llygredig yn briodol hefyd. Ystyrir bod defnyddiau addysg,
tai, diwydiant ysgafn a hamdden yn briodol ar gyfer y safle. Nodwyd ysgol
gyfun newydd a chaeau chwarae fel prif ddefnydd ar gyfer rhan o'r safle.
Bydd nifer y tai a'r diwydiant ysgafn a osodir ar y safle'n cael eu cyfyngu
gan lefel y tir llygredig (os oes yna dir llygredig) ar y safle.

Tir rhwng y Porthladd a Bae
Trecco, Porthcawl
15.12.10. Mae
polisi REG3 (2) yn
cefnogi datblygiad gweithgareddau twristiaeth/hamdden/adloniant/masnachol
priodol a llety newydd fel rhan o gynigion ar gyfer ailddatblygiad Hillsboro
Place, Salt Lake, Coney Beach a Sandy Bay ym Mhorthcawl. Disgwylir ymagwedd
raddol. Bydd cyfarwyddyd cynllunio ategol ar ffurf pecyn gwybodaeth
datblygu'n cael ei baratoi, mewn ymgynghoriad â'r perchnogion a phreswylwyr
presennol, a'r cyhoedd a bydd yn manylu ar ofynion cynllunio a dylunio'r
safle. Dylai elfennau twristiaeth/ hamdden/adloniant y datblygiad adlewyrchu
nodau ehangach
Polisi TM7 a fydd yn cynnwys llety i dwristiaid a fydd yn gwneud tref
lan môr Porthcawl yn fwy dymunol i ymwelwyr ac yn estyn y tymor. Bydd y
gweithgareddau masnachol newydd yn cynnwys datblygiad manwerthu, yn unol â
pholisi R8(5).
Bydd y dyraniad preswyl cyffredinol yn cael ei arwain gan
bolisi H1(58).
Bydd ailddatblygu'r ardal bwysig hon o Borthcawl yn cyfrannu at ailfywiogi'r
gyrchfan fel prif dref lan môr yn ne Cymru.
Tir i'r Gorllewin o Heol Maesteg,
Tondu
15.12.11. Bydd datblygu ac adfer y safle 'tir llwyd'
hawdd mynd ato hwn yn cyflwyno 45hectar o dir ar gyfer amrywiaeth o
ddefnyddiau economaidd buddiol, gan gynnwys datblygiad diwydiannol o fewn
dosbarthiadau defnydd B1, B2, B8, tai, parc treftadaeth, gorsaf trosglwyddo
gwastraff a ffyrdd newydd a fydd o fantais i'r gymuned leol hefyd drwy
leddfu darn prysur o Heol Maesteg.
15.12.12. O safbwynt datblygiad economaidd, mae'r safle'n
darparu cyfle datblygu a chysylltiadau cyfathrebu da â'r M4, cyswllt
rheilffordd posibl ac amgylchedd o ansawdd uchel. Gall y safle ddenu nifer
fawr o ddefnyddwyr diwydiannol llawn bri, mawr gyda'r potensial i greu nifer
fawr o swyddi y mae mawr eu hangen.
15.12.13. Mae lleoliad canolog y safle yn y fwrdeistref
sirol a'i hygyrchedd o ran ffyrdd a rheilffyrdd i gludo defnyddiau yn gwneud
y defnydd o'r rhan hon o'r safle'n ddewis pwysig ar gyfer gorsaf trosglwyddo
gwastraff domestig.
15.12.14. O ran hybu treftadaeth ddiwydiannol yr ardal,
mae cyfle i ddarparu hamdden ffurfiol ac anffurfiol mewn cysylltiad â Gwaith
Haearn Tondu, sy'n hen gofeb gofrestredig ac yn rhan annatod o barc
treftadaeth arfaethedig. Yn ychwanegol, bydd llwybrau beicio ar y datblygiad
yn ffurfio rhan o'r Llwybr Beicio Cenedlaethol a bydd hyn yn creu mwy o
gyfle ar gyfer hamdden anffurfiol.
15.12.15. Mae'r safle'n cynnwys rhan o ardal gadwraeth
Heol Derllwyn a bydd raid i unrhyw ddatblygiad, gan gynnwys datblygiad
preswyl, ystyried y penodiad hwn, yn enwedig o ran dyluniad a defnyddiau.
Pwll-y-Waun, Porthcawl
15.12.16. Mae'r safle 4.5 hectar hwn yn cynnwys llyn
Pwll-y-Waun tua gorllewin y safle y dylid ei gadw a'i wella gan unrhyw
ddatblygiad ar y tir cyfagos tua dwyrain y safle a ddefnyddir fel porfa i
geffylau ar hyn o bryd. Bydd ardaloedd coediog y safle'n caniatáu datblygu
defnyddiau swyddfa bach B1 (0.7 hectar) mewn tir parc ynghyd â datblygiad
preswyl cyfyng (rhyw 25 o anheddau) â man agored ger y llyn a'r coed.
Bwriedir i'r datblygiad fynd yn ei flaen yn unol â phecyn gwybodaeth
datblygu cytunedig yn unig.
15.12.17. Adlewyrchwyd yr agweddau uchod yn y defnyddiau
safle penodol a ddyrannwyd ar gyfer y safle gan bolisïau eraill yn y CDU,
sef polisïau
RC9(10),
E4(4) a
H1(88). Felly, mae cyfle
ar y safle hwn i ddarparu cynllun defnydd cymysg o ansawdd uchel gan gynnwys
datblygiadau gwaith a phreswyl sy'n cadw ac sy'n parchu buddiant cadwraeth
natur y llyn tra'n diogelu a rheoli'r fioamrywiaeth ar y safle hwn.
Gogledd o Locks Lane, Porthcawl
15.12.18. Mae'r tir yn cynnwys 5.3 hectar o dir âr o fewn
ardal drefol Porthcawl. Mae datblygiad preswyl i'r gogledd a'r de a chaeau
chwarae i'r dwyrain. I'r gorllewin, mae'r tir yn cyffwrdd â Lock's Common,
ardal bwysig sy'n estyn i'r môr. Mae'r safle'n caniatáu ar gyfer datblygiad
preswyl a hamdden defnydd cymysg a fydd yn helpu i weithredu cynnig hamdden
hir sefydlog ac felly bodloni anghenion hamdden ardal Porthcawl.
15.12.19. Adlewyrchwyd yr agweddau uchod yn y defnyddiau
penodol a ddyrannwyd ar gyfer y safle gan bolisïau eraill y CDU, sef
polisïau RC6(10)
a H1(59).
Darperir tai dim ond fel rhan o gynllun defnydd cymysg a sicrheir drwy
gytundeb cynllunio priodol a fydd yn cynnwys datblygu o leiaf 2.7 hectar o
dir at ddibenion hamdden ar ymyl ddwyreiniol y safle.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |