access to information about accesskeys skip navigation bridgend logoWelcome to Bridgend County Borough Council

 Separator Image Home  Separator Image A-Z of Services  Separator Image Report It  Separator Image Contact Us  Separator Image Help  Separator Image Complaints  Separator Image Cymraeg  Separator Image

Spacer Image
Spacer Image     Spacer Image Looking for information? Try the A - Z of Services
Delwedd lenwi
Beth yw Cynllun Datblygu Unedol?.
Statws y CDU.
Crynodeb o'r Cyfnodau Ymgynghori.
Datblygiad Cynaliadwy.
Rhagair
1. Cyflwniad Rhan 1
2. Cyflwniad Rhan 2
3. Amgylchedd
4. Tai
5. Cyflogaeth
6. Cludiant
7. Manwerthu
8. Twristiaeth a Hamdden
9. Chwaraeon a Hamdden
10. Gwasanaethau a Chyfleusterau Cymdeithasol a Chymunedol
11. Mwnau
12. Gwastraff
13. Tir Ansefydlog
14. Ynni A Gwasanaethau Cyhoeddus
15. Adfywiad
16. Gweithredu, Adnoddau A Monitro
Atodiad
Delwedd lenwi
Cyfiawnhad O Bolisi Rhan 1
Rhan 2
Cyflwyniad
Tabl REC1 Cyfleusterau Chwaraeon A Hamdden At Ddefnydd Y Gymuned Ac Unigolion Ym Mwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont Ar Ogwr
Hamdden Cyffredinol
Datblygiadau Chwaraeon A Hamdden
Polisi RC1(A)
Polisi RC1(B)
Chwaraeon A Hamdden I Bobl Anabl A’r Henoed
Polisi RC2
Diogelu Cyfleusterau Hamdden
Polisi RC3
Cyfleusterau Chwaraeon A Hamdden Amlddefnydd
Polisi RC4
Mannau Agored
Darparu Man Agored Ar Gyfer Datblygiad Tai Newydd
Polisi RC5
Chwaraeon Awyr Agored (Pobl Ifanc Ac Oedolion)
Darparu Caeau Chwarae A’u Cyfleusterau Perthynol
Polisi RC6
Mannau Chwarae I Blant
Darparu Mannau Chwarae I Blant
Polisi RC7
Darparu Mannau I Gicio Pêl
Polisi RC8
Mannau Agored Cyhoeddus
Darparu Mannau Agored Cyhoeddus
Polisi RC9
Hamdden Anffurfiol
Darparu Mannau Hamdden Anffurfiol
Polisi RC10
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Llwybrau Cymunedol
Darparu Llwybrau Cymunedol
Polisi RC11
Llwybrau Beicio
Darparu Llwybrau Beicio
Polisi RC12
Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Darparu Ar Gyfer Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Polisi RC13
Gerddi Ar Osod
Darparu Gerddi Ar Osod
Polisi RC14
Diogelu Gerddi Ar Osod
Polisi RC15
Cyfleusterau Hamdden Dan Do
Darparu Neuadd Amlbwrpas Ym Mrackla
Polisi RC16
Delwedd lenwi
Delwedd lenwi

Delwedd lenwi

9. CHWARAEON A HAMDDEN


9.1. Cyfiawnhad o Bolisi Rhan 1

9.1.1. Arweinir iechyd cymdeithas gan les corfforol a meddyliol ei dinasyddion. Yn lleol, golyga hyn sicrhau bod gan bawb yn y gymuned fynediad i weithgareddau hamdden a chwaraeon sy'n sicrhau a gwella ansawdd eu bywydau.

9.1.2. Nid yw'r Llywodraeth yn pennu safonau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth chwaraeon a hamdden oherwydd amgylchiadau amrywiol ardaloedd. Felly, gofynnir i awdurdodau lleol lunio eu safonau eu hunain yn unol â chyfarwyddyd a osodir allan gan y Gymdeithas Caeau Chwarae Genedlaethol (NPFA) a Chyngor Chwaraeon Cymru (SCW).

9.1.3. Mae cyfarwyddyd cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd pob math o gyfleusterau chwaraeon a hamdden ar gyfer holl aelodau'r gymuned, gan gynnwys yr henoed a'r rhai ag anableddau. Dylai'r system gynllunio sicrhau y dyrennir digon o dir ac adnoddau dŵr ar gyfer chwaraeon a hamdden trefnedig ac anffurfiol, gan ystyried mannau agored cyhoeddus a'r gofyn i'w diogelu, defnydd lluosog o gyfleusterau a'r effaith ar ardaloedd.

Back to Top


Rhan 2

9.2. Cyflwyniad

9.2.1. Gellir rhannu hamdden yn ddau gategori, ffurfiol ac anffurfiol. Mae'n bwysig diwallu ar gyfer y ddau. Mae hamdden ffurfiol yn cynnwys gemau trefnedig sy'n mynnu cyfleusterau, cyfarpar arbenigol a lleoliadau penodol. Nid yw hamdden anffurfiol, fel cerdded a mwynhau cefn gwlad, yn gofyn am gyfarpar a sgiliau arbenigol fel arfer. Mae darparu'r cyfleusterau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at ansawdd bywyd ardal a gall gael budd economaidd o ran twristiaeth.

9.2.2. Mae cystadleuaeth sylweddol am ddefnyddio'r safleoedd sy'n addas ar gyfer datblygiad yn y fwrdeistref sirol. Amcan y CDU yw mantoli'r gofynion hyn a sicrhau bod digon o dir ac adnoddau eraill ar gael at ddibenion hamdden.

9.2.3. Cyfrifwyd swm y tir ychwanegol a'r cyfleusterau sydd eu hangen yn y fwrdeistref sirol am yr amryw weithgareddau hamdden ffurfiol yn unol â chyfarwyddyd a osodir allan gan y Gymdeithas Caeau Chwarae Genedlaethol (NPFA) a Chyngor Chwaraeon Cymru, er ei fod yn anodd gwerthuso'r galw, gan fod lefel defnydd y cyfleusterau presennol ond yn arwydd posibl o'r galw a rhaid ystyried hyn yn erbyn digonoldeb y cyfleusterau hyn a gallu pobl i ddefnyddio neu ystyried cyfleusterau eraill.

9.2.4. Darperir, trefnir, hyfforddir a gweinyddir chwaraeon a hamdden ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan y Cyngor, clybiau gwirfoddol, ysgolion, cyrff llywodraethu cenedlaethol a chyrff yn y sector preifat. I ddarparu a hwyluso cyfle effeithiol, mae'n hanfodol meithrin ymagwedd o bartneriaeth. Yn hanfodol, dylai partneriaethau ganolbwyntio ar ddatblygu pobl, uwchraddio a datblygu cyfleusterau, annog pobl i gymryd rhan, adnoddau a chreu safonau ansawdd.

9.2.5. Mae llawer o'r gyllideb chwaraeon a hamdden yn ymroddedig i'r gwasanaethau a chyfleusterau presennol. Mae'n debygol y bydd rhai datblygiadau sydd o fudd i ardaloedd penodol yn gyfrifoldeb cynghorau tref a chymuned.

9.2.6. Yn gyffredinol, rhaid lleoli cyfleusterau hamdden yn weddol agos i ardaloedd preswyl a theithiau cludiant cyhoeddus. Rhoddir pwyslais penodol felly ar ddefnyddio'r cyfleusterau presennol a datblygu cyfle pellach o fewn ardaloedd trefol. Mae perthynas y cyfleusterau â'r system gludiant yn hanfodol, yn enwedig y rhwydwaith cludiant cyhoeddus, gan fod cael cyfleusterau sy'n hawdd eu cyrraedd yn ffactor hollbwysig o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Bydd cyfranogiad yn dirywio'n gynyddol wrth i bellter o'r cyfleuster gynyddu.

9.2.7. O ran cyfleusterau, mae'r Cyngor yn gweithredu neu'n contractio ystod o gyfleusterau chwaraeon a hamdden a ddefnyddir gan unigolion a chymunedau. Maent yn cynnwys:-

TABL REC1
CYFLEUSTERAU CHWARAEON A HAMDDEN AT DDEFNYDD Y GYMUNED AC UNIGOLION YM MWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR

CYFLEUSTER NIFER
PYLLAU NOFIO 7
LAWNTYDD BOWLIO 15
CANOLFANNAU CHWARAEON 5
CYRTIAU TENNIS 18
CYFLEUSTERAU DAU DDEFNYDD 3
SGWARIAU CRICED 15
CAEAU CHWARAE 74
TRACIAU ATHLETAU 1
CANOLFANNAU CYMUNED
(+YSTOD EANG O GYFLEUSTERAU YSGOL)
21

9.2.8. Dylid rhoi blaenoriaeth i fwyhau'r defnydd o'r cyfleusterau presennol. Dylai unrhyw ddatblygiad newydd gydweddu â nodau strategol ac angen amlwg yn y gymuned.

Back to Top


9.3. Hamdden Cyffredinol

9.3.1. Yn draddodiadol, mae hamdden wedi tueddu i ganolbwyntio ar chwaraeon, ond mae'n bwysig diwallu ar gyfer hamdden ffurfiol ac anffurfiol. Bydd ystod ehangach o weithgareddau hamdden yn cyfrannu at wella ansawdd bywyd a bydd yn cefnogi ymdrechion eraill mewn perthynas â thai a chyflogaeth yn y fwrdeistref sirol.

9.3.2. Ar hyn o bryd, y Cyngor yw prif ddarparwr cyfleusterau hamdden y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, mae ei gyllid yn gyfyng ac ni all ddarparu ar gyfer yr ystod gyfan o gyfleusterau hamdden y mae'r gymuned, â'i hamser hamdden cynyddol, yn eu mynnu. Felly, mae'r Cyngor yn cydnabod bod gan y sector preifat rôl sylweddol a chynyddol i'w chwarae yn y maes hwn. Er y bernir unrhyw gynnig gan y sector preifat yn ôl ei deilyngdod, anogir y cyfleusterau hynny sy'n ategu at y cyfleusterau a ddarperir gan y Cyngor. Disgwylir i unrhyw gynllun preifat fod o safon uchel o ran cynllun, graddfa a dyluniad. O ran darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden:-

9.3.3. DATBLYGIADAU CHWARAEON A HAMDDEN

POLISI RC1(A)

CANIATEIR CYNIGION AM DDATBLYGIAD CHWARAEON A HAMDDEN DAN DO NEWYDD LLE BYDDAI'R DATBLYGIAD YN CYDYMFFURFIO Â'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. MAE ANGEN AMLWG AM GYFLEUSTERAU YCHWANEGOL;

2. YN NHREFN EU DEWIS, ASESWYD POB CANOLFAN TREF, YMYL TREF, CANOL DOSBARTH A THU ALLAN I'R CANOL;

3. NID YW'R CYNNIG, NAILL AI AR EI BEN EI HUN NEU AR Y CYD Â DATBLYGIADAU ERAILL, YN BYGWTH BYWIOLDEB A DYMUNOLDEB CANOL TREFI A DOSBARTHIADAU;

4. MAE'N HAWDD EI GYRRAEDD AR GLUDIANT CYHOEDDUS NEU AR DROED;

5. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y CYNNIG HEB IDDO GAEL EFFAITH DDRWG AR LIF A PHATRWM TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL;

6. MAE DIGON O LE I BARCIO YNO;

7. GELLIR CYDWEDDU'R DATBLYGIAD YN GYDYMDEIMLADOL Â'R AMGYLCHEDD O RAN LLEOLIAD, GRADDFA, DYLUNIAD A THIRLUNIO; AC

8. NI FYDDAI'N EFFEITHIO AR DDEFNYDDIAU ERAILL A'R AMWYNDERAU ERAILL Y MAE'R BOBLOGAETH LEOL YN EU MWYNHAU.

Back to Top


POLISI RC1(B)

CANIATEIR CYNIGION AM GYFLEUSTERAU CHWARAEON A HAMDDEN AWYR AGORED LLE BYDDAI'R DATBLYGIAD YN CYDYMFFURFIO Â'R HOLL FEINI PRAWF CANLYNOL:-

1. BYDDAI'N HAWDD CYRRAEDD Y DATBLYGIAD A BYDDAI'N BODLONI ANGHENION DEFNYDDWYR NAD OES GANDDYNT GAR;

2. GALL Y RHWYDWAITH FFYRDD YMDOPI Â'R TRAFFIG A GYNHYRCHIR GAN Y CYNNIG HEB EFFEITHIO'N ANNERBYNIOL AR LIF A PHATRWM TRAFFIG, DIOGELWCH, DEFNYDDIO YNNI NEU OLLYNGIADAU ERAILL;

3. BYDD DIGON O LE I BARCIO YNO;

4. GELLIR CYNNWYS Y DATBLYGIAD YN GYDYMDEIMLADOL YN YR AMGYLCHEDD O RAN EI LEOLIAD, GRADDFA, DYLUNIAD A THIRLUNIO;

5. NI FYDDAI'N EFFEITHIO AR DDEFNYDDIAU ERAILL A'R AMWYNDERAU Y MAE'R BOBLOGAETH LEOL YN EU MWYNHAU.

9.3.4. Mae polisi RC1(A a B) yn darparu'r meini prawf ar gyfer asesu unrhyw gyfleusterau chwaraeon a hamdden arfaethedig. Asesir cyfleusterau hamdden a datblygiadau dan do dan delerau Rhan A o bolisi RC1 ac asesir cynigion am hamdden a chwaraeon awyr agored dan ran B yr un polisi. Anela'r polisi at annog ystod amrywiol o gyfleusterau chwaraeon a hamdden mewn mannau cyfleus yn y fwrdeistref sirol a sicrhau datblygiadau o ansawdd uchel o ran cynllun, graddfa a dyluniad; ac sy'n bodloni canllawiau cymeradwyedig y Cyngor o ran gofynion parcio ceir. Bydd y Cyngor yn annog a mabwysiadu ymagwedd bositif tuag at amrywio mentrau fferm a'r economi wledig drwy ddefnyddiau chwaraeon a hamdden priodol. O ran maen prawf 1 polisi RC1(B) mewn perthynas â chyfleusterau mewn cefn gwlad, cydnabyddir na fydd yn hawdd eu cyrraedd ar gludiant cyhoeddus.

Bridgend Recreation Centre

Back to Top


9.3.5. Dylid cyfyngu datblygiadau chwaraeon a hamdden yn ein cefn gwlad ar gyfer mannau gwledig priodol. Mae defnyddiau megis cyrsiau golff, ymarfer golff, gweithgareddau sy'n ymwneud â cheffylau, datblygiadau hamdden masnachol, ayb yn destun rhagofalon priodol yn unol â chyfarwyddyd cenedlaethol a pholisïau amgylcheddol y cynllun. Bydd pwysau unrhyw gyfyngiad yn cynyddu gyda phwysigrwydd amgylcheddol y safle lle cynigir y datblygiad. Anogir trosi a gwella adeiladau gwag priodol i ddefnydd chwaraeon a hamdden os nad ydynt yn gwrthdaro â pholisi RC1.

9.3.6. Mae'n bwysig peidio ag anwybyddu anghenion lleiafrifoedd - pobl anabl, yr henoed a'r rhai heb gar. Drwy addasu'r cyfleusterau presennol a dylunio rhai newydd yn ofalus, gellir diwallu ar gyfer anghenion hamdden pobl anabl a phobl hyn. Gall y rhai hynny heb gar gymryd rhan lle mae cyfleusterau'n agos i'w cartrefi neu ar daith cludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, gall hyd yn oed hyn fod yn rhy ddrud, yn enwedig ar gyfer teuluoedd cyfan. Felly:-

9.3.7. CHWARAEON A HAMDDEN I BOBL ANABL A'R HENOED

POLISI RC2

FFAFRIR CYNIGION CHWARAEON A HAMDDEN LLE MAENT YN BODLONI ANGHENION POBL ANABL A'R HENOED: -

1. DRWY ADDASU CYFLEUSTERAU PRESENNOL AC YSTYRIED DARPARIAETH CYFLEUSTERAU NEWYDD YN OFALUS; A

2. THRWY YSTYRIED GWASANAETHAU CLUDIANT CYHOEDDUS WRTH YSTYRIED CYFLEUSTERAU NEWYDD.

Back to Top


9.3.8. Mae cyfleusterau hamdden, fel caeau chwarae, gerddi ar osod, mannau chwarae, ayb pa un a ydynt yn defnyddio tir neu adeiladau a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer defnydd hamdden, yn fuddsoddiadau sylweddol. Fodd bynnag, gallant fod dan bwysau i'w hamnewid ar gyfer datblygiadau tai, diwydiant neu fasnachu. Felly:-

9.3.9. DIOGELU CYFLEUSTERAU HAMDDEN

POLISI RC3

CANIATEIR DATBLYGIAD SY'N EFFEITHIO'N DDRWG AR GYFLEUSTERAU HAMDDEN PRESENNOL NEU ARFAETHEDIG, BOED YN FFURFIOL NEU'N ANFFURFIOL, DIM OND LLE:-

1. MAE'R DATBLYGWR YN BAROD I DDARPARU CYFLEUSTERAU ERAILL O'R UN BUDD CYMUNEDOL; NEU

2. YM MARN YR AWDURDOD CYNLLUNIO LLEOL, MAE GORMOD O DDARPARIAETH YN YR ARDAL EISOES; NEU

3. BYDDAI'N WELL CADW A GWELLA CYFLEUSTERAU DRWY AILDDATBLYGU DARN BACH O'R SAFLE.

Back to Top


9.3.10. Gallai fod amgylchiadau eithriadol lle mae cyfleuster hamdden yn wag oherwydd gormod o ddarpariaeth debyg (o ganlyniad i ddirywiad yn y boblogaeth neu newid cymdeithasol) ac, yn yr achosion hyn, ni fyddai angen cadw'r cyfleuster. Yn debyg, gallai fod rhai achlysuron lle nad yw lleoliad cyfleuster yn briodol bellach a byddai adleoliad yn fuddiol.

9.3.11. Darperir cyfleusterau chwaraeon a hamdden gan amrywiaeth o asiantaethau gwahanol, gyda'r Cyngor yn chwarae rôl arbennig o bwysig. Yn y sefyllfa economaidd bresennol, mae'r cyfle i gynyddu cyflenwad cyfleusterau newydd yn gyfyng iawn. Fodd bynnag, mae rhai cyfleusterau y mae cyrff eraill yn berchen arnynt neu'n eu defnyddio nad ydynt yn agored i'r cyhoedd ac felly nid ydynt yn cael defnydd llawn. Gall cyd-ddarpariaeth a rheolaeth fod yn gyfle i fwyhau'r defnydd o'r cyfleusterau hyn a'u cynnig i'r gymuned gyfan a gall fod yn ffordd o rannu costau cynnal hefyd. Felly:-

9.3.12. CYFLEUSTERAU CHWARAEON A HAMDDEN AMLDDEFNYDD

POLISI RC4

FFAFRIR CYNIGION CHWARAEON A HAMDDEN SY'N ARWAIN AT DDEFNYDD CYMUNEDOL EHANGACH O ADEILADAU A THIR.

9.3.13. Yn y cyd-destun hwn, mae gan ddefnydd lluosog cyhoeddus o gyfleusterau'r fantais o osgoi dyblygu gwariant a diogelu tir arall rhag datblygiad. O ystyried y prinder mewn safleoedd gwastad mawr priodol, yn enwedig yn y Cymoedd, mae'r Cyngor yn ystyried ei fod yn hanfodol gwneud y mwyaf o'r adnoddau a'r cyfleusterau presennol mewn perthynas â chaeau chwarae a chyfleusterau atodol. Lle'n bosibl, mae polisi RC4 yn annog cyfleusterau defnydd deuol er mwyn cynyddu cyfleoedd hamdden a diogelu tir datblygu.

Back to Top


9.4. Mannau Agored

9.4.1. Mae 'man agored' yn derm cyffredinol sy'n cwmpasu man cyhoeddus agored a man chwarae awyr agored. Mae man agored cyhoeddus yn fan gwyrdd defnyddiadwy lle mae gan y cyhoedd hawl gyfreithiol i'w fwynhau'n anffurfiol. Mae man chwarae awyr agored yn fannau chwaraeon a chwarae i blant awyr agored fel a ddiffiniwyd gan yr NPFA. Mae'r NPFA yn diffinio man chwarae awyr agored fel lle sydd ar gael ar gyfer chwaraeon, hamdden bywiog neu chwarae plant, o faint a natur priodol ar gyfer ei bwrpas sydd ar gael i'r cyhoedd ac sy'n hawdd ei gyrraedd.

9.4.2. Mae polisi RC5 yn amlinellu'r sail ar gyfer asesu gofynion man agored datblygiadau tai newydd. Bydd yn gymwys ar gyfer safleoedd a nodir yn y cynllun a safleoedd tai eraill a fydd yn ymddangos yn ystod bywyd y cynllun.

9.4.3. DARPARU MAN AGORED AR GYFER DATBLYGIAD TAI NEWYDD

POLISI RC5

BYDD DARPARU MAN CHWARAEON AGORED A MAN CHWARAE I BLANT A MAN AGORED CYHOEDDUS O LEFEL A SAFON BODDHAOL YN OFYNNOL AR BOB DATBLYGIAD TAI NEWYDD.

9.4.4. Mae'r Cyngor yn fwyfwy ymwybodol o'r problemau sy'n gysylltiedig â phrinder mannau agored mewn ardaloedd preswyl. Er bod y Cyngor yn chwarae rhan bwysig mewn darparu'r cyfleusterau hyn, mae angen i ddatblygwyr gynnwys y cyfleusterau hyn yn eu cynlluniau tai arfaethedig. Cynlluniwyd polisi RC5 i sicrhau, wrth i faint a phoblogaeth anheddiadau gynyddu, mae mannau agored yn cynyddu'r un mor gyflym. Felly, bydd y Cyngor yn disgwyl i ddatblygwyr fynd i gytundebau/rhwymedigaethau cynllunio dan Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, lle bydd gofyn am gyfraniadau i adfer diffygion lleol neu strategol mewn darpariaeth hamdden; darperir y ddarpariaeth hon yn unol â safonau'r NPFA a chyfarwyddyd cynllunio atodol y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

9.4.5. Ceir isafswm safon arfaethedig y Cyngor o 2.4 hectar fesul 1000 y boblogaeth ar gyfer man agored o argymhelliad yr NPFA ar gyfer man chwarae awyr agored sy'n cynnwys man chwarae i blant a chwaraeon awyr agored a gofyn ychwanegol am fan cyhoeddus agored. Dylid bodloni neu fynd y tu hwnt i'r isafswm safon hwn lle'n bosibl ar bob datblygiad tai newydd. Gofynnir i ddatblygwyr sicrhau man agored a chyfleusterau hamdden eraill yn unol ag amodau cynllunio neu drwy gytundebau/rhwymedigaethau cynllunio. Bydd gofynion union pob cynnig yn destun cytundeb gyda'r Cyngor a bydd yn ymdrin ag unrhyw golled i'r gymuned a/neu fwy o ddiffyg mewn darpariaeth hamdden oherwydd y datblygiad arfaethedig. Amlygir ardaloedd â diffygion mewn cyfleusterau hamdden ym mholisïau'r CDU a gellir cael mwy o wybodaeth sylfaenol am ddiffygion a darpariaeth arfaethedig o CCA cyhoeddedig y Cyngor ar fannau agored cyhoeddus a datblygiadau. Ar y cyd, mae'r dogfennau hyn yn gyfarwyddyd clir i ddatblygwyr o ran yr hyn a ddisgwylir oddi wrthynt pan fydd y Cyngor yn ystyried darpariaeth man agored mewn ardal mewn perthynas â'u cynigion. Hefyd, gosodir allan cyfarwyddyd a gwybodaeth dylunio manwl ar faint a math o fannau agored yn fanylach yn y dogfennau CCA perthnasol.

9.4.6. Mewn rhai amgylchiadau, gall nodweddion penodol safle neu'r datblygiad a gynigir amrywio o'r ddarpariaeth briodol arferol. Er enghraifft, lle mae datblygiad yn cynnwys tai cysgodol, bydd gofyn ystyried darpariaeth fwy priodol yn lle'r man hamdden arferol sy'n briodol ar gyfer tai i deuluoedd. Ystyrir darparu mannau agored ar ddatblygiadau tai ar gyfer pobl ag anghenion arbennig ar ôl edrych ar anghenion preswylwyr y datblygiadau hyn.

9.4.7. Gofynnir am fan chwarae agored ar y safle datblygu fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau lle mae safonau'r Cyngor yn anymarferol e.e. mae'r safle'n rhy fach ar gyfer man chwarae agored neu efallai bod y safle ger neu'n agos i fan chwarae awyr agored sy'n gallu bodloni gofynion man chwarae awyr agored y cynnig, gallai'r Cyngor drafod cyfraniadau i ffwrdd o'r safle sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygiad. Yn ychwanegol, lle cynigir nifer o ddatblygiadau preswyl ar un safle neu mewn un lleoliad, gellir ystyried cyfuno mannau chwarae awyr agored i ffurfio un ardal fwy sy'n haws ei rheoli a'i defnyddio.

9.4.8. Wrth drafod gyda datblygwyr, bydd y Cyngor yn bodloni ei hun bod y buddion mannau chwarae awyr agored yn rhesymol berthynol i'r datblygiad a bod angen amdanynt yn y datblygiad.

9.4.9. Mae dogfen bolisi a strategaeth y Cyngor "Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae i Blant" (Tach 1998) yn gosod allan paramedrau am arolygu lefel a safon y gwasanaeth presennol ac yn darparu fframwaith ar gyfer ei reoli a'i ddatblygu yn y dyfodol. Arolygir y polisi hwn yn achlysurol er mwyn sicrhau datblygiad a gwelliannau parhaus yn unol â datblygiadau mewn chwarae plant.

Back to Top


9.5. Chwaraeon Awyr Agored (Pobl Ifanc ac Oedolion)

9.5.1. Safon ymgynghorol argymhelledig yr NPFA ar gyfer chwaraeon awyr agored yw 1.6 -1.8 hectar fesul 1,000 o'r boblogaeth. Mae chwaraeon awyr agored yn cynnwys:-

  1. cyfleusterau fel meysydd, lawntydd, cyrtiau, traciau athletau a safleoedd amrywiol megis lawntydd croce a mannau hyfforddi y mae'r Cyngor yn berchen arnynt;

  2. cyfleusterau a ddisgrif yn 1 uchod yn y sector addysg ac sydd ar gael i'r cyhoedd i'w defnyddio;

  3. cyfleusterau a ddisgrifir yn 1 uchod o fewn y sectorau gwirfoddol, preifat, diwydiannol a masnachol ac sy'n bodloni anghenion hamdden awyr agored eu haelodau neu'r cyhoedd.

9.5.2. Wedi ei gynnwys yn y safon yw dyraniad penodol o 1.2 hectar fesul 1,000 y boblogaeth ar gyfer chwaraeon ar gaeau. Caeau chwarae a'u cyfleusterau cysylltiedig yw'r math helaethaf o gyfleuster hamdden awyr agored ffurfiol, yn rhoi'r galw mwyaf ar y tir sydd ei angen arnynt. Defnyddir 'cae chwarae' yn y cyd-destun hwn fel term cyffredinol i gynnwys y lle sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau hamdden trefnedig fel rygbi, pêl-droed, criced, hoci, tennis, pêl-rwyd, bowls, ayb.

9.5.3. Golyga'r angen i dargedu adnoddau prin fod uwchraddio'r caeau presennol yn cael mwy o flaenoriaeth na chreu rhai newydd. Datblygir caeau newydd ar dir a nodir wrth i adnoddau ddod ar gael ond mae hyn yn debygol o fod yn gyfyng yn ystod bywyd y cynllun. Yn bwysicach, mae polisi RC6 yn rhoi diogelwch tymor hir i'r tir.

9.5.4. Yn ddelfrydol, dylai'r cynllun fodloni'r safonau ymgynghorol argymhelledig er mwyn sicrhau dosbarthiad rhesymol o gyfleusterau. Fodd bynnag, mae caeau chwarae a'u cyfleusterau ategol yn gofyn am ddarnau mawr o dir gwastad. Wrth ystyried cyfleoedd a chyfyngiadau o ran tir, a'r angen i sicrhau dosbarthiad rhesymol ledled y fwrdeistref sirol:-

9.5.5. DARPARU CAEAU CHWARAE A'U CYFLEUSTERAU PERTHYNOL

POLISI RC6

DYRENNIR TIR YN Y MANNAU CANLYNOL ER MWYN DARPARU CAEAU CHWARAE A CHYFLEUSTERAU CYSYLLTIEDIG:-

RC6(1) RHAN O'R SAFLE ADFER GWAITH GLO RHYNGWLADOL, BLAENGARW; (Cyswllt â’r Map 2 Canolog)
RC6(2) RHAN O SAFLE'R HEN OLCHDY CANOLOG, BRO OGWR; (Cyswllt â’r Map 12 Canolog)
RC6(3) RHAN O HEN WAITH GLO CAERAU, CAERAU; (Cyswllt â’r Map 1 Canolog)
RC6(4) DE O FFERM NEUADD DOMOS, CWMFELIN; (Cyswllt â’r Map 10)
RC6(5) GORLLEWIN O BARC TUDUR, YSTRAD CELIN, MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 5 Gorllewin)
RC6(6) SAFLE HEN OLCHDY MAESTEG, MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 5 Canolog)
RC6(7) GWASTADEDD DEHEUOL HEN WAITH GLO COEGNANT, NANTYFFYLLON; (Cyswllt â’r Map 5 Canolog)
RC6(8) YSTAD DDIWYDIANNOL HEOL TY GWYN, NANTYFFYLLON; (Cyswllt â’r Map 5 Gorllewin)
RC6(9) GORLLEWIN O GRASSHOLM WAY, REST BAY, NOTTAGE; (Cyswllt â’r Map 25 Gorllewin)
RC6(10) GOGLEDD O LOCKS LANE, NOTTAGE; (Cyswllt â’r Map 29 Gorllewin)
RC6(11) ESTYNIAD CAEAU NEWBRIDGE, PEN-Y-BONT; (Cyswllt â’r Map 27)
RC6(12) HEOL Gorllewin PLAS, PEN-Y-BONT; (Cyswllt â’r Map 21 Dwyrain)
RC6(13) PYLLAU CLAI BRYNCETHIN, BRYNCETHIN; (Cyswllt â’r Map 15 Dwyrain)
RC6(14) BRYNDU, MYNYDD CYNFFIG A PHÎL; (Cyswllt â’r Map 19 Dwyrain)
RC6(15) DE O HEOL WAUNBANT, MYNYDD CYNFFIG A PHÎL; (Cyswllt â’r Map 20 Gorllewin)
RC6(16) DWYRAIN O CROWN ROAD, WAUN CIMLA, MYNYDD CYNFFIG A PHÎL; (Cyswllt â’r Map 20 Gorllewin)
RC6(17) FFERM MAENDY, YNYSAWDRE; (Cyswllt â’r Map 15 Canolog)
RC6(18) ESTYN PARC PANDY, YNYSAWDRE; (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)
RC6(19) TIR RHWNG HEOL FACH A THRAFFORDD YR M4, GOGLEDD CORNELI; (Cyswllt â’r Map 19)
RC6(20) GOGLEDD O YSBYTY PENYFAI, PENYFAI. (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)

Back to Top


9.6. Mannau Chwarae i Blant

9.6.1. Mae'r Cyngor o'r farn y bydd y mannau chwarae i'w darparu gan bolisïau RC7 ac RC8 ar y cyd â'r rhai a ddarperir gan bolisi RC5 yn bodloni'r tanddarpariaeth a galw yn y dyfodol am y math hwn o gyfleuster.

9.6.2. Safon ymgynghorol argymhelledig yr NPFA ar gyfer man chwarae i blant yw 0.6 - 0.8 hectar fesul 1,000 o'r boblogaeth. Mae mannau chwarae i blant yn cynnwys:-

  1. meysydd chwarae awyr agored â chyfarpar i blant o bob oed;

  2. cyfleusterau chwarae penodedig eraill i blant sy'n cynnig cyfle penodol i chwarae tu allan, megis mannau antur, chwaraeon 'stryd', ayb;

  3. man chwarae achlysurol neu anffurfiol o fewn ardaloedd tai.

9.6.3. Dylid ymdrin â'r gofyn, lle'n briodol, drwy ddarparu mannau chwarae lleol, mannau chwarae lleol â chyfarpar a/neu fannau chwarae cymdogaethol â chyfarpar (gan gynnwys mannau i gicio pêl) mewn lleoliadau, yn seiliedig ar amser cerdded a darparu'r un cydbwysedd fel man chwarae achlysurol o fewn mannau agored yn y datblygiad cyffredinol sydd mewn ardaloedd 'diogel'. Darperir gwybodaeth fanwl am safonau dylunio fel cyfarwyddyd cynllunio atodol sy'n cyd-fynd â chyfarwyddyd yr NPFA. Tu hwnt i'r dosbarthiadau hyn, mae'r Cyngor wedi nodi a darparu ystod o fannau chwarae strategol â chyfarpar y ceisia eu rheoli at ei bwrpasau ei hun.

9.6.4. Er bod darparu mannau chwarae digonol yn ofyn cymunedol hanfodol, mae eu dosbarthiad a lleoliad, ynghyd â mynediad hawdd iddynt, yn bwysig iawn er mwyn denu'r nifer fwyaf o bobl iddynt.

9.6.5. Gellir gosod mannau chwarae i blant ar ddarnau o dir y mae eu siâp, maint neu dopograffeg yn anaddas ar gyfer defnydd tir arall. Dylid eu gosod er mwyn iddynt beidio ag effeithio ar amwynderau trigolion cyfagos ac nad yw ffyrdd, rheilffyrdd neu afonydd a allai fod yn beryglus i blant yn effeithio arnynt.

9.6.6. O ddewis, dymuna'r Cyngor gyrraedd safon yr NPFA ar draws y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, mewn sawl ardal breswyl, mae prinder mannau chwarae ac, mewn rhai ardaloedd, mae dwysedd datblygiadau wedi golygu nad oes digon o le ar ôl i greu mannau chwarae i blant. Manylir ar yr ardaloedd y nodwyd bod prinder mannau chwarae yno ym mholisïau RC7 ac RC8 (cyfeirier at baragraff 9.4.5 hefyd). I geisio cyrraedd y safonau argymhelledig:-

9.6.7. DARPARU MANNAU CHWARAE I BLANT

POLISI RC7

CEISIA'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL ADFER Y PRINDER MEWN MANNAU CHWARAE I BLANT YN YSTOD BYWYD Y CDU, YN ENWEDIG YN YR ARDALOEDD CANLYNOL:-

ABERCYNFFIG
BRACKLA
PEN-Y-BONT
BRYNCOCH
BRYNMENYN
BRYNTIRION
CAERAU HEOL CAERAU;
CEFN CRIBWR
COYCHURCH
GLYNOGWR
HEOL-Y-CYW
MYNYDD CYNFFIG A PHÎL        HEOL BRYNDU;
LALESTON
LITCHARD
LLANGEINOR                           CRAIGLAS;
MAESTEG                                GARTH, HEOL NEDD, YR YSFA, BRYN CELYN, HEOL LLWYDARTH;
NANTYFFYLLON                      HEOL GARNWEN, CAVAN ROW;
NEWTON DANYGRAIG,            HEOL Y TRAETH, PWLL-Y-WAUN;
GOGLEDD CORNELI                DE A DWYRAIN;
NOTTAGE
BRO OGWR
PANTYRAWEL
PENCOED                                HEOL HENDRE, DWYRAIN PENCOED;
PENYFAI
PORTHCAWL                           Gorllewin DRIVE/ESPLANADE, LOCKS COMMON, SANDY BAY;
PONTRHYDYCYFF
PONTYCYMER                         STRYD OXFORD;
SHWT
DE CORNELI
WERN FAWR
WYNDHAM

Back to Top


9.6.8. DARPARU MANNAU I GICIO PÊL

POLISI RC8

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN CEISIO ADFER Y PRINDER MEWN MANNAU I GICIO PÊL YN YSTOD BYWYD Y CDU, YN ENWEDIG YN YR ARDALOEDD CANLYNOL:-

ABERCYNFFIG
BETWS
BLACKMILL
BLAENGARW
PEN-Y-BONT
BRYNCETHIN
BRYNMENYN
BRYNTIRION
CAERAU
CEFN CRIBWR
COETY
COYCHURCH
CWMFELIN
EVANSTOWN
CYNFFIG
LALESTON
LLANGEINOR
MAESTEG
NANTYFFYLLON
NANTYMOEL
NEWTON
GOGLEDD CORNELI
NOTTAGE
BRO OGWR
PANTYRAWEL/LEWISTOWN
PENCOED
PONTRHYDYCYFF
PONTYCYMER
PORTHCAWL
PÎL
DE CORNELI
TONDU
WYNDHAM

Back to Top


9.7. Mannau Agored Cyhoeddus

9.7.1. Mae man agored cyhoeddus yn gyfleuster pwysig sy'n gysylltiedig ar ardaloedd preswyl a dylid eu darparu ar safleoedd bob amser, beth bynnag fo maint y cynllun tai. Gall gael effaith weledol ac amgylcheddol sylweddol mewn ardaloedd trefol ac, mewn rhai amgylchiadau, gall ddiwallu ar gyfer hamdden oddefol neu anffurfiol. Beth bynnag fo'u maint a defnydd, mae gan ardaloedd a nodir fel mannau agored cyhoeddus rôl bwysig i'w chwarae mewn gwella ansawdd bywyd trefol.

9.7.2. O ystyried y drafferth sy'n rhan o fesur yr holl fannau agored cyhoeddus a nodi'r galw am y cyfleusterau hyn, nid yw'n bosibl cynnig safon benodol gan fod mannau agored cyhoeddus yn gysylltiedig â chyfleusterau hamdden mwy ffurfiol yn aml, fel parciau a chaeau chwarae.

9.7.3. Gellir tirlunio a gosod seddi ar ddarnau tameidiog o dir ar safleoedd datblygiadau preswyl er mwyn creu man dymunol i fwynhau hamdden oddefol. Yn ychwanegol, mae man agored cyhoeddus yn ychwanegu at ansawdd gweledol ac amgylcheddol yr amgylchedd adeiledig. Cynigir y canlynol felly:-

9.7.4. DARPARU MANNAU AGORED CYHOEDDUS

POLISI RC9

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN HYBU MANNAU AGORED CYHOEDDUS LLE MAE CYFLE PRIODOL YN CODI. FELLY, DYRENNIR YR ARDALOEDD CANLYNOL HYN YN BENODOL:-

RC9(1) THE COED, MAESTEG; (Cyswllt â’r Map 5 Canolog)
RC9(2) PARC LLINELLOL BLAENGARW A PHONTYCYMER; (Cyswllt â’r Map 2 Canolog)
RC9(3) RHAN O'R HEN WAITH GLO GorllewinERN, NANTYMOEL; (Cyswllt â’r Map 7 Canolog)
RC9(4) PARC LLINELLOL BRO OGWR; (Cyswllt â’r Map 7 Canolog)
RC9(5) RHAN O'R HEN OLCHDY CANOLOG, BRO OGWR; (Cyswllt â’r Map 12 Canolog)
RC9(6) RHODFA DIMBATH, GLYNLLAN, BLACKMILL; (Cyswllt â’r Map 12 Canolog)
RC9(7) THE COLLWYN, PÎL; (Cyswllt â’r Map 19 Canolog)
RC9(8) HEOL WASTAD WAUN, PENCOED; (Cyswllt â’r Map 22 Dwyrain)
RC9(9) NANT HEOL Y GEIFR, PENCOED; (Cyswllt â’r Map 22 Dwyrain)
RC9(10) PWLL-Y-WAUN, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 29 Dwyrain)
RC9(11) LOCKS COMMON, PORTHCAWL; (Cyswllt â’r Map 29 Gorllewin)
RC9(12) TREMAINS WOOD, BRACKLA, BRIDGEND; (Cyswllt â’r Map 28 Gorllewin)
RC9(13) BRACKLA RIDGE AC ARDALOEDD CYSYLLTIEDIG, PEN-Y-BONT; (Cyswllt â’r Map 27 Dwyrain)
RC9(14) TIR GER WORDSWORTH AVENUE A HEOL Y NANT, CEFN GLAS; (Cyswllt â’r Map 27)
RC9(15) TIR I'R GORLLEWIN O'R GANOLFAN GYMUNED ARFAETHEDIG, PENYFAI; (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)
RC9(16) TIR GER THE PHEASANT, PENYFAI; (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)
RC9(17) RHAN O HEN GILFFYRDD COETY, PEN-Y-BONT; (Cyswllt â’r Map 21 Canolog)
RC9(18) TIR AR FFERM MAENDY, YNYSAWDRE. (Cyswllt â’r Map 15)

Children's Playground, Bridgend

9.7.5. Wrth ystyried datblygu tir at bwrpasau preswyl, dylid ystyried yr angen i ddarparu man agored cyhoeddus yn unol â pholisi RC5 (a, lle'n briodol, polisi RC9).

Back to Top


9.8. Hamdden Anffurfiol

9.8.1. Y farn gyffredinol yw mai hamdden anffurfiol yw'r ffurf fwyaf poblogaidd o amser hamdden awyr agored ym Mhrydain ac, wrth i amser hamdden gynyddu, bydd y galw am gyfleusterau anffurfiol yn cynyddu hefyd. Er bod llawer o bobl leol yn gwybod am gyfleusterau hamdden anffurfiol eu hardal, nid ydynt yn gwybod am y cyfleusterau tu hwnt i'w hardaloedd fel arfer. Felly, nid yw'r potensial hwn yn cael ei wireddu'n llawn. Mae gofyn datblygu'r cyfleusterau presennol a rhai newydd, ynghyd â chyhoeddusrwydd, er mwyn annog mwy o aelodau'r gymuned ac ymwelwyr i fwynhau'r amgylchedd naturiol.

9.8.2. Mae'r Cyngor yn darparu nifer o fannau hamdden sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau cefn gwlad ar nifer o wahanol lefelau, o barciau gwledig a reolir yn ffurfiol i safleoedd picnic anffurfiol a llwybrau troed. Ty Bryngarw yw unig barc gwledig y fwrdeistref sirol. Mae ganddo 46 hectar o dir at ddefnydd hamdden, ar ffurf teithiau cerdded a mannau picnic ar draws ei goetir, gerddi a glannau'r afon Garw. Mae'r parc yn gweithredu fel 'porth' i'r cefn gwlad ehangach a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o gefn gwlad yn gyffredinol. Cynigia safleoedd a reolir yn fwy penodol am bwrpas arall, fel twristiaeth a safleoedd treftadaeth, gyfle am hamdden anffurfiol, gan gynnwys Taith Crib Ogwr, Llwybr Coed Morgannwg, Craig yr Aber, Gwarchodfa Natur Park Pont ac amrywiaeth o safleoedd ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gan gynnwys Parc Dunraven.

9.8.3. Ar gyfer llawer o bobl, mae'r gallu i gerdded, eistedd, edrych ar olygfa, cael picnic neu ymweld ag ardal yn brif ffordd o fwynhau cefn gwlad a ffurfia rhan fawr o'u gweithgareddau hamdden anffurfiol. Yr ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer hyn yw'r ucheldiroedd, coridorau afonydd a mannau coedwig y fwrdeistref sirol, ynghyd â'r arfordir a phentrefi a chefn gwlad y fwrdeistref sirol.

9.8.4. Y farn gyffredinol yw nad yw'r potensial am lwybrau natur, arwyddion, siwrneiau gwledig yn y car, meysydd parcio bach, ayb yn cael ei wireddu'n llawn yn y fwrdeistref sirol ac mae angen mwy o ddatblygiad a chyhoeddusrwydd er mwyn annog pobl i fwynhau cefn gwlad. Felly:-

9.8.5. DARPARU MANNAU HAMDDEN ANFFURFIOL

POLISI RC10

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN HYBU AC ANNOG POBL I DDEFNYDDIO'R ARDALOEDD CANLYNOL AR GYFER HAMDDEN ANFFURFIOL:-

RC10(1) CWMDU BOWL A CHYN WAITH GLO ST JOHN; (Cyswllt â’r Map 5 Dwyrain)
RC10(2) CWM DARREN; (Cyswllt â’r Map 5 Dwyrain)
RC10(3) CWM SYCHBANT; (Cyswllt â’r Map 5 Gorllewin)
RC10(4) MYNYDD CAERAU; (Cyswllt â’r Map 1 Dwyrain)
RC10(5) GARN WEN; (Cyswllt â’r Map 5 Gorllewin)
RC10(6) BLAENOGWR; (Cyswllt â’r Map 3 Canolog)
RC10(7) WAUN CIMLA; (Cyswllt â’r Map 20 Canolog)
RC10(8) CRAIG Y PARCAU; (Cyswllt â’r Map 27 Canolog)
RC10(9) Y CWM BLAENGARW; (Cyswllt â’r Map 2 Canolog)
RC10(10) GARW FECHAN; (Cyswllt â’r Map 11 Canolog)
RC10(11) COEDWIG CEFN MACHEN; (Cyswllt â’r Map 15 Dwyrain)
RC10(12) CWM DIMBATH; (Cyswllt â’r Map 12 Dwyrain)
RC10(13) CWM Y FUWCH; (Cyswllt â’r Map 7 Canolog)
RC10(14) GWAITH HAEARN TONDU; (Cyswllt â’r Map 15 Gorllewin)
RC10(15) COETIR A PHWLL VILLAGE FARM; (Cyswllt â’r Map 19 Dwyrain)
RC10(16) HEN WAITH GLO GARW, BLAENGARW; (Cyswllt â’r Map 2 Canolog)
RC10(17) RHAN O HEN WAITH GLO COEGNANT, CAERAU. (Cyswllt â’r Map 1 Canolog)

Community Route, Tondu

Back to Top


9.9. Hawliau Tramwy Cyhoeddus

9.9.1. Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus at bwrpas hamdden. Ystyria Cyngor Cefn Gwlad Cymru'r rhwydwaith hawliau tramwy fel y brif ffordd bwysig o fwynhau cefn gwlad. Mae ei ddogfen 'Blaenoriaethau ar Waith' yn nodi gwella hawliau tramwy cyhoeddus fel tasg allweddol. Mae'r Cyngor yn cefnogi amcan Cyngor Cefn Gwlad Cymru i greu rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru a bydd yn gweithio gyda'r corff, Cymdeithas y Cerddwyr a Groundwork Pen-y-bont ar Ogwr i hybu rhwydwaith mynediad yn y fwrdeistref sirol.

9.9.2. Mae mwyafrif llwybrau'r fwrdeistref sirol wedi bodoli ers o leiaf can mlynedd. Eu pwrpas oedd cysylltu cymunedau a chynnig taith o gartrefi pobl i'w gweithleoedd. Datblygodd y system mewn oes gymdeithasol ac economaidd wahanol iawn ac, o ganlyniad, nid ydynt yn perthyn i batrymau defnydd tir presennol na'r galw am eu defnydd nawr ac yn y dyfodol.

9.9.3. Mae mwy na 300 milltir o lwybrau troed a bron i 100 milltir o lwybrau ceffylau yn y fwrdeistref sirol. Cyfrifoldeb y Cyngor yw cadw'r rhain mewn cyflwr rhesymol a delio â pherchnogion tir sy'n rhwystro neu sy'n esgeuluso llwybrau ar eu tir yn fwriadol. Bydd y Cyngor yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddarparu hawliau tramwy newydd i gydnabod bod y rhain yn gyfleusterau hamdden poblogaidd iawn. Rhoddir blaenoriaeth i'r llwybrau hynny sy'n berthnasol i anghenion hamdden heddiw, yn enwedig y rhai o fewn pellter cerdded o ardaloedd preswyl ac ardaloedd o gefn gwlad agored sy'n hawdd eu cyrraedd yn y car neu ar gludiant cyhoeddus.

Back to Top


9.10. Llwybrau Cymunedol

9.10.1. Er bod y rhwydwaith llwybrau presennol yn y fwrdeistref sirol yn helaeth, mae'r llwybrau sydd ar gael ar gyfer ffurfiau o gludiant heb foduron yn gyfyng o ran niferoedd a dosbarthiad. Er bod nifer o 'lwybrau cymunedol' yn bodoli eisoes, mae'r Cyngor yn cynnig creu rhagor ledled y fwrdeistref sirol er mwyn darparu llwybrau diogel o fewn a rhwng anheddiadau a mannau o ddiddordeb. Bydd gan y llwybrau hyn lethrau ac arwynebau priodol fel bod pawb yn gallu eu defnyddio a byddant yn gyfle i greu mannau gwyrdd llinellol mewn ardaloedd trefol. Lle'n bosibl, bydd y llwybrau hyn yn defnyddio'r rhwydwaith hawliau tramwy presennol, tir gwag, coridorau afonydd a hen goridorau cludiant sy'n cynnwys tir rheilffyrdd nad yw'n cael ei ddefnyddio.

9.10.2. DARPARU LLWYBRAU CYMUNEDOL

POLISI RC11

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN HYBU AC ANNOG LLWYBRAU CYMUNEDOL RHWNG Y LLEOLIADAU CANLYNOL: -

BLACKMILL AC EVANSTOWN;
BLAENGARW A BRYNMENYN;
PEN-Y-BONT A BRYNMENYN;
CAERAU A BRYNMENYN;
BRYNMENYN A GWERN TARW AR HYD HEOL Y CYW;
PWLL CYNFFIG A BRYNMENYN, AR HYD GWAUN CIMLA;
NANTYMOEL A BRYNMENYN.

9.10.3. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am nodi lleoliad pob llwybr a bydd yn archwilio'r posibilrwydd o estyn y rhwydwaith o lwybrau cymunedol ar draws y fwrdeistref sirol tra bydd Groundwork yn mynd i bartneriaeth gyda'r Cyngor i gael cyllid a datblygu'r llwybrau cymunedol. Felly, dylid ystyried yr holl lwybrau cymunedol a benodwyd dan bolisi RC11, fel a ddangosir ar y map cynigion, ac eithrio'r rhai a adeiladwyd eisoes neu sydd â chaniatâd cynllunio, fel llwybrau 'gobeithiol'. O safbwynt y Cyngor, mae'r llwybrau cymunedol a welir ar y map cynigion yn 'dangos eu lleoliadau mwyaf dymunol mewn egwyddor' ar sail y wybodaeth orau a oedd ar gael pan baratowyd y CDU. Yn y pen draw, bydd lleoliadau terfynol yr holl lwybrau cymunedol yn adlewyrchu canlyniad ceisiadau cynllunio a fydd yn adlewyrchu penderfyniadau'r awdurdod cynllunio lleol ar ôl iddo ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio manwl sylweddol, er enghraifft, amwynder lleol, draenio, hygyrchedd, ayb. Ceisia'r CDU gyfleu'r ymagwedd gyfannol y mae'r Cyngor wedi ei chymryd mewn perthynas â llwybrau cymunedol yn y fwrdeistref sirol.

Back to Top


9.11. Llwybrau Beicio

9.11.1. Mae beicio fel ffordd o symud o gwmpas a gweithgaredd hamdden yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Fodd bynnag, mae cynnydd mewn traffig wedi peri i amodau ar sawl ffordd fod yn anodd oherwydd mwy o sŵn a llygredd a gallai hyn fod yn beryglus i feicwyr.

9.11.2. Cynlluniwyd y rhan fwyaf o'n gwelliannau ffyrdd yn y degawdau diwethaf i gyflymu llif cerbydau neu ehangu maint ffyrdd. O bryder penodol yw cylchfannau, cylchffyrdd, systemau unffordd a ffyrdd ymadael. Dylai peirianwyr ffyrdd ystyried anghenion beicwyr wrth gynllunio ffyrdd. O ddewis, dylai beicwyr gael eu lonydd eu hunain neu eu llwybrau eu hunain, yn hollol ar wahân i'r ffordd.

9.11.3. Mae gan lwybrau beicio sydd mewn lleoliadau da botensial i fod yn siwrneiau i'r gwaith, er mwyn mynd i siopa ac yn llwybrau diogel i'r ysgol, yn ogystal â'u defnydd hamdden. Gallai twristiaid eu defnyddio hefyd. Wrth asesu potensial unrhyw lwybr beicio arfaethedig, bydd y Cyngor yn ystyried y meini prawf canlynol:-

  • A yw'n hawdd cyrraedd y gymuned leol ar gyfer siwrneiau i'r gwaith, i'r siopau, ysgol neu at ddiben hamdden ar hyd y llwybr?

  • A fyddai'n hawdd ei gysylltu â'r rhwydwaith llwybrau beicio ehangach?

  • A fydd yn cymryd mantais o'r cyfle a geir gan gynlluniau adfer tir neu wella ffyrdd?

  • A oes ganddo botensial fel atyniad i dwristiaid er ei fwyn ei hun neu a yw'n llwybr neu'n gyswllt rhwng safleoedd o ddiddordeb i dwristiaid?

9.11.4. Yn y tymor hir, yn ychwanegol i'r llwybrau cymunedol y manylir arnynt ym mholisi RC11, mae'r Cyngor yn bwriadu darparu amrywiaeth o lwybrau beicio ar draws y fwrdeistref sirol. Yn ystod bywyd y cynllun:-

9.11.5. DARPARU LLWYBRAU BEICIO

POLISI RC12

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN HYBU AC ANNOG LLWYBRAU BEICIO RHWNG Y LLEOLIADAU CANLYNOL, LLE MAE HYN YN YMARFEROL:-

PEN-Y-BONT A PHENCOED;
PEN-Y-BONT A BRYNMENYN;
PEN-Y-BONT A PHORTHCAWL;
PEN-Y-BONT A BRO MORGANNWG.

9.11.6. Bydd y Cyngor yn paratoi gwybodaeth gynllunio i nodi union leoliad pob llwybr yn dilyn ymgynghoriad â chyrff amrywiol gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ynghylch y rhwydwaith llwybrau beicio cyfagos. Mewn sawl achos, bydd cyfle i gyfuno'r llwybrau beicio hyn â llwybrau cymunedol.

Allotment Gardens, Newton, Porthcawl

Back to Top


9.12. Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

9.12.1. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chonsortiwm Llwybrau Beicio De Cymru er mwyn gweithredu a hybu'r prosiect Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn ne Cymru lle gelwir y llwybr rhwng Cydweli a Chasnewydd yn Lôn Geltaidd. Mae'r llwybr yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd y fwrdeistref sirol o'r ffin ddwyreiniol yng Nghilfach Goch drwy Blackmill, Brynmenyn, Tondu a Mynydd Cynffig. Bydd buddion twristiaeth ac economaidd sylweddol i weithredu'r llwybr ynghyd â buddion i'r gymuned leol o ran darparu llwybr cludiant a hamdden cynaliadwy. Cefnogir cynigion datblygu am lety neu siopau bwyd a diod sy'n gysylltiedig ag anghenion beicwyr sy'n defnyddio'r rhwydwaith cenedlaethol mewn egwyddor. Fodd bynnag, bydd gofyn i'r cynigion gyd-fynd â pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun, yn enwedig y polisïau a geir ym mhenodau amgylchedd a thwristiaeth a hamdden y CDU ac unrhyw feini prawf rheoli datblygu perthnasol eraill.

9.12.2. DARPARU AR GYFER Y RHWYDWAITH BEICIO CENEDLAETHOL

POLISI RC13

BYDD Y CYNGOR BWRDEISTREF SIROL YN HYBU AC ANNOG Y RHWYDWAITH BEICIO CENEDLAETHOL RHWNG Y LLEOLIADAU CANLYNOL, LLE MAE HYN YN YMARFEROL: -

BLACKMILL AC EVANSTOWN;
BRYNMENYN A BLACKMILL;
MYNYDD CYNFFIG A BRYNMENYN;
PEN-Y-BONT A BRYNMENYN;
PEN-Y-BONT A PHORTHCAWL;
MYNYDD CYNFFIG A PHORTHCAWL.

9.12.3. Lle mae trydydd parti'n berchen ar dir, polisi'r Cyngor yw sicrhau buddiant yn y tir ar ffurf cytundeb creu llwybr troed neu orchymyn creu llwybr troed. Trosir y llwybrau troed newydd gofrestredig i lwybrau beicio wedyn dan delerau Deddf Llwybrau Beicio 1984. Diffinnir llwybrau troed cyhoeddus a llwybrau beicio fel ffyrdd yn Neddf Priffyrdd 1980. Lle mae'r llwybr yn mynd dros dir sy'n ymyl ffordd dan Adran 65 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae hyn yn galluogi'r Cyngor i adeiladu llwybr beicio ar neu ger ymyl ffordd a thalu amdano ag arian cyhoeddus. Felly, ni fydd angen gwneud gorchymyn creu ar gyfer y darn penodol hwnnw o'r llwybr.

Back to Top


9.13. Gerddi ar Osod

9.13.1. Mae gan erddi ar osod ddwy swyddogaeth, sef ffurf bwysig o adloniant i oedolion ynghyd â ffynhonnell ddefnyddiol o gynnyrch ffres.

9.13.2. Mae darpariaeth gerddi ar osod yn y fwrdeistref sirol yn perthyn i'r galw a fynegir. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth o unrhyw alw gormodol na ellir ei fodloni o'r cyflenwad presennol. Oherwydd yr ansicrwydd mewn galw am erddi ar osod, ni ddyrennir safleoedd ar gyfer gerddi ar osod pellach yn y cynllun. Fodd bynnag:-

9.13.3. DARPARU GERDDI AR OSOD

POLISI RC14

FFAFRIR DARPARU GERDDI AR OSOD AR SAFLEOEDD PRIODOL LEDLED Y FWRDEISTREF SIROL LLE GELLIR DANGOS ANGEN AMLWG AM Y CYFLEUSTERAU HYN.

9.13.4. Bydd polisi RC14 yn gweithredu, os bydd ystyriaethau lleoliad, safle ac amgylchedd manwl yn foddhaol a lle nad oes angen y safleoedd dan sylw am unrhyw ddefnydd penodol arall a gynigir yn y Cynllun.

9.13.5. O ystyried colli gerddi ar osod 'preifat' a 'dros dro', dylid gwneud pob ymdrech i ddarparu safleoedd newydd. Mae hyn yn adlewyrchu dymuniad y Cyngor i sicrhau a diogelu mannau agored o ansawdd da yn ein hardaloedd trefol.

Back to Top


9.13.6. DIOGELU GERDDI AR OSOD

POLISI RC15

NI CHANIATEIR DATBLYGU GERDDI AR OSOD AT DDIBENION ERAILL ONI BAI Y GELLIR CREU DARPARIAETH DEBYG O FAINT AC ANSAWDD TEBYG YN YR ARDAL NEU Y GELLIR PROFI NAD OES ANGEN Y GERDDI AR OSOD YN Y TYMOR HIR.

9.13.7. Nid oes raid i safleoedd newydd fod yn fwy na thri chwarter milltir o lle daw'r galw fel arfer, er y gellir cynyddu'r pellter hwn os yw deiliaid y gerddi'n fodlon teithio ymhellach.

Back to Top


9.14. Cyfleusterau Hamdden Dan Do

9.14.1. Canolfannau hamdden amlbwrpas dan do sydd wedi gwneud y mwyaf i ddylanwadu ar ganfyddiad y cyhoedd o gyfleoedd disgwyliedig a dymunol i chwarae a dysgu chwaraeon. Maent yn gyfle i unigolion a grwpiau o bob oed a gallu gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau hamdden. Mae'r galw am neuaddau chwaraeon yn y fwrdeistref sirol, fel a nodir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Hamdden, yn cyfiawnhau'r angen am gael cyfleuster pellach ym Mrackla, Pen-y-bont. Felly:-

9.14.2. DARPARU NEUADD AMLBWRPAS YM MRACKLA

POLISI RC16

FFAFRIR DATBLYGU NEUADD AMLBWRPAS YM MRACKLA.

9.14.3. Yn ychwanegol i'r prif ganolfannau hamdden, cydnabyddir bod gan y canolfannau cymuned llai a mwy lleol rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu cyfleusterau hamdden. Gan fod eu swyddogaethau'n estyn tu hwnt i feysydd chwaraeon a hamdden, cynhwyswyd yr holl bolisïau sy'n ymwneud â'r pwnc hwn yn y bennod sy'n ymwneud â chyfleusterau cymdeithasol a chymunedol.

Back to Top


<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf >>

Delwedd lenwi

Bobby WorldWide Approved A.Level A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0.Directgov logo .National Assembly for Wales.

Disclaimer | Copyright © 2003 Bridgend County Borough Council