Rhan 1
11.1. Cyfiawnhad o Bolisïau Rhan 1
11.1.1. Mae gan y fwrdeistref sirol draddodiad hir o gloddio mwnau ac
mae'n rhan sylweddol o gynhyrchiant y rhanbarth o ynni a mwnau agregau,
ynghyd â symiau sylweddol o ddefnyddiau nad ydynt yn agregau i'w defnyddio
mewn prosesau diwydiannol. Ystyrir bod angen darparu'n ddigonol ar gyfer y
cloddio hwn er mwyn sicrhau y gall y fwrdeistref sirol gynnal ei chyfraniad
presennol at alw rhanbarthol.
11.1.2. Bydd y polisïau yn Rhan 2 yn rhoi cyfarwyddyd am yr amodau a
orfodir ar gynigion mwnau yn y dyfodol i sicrhau eu bod yn amgylcheddol
dderbyniol ac yr adferir safleoedd ar y cyfle cyntaf er mwyn hwyluso
ôl-ddefnydd buddiol.
11.1.3. O ran darparu ar gyfer agregau, cyfrifir canran cynhyrchiant
rhanbarthol y fwrdeistref sirol ar sail cyfartaledd y tair blynedd diwethaf
gan fod cynhyrchiant yn gallu amrywio'n sylweddol o un flwyddyn i'r llall.
Bydd y cyfrifiad hwn yn nodi a yw'r cronfeydd presennol a ganiateir neu a
ddyrennir yn ddigon neu a fydd angen dyrannu rhagor o adnoddau yn sgil
rhagolygon rhanbarthol o alw yn y dyfodol a gynhyrchir gan y Llywodraeth neu
Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru. Mae darparu ar gyfer mwnau nad ydynt
yn agregau a mwnau ynni'n anoddach ac mae'n dibynnu ar nifer o ffactorau,
megis y galw am y cynnyrch y mae angen y garreg galch ddiwydiannol ar eu
cyfer a pholisi ynni cenedlaethol y dyfodol.
11.1.4. Dylai strategaeth mwnau gynaliadwy sicrhau y defnyddir adnoddau
mwnau'n effeithiol ac nad yw cronfeydd sy'n debygol o fod yn addas ar gyfer
gwaith yn y dyfodol yn cael eu sterileiddio gan ddatblygiad parhaol arall.
Bydd polisi 15
yn helpu i sicrhau y cedwir adnoddau drwy ystyried defnyddio defnyddiau
eraill megis agregau morol, defnyddiau eilaidd ac ailgylchedig, os ymchwilir
i oblygiadau defnyddio'r adnoddau hyn yn llawn ac yr ystyrir eu bod yn
amgylcheddol dderbyniol.
11.1.5. Mae digon o adnoddau mwynol yn y fwrdeistref sirol er y bydd
cloddio am rai adnoddau'n annerbyniol, megis tynnu tywod a chronfeydd gro yn
yr ardal arfordirol. Bydd
polisi 16
yn helpu i sicrhau y bydd adnoddau carreg galch sydd eu hangen ar gyfer
agregau neu bwrpasau diwydiannol yn cael eu diogelu drwy wrthod datblygiad
parhaol ar neu ger yr adnoddau hynny. I ddiogelir adnoddau glo brig oherwydd
y diffyg gwybodaeth am ddichonoldeb economaidd gweithio rhannau gwahanol o
faes glo de Cymru ac ansicrwydd y diwydiant o ran ardaloedd i'w gweithio yn
y dyfodol. Dim ond ychydig o ddiddordeb a welwyd o ran cloddio tywodfeini yn
y fwrdeistref sirol a byddai'n afresymol diogelu adnoddau tywodfeini lle nad
yw'n debyg iawn o gael eu cloddio yn y dyfodol rhagweladwy. Mewn gwirionedd,
diogelir yr adnoddau hyn gan bolisïau eraill yn y Cynllun Datblygu Unedol
sy'n gwrthod prif ddatblygiadau newydd yng nghefn gwlad. Ystyrir cynigion ar
gyfer gweithio mwnau nad ydynt yn cael eu diogelu yn y Cynllun mewn
perthynas â'r meini prawf a osodir allan ym mholisïau Rhan 2 er mwyn
penderfynu ar gynigion datblygu'r dyfodol.
Rhan 2
11.2. Cyflwyniad
11.2.1. Mae mwnau'n adnoddau naturiol pwysig ac mae gwneud y mwyaf
ohonynt yn gwneud cyfraniad sylweddol i ffyniant y wlad ac ansawdd bywyd.
Mae'n hanfodol i'r economi genedlaethol, rhanbarthol a lleol bod yna
gyflenwad digonol a chyson o fwnau.
11.2.2. Maen angen mwnau ynni fel glo, nwy ac olew i greu pŵer
ac mae cynhyrchu'r rhain gartref yn lleihau'r angen i fewnforio'r
defnyddiau. Mae agregau'n ddefnyddiau swmpus gan gynnwys creigiau wedi eu
malu, tywod a gro sydd eu hangen ar gyfer adeiladu strwythurau ac sy'n
hanfodol ar gyfer isadeiledd cymdeithas. Mae llawer o ddiwydiannau angen
mwnau i ddarparu defnyddiau crai sylfaenol, er enghraifft, defnyddir calch i
greu sment ac mewn prosesau gwneud dur. Mae cloddio mwnau'n creu diwydiannu
ategol megis gwaith gwneud brics a blociau a gwaith concrid cymysg parod.
11.2.3. Rhaid i gynllunio am fwnau gydnabod rhai nodweddion arbennig;
cyfyngir safleoedd cloddio gan y defnyddiau sydd ar gael yn dibynnu ar
geoleg yr ardal; mae cloddio'n cymryd amser hir ond nid yw'n ddefnydd
parhaol o'r tir; mae'r gwaith yn cael effaith amgylcheddol ddrwg ar y
gymuned gyfagos; ac, ar ôl cwblhau'r gwaith, mae angen adfer a gofalu am y
safle er mwyn osgoi dirywiad.
11.2.4. Arweinir y strategaeth cynllunio mwnau gan bolisi'r Llywodraeth
Ganolog a cheir cyngor yn y Nodiadau Cyfarwyddyd Cynllunio Mwnau (MPG).
Cyhoeddwyd diwygiadau'n ddiweddar o'r cyfarwyddyd i adlewyrchu materion
cynaladwyedd a phryderon cynyddol y cyhoedd am effaith datblygiad mwnau ar
yr amgylchedd ar gyfer Lloegr yn unig. Eithriad oedd yr MPG3 drafft: Cloddio
Glo a Chael Gwared ar Sbwriel Gweithfeydd Glo a gyhoeddwyd at bwrpasu
ymgynghori ym mis Rhagfyr 1998. Fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Mwnau -
Cymru wedi cymryd lle hwn erbyn hyn.
11.3. Mwnau yn y Fwrdeistref Sirol
11.3.1. Yn y fwrdeistref sirol, ceir carreg galch yn hanner deheuol yr
ardal a thywodfaen yn y gwelyau glo i'r gogledd o Abercynffig, ynghyd â
thywod a gro yn y parth arfordirol.
11.3.2. Mae chwareli carreg galch gweithredol yng Nghorneli, Gaens a
Grove ger De Corneli'n ffurfio'r crynhoad mwyaf o chwareli gweithredol yn ne
Cymru, yn cynhyrchu rhyw 1.75 miliwn tunnell o agregau a charreg galch o
ansawdd uchel bob blwyddyn. Mae chwarel tywodfaen yng Nghefn Cribwr sy'n
gweithredu'n achlysurol a chwarel sydd wedi cau yn Stormy Down. Cloddir glo
yn Park Slip Gorllewin ar ffurf gwaith glo brig. Mae holl byllau glo bach yr
ardal wedi cau. Ers 1998, cafwyd mwy o ddiddordeb mewn ecsbloetio methan
gwelyau glo ond ni weithredwyd unrhyw waith archwilio hyd yma.
11.3.3. Ailgylchir defnyddiau yn lle agregau cynradd yn Chwarel Corneli a
chymeradwywyd safle i ailgylchu defnyddiau dymchwel ger chwareli Gaens/
Pantmawr er nid yw hyn yn weithredol hyd yma.
11.4. Mwnau nad ydynt yn Ynni - Agregau
11.4.1. Carreg Galch: Adnoddau carreg galch yw prif gyflenwad
agregau yn y fwrdeistref sirol. Gwneir arolygon o gynhyrchiant a chronfeydd
bob blwyddyn gan Weithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru a defnyddir y data
hwn i benderfynu ar y banc tir drwy berthyn y cronfeydd cyfredol â
chyfartaledd cynhyrchiant yn y tair blynedd ddiwethaf. Y wybodaeth
ddiweddaraf yw ar gyfer 2002 ond mae cyfrinachedd yn atal rhyddhau'r
wybodaeth hon.
TABL MIN 1 CYNHYRCHU A CHRONFEYDD CREIGIAU MÂL
1997-1999 (miliwn tunnell)
|
GWERTHIANNAU AGREGAU |
CRONFEYDD |
BANC TIR |
|
1997 |
1998 |
1999 |
AR 31/12/1999 |
AR 31/12/1999 |
|
0.900 |
1.093 |
0.902 |
28.02 |
29.00 blynedd |
Ffynhonnell: AROLYGON BLYNYDDOL SWRAWP 1995-97
11.4.2. Mae tabl MIN 1
yn dangos bod yna ddigon o gronfeydd i fodloni lefelau diweddar o gynhyrchu
agregau ar gyfer bywyd y cynllun a'r tu hwnt. Fodd bynnag, mae angen rhai
o'r cronfeydd hyn at bwrpasau nad ydynt yn ymwneud ag agregau. Os tybir bod
hanner y cronfeydd yn rhai nad ydynt yn ymwneud ag agregau, mae'r banc tir o
agregau'n lleihau i oddeutu 15 mlynedd. Ymhellach, lleolir rhannau o'r
cronfeydd mewn ardaloedd lle ystyrir na ddylai rhagor o gloddio ddigwydd ac
felly mae angen dyrannu tir i estyn chwareli cyfredol er mwyn gwneud i fyny
am y cronfeydd hyn. Ni ystyrir bod angen caniatáu chwareli newydd er mwyn
cynnal cyflenwadau o agregau.

11.4.3. Tywodfaen: Aseswyd tywodfaen Pennant glannau glo uchaf yn
rhan ogleddol y fwrdeistref sirol fel meddu ar botensial datblygu sylweddol
i'w ddefnyddio fel Agregau Manylion Uchel (HSA) oherwydd ei chadernid
naturiol a'i haddasrwydd fel defnydd arwynebu ffyrdd sy'n atal ceir rhag
llithro. Mae'r polisi presennol am bolisi cludiant mwy cynaliadwy wedi
arwain at lai o adeiladu ffyrdd a gostyngiad felyn yn y galw am HSA. Ni
chafwyd cynigion i gloddio tywodfaen yn y fwrdeistref sirol at y pwrpas hwn
yn y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth o unrhyw alw
am HSA yn y fwrdeistref sirol ac felly ni ddyrannwyd unrhyw safleoedd yn y
cynllun hwn. Os bydd y galw'n newid yn y dyfodol, mae digon o adnoddau yn y
fwrdeistref sirol i arolygu'r angen i ddiogelu tir ac mae'n annhebygol y
bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu sterileiddio'n barhaol oherwydd polisïau
eraill sy'n diogelu yn erbyn datblygiad mewn ardaloedd gwledig. Rhoddwyd
caniatâd dros dro i ddechrau cloddio blociau o gronfeydd yn Chwarel
Darren-y-Bannau, ger Caerau, i'w defnyddio yn y cynllun adfer Glofa Caerau
ond mae hwn wedi dod i ben nawr. Mae Chwarel Cefn Cribwr yn gweithredu'n
achlysurol i gynhyrchu tywodfaen i'w malu ar gyfer tywod silica ond nid yw
hyn yn cynhyrchu HSA.
11.4.4. Tywod a Gro: Nid oes llawer o gloddio tywod a gro yn
ne-ddwyrain Cymru. Ceir bron i 85% o'r galw rhanbarthol am dywod a gro ar
gyfer adeiladu o waith treillio morol o Fôr Hafron, yn bennaf o Nash Bank
ger arfordir Porthcawl. Mae adroddiadau ymchwil a pholisi diweddar yn
cynghori na ddylem ddibynnu cymaint ar y ffynhonnell hon yn y 5-10 mlynedd
nesaf er mwyn osgoi unrhyw effaith ddrwg ar arfordir Pen-y-bont ar Ogwr.
Lleolir yr adnoddau tywod a gro yn yr ardal arfordirol a ddiogelir gan
benodiadau amgylcheddol lle byddai unrhyw geisiadau am gloddio'n amodol ar
drwyddedau archwilio trylwyr a gyhoeddir gan Ystad y Goron. Mynegwyd pryder
am gyswllt posibl rhwng treillio am agregau a newidiadau arfordirol a
fonitrir fel rhan o amodau'r trwyddedau treillio. Ystyrir y materion hyn yn
y polisïau sy'n ymwneud â'r parth arfordirol ac ymdrinnir â nhw ym
mholisi EV15.
11.4.5. Defnyddiau Eilaidd/Ailgylchedig: Cyfyngir y ffynonellau
posibl o ddefnyddiau eilaidd yn y fwrdeistref sirol i wastraff mwnol, gan
gynnwys gwastraff gwaith glo, llwch o'r dref, llwch o'r cyn orsaf bŵer
Llynfi, arwynebau ffyrdd a gwastraff o safleoedd adeiladu a dymchwel. Mae
polisi'r Llywodraeth yn annog defnydd cynyddol o'r defnyddiau hyn er mwyn
lleihau'r galw am ddefnyddiau cynradd a gostwng swm y gwastraff sy'n cael ei
gladdu. Cefnogir y polisi hwn yn llawn ond, ar hyn o bryd, cydnabyddir bod
effaith gyffredinol defnyddiau eraill ar y galw am agregau'n gyfyng. Mae
ymchwil bellach yn cael ei gwneud i ymchwilio i hyn yn fwy. Adferwyd y rhan
fwyaf o weithfeydd glo'r fwrdeistref sirol a gallai fod yn annerbyniol
cloddio defnyddiau oni bai y gellid cael gwelliannau amgylcheddol pwysig.
Mewnforiwyd defnyddiau eilaidd o du allan i'r fwrdeistref sirol ar gyfer
prosiectau adeiladu, gan gynnwys gwelliannau ffyrdd ar Heol y Splott, De
Corneli a ddefnyddiodd sorod o waith dur Port Talbot fel defnydd arwynebu.
Cynhwysir polisïau i adnabod ffynonellau a allai fod yn addas i'w hailgylchu
a darparu safleoedd ar gyfer ailgylchu agregau a fyddai'n helpu i wneud
defnydd o wastraff adeiladu a dymchwel.
11.5. Mwnau nad ydynt yn Ynni - Nad ydynt yn Agregau
11.5.1. Prosesir oddeutu hanner y creigiau mâl a gynhyrchir yn y
fwrdeistref sirol i ddarparu cerrig fflwcs i wneud dur yn y gwaith dur ym
Mhort Talbot, yn bennaf o Chwarel Corneli. Mae'n genedlaethol bwysig cynnal
cyflenwadau o garreg galch pur iawn o'r ansawdd angenrheidiol ar gyfer y
farchnad ddiwydiannol.
11.6. Mwnau Ynni - Glo
11.6.1. Mae hanner y fwrdeistref sirol, i'r gogledd o'r llinell rhwng
Cefn Cribwr, Sarn a Phencoed, yn gorwedd ym maes glo de Cymru. Cloddiwyd
ardaloedd mawr o'r fwrdeistref sirol yn hanesyddol, drwy waith glo brig a
chloddio dwfn. Mae cloddio pyllau glo wedi dod i ben erbyn hyn, gan gynnwys
y pyllach bach, er bod un yn aros am gael ei adfer. Mae gwaith glo brig ar
Park Slip Gorllewin lle mae'r gwaith yn symud tua'r gorllewin i fwrdeistref sirol
Castell Nedd Port Talbot. Bwriedir buddsoddiad mawr yn y pwll newydd ym
Margam a fydd yn cael ei adeiladu ger estyniad y gwaith glo brig ym
mwrdeistref sirol Castell Nedd Port Talbot. Bydd rhan o'r gwaith tanddaear a
rhan o'r ardal arwynebol yn aros ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn
ystod bywyd y lofa.
11.6.2. Dywed Cyfarwyddyd Cynllunio Mwnau (MPG3) (1998) [sy'n gymwys i
Loegr yn unig] y dylid nodi ardaloedd lle mae cloddio glo'n debygol o fod yn
dderbyniol yn y Cynllun Datblygu Unedol. Mae'r cyfarwyddyd ar gyfer Cymru'n
cefnogi'r ymagwedd hon hefyd. Fodd bynnag, nid yw'r diwydiant glo wedi gallu
darparu rhaglen o safleoedd i helpu awdurdodau cynllunio mwnau gyda'r
cynlluniau datblygu. Diffiniodd y prosiect ymchwil diweddar "Mineral
Resource Information for Development Plans South Wales" a wnaed gan Arolwg
Geolegol Prydain yr Adran Amgylchedd, Cludiant a'r Rhanbarthau ddau barth o
adnoddau ar gyfer glo o ddiddordeb economaidd. Mae'r prif barth yn ffurfio'r
prif darged ar gyfer glo brig sy'n perthyn i gyfres o lo trwchus tra bod y
parth eilaidd yn cynnwys glo sy'n deneuach ond sydd yr un mor bwysig. Yn y
prif barth yn y fwrdeistref sirol, mae bron i'r holl ardal wedi cael ei
gweithio neu wedi cael ei sterileiddio gan ddatblygiadau mawr. Safle
Fernbank, i'r gogledd o Bencoed, yw'r un ardal sydd ar ôl yn y prif barth ac
mae'n destun trwydded yr Awdurdod Glo. Gwerthwyd y tir hwn yn ddiweddar gan
y cwmni mwnau/perchennog y tir ac ni ystyrir y bydd gwaith glo brig pellach
yn digwydd ar y safle. Ni roddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith ac
mae'n debyg y byddai gwrthwynebiadau amgylcheddol cryfion i unrhyw gynnig am
waith glo brig yn yr ardal hon. Yn y parth eilaidd, mae llawer o'r tir wedi
ei weithio eisoes neu wedi ei ddatblygu ac eithrio rhan ardaloedd penodol
yng nghymoedd Llynfi, Ogwr a Garw. Nid oes unrhyw gynigion na thrwyddedau yn
yr ardaloedd hyn ac eithrio ar y tir ym Mhwll Glo St Thomas, Maesteg lle nad
oes mynediad addas i gerbydau ar hyn o bryd. Ni ddisgwylir unrhyw gloddio
glo yn yr ardal hon yn ystod bywyd y cynllun.
11.7. Mwnau Ynni - Olew a Nwy
11.7.1. Mae polisi'r Llywodraeth yn annog archwilio a chynhyrchu
cronfeydd olew a nwy er mwyn gwneud y defnydd economaidd mwyaf o'r adnoddau,
yn gyson ag arfer da a diogelu'r amgylchedd. Tan y ddwy flynedd ddiwethaf,
roedd yn ymddangos yn annhebygol y byddai datblygu cronfeydd nwy ac olew ar
y tir yn cael unrhyw effaith ar y fwrdeistref sirol. Cymeradwywyd nifer o
geisiadau'n ddiweddar ar gyfer tyllau archwiliol am fethan o welyau glo yn
ardaloedd Brynmenyn, Bryncethin a Wern Tarw ond ni wnaed unrhyw waith
archwilio hyd yma.

11.8. Archwilio am Fwnau
11.8.1. ARCHWILIO AM FWNAU
POLISI M1
CANIATEIR CYNIGION I ARCHWILIO AM FWNAU, ONI BAI Y BYDDAI EFFEITHIAU DRWG
ANNERBYNIOL AR YR AMGYLCHEDD, AMWYNDERAU PRESWYL NEU UNRHYW DDEFNYDD TIR
SENSITIF ARALL.
11.8.2. Mae deddfwriaeth gynllunio'n caniatáu peth archwiliad o fwnau ar
raddfa fach ac ar sail dros dro fel datblygiad a ganiateir os nad yw coed yn
cael eu difrodi ac yr adferir y safleoedd i'w cyflwr blaenorol cyn belled ag
sy'n ymarferol. Caniateir cyfnodau hwy ond dim ond os rhoddir hysbysiad
ymlaen llaw i'r Cyngor. Wrth ystyried ceisiadau am archwilio mwnau, bydd y
Cyngor yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw effeithiau drwg ar amwynder preswyl
neu unrhyw ddefnydd tir sensitif arall, fel ysgolion, hostelau ac ysbytai.
11.8.3. Nid yw unrhyw ganiatâd i gyflawni gwaith archwilio'n tybio o
blaid caniatáu unrhyw ddatblygiad dilynol i wneud y mwyaf o'r adnoddau a
ddarganfuwyd o ganlyniad i'r gwaith archwilio hwnnw.
11.9. Datblygiad yn y Dyfodol - Cyffredinol
11.9.1. MEINI PRAWF AR GYFER CLODDIO MWNAU
POLISI M2
CANIATEIR CYNIGION I GLODDIO MWNAU A DATBLYGIADAU CYSYLLTIEDIG, GAN
GYNNWYS TIPIO GWASTRAFF MWNAU, DIM OND LLE BODLONIR YR HOLL FEINI PRAWF
CANLYNOL:-
1. GELLIR CYMRYD MESURAU I LEIHAU DIFROD NEU AMHARIAD I'R AMGYLCHEDD I
LEFELAU DERBYNIOL GAN GYFEIRIO'N BENODOL AT:-
a) LLYGREDD NEU AMHARIAD I'R TIR NEU GYFLENWAD NEU DDRAENIAD DŴR
ARWYNEBOL;
b) EFFAITH AR DIRWEDD YR ARDAL;
c) EFFAITH AR FUDDIANNAU CADWRAETH NATUR A BYWYD GWYLLT Y SAFLE A'R
TIR CYFAGOS, GAN YSTYRIED YN BENODOL SAFLEOEDD A BENODWYD I'W
DIOGELU;
d) EFFAITH AR FUDDIANNAU AMAETHYDDOL YN ENWEDIG AR DIR AMAETHYDDOL O
ANSAWDD UCHEL;
e) EFFAITH AR SAFLEOEDD O BWYSIGRWYDD ARCHEOLEGOL; A'R
f) EFFAITH AR SEFYDLOGRWYDD TIR CYFAGOS.
2. GELLIR CYMRYD MESURAU I LEIHAU DIFROD NEU AMHARIAD I
DDEFNYDDIAU TIR CYFAGOS I LEFELAU DERBYNIOL GAN GYNNWYS:-
a) EFFEITHIAU SŴN GORMODOL, LLWCH,
DIRGRYNIAD SY'N DEILLIO O'R DULLIAU GWEITHIO; AC
b) EFFAITH Y TRAFFIG A GYNHYRCHIR I AC O'R SAFLE.
3. MAE CYNIGION AR GYFER HYD Y GWAITH, ADFER, ÔL-DDEFNYDD BUDDION
AC ÔL-OFAL YN DDERBYNIOL.
11.9.2. Gall cloddio mwnau gael effaith ddrwg ar yr amgylchedd a
defnyddiau tir eraill. Er bod nodweddion unigol gwaith mwnau'n amrywio, mae
ffactorau cyffredin i'w hystyried wrth asesu cynigion am waith mwnau.
Defnyddir polisi M2 i
asesu cynigion am ddatblygiad newydd a cheisiadau i arolygu caniatâd
cynllunio presennol, cychwynnol a'r rhai i'w harolygu'n achlysurol.
11.10. Banciau Tir
11.10.1. CYNNAL BANCIAU TIR PRIODOL
POLISI M3
CYNHELIR BANC TIR O GRONFEYDD O GREIGIAU MÂL AR GYFER AGREGAU YN YSTOD BYWYD
Y CYNLLUN AC AM 10 MLYNEDD TU HWNT I 2016 ER MWYN PARHAU Â CHANRAN Y
FWRDEISTREF SIROL O GYNHYRCHIANT AGREGAU RHANBARTHOL.
11.10.2. Mae'r fwrdeistref sirol yn cynhyrchu rhyw 7% o werthiannau
creigiau mâl rhanbarth de Cymru ar gyfer y farchnad agregau. Fel y esboniwyd
yn 11.4.1, mae digon o
gronfeydd â chaniatâd i barhau â'r lefel bresennol o gynhyrchiant am y 40
mlynedd nesaf ond bydd angen rhai o'r cronfeydd hyn ar gyfer cynhyrchu
defnyddiau nad ydynt yn agregau ac mae'n bosibl na fydd ardaloedd eraill yn
addas ar gyfer datblygiad pellach.
11.10.3. Dylid nodi bod angen i awdurdodau unigol gyfrannu at fanc tir
rhanbarthol de-ddwyrain Cymru lle mae ganddynt gronfeydd priodol a lle
profwyd bod yna angen.
11.11. Datblygiad yn y Dyfodol - Ardaloedd a
Ddiogelir
11.11.1. CADW CARREG GALCH AT DDEFNYDD YN Y
DYFODOL
POLISI M4
DIOGELIR Y TIR A WELIR AR Y MAP CYNIGION RHAG UNRHYW DDATBLYGIAD ADEILADU
PARHAOL AR GYFER CLODDIO CARREG GALCH FEL A GANLYN:-
M4(1) DWYRAIN O CHWAREL CORNELI AR FAES AWYR STORMY; (Cyswllt â’r Map 26 Gorllewin)
M4(2) GOGLEDD-DDWYRAIN O CHWAREL CORNELI I'R IARD DATGYMALU CEIR; AC I'R
(Cyswllt â’r Map 25 Dwyrain)
M4(3) DWYRAIN O CHWAREL GAENS. (Cyswllt â’r Map 25)
11.11.2. Mae angen estyn Chwarel Corneli er mwyn sicrhau y bydd cronfeydd
tymor hir o garreg galch pur iawn ar gael ar gyfer gwneud dur. Mae holl
gronfeydd cerrig yng Nghorneli â'r potensial i fod yn agregau ond dim ond
rhai ardaloedd sydd â cherrig sy'n addas fel cerrig fflwcs. Bydd swm y
cronfeydd i'w rhyddhau ar unrhyw adeg yn dibynnu ar yr allbwn bryd hynny neu
lefelau allbwn profedig yn y dyfodol, ynghyd ag asesiad o'r cronfeydd a
ganiateir eisoes. Caniateir cronfeydd yn Gaens a Chorneli lle na fyddai'n
ddymunol i gael mwy o waith oherwydd eu hagosrwydd i anheddau a lle gallai
cloddio am gronfeydd dyfnach effeithio ar systemau a chyflenwadau dŵr. Mae'n
bosibl y gellir rhyddhau cronfeydd ychwanegol i gymryd lle ardaloedd a
ganiateir lle na ddylid gwneud pellach. Bydd estyn Chwarel Corneli i'r hen
faes awyr yn gofyn am wyro Heol Mount Pleasant o gwmpas y man gweithio.
11.12. Datblygiad yn y Dyfodol - Ardaloedd Chwilio
11.12.1. CLODDIO MWNAU YN Y DYFODOL
POLISI M5
DIOGELIR ARDALOEDD CHWILIO A DDANGOSIR AR Y MAP CYNIGION RHAG DATBLYGIAD
ADEILADU PARHAOL ER MWYN CADW ADNODDAU AR GYFER Y DYFODOL OS GELLIR PROFI
ANGEN AMLWG AR:-
M5(1) DIR I'R GOGLEDD O CHWAREL CORNELI AC I'R DWYRAIN O CHWAREL GAENS
QUARRY; AC AR (Cyswllt â’r Map 25 Dwyrain)
M5(2) DIR AR YR HEN CHWAREL STORMY DOWN. (Cyswllt â’r Map 25 Dwyrain)
11.12.2. Rhaid pwysleisio nad oes unrhyw ragdybiaeth o blaid rhyddhau
unrhyw dir yn yr ardaloedd chwilio am fwnau ar hyn o bryd. Ni wyddom a fydd
angen rhyddhau unrhyw dir yn yr ardaloedd chwilio ar gyfer cloddio carreg
galch yn y dyfodol neu a fydd yr holl dir a ddangosir yn dderbyniol.
Cyfyngir y tir i'r gogledd o Chwarel Corneli gan goetir a ddiogelir gan
orchmynion cadw coed a bydd angen cadw man agored o dir rhwng unrhyw waith
chwarela pellach a'r coetir er mwyn atal unrhyw effeithiau drwg. Fodd
bynnag, ystyrir ei bod yn hanfodol diogelu'r ardaloedd hyn er mwyn atal
unrhyw sterileiddio gan ddatblygiad parhaol pe bai'r angen am dir ychwanegol
yn codi yn y dyfodol.

11.13. Tywod a Gro
11.13.1. CLODDIO TYWOD A GRO O'R TIR
POLISI M6
ARCHWILIR CYNIGION AR GYFER TYWOD A GRO O'R TIR YN ERBYN Y MEINI PRAWF YM
MHOLISI M2. CANIATEIR
CLODDIO MEWN ARDALOEDD Â PHENODIADAU STATUDOL DIM OND MEWN AMGYLCHIADAU
EITHRIADOL, YN DILYN ARCHWILIAD TRYLWYR IAWN O'R CYFRANIAD I FUDDIANT
CYHOEDDUS, EFFAITH AMGYLCHEDDOL A'R POSIBILRWYDD O LEDDFU'R SEFYLLFA.
11.13.2. Mae'n debyg y bodlonir y galw am agregau cain gan waith treillio
morol parhaus o Fôr Hafren. Yn sgil pryderon cynyddol am oblygiadau treillio
o ganlyniad i gyswllt posibl â newidiadau yn yr arfordir, gallai fod angen
ystyried twrio tywod a gro o'r tir i gynnal cyflenwadau ar gyfer pwrpasau
adeiladu. Byddai gwrthwynebiadau i dwrio adnoddau hysbys ger arfordir y
fwrdeistref sirol lle mae'r adnoddau hynny nad ydynt wedi cael eu
sterileiddio gan ddatblygiad yn destun ardaloedd â phenodiadau statudol h.y.
GNL Cynffig a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Merthyr Mawr.
11.14. Pyllau Benthyg
11.14.1. CLODDIO DROS DRO
POLISI M7
YSTYRIR CYNIGION AM BYLLAU BENTHYG YN ERBYN Y MEINI PRAWF YM
MHOLISI M2 AC MEWN
PERTHYNAS AG ANGHENION PROSIECTAU ADEILADU PENODOL, BYWYD Y GWAITH DROS DRO
A'R CYNIGION ADFER.
11.14.2. Mae pwll benthyg yn chwarel dros dro neu safle tebyg a agorir i
gyflenwi agregau i brosiect adeiladu penodol, contractau ffyrdd dros gyfnod
penodol fel arfer. Lleolir y safleoedd hyn o fewn neu ger y prosiect fel
arfer a chyflenwir y mwyn yn uniongyrchol heb ddefnyddio ffyrdd cyhoeddus.
Felly, gellir cyflenwi'r mwyn yn rhad a heb darfu ar ddefnyddwyr y ffordd.
Gall effaith pwll benthyg fod yn debyg i chwareli mwy parhaol ac maent yn
cael effaith sylweddol ar ddefnyddiau tir cyfagos, er dros gyfnod byrrach.
11.15. Gweddillion Mwnau
11.15.1. TYNNU DEFNYDD O WEDDILLION MWNAU
POLISI M8
CANIATEIR CYNIGION AM DYNNU DEFNYDD O WEDDILLION MWNAU DIM OND LLE MAENT YN
DDERBYNIOL MEWN PERTHYNAS Â MEINI PRAWF
POLISI M2 A LLE MAE'R
CYNNIG YN CYNNAL NEU'N GWELLA DIOGELWCH Y PWLL.
11.15.2. Mae pyllau gwastraff o hen waith mwnau'n cynnwys gweddillion
economaidd weithredol ar adegau. Gallai fod symiau o lo bach y gellir eu
hadfer drwy sgrinio/golchi'r defnydd a gall pyllau eraill ddarparu agregau
eilaidd y gellir eu defnyddio yn lle defnyddiau cynradd a chadw adnoddau
felly. Gellir ystyried cloddio rhai gweddillion yn ddatblygiad a ganiateir
yn amodol ar ddarpariaethau Rhan 23 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
11.16. Defnyddiau Eraill
11.16.1. ANNOG AILDDEFNYDDIO MWNAU
POLISI M9
CANIATEIR CYNIGION AM GYFLEUSTERAU I AILGYLCHU DEFNYDDIAU A FYDDAI'N CYMRYD
LLE AGREGAU CYNRADD LLE YSTYRIR EU BOD YN DDERBYNIOL YN DILYN ASESIAD YN
ERBYN Y MEINI PRAWF YM
MHOLISI M2.
11.16.2. Ailgylchir defnyddiau adeiladu a dymchwel yn aml fel rhan o
brosiect adeiladu newydd ac ailddefnyddir nhw ar y safle. Fodd bynnag, mae
cryn dipyn o'r defnyddiau hyn yn cael eu cludo i safleoedd claddu sbwriel
gan nad oes cyfleusterau lleol digonol i brosesu'r gwastraff. Mae'n bwysig
sefydlu cyfleusterau priodol i annog ailddefnyddio'r defnyddiau hyn er mwyn
lleihau gwastraff.
11.17. Diogelu a Gwella'r Amgylchedd
11.17.1. AMODAU I DDIOGELU A GWELLA'R AMGYLCHEDD
POLISI M10
WRTH ROI NEU AROLYGU CANIATÂD CYNLLUNIO AM DDATBLYGIAD MWNAU, LLE BO ANGEN A
LLE'N BRIODOL I'R DATBLYGIAD, BYDD YR AWDURDOD CYNLLUNIO MWNAU'N GORFODI
AMODAU A/NEU'N CYTUNO AR RWYMEDIGAETHAU ADRAN 106 ER MWYN:-
1. AMRYWIO HYD Y CANIATÂD;
2. RHEOLEIDDIO ORIAU GWAITH Y SAFLE;
3. NODI MESURAU I WELLA MYNEDIAD A RHEOLI SYMUDIADAU TRAFFIG;
4. GOFYN AM GYNLLUNIO'R GWAITH I LEDDFU LEFELAU SŴN I DERFYNAU PENODOL;
5. GOFYN AM FONITRO GWAITH FFRWYDRO ER WMYN CADW'R GWAITH HWN I AMSERAU
PENODOL YN Y DYDD A CHYFYNGU AR EFFAITH UNRHYW DDIRGRYNIAD MEWN PERTHYNAS Â
DATBLYGIAD SENSITIF;
6. LLEIHAU EFFEITHIAU LLWCH;
7. GOFYN AM FONITRO EFFAITH Y GWAITH AR ADNODDAU DŴR
TIR A DARPARU AR GYFER DIOGELU ANSAWDD A SWM NODWEDDION DŴR TIR A DŴR
ARWYNEBOL;
8. GOFYN AM ASESIAD ARCHEOLEGOL O'R SAFLE A SICRHAU Y COFNODIR NODWEDDION O
DDIDDORDEB ARCHEOLEGOL NEU HANESYDDOL A, LLE BO ANGEN, EU DIOGELU A'U CADW
AR Y SAFLE;
9. GOFYN AM WAITH TIRLUNIO NEU WAITH SGRINIO ERAILL I LEIHAU EFFAITH WELEDOL
Y GWAITH I LEFEL DDERBYNIOL;
10. ADFER Y TIR, RHOI DEFNYDD IDDO AC ÔL-OFAL ER MWYN SICRHAU BUDD TYMOR
HIR, YN ENWEDIG AR GYFER MATERION CADWRAETH NATUR;
11. GOFYN AM WERTHUSIAD MANWL O WERTH CADWRAETH NATUR Y SAFLE. LLE BO ANGEN,
GOFYNNIR AM FESURAU I DDIOGELU UNRHYW GYNEFINOEDD, RHYWOGAETHAU NEU
NODWEDDION O DDIDDORDEB NEU FESURAU LLEDDFU FEL SY'N BRIODOL.

11.17.2. Mae nifer o faterion y mae angen ymdrin â nhw wrth benderfynu ar
geisiadau am ddatblygiadau mwnau er mwyn sicrhau na fydd y datblygiad yn
cael effaith ddrwg ar yr ardaloedd o'i gwmpas, yn enwedig os oes eiddo
preswyl yn agos. Mae deddfwriaeth gynllunio'n cynnwys darpariaeth y bydd pob
safle mwnau sy'n meddu ar ganiatâd cynllunio nad oes terfyn amser ynghlwm
wrtho'n dod i ben yn 2042 fel mater o drefn, ond gallai fod achlysuron lle
bydd cyfnod llai o amser yn angenrheidiol i alluogi cynnig a fyddai fel
arall yn annymunol i symud yn ei flaen. Mae'n bwysig rheoli materion fel
effaith weledol, oriau gwaith, sŵn, llwch a dirgryniad er mwyn diogelu
amwynder yr ardal o gwmpas. Gall traffig o'r gwaith mwnau gael effaith
sylweddol ar ddefnyddiau tir eraill, yn yr ardal gyfagos a thros bellter mwy
gan fod rhai mwnau'n cael eu cludo tipyn o bellter o'u ffynhonnell. Mae
carreg galch carbonifferaidd y fwrdeistref sirol yn ddyfrhaen bwysig iawn a
gall cloddio mwnau gael effaith fawr arni, yn enwedig lle gwneir y mwyaf o
waith dyfnach islaw'r tabl dŵr tir. Ystyrir cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd
er mwyn asesu effaith estyniadau dyfnach ac ochrol unrhyw waith mwnau a
chyfleusterau trin dŵr arfaethedig. Dylid ystyried effaith bosibl
datblygiadau mwnau ar safleoedd o ddiddordeb archeolegol a hanesyddol er
mwyn penderfynu ar yr angen i gofnodi neu gadw safleoedd. I gloi, mae'n
bwysig mwyhau'r cyfle y mae gwaith mwnau'n ei greu er mwyn cael ôl-ddefnydd
ac ôl-ofal buddiol tymor hir. Mae safleoedd mwnau'n fawr iawn yn aml a gall
natur y gwaith greu cynefinoedd pwysig sy'n gyson â chynllun gweithredu
bioamrywiaeth lleol Pen-y-bont ar Ogwr.
11.18. Parthau Diogelu Mwnau
11.18.1. DIOGELU AMWYNDERAU LLEOL
POLISI M11
ADNABYDDIR PARTHAU DIOGELU MWNAU O GWMPAS CHWARELI CYFREDOL, YNGHYD Â
CHRONFEYDD Â CHANIATÂD A THIR A DDYRENNIR AR GYFER GWAITH YN Y DYFODOL, FEL
A WELIR AR Y MAP CYNIGION. YN Y PARTHAU HYN, CYFYNGIR DATBLYGIADAU NEWYDD,
GAN GYNNWYS DATBLYGIADAU MWNAU, ER MWYN SICRHAU NA CHYFYNGIR AR
DDATBLYGIADAU MWNAU PRESENNOL A DYFODOL GAN EU HEFFAITH AR DDATBLYGIAD
NEWYDD. BYDD CYNIGION DATBLYGU HEBLAW AM DDATBLYGIAD MWNAU'N YSTYRIED
EFFAITH BOSIBL CHWARELA AR Y DATBLYGIAD A GYNIGIR A SICRHEIR ISAFSWM RWYSTR
O 200 METR O LEIAF RHWNG Y GWAITH CHWARELA A DEFNYDDIAU TIR SENSITIF, ONI
BAI BOD NODWEDDION Y SAFLE'N PERI I'R CYNGOR BENDERFYNU I'R GWRTHWYNEB.
11.18.2. Gall cloddio mwnau gael effaith ddrwg ar amwynder defnyddiau tir
sensitif, fel datblygiadau preswyl, ysbytai, hostelau ac ysgolion. Nodwyd
parthau diogelu mwnau o gwmpas chwareli presennol a'u mannau gwaith yn y
dyfodol er mwyn atal gwrthdaro rhwng y gwaith cloddio a defnyddiau tir
eraill, drwy ddarparu rhwystr o gwmpas y mannau hyn. Mewn rhai achlysuron,
bydd datblygiad preswyl wedi ei leoli o fewn y parthau diogelu mwnau.
Byddai'n afresymol ac anodd i wrthod datblygiad llenwi o fewn ardaloedd
adeiledig er y gallai fod peth effaith o'r gwaith chwarela. Fodd bynnag,
bydd y Cyngor yn barnu pob achos yn unigol. Ym mhob achos arall, bydd y
Cyngor yn ceisio sicrhau rhwystr o 200 metr o leiaf rhwng datblygiad newydd
a'r gwaith mwnau.
11.19. Cadw Tir
11.19.1. CADW A RHEOLI TIR
POLISI M12
BYDD Y CYNGOR YN CEISIO CADW NODWEDDION TOPOGRAFFEGOL PRESENNOL A WELIR AR Y
MAP CYNIGION SY'N CUDDIO GWAITH MWNAU. FODD BYNNAG, CYDNABYDDIR BOD YR
ARDALOEDD DAN SYLW YN DESTUN CANIATÂD CYNLLUNIO A BYDDAI ANGEN CYTUNDEB Y
GWEITHREDWYR AR GYFER DIDDYMU'R HAWL I WEITHIO AR YR ARDALOEDD DAN SYLW.
MAE'R ARDALOEDD DAN SYLW FEL A GANLYN:-
M12(1) TIR AR HYD HEOL-Y-SPLOTT; (Cyswllt â’r Map 25)
M12(2) TIR GER HEOL MOUNT PLEASANT; (Cyswllt â’r Map 25)
M12(3) TIR I'R DE-ORLLEWIN O CHWAREL GROVE; (Cyswllt â’r Map 25)
M12(4) TIR I'R GOGLEDD O HEOL MOUNT PLEASANT GER CHWAREL GROVE; (Cyswllt â’r Map 25)
M12(5) TIR SY'N FFURFIO FFIN DDEHEUOL A DWYREINIOL CHWAREL GAENS; A (Cyswllt â’r Map 25)
M12(6) THIR SY'N FFURFIO RHAN DDWYREINIOL CHWAREL STORMY DOWN. (Cyswllt â’r Map 26 Gorllewin)
11.19.2. Ystyrir bod peth o'r tir a ganiatawyd ar gyfer chwarela sawl
blwyddyn yn ôl yn anaddas ar gyfer gwaith pellach oherwydd ei agosrwydd at
eiddo preswyl. Mae peth o'r tir hwn yn cael ei ddiweddaru ag amodau
cynllunio newydd ar hyn o bryd, fel rhan o arolwg o hen ganiatâd mwnau sy'n
ofynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Bydd yr ymarfer hwn yn gosod amodau
cynllunio modern ar waith chwarela yn y dyfodol. Yn ychwanegol, gallai'r
awdurdod cynllunio mwnau geisio cytundebau ychwanegol fel rhan o geisiadau
cynllunio am waith mwnau ychwanegol ar dir heb ganiatâd (polisïau
M4/5
CDU) a fyddai'n gofyn am gytundeb gweithredwyr i roi'r gorau i'r hawl i
gloddio mannau penodedig ac ystyried amnewid y cronfeydd hyn mewn lleoliadau
mwy priodol, fel a nodir ym mholisïau
M4/5.
11.19.3. Cydnabyddir y gellid cadw'r darn o dir i'r gorllewin o Heol
Mount Pleasant rhwng Chwarel Corneli a hen faes awyr Stormy Down dim ond os
yw cynigion i estyn y chwarel i'r hen faes awyr yn peidio â symud yn eu
blaen. Yn ychwanegol, cydnabyddir y gellid cadw'r darn hwnnw o dir ar hyd
Heol-y-Splott rhwng Chwarel Corneli a Chwarel Pant Mawr os nad yw Chwarel
Corneli'n estyn yn ochrog i Bant Mawr. Yn achos estyniad fel hwn, ni fyddai
angen cuddio o Heol-y-Splott gan na fyddai'n bosibl gweld y gwaith.

11.20. Adfer ac Ôl-Ofal
11.20.1. SICRHAU ADFERIAD AC ÔL-OFAL PRYDLON AC O
ANSAWDD UCHEL
POLISI M13
WRTH ROI NEU AROLYGU CANIATÂD AM WAITH MWNAU, BYDD YR AWDURDOD CYNLLUNIO
MWNAU'N GOFYN AM GYFLWYNO CYNLLUN I SICRHAU ADFERIAD AC ÔL-OFAL PRYDLON, O
ANSAWDD UCHEL A, LLE'N BOSIBL, GRADDOL A CHREU ÔL-DDEFNYDD BUDDION I'R
SAFLE, SY'N GYSON Â'R CYNLLUN GWEITHREDU BIOAMRYWIAETH LLEOL. OS YW'R CYNGOR
YN EI YSTYRIED YN BRIODOL, AR ÔL YMGYNGHORI Â CHYRFF PRIODOL, GOFYNNIR AM
GYFNOD ÔL-OFAL ESTYNEDIG TU HWNT I'R 5 MLYNEDD STATUDOL YN ENWEDIG AR GYFER
ÔL-DDEFNYDD FEL CADWRAETH NATUR.
11.20.2. Mae gwaith mwnau'n gwaith dros dro hyd yn oed os yw safleoedd yn
weithredol am gyfnodau hir. Un o amcanion pwysicaf rheoli gwaith mwnau yw
sicrhau yr adferir y tir a ddefnyddiwyd unwaith i'r gwaith ddod i ben a'i
fod yn bosibl rhoi defnydd buddiol i'r tir a adferwyd. Bydd lleoliad a maint
y gwaith yn helpu i benderfynu ar ddefnydd y tir yn y pen draw. Wrth
ystyried bywyd hir rhai safleoedd, nid yw'n hawdd penderfynu ar ôl-ddefnydd
ar ddechrau'r gwaith ac mae'n bosibl y bydd angen diwygio cynlluniau gwaith
wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen. Nid yw datganiad o nodau eang ar gyfer
defnydd yn y pen draw na strategaeth adfer yn rhoi digon o fanylion ar gyfer
gwneud penderfyniad am adferiad cynyddol, gan gynnwys y gost i'r
gweithredwr. Mae profiad wedi dangos bod gweithredwyr yn tanamcangyfrif
costau llawn adfer tir. O ganlyniad, mae'n bwysig cynnwys cymaint o fanylion
â phosibl mewn cynigion o'r cychwyn. Os yw amgylchiadau safle'n newid yn
fawr iawn, gellir gofyn am amrywiad ffurfiol bob amser.
11.20.3. Bydd tynnu a storio pridd yn ofalus yn helpu i adfer tir bob
amser a rhaid rheoli gwaith yn llym, gan gynnwys cadw nodweddion fel coed a
chloddiau. Mae'n hanfodol bod datblygwyr yn gallu dangos bod ganddynt ddigon
o reolaeth o'r tir sy'n destun cais. Heb y rheolaeth hon, nid oes unrhyw
warant y gellir gwireddu buddion tymor hir o'r gwaith adfer.
11.20.4. Os bydd y Cyngor yn ei ystyried yn briodol, gofynnir am warantau
ariannol gan weithredwyr i gwmpasu costau adfer ac ôl-ofal rhag ofn i'r
gweithredwyr beidio â gwneud. Gofynnir am warantau fel hyn ar gyfer
datblygiadau sy'n ymwneud â glo fel arfer, oni bai bod amgylchiadau eraill
yn mynnu fel arall.
11.21. Datblygiad yn y Dyfodol
11.21.1. Gwarchod tywod a gro a geir o'r tir
POLISI M14
NODIR ARDALOEDD I'W DIOGELU AR Y MAP CYNIGION FEL ADNODDAU POSIBL O DYWOD A
GRO. GWRTHWYNEBIR CYNIGION I DDATBLYGU AR UNRHYW RAN O'R ARDALOEDD HYN.
LLEOLIR YR ADNODDAU HYN FEL A GANLYN:-
M14(1) DE O DDE CORNELI (Cyswllt â’r Map 25)
M14(2) MERTHYR MAWR (Cyswllt â’r Map 31 Canolog)
M14(3) ISLAND FARM, PEN-Y-BONT AR OGWR (Cyswllt â’r Map 27 Canolog)
M14(5) DWYRAIN O BENCOED (Cyswllt â’r Map 23 Gorllewin)
11.21.2. Pwrpas y polisi yw diogelu'r ardaloedd o ddatblygiad parhaol a
fyddai'n sterileiddio neu'n atal cloddio adnoddau mwnau posibl pe bai'n
bosibl profi'r angen am yr adnoddau. Nid yw'n gymeradwyaeth o gloddio unrhyw
un o'r safleoedd dan sylw. Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â pholisi M6.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |