|
Mae deddfwriaeth y Llywodraeth yn gofyn i bob awdurdod unedol yng Nghymru
baratoi cynllun datblygu unedol (CDU) a fydd yn cymryd lle unrhyw gynlluniau
datblygu cyfredol sy'n cwmpasu eu hardal.
Gelwir y cynllun yn gynllun datblygu unedol oherwydd ei fod yn cynnwys polisïau
cynllunio strategol a lleol ar gyfer yr ardal. Yn flaenorol, cwmpaswyd y rhain
ar wahân mewn gwahanol gynlluniau a, chyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996,
byddent yn cael eu paratoi gan awdurdodau gwahanol.
Mae'r CDU yn cynnwys polisïau a chynigion ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn y
Fwrdeistref Sirol ac mae'n cwmpasu:
- cyfleusterau cludiant a ffyrdd strategol a gofynion isadeiledd eraill;
- tai;
- gwarchod yr amgylchedd naturiol ac adeiledig;
- datblygiad economaidd;
- twristiaeth, chwaraeon a hamdden;
- cynhyrchu ynni, gan gynnwys ynni adnewyddadwy;
- cloddio mwnau a diogelu cronfeydd;
- trin a chael gwared ar wastraff, adfer tir, ailddefnyddio a pheryglon.
Bydd y CDU yn arwain datblygiadau yn y cyfnod hyd at 2016.
<< Pennod flaenorol | Pennod nesaf
>>
|