14.1. Cyfiawnhad o Bolisïau Rhan 1
14.1.1. Ceisia'r Strategaeth Defnydd Tir ar gyfer y CDU sicrhau bod gofynion yr
ardal ar gyfer ynni a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu bodloni'n llawn wrth
wneud y gorau o botensial ffynonellau adnewyddadwy lleol, y ddau'n gyson â'r
angen i warchod amgylchedd y fwrdeistref sirol.
14.1.2. Mae datblygiadau telathrebu a gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys
cynhyrchu ynni mewn ffordd adnewyddadwy) yn destun cyfarwyddyd cynllunio
cenedlaethol penodol. Yn syml, dymuna'r Llywodraeth i bobl gael mwy o ddewis ac
ystod o wasanaethau telathrebu a bodloni angen cymdeithas am ynni. Fodd bynnag,
dylai'r gobeithion hyn fod yn gyson ag amcanion datblygiad cynaliadwy. Golyga
hyn na ddylai ystyriaethau economaidd, buddiannau logisteg a materion sy'n
perthyn i dechnoleg y gwasanaeth a/neu leoliad yr adnodd ynni wrthbwyso'r angen
i ddiogelu'r amgylchedd. Dylid ystyried effeithiau unigol a/neu gynyddol
datblygiadau er mwyn buddiannau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
14.1.3. Mae polisi
19 yn rhoi safbwynt gynllunio strategol i ddatblygiad sy'n gysylltiedig
â thelathrebu a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys datblygu ynni adnewyddadwy.
Mae'n ystyried lleoliad economaidd da'r fwrdeistref sirol ar hyd coridor yr M4
yn ne-ddwyrain Cymru a gallu corfforol ac amgylcheddol yr ardal i dderbyn
datblygiad, rhyng-weladwyedd unrhyw ddatblygiad (yn enwedig cynigion i
ecsbloetio ynni adnewyddadwy) yn yr is-ranbarth, yr angen i osgoi risgiau
gorlifo a phwysigrwydd hierarchaidd lleoliad y cynigion o ran cynllunio a'r
amgylchedd.
14.1.4. Dylai gwell effeithlonrwydd ynni fod yn elfen allweddol ym mhob cynllun
datblygu ac ailddatblygu newydd. Mae
polisi 20 yn
darparu cyd-destun cynllunio strategol ar gyfer polisïau Rhan 2 sy'n ymdrin â
chynllun, dyluniad, deunyddiau adeiladau neu safleoedd newydd neu'r broses o'u
hailwampio neu eu hailddatblygu. Bydd yn helpu'r Cyngor Bwrdeistref Sirol i
gyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Ddeddf Gwarchod Ynni Cartref 1995 a
"Gwell Ansawdd Bywyd - y Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy Genedlaethol"
(Mai 1999).
Rhan 2
14.2. Cyflwyniad
14.2.1. Mae'r cysyniad o ddatblygiad cynaliadwy'n pwysleisio bod angen mantoli
diogelu'r amgylchedd a chadw adnoddau naturiol yn erbyn yr angen i ddatblygu.
14.2.2. Canolbwyntiodd yr Adroddiad Brundtland, World Commission on
Environment and Development, Our Common Future (1987) ar y bygythiad i
ddiogelwch bywyd ac erydiad ansawdd bywyd gan weithrediadau dynion. Yn arbennig,
pwysleisiodd y ffaith bod ynni ac adnoddau'n cael eu camddefnyddio, bod
ecosystemau'n cael eu newid a bod llygrwyr a gwastraff yn cael eu rhyddhau i'r
amgylchedd a bod hyn oll yn peryglu gallu ein planed i gefnogi bywyd yn y
dyfodol. I ymdrin â hyn, drwy fabwysiadu'r egwyddor o ddatblygiad cynaliadwy,
rhaid i ni dderbyn bod angen cyfyngu rhai agweddau o'n hymddygiad er mwyn
diogelu'r amgylchedd.
14.2.3. I ddatblygiad i fod yn gynaliadwy, rhaid iddo barchu'r angen i leihau'r
defnydd o ynni ac adnoddau (megis dŵr, nwy, olew a defnyddiau crai eraill),
lleihau cynhyrchiad gwastraff (a lleihau'r posibilrwydd o lygredd felly) a
diogelu amrywiaeth bywyd. Nid oes raid i dwf economaidd wrthdaro ag amcanion
amgylchedd o reidrwydd. Yr amcan yw cydfodolaeth er mwyn gwella effeithiolrwydd
amgylcheddol a datblygu agweddau diwydiannol a chymdeithasol mwy 'cydnaws â'r
amgylchedd' at ddefnyddio adnoddau.
14.2.4. Yn genedlaethol, newidiodd gwasanaethau cyhoeddus y DU yn sylweddol yn y
1980au. Yn flaenorol, gweinyddwyd yr holl brif asiantaethau gwasanaeth - dŵr,
trydan, nwy a thelathrebiadau - gan awdurdodau cyhoeddus (neu 'ymgymerwyr
statudol') a oedd yn bennaf annibynnol o reolaeth gynllunio arferol. Ers diwedd
y degawd hwnnw, mae pob un o'r gwasanaethau hynny'n gyfrifoldeb cwmnïau preifat
neu wedi cael eu contractio allan i gwmnïau preifat.
14.2.5. Mae rheoleiddwyr a benodir yn gyhoeddus ar gyfer pob diwydiant
gwasanaeth sy'n gorfod cymryd mesurau rhesymol i sicrhau gwasanaethau digonol er
budd y cyhoedd e.e. mae'r Swyddfa Rheoleiddio Trydan (neu OFFER) yn arolygu'r
diwydiant trydan o'r generaduron i'r dosbarthwyr a'r darparwyr a'r defnyddiwr.
Mae gan yr holl reoleiddwyr reolaeth ranbarthol dros eu gwasanaethau penodol
nhw.
14.2.6. Yn ychwanegol, yn dilyn Deddf yr Amgylchedd 1995, sefydlwyd
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) a ddaeth â chyfrifoldebau'r cyn
Awdurdod Afonydd Cenedlaethol, Arolygiaeth Llygredd Ei Mawrhydi, yr awdurdodau
rheoleiddio gwastraff a rhai unedau technegol o'r hen Swyddfa Gymreig at ei
gilydd. Swyddogaeth AAC yw monitro gweithgareddau'r holl ddarparwyr a datblygwyr
gwasanaethau; cymryd ymagwedd ragweithiol tuag at ei rhan yn y broses gynllunio;
a gweld hyn fel rhan annatod o'i gwaith i ddiogelu a gwella amgylchedd Cymru.
14.3. Defnyddio Adnoddau'n Gynaliadwy
14.3.1. Roedd cyhoeddiad Papur Gwyn y Llywodraeth This Common Inheritance
yn 1990 yn bwysig o ran ein defnydd o adnoddau'r wlad yn y dyfodol, gan gynnwys
cynhyrchu ynni. Hwn oedd yr arolwg cyntaf o bolisïau cenedlaethol a gymerodd
farn gyfannol ac arolygu materion amgylcheddol. ing an overview of environmental
issues. Ystyriwyd asesiad ehangach o'r Papur Gwyn hwnnw a'r datblygiad
diweddarach o strategaethau'r DU ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy, Newid
Hinsawdd, Bioamrywiaeth a Choedwigaeth Gynaliadwy yn dilyn Cynhadledd y
Ddaear yn Rio yn 1992 yn y bennod Amgylchedd yn y CDU hwn. Mae'r bennod hwn yn
cydnabod ac estyn yr egwyddor o stiwardiaeth dda o'n hamgylchedd ac ecsbloetio
ffynonellau ynni a gwasanaethau cyhoeddus y fwrdeistref sirol.
14.3.2. Cyflwynodd y Papur Gwyn ddwy egwyddor sy'n arbennig o bwysig ar gyfer
llunio polisïau cynllunio sy'n delio ag ynni a gwasanaethau cyhoeddus - yn
bennaf yr egwyddor 'rhagofalon' a'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu'. Mae
Cyfarwyddyd Cynllunio Cymru'n ategu at yr egwyddorion hyn ac yn cynghori y dylid
eu defnyddio wrth gynllunio cynlluniau ynni, telathrebu a gwasanaethau
cyhoeddus.
14.3.3. Wrth baratoi ei CDU, mae'r Cyngor yn cydnabod y gall ei weithrediadau
ddylanwadu ar fuddsoddiadau a datblygiadau nid yn unig drwy newid arfaethedig
mewn defnydd tir ond drwy ddarparu isadeiledd ar gyfer ynni a gwasanaethau
cyhoeddus. Yn yr un ffordd, rhaid i'r cynllun gael ei ddylanwadu'n sylweddol gan
bolisïau amgylcheddol y Llywodraeth Ganolog a'i hymroddiadau rhyngwladol tuag at
hybu datblygiad cynaliadwy. Ar 31 Gorffennaf 1996, penderfynodd y Cyngor
Bwrdeistref Sirol:-
bod gofyn i'r Cyngor groesawu'r cysyniad o ddatblygiad cynaliadwy ac y dylid
cefnogi integreiddiad ei amcanion ym mholisïau a gweithgareddau'r Cyngor.
14.3.4. Yn y gorffennol, roedd y Cyngor wedi penderfynu:-
cymeradwyo sefydlu gweithgor Agenda 21 Leol a gweithgorau cefnogol i lunio
amcanion amgylcheddol corfforedig, cynhyrchu polisi amgylcheddol a gosod
targedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol gwell yn seiliedig ar egwyddorion
EMAS, sef y Cynllun Eco-Reolaeth ac Archwiliad.
14.3.5. Daeth y cynllun olaf hwn i rym ar 12 Ebrill 1995 (cyfeirier at
gylchlythyr 9/95 y SG) a chymeradwyodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol ei nodau ym
mis Ionawr 1996. Mae ganddo oblygiadau sylweddol ar gyfer datblygiad cynaliadwy
adnoddau ynni ac isadeiledd perthnasol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn y
fwrdeistref sirol.
14.4. Cyflenwi Ynni
14.4.1. Mae'r Papur Gwyn ar Ynni - Ffynonellau Ynni i Gynhyrchu Pŵer
(Hydref 1998) yn gosod allan amcanion allweddol y Llywodraeth ar gyfer ynni, sef
sicrhau cyflenwadau diogel, amrywiol a chynaliadwy am brisiau cystadleuol ond o
fewn cyd-destun polisi cadarn sy'n ddigon hyblyg i ymateb i anghenion
cenedlaethol a rhwymedigaethau rhyngwladol newidiol am raglen newid hinsawdd
gost-effeithiol. Yr Adran Masnach a Diwydiant (DTI) sydd â'r prif gyfrifoldeb am
bolisïau ynni, trwyddedu gallu cynhyrchu newydd a rheoli cyflenwadau yn y DU,
dan ddarpariaethau Deddf Ynni 1976.
14.4.2. Oherwydd eu natur, bydd tanwydd ffosiledig yn
rhedeg allan. O ganlyniad, bydd defnyddio ynni newydd ac adnewyddadwy'n dod yn
fwyfwy pwysig fel ffynonellau ynni ar gyfer y mileniwm newydd. Mae'r polisi ynni
cenedlaethol fel a ganlyn felly..... ysgogi ecsbloetiad a datblygiad
ffynonellau ynni adnewyddadwy lle mae gobaith y byddant yn economaidd ddymunol
ac yn amgylcheddol dderbyniol. Diffinnir ffynonellau ynni adnewyddadwy fel:-
.....rhai sydd ar gael yn ein hamgylchedd yn barhaus ac yn gynaliadwy.
Mae ffynonellau o ynni adnewyddadwy'n cynnwys: gwynt, llosgi gwastraff (gan
gynnwys traul anerobig a nwy claddu sbwriel), systemau heulol gweithredol,
cnydau ynni a thanwydd coed (neu fiomas) a dŵr (gan gynnwys pŵer dŵr a
chynhyrchiant llanw).
14.4.3. Mae'r Llywodraeth wedi gosod blaenoriaeth allweddol i ffynonellau o ynni
adnewyddadwy i ddarparu 10% o gyflenwadau trydan y DU cyn gynted â phosibl neu
erbyn 2010 (sy'n golygu darparu ar gyfer 5% o anghenion trydan cenedlaethol
erbyn 2003 o gymharu â'r ffigwr bresennol o 2% yn 1999). Fodd bynnag, nid dyna
ddiwedd y gân. Mae hwn yn gam cyntaf tuag at y nod tymor hwy sy'n disgwyl i ynni
adnewyddadwy gynhyrchu ynni i wresogi cartrefi, ar gyfer cludiant, diwydiannau a
masnach am ganrifoedd i ddod.

14.4.4. Mae papur ymgynghori'r Llywodraeth - Ynni Newydd ac Adnewyddadwy:
Gobeithio ar gyfer yr 21ain Ganrif (Mawrth 1999) yn cadarnahau bod ynni
adnewyddadwy'n bwysig ar gyfer creu swyddi a datblygu diwydiannau'r dyfodol;
bydd yn chwarae rôl hanfodol hefyd mewn galluogi'r DU i fodloni ei thargedau
amgylcheddol o ostwng nwyon ty gwydr 12.5% erbyn 2008-2012 a gostwng ei
gollyngiadau o garbon deuocsid 20% erbyn 2010. Yn ychwanegol, mae diwygiadau'n
parhau gyda golwg ar wella gweithrediad marchnadoedd ynni a datblygu dewisiadau
'trydan gwyrdd' i gwsmeriaid a hybu 'tocynnau credyd amgylcheddol' i ddefnyddwyr
ynni.
14.4.5. Mae Grŵp Cynllunio Strategol De-Ddwyrain Cymru wedi ystyried
polisïau cenedlaethol wrth baratoi cyfarwyddyd cynllunio strategol ar gyfer
paratoi CDU yn ne-ddwyrain Cymru. Ymchwiliodd y cyfarwyddyd i'r problemau
cyfredol sy'n bodoli wrth gyflenwi a darparu ynni yn yr isranbarth ac mae wedi
nodi pum mater allweddol y bydd raid i'r awdurdodau lleol perthnasol ymdrin â
nhw:-
-
Lleihau'r angen am ynni drwy annog gwell
effeithiolrwydd yn ei ddefnydd yn lleol
-
Cael hunan-ddigonoldeb wrth gyflenwi ynni yn y tymor
byr drwy gefnogi datblygiad gallu cynhyrchu newydd, wrth ymdopi â
cholli'r gallu cynhyrchu presennol y gellir ei uwchraddio'n gynaliadwy
ac economaidd
-
Cefnogi CCC yn ei ymdrechion i osod 'anghenion
targed' realistig ar gyfer ynni yng Nghymru (yn gyffredinol) ac yn
ne-ddwyrain Cymru (yn benodol) a'r newidiadau brys hynny sydd eu hangen
ar gyfarwyddyd cynllunio
-
Cefnogi twf yn y defnydd lleol o ynni adnewyddadwy
fel elfen o strategaeth ynni cynaliadwy ar gyfer de Cymru
-
Helpu'r isranbarth i ddod yn allforiwr net o ynni yn
y tymor hwy drwy annog y datblygiad o'i photensial ynni adnewyddadwy yn
amodol ar osod rhagofalon amgylcheddol priodol
14.4.6. Mae'r Cyngor wedi ystyried y polisïau a materion strategol allweddol
cenedlaethol uchod wrth baratoi polisïau'r CDU. Mae'n cydnabod felly'r angen i
ddefnyddio ynni adnewyddadwy'n lleol lle mae hyn yn amgylcheddol dderbyniol ac
mae'n cydnabod y cyfraniad y gall datblygiad fel hwn ei wneud i fodloni
anghenion ynni ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.
14.5. Gwarchod Ynni
14.5.1. DEFNYDDIO YNNI'N EFFEITHLON
POLISI U1
FFAFRIR DATBLYGIAD SY'N ANNOG DEFNYDD MWY EFFEITHLON O YNNI AC SY'N GWARCHOD EI
GYFLENWAD.
14.5.2. Gwerthusir ac archwilir perfformiad y diwydiant adeiladu lleol tuag at
gadw ynni drwy hybu effeithlonrwydd ynni a rheolaeth drwy gynlluniau a
deunyddiau dyfeisgar ar ddatblygiadau newydd (fel y mae
polisi EV45 yn
ei annog) dan Strategaeth AL21 y Cyngor drwy EMAS (Cynllun Eco-Reolaeth ac
Archwilio). Gall gwireddu potensial safle i gynhyrchu ynni adnewyddadwy
a/neu drwy gyd-economi â datblygiad safleoedd eraill, cynigion datblygu sy'n
annog neu gefnogi adfywiad trefnol ac, o ganlyniad, sy'n lleihau'r angen i
deithio mewn car preifat i safleoedd ar ymyl ardaloedd adeiledig gyfrannu at
ffurfiau mwy cynaliadwy o ddatblygu a byddant yn cael eu cefnogi gan y Cyngor
fel arfer, yn amodol ar y cynigion yn bodloni amcanion, nodau a pholisïau eraill
y CDU.
14.6. Ffynonellau o Ynni Adnewyddadwy
14.6.1. Mae'r CDU yn ystyried y ffaith y gellir gwneud y mwyaf o ffynonellau o
ynni adnewyddadwy lle maent yn digwydd yn lleol. Mae gan y fwrdeistref sirol y
potensial i ddatblygu adnoddau ar y tir ac ar y môr. Er i'r adnoddau posibl hyn
amrywio ar draws y rhan fwyaf o'r dewisiadau cynhyrchu a ddatganwyd eisoes (para
14.4.2), dim ond ynni gwynt ar y tir sydd wedi ysgogi llawer o ddiddordeb
masnachol hyd yma, ac eithrio rhai eithriadau fel prosiectau gwastraff i ynni.
Cydnabuwyd y potensial i gynhyrchu ynni gwynt i ffwrdd o'r tir mewn fforymau
cyhoeddus hefyd ac mae hyn yn destun archwiliad masnachol dwysach ar hyn o bryd.
14.6.2. Mae'r Cyngor yn annog y diwydiant ynni adnewyddadwy a datblygwyr posibl
i geisio barn yn gynnar ar y defnydd o ynni adnewyddadwy yn y dyfodol yn y
fwrdeistref sirol. Mae rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau cyfagos yn werthfawr
hefyd a byddwn yn parhau â hyn gan y gallai economeg canlyn ffynhonnell
adnewyddadwy benodol mewn un ardal gael ei datrys gan gydweithrediad er mwyn
gwireddu ei photensial. O ran adnoddau megis gwynt a dŵr, bydd lleoliad unrhyw
ddatblygiad yn weddol sefydlog. Fodd bynnag, gallai adnoddau adnewyddadwy eraill
fanteisio ar fwy o hyblygrwydd wrth gadw gofynion amlwg megis agosrwydd at yr
ardal i'w gwasanaethu neu gysylltiadau da iddi. Fodd bynnag, bydd agosrwydd
cysylltiadau addas i'r grid trydan cenedlaethol yn parhau i fod yn ffactor
allweddol wrth leoli datblygiadau newydd a fydd yn gwneud y mwyaf o ffynonellau
o ynni adnewyddadwy.

14.6.3. GWNEUD Y MWYAF O YNNI GWYNT MEWN EGWYDDOR
POLISI U2
ANOGIR CYNIGION AR GYFER TYRBINAU A FFERMYDD GWYNT ER BUDD DIOGELU FFYNONELLAU O
YNNI GWERTHFAWR A CHYFYNGU GOLLYNGIADAU O NWYON TY GWYDR. CANIATEIR DATBLYGIAD
DIM OND OS:
1. NAD YW'R SAFLE O FEWN ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;
2. DRWY RINWEDD EI FAINT, CYNLLUN A LLEOLIAD, NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN WELEDOL
YMWTHIOL MEWN ARDAL A BENNWYD FEL TIRWEDD ARBENNIG NEU DIRWEDD HANESYDDOL, PARC
NEU ARDD BENODEDIG;
3. DRWY RINWEDD EI FAINT, CYNLLUN A LLEOLIAD, NI FYDDAI'R DATBLYGIAD YN NIWEIDIO
ADEILAD RHESTREDIG NA CHYMERIAD AC YMDDANGOSIAD ARDAL GADWRAETH;
4. NA FYDDAI'R DATBLYGIAD YN NIWEIDIO BUDDIANT CADWRAETH NATUR cSAC CYNFFIG NEU
ARDAL O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG.
ASESIR EFFAITH GYNYDDOL AC UNIGOL CYNIGION DATBLYGU AR AMGYLCHEDDAU SENSITIF.
14.6.4. Mae gan y fwrdeistref sirol dirweddau, ardaloedd, safleoedd, parciau,
gerddi ac adeiladau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol oherwydd eu
nodweddion (gan gynnwys eu cymeriad heb ei ddatblygu, tirwedd, cadwraeth natur,
pwysigrwydd pensaernïol, gwyddonol a hanesyddol). Mae'n rhannu arfordir ar hyd
Môr Hafren, morlun dymunol gydag awdurdodau cyfagos yng Nghymru ac ardaloedd i
ffwrdd o lan y môr yn ne-orllewin Lloegr. Felly, yn unol â'r egwyddor o
ragofalon, bydd y Cyngor yn ceisio diogelu'r ardaloedd uchod rhag datblygiadau
ymwthiol neu niweidiol a fydd yn cael effaith ddrwg ar y buddiannau hynny y
manylir arnynt yn y meini prawf a geir ym
mholisi U2.
14.6.5. YSTYRIAETHAU MANWL I'W HASESU WRTH WNEUD Y MWYAF O
YNNI GWYNT
POLISI U3
CANIATEIR CYNIGION AR GYFER TYRBINAU A FFERMYDD GWYNT NAD YDYNT YN GWRTHDARO Â
PHOLISI U2 OS:
1. NA FYDDANT YN CAEL EFFAITH DDRWG AR YR AMGYLCHEDD LLEOL, GAN GYNNWYS UNRHYW
FIOAMRYWIAETH, A CHAN YSTYRIED UNRHYW FESURAU LLINIARU SYDD AR GAEL;
2. NA FYDD ARGAELEDD ADNODDAU NEU GRONFEYDD MWNAU YN CAEL EI RWYSTRO;
3. GWNAED TREFNIADAU PRIODOL I GADW A/NEU GOFNODI NODWEDDION O DDIDDORDEB
ARCHEOLEGOL, PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL;
4. GELLIR MYND ATYNT YN HAWDD AR GYFER GWAITH CYNNAL A CHADW HEB BERYGLU'R
AMGYLCHEDD NEU'R RHWYDWAITH HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS;
5. NA FYDDANT YN EFFEITHIO AR AMWYNDERAU LLEOL OHERWYDD SŴN,
GWELADWYEDD, CYSGOD YN GWIBIO, GOLAU'N ADLEWYRCHU, MWG, NWYON PERYGLUS, LLWCH
NEU UNRHYW BETH ARALL SY'N LLYGRU'R AMGYLCHEDD LLEOL;
6. NA FYDDANT YN ARWAIN AT AFLONYDDIAD ELECTROMAGNETIG I SYSTEMAU TROSGLWYDDO A
DERBYN PRESENNOL (SY'N CYNNWYS GWASANAETHAU MORWRIAETH A BRYS) A PHERYGLU
DIOGELWCH Y CYHOEDD FELLY;
7. GWNAED DARPARIAETH BRIODOL (GAN GASGLU RHWYMEDIGAETHAU/CYTUNDEBAU CYNLLUNIO
PRIODOL GYDA'R CYNGOR, OS BYDD RAID) AR GYFER SYMUD YR HOLL ISADEILEDD O'R SAFLE
AR ÔL GORFFEN YNO AC AILOSOD Y SAFLE.
14.6.6. Mae polisïau U2 ac
U3 yn cydnabod yr angen
cenedlaethol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chyfraniad adnoddau'r fwrdeistref
sirol at fodloni gofynion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Felly os yw
datblygiad arfaethedig wedi bodloni
polisi U2, dylid ei asesu
wedyn ar ei deilyngdod yn erbyn y meini prawf manwl a geir ym
mholisi U3. Mae pob math o
ddatblygiad sy'n gysylltiedig â defnyddio ynni gwynt a chyfleusterau ategol yn
destun archwiliad dan yr uchod ac unrhyw bolisïau eraill a geir yn y CDU. Yn
sgil presenoldeb amodau corfforol a chyflymdra gwynt, disgwylia'r Cyngor i ynni
gwynt barhau i fod y dewis adnodd adnewyddadwy lleol.
14.6.7. Gall tyrbinau gwynt amrywio o ran ymddangosiad ac uchder a gellir eu
gosod yn unigol neu ar y cyd fel 'ffermydd gwynt'. Tan yn ddiweddar, ffafriwyd
lleoliadau ar y tir - ar dir uchel, ar hyd yr arfordir a mannau agored h.y. lle
mae'r gwynt yn chwythu fwyaf a mwyaf cyson - ond mae lleoliadau i ffwrdd o'r tir
yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd. O ganlyniad, disgwylir i'r lleoliadau hyn
fod o ddiddordeb i ddatblygwyr sy'n ymwneud â'r math hwn o ddatblygiad yn y
fwrdeistref sirol, yn ardaloedd ein hawdurdodau cyfagos ac ar y môr.
14.6.8. Lle mae'r Cyngor yn defnyddio ei bwerau cynllunio i leoli datblygiadau
ynni adnewyddadwy ar y tir (gan gynnwys tyrbinau gwynt), bydd penderfyniadau am
gynigion ar y môr yn dod o fewn cwmpas adrannau eraill o'r Llywodraeth ac
asiantaethau'r Goron ond bydd raid iddynt ystyried polisïau a barn y Cyngor.
Bydd y Cyngor yn cadw ei bwerau am strwythurau ar y lan a fydd eu hangen er mwyn
cysylltu â'r grid trydan cenedlaethol a bydd angen ystyried y cynigion hyn yn
ofalus yng nghyd-destun polisïau'r CDU - yn enwedig gan y byddant yn cael eu
lleoli yn y parth morol diffiniedig.
14.6.9. Ystyria'r Cyngor y dylid asesu datblygiadau tyrbinau gwynt o ran eu
heffaith ar amwynderau preswyl ac unrhyw aflonyddiad electromagnetig e.e. ar y
gwasanaethau brys. Mae hyn yn bwysig hefyd o ran unrhyw osodiadau ar y môr lle
na ddylai effeithiau electromagnetig beryglu diogelwch y cyhoedd. Yn debyg, bydd
lleoliad yn ffactor pwysig. Wrth wneud penderfyniadau, bydd y Cyngor yn
mantoli'r ffaith bod angen mannau agored ar y datblygiadau hyn a'r angen i
ddiogelu ardaloedd o dirwedd sensitif. Mae'r meini prawf a geir ym mholisïau
U2 ac
U3 yn adlewyrchu'r rhesymeg
hon.
14.6.10. Golyga ffurf a phatrwm tirwedd y fwrdeistref sirol ei bod yn gymharol
drefol ac nid oes unrhyw ran o'i chefn gwlad fwy na 4-5 milltir i ffwrdd o brif
anheddiad drefol. Felly, mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ffermydd gwynt ar
'dir uchel' yn weladwy o anheddiad(au). Bydd unrhyw gynigion yn destun AEA. Wrth
benderfynu ar gynigion dan bolisïau
U2 ac
U3, bydd y Cyngor yn dilyn
arweiniad Astudiaeth Ynni Adnewyddadwy De Cymru ac yn ei ddefnyddio fel
cyfarwyddyd cynllunio atodol (CCA).

14.7. Gwasanaethau Nwy, Cyflenwadau Trydan a Gwasanaethau
Eraill
14.7.1. Yn genedlaethol, nid yw gwasanaethau nwy a thrydan yn ddiwydiannau ar
wahân gan fod y cwmnïau preifat sy'n cyflenwi'r diwydiannau hynny'n gallu
cystadlu'n fasnachol am ddefnyddwyr domestig a diwydiannol. Bu cynnydd mawr yn y
defnydd o nwy yn y blynyddoedd diwethaf i ymdopi â'r galw am drydan a
gynhyrchwyd yn bennaf gan 'danwydd ffosiledig', sef olew a glo, ynghyd ag ynni
niwclear ac ynni adnewyddadwy i raddau llai. Mae gan anheddau yn y fwrdeistref
sirol ddetholiad o gyflenwyr nwy a thrydan preifat ac mae'r dewis hwn yn debygol
o estyn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, bydd y gwahanol gwmnïau'n
rhannu isadeiledd presennol ac arfaethedig ar gyfer dosbarthu eu
cynnyrch/gwasanaethau i drigolion y fwrdeistref sirol. Yn achos gwasanaethau
nwy, darperir a chynhelir y pibellau gan Transco plc, tra bod trydan yn
cael ei drawsgludo gan The National Grid Company plc, a'i ddosbarthu gan
Infralec (SWALEC cynt) sy'n rhan o'r grŵp Hyder.
14.7.2 DATBLYGU GWASANAETHAU CYHOEDDUS A'R AMGYLCHEDD
POLISI U4
FFAFRIR DATBLYGIAD AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU NWY, CYFLENWADAU TRYDAN AC
UNRHYW WASANAETH CYHOEDDUS ARALL NEWYDD NEU AR GYFER GWELLA DARPARIAETH
BRESENNOL NAD YW'N CAEL EFFAITH DDRWG AR AMGYLCHEDD Y FWRDEISTREF SIROL.
14.7.3. Nid yw darparu prif rwydweithiau gwasanaethau cyhoeddus ar a dan y
ddaear yn uniongyrchol o fewn rheolaeth y Cyngor gan mai'r 'cwmnïau gwasanaeth'
yw'r 'ymgymerwyr statudol' dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995.
Fodd bynnag, mae'n statudol ofynnol ymgynghori â'r Cyngor ar ystod eang o
ddatblygiadau arfaethedig gan yr 'ymgymerwyr cyflenwi nwy a thrydan' sydd â
dyletswydd statudol i ystyried nodweddion yn yr amgylchedd a lleddfu unrhyw
effeithiau hefyd. Bydd polisïau
U4 ac U5 yn arwain ymateb
y Cyngor ar ymgynghoriadau fel hyn ac unrhyw ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus
eraill e.e. cwmnïau cebl. Yn debyg, disgwylir i gwmnïau gwasanaeth ymgynghori'n
llawn â'r Cyngor cyn dechrau eu gwaith statudol e.e. cloddio gwasanaethau a
llinellau newydd fel mater o arfer da ac er mwyn i'r awdurdod cynllunio lleol
gynghori'r cwmnïau dan sylw o unrhyw gyfyngiadau amgylcheddol a allai fod yn
bresennol neu a allai gael eu heffeithio ger y tir dan sylw.
14.7.4. Wrth weithredu polisi U4,
bydd y Cyngor yn disgwyl i gwmnïau gwasanaeth gyfeirio pob llinell gwasanaeth
uwchben y tir mewn ffordd sy'n lleihau difrod neu amhariad i'r amgylchedd a
lleihau unrhyw sterileiddiad posibl o gronfeydd neu adnoddau mwnol i lefel
dderbyniol. Lle mae'n economaidd a thechnegol ddichonol a lle mae'n ddymunol ar
sail amgylcheddol, dylid gosod gwasanaethau dan y ddaear a dylid gwneud mesurau
adfer digonol i leihau difrod ac amhariad i'r amgylchedd, yn enwedig lle byddai
hyn yn arwain at ddatrys gwrthdaro amgylcheddol pwysig. Fodd bynnag, mae'r
Cyngor yn cydnabod y byddai'n anarferol gosod prif linellau pŵer dan y ddaear, o
ganlyniad i'r gost ac anawsterau technegol a chynnal a chadw sy'n gysylltiedig â
tharfiad amgylcheddol, heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol e.e. mewn
ardaloedd cadwraeth lle dylid gosod llinellau a gwasanaethau dan y ddaear lle
bynnag mae hyn yn bosibl er budd gwarchod y dreftadaeth adeiledig. Dylid
gweithredu mesurau hefyd i resymoli gwasanaethau a lleihau eu heffaith weledol.
Dylid sicrhau gwasanaethau effeithiol ar gyfer datblygiadau newydd ar ffurf
raglen drefnus a chydlynol o ddarpariaeth er mwyn lleihau unrhyw amhariad
amgylcheddol pellach.
14.7.5. Mae gan y cwmnïau gwasanaeth ddyletswyddau statudol i ystyried
nodweddion yr amgylchedd a lleddfu unrhyw effeithiau yn eu cynigion. Gofynnir i
Lywydd y Bwrdd Masnach archwilio i ba raddau y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi
cydymffurfio â'r dyletswyddau hynny wrth ystyried cynigion. Cyflawnir y
cydymffurfiad hwn drwy gyfeirio llinellau'n ofalus i leihau eu heffaith ar yr
amgylchedd.
14.7.6. Ymgynghorir â'r Cyngor ynghylch llinellau nwy pwysedd uchel newydd
hefyd, sy'n hysbysadwy at bwrpas unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol, ar ôl iddynt
gael eu gosod. Mae angen clir ar gyfer adfer ac amnewid cynefinoedd yn ddigonol
i leddfu effaith y gwasanaethau hyn a all gael effaith amgylcheddol dros ardal
lawer ehangach. Yn ychwanegol, gall darparu cyfleusterau dyblyg neu wrth gefn yn
y rhwydweithiau strategol fod yn ystyriaeth bwysig wrth sicrhau cyflenwad
parhaol. Fodd bynnag, gan y gallai hyn arwain at ymwthiad gweledol pellach,
dylid osgoi darpariaeth ychwanegol ddiangen a dylid rhesymoli rhwydweithiau,
lle'n ddichonol, i leihau unrhyw aflonyddiad amgylcheddol cyfredol.

14.7.7 LLINELLAU PŴER FOLTEDD
UCHEL A DATBLYGIAD PRESWYL
POLISI U5
FFAFRIR
(A) DATBLYGIAD LLINELLAU TRAWSGLUDO FOLTEDD UCHEL TANDDAEAROL NEU UWCHDDAEAROL
NEWYDD (275 kV AC UWCH A'U HISADEILEDD PERTHYNOL) SY'N YSTYRIED:-
1) AMWYNDER PRESWYLWYR EIDDO PRESWYL; A'R
2) ANGEN I LEDDFU UNRHYW EFFEITHIAU GWELEDOL Y LLINELLAU TRAWSGLUDO
ARFAETHEDIG (GAN GYNNWYS EU TYRAU AC ISADEILEDD).
FFAFRIR
(B) CYNIGION DATBLYGU GER LLINELLAU TRAWSGLUDO FOLTEDD UCHEL TANDDAEAROL NEU
UWCHDDAEAROL PRESENNOL (275kV AC UWCH) SY'N YSTYRIED:-
1) AMWYNDER PRESWYLWYR EIDDO PRESWYL GERLLAW
YN Y DYFODOL;
2) UNRHYW OFYNION CWMNÏAU TRYDAN PERTHNASOL I GAEL MYNEDIAD I'W
LLINELLAU;
3) UNRHYW GLIRIAD DIOGELWCH STATUDOL Y MAE'N RHAID EI GYNNAL RHWNG,
ER ENGHRAIFFT, LLINELLAU UWCHDDAEAROL (A/NEU EU TYRAU TRAWSGLUDO)
A'R TIR, FFYRDD, COED A STRWYTHURAU PARHAOL ERAILL Y MAE POBL YN
AROS ARNYNT; AC SY'N CYNNWYS
4) YR ANGEN I LEDDFU UNRHYW EFFEITHIAU GWELEDOL UNRHYW LINELLAU
TRAWSGLUDO (GAN GYNNWYS EU TYRAU AC ISADEILEDD) DRWY DIRLUNIO A
CHYNLLUNIO'N OFALUS.
14.7.8. Ymgynghorir â CBS Pen-y-bont ar Ogwr ('awdurdod cynllunio perthnasol')
yn statudol ar geisiadau am linellau pŵer foltedd uchel uwchddaearol newydd a'u
hisadeiledd hanfodol. Yr Ysgrifennydd Masnach a Diwydiant Gwladol sy'n ystyried
y ceisiadau hyn ac unrhyw sylwadau a wneir gan y Cyngor ac eraill a bydd yn
penderfynu arnynt dan Adran 37 o Ddeddf Trydan 1989. Yn debyg i bob datblygiad
arall, ystyrir unrhyw gynnig ar y cyd â'r holl bolisïau perthnasol yn y CDU ac
unrhyw ystyriaethau cynllunio pwysig eraill. Fodd bynnag, dylid nodi bod y
Cyngor yn dymuno diogelu'r ardaloedd hynny o bwysigrwydd tirwedd a/neu gadwraeth
natur, trefol neu hanesyddol uchel (fel a nodir ym mholisïau perthnasol y CDU) a
bydd yn ceisio cael atebion cynaliadwy i'r ddarpariaeth hon. Fodd bynnag,
disgwylir i gynigion am ddatblygiad arall, sy'n dod o fewn cyfrifoldeb y Cyngor
fel yr awdurdod cynllunio perthnasol, ger llinellau trawsgludo foltedd uchel
tanddaearol ac uwchddaearol presennol (275kV neu uwch), i gydymffurfio â
gofynion y cwmnïau trydan perthnasol am fynediad i'w llinellau ac isadeiledd a
chwrdd ag unrhyw gliriadau diogelwch statudol a allai fod yn weithredol. Ni
fyddant yn cael eu caniatáu fel arall.
14.7.9. Gall llinellau trawsgludo foltedd uchel uwchddaearol (275kV ac uwch), eu
tyrau cario ac isadeiledd arall gael effaith weledol amlwg ar y dirwedd. Fodd
bynnag, gallai cynllunio a thirlunio datblygiad newydd yn ofalus leddfu'r
effaith hon. Mae'r Cyngor yn cydnabod pryderon ynghylch y risgiau iechyd sy'n
gysylltiedig â llinellau pŵer uwchddaearol (neu feysydd electromagnetig) a bydd
yn ystyried yn ofalus cyngor y Bwrdd Diogelwch Radiolegol Cenedlaethol (NRPB)
a/neu unrhyw asiantaeth gyhoeddus fedrus yn y DU/UE (a allai fod yn rhoi cyngor
ar gyfer rheoliadau cynllunio a chyfarwyddyd cenedlaethol yn y dyfodol) wrth
ystyried unrhyw linellau tanddaearol neu uwchddaearol newydd o 275kV neu uwch.
Lle nad yw'n dechnegol ddichonol a/neu'n rhy ddrud i wyro neu osod llinellau
pŵer dan y ddaear, dylid cynllunio a thirlunio'r datblygiad arfaethedig yn
ofalus, ynghyd â chydlynu cyfeiriad adeiladu priodol, er mwyn lleihau unrhyw
effaith ddrwg o dyrau a cheblau. Disgwylir i bob cynnig gydymffurfio â gofynion
y cwmnïau trydan perthnasol a chwrdd ag unrhyw gliriadau diogelwch statudol yn
llawn a fydd yn weithredol.
14.8. Cyflenwadau Dŵr
14.8.1. Yn dilyn preifateiddio'r diwydiant dŵr, mae rheolaeth cyflenwadau dŵr a
gwasanaethau carthffosiaeth yn y fwrdeistref sirol yn gyfrifoldeb Dŵr Cymru,
sydd dan berchnogaeth Glas Cymru, corff 'nid er elw' newydd. Mae'r Cyngor yn
parhau i weithredu fel asiantaeth i'r cwmni ac mewn perthynas â'i gyfrifoldebau
dirprwyedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd - Cymru (AAC).
14.8.2. Darperir cyflenwadau dŵr strategol i'r fwrdeistref sirol drwy brif
gyflenwad sy'n dod o Gronfa Ddŵr Llyn Brianne sydd yn nalgylch yr Afon Tywi yng
ngorllewin Cymru. Fodd bynnag, ategir at hyn gan ffynonellau o ddŵr daear ac
afonydd lleol, yn enwedig ar gyfer pwrpasau diwydiannol. Cyfrifoldeb AAC
yw trwyddedu a gorfodi tynnu dŵr o ffynonellau dŵr arwyneb a daear. Mae ganddynt
ddyletswydd hefyd i sicrhau y defnyddir adnoddau dŵr yn gywir, gan gynnwys
asesu'r angen am ddatblygiadau perthynol a sicrhau y trwyddedir y cynlluniau
mwyaf priodol. Gall AAC fynd i drefniadau gwaith gyda Dŵr Cymru a
chydosod a chyhoeddi gwybodaeth ar gyfer cydlynu asesiadau o alwadau go iawn ac
arfaethedig am ddŵr ac adnoddau. Rheolir 'sychderau' drwy system o 'drwyddedau,
gorchmynion sychderau a gorchmynion sychderau amgylcheddol' a gynlluniwyd i
fwyhau cyflenwadau dŵr yn ystod cyfnodau prin, tra'n diogelu'r amgylchedd dŵr.
14.8.3. Ymdrinnir â swyddogaethau AAC mewn perthynas â diogelu'r amgylchedd dŵr,
lleihau'r risg o lifogydd a sicrhau ansawdd dŵr yn y bennod am yr amgylchedd
(cyfeirier at adrannau 3.8
a 3.10) sy'n cynnwys y
polisïau cynllunio priodol hefyd (cyfeirier at bolisïau
EV16 a
17).
14.8.4. Yn gyffredinol, barn AAC a Dŵr Cymru yw na ddylai'r twf yn
y galw am ddŵr yn y fwrdeistref sirol fod cymaint at i arwain at brinder yn y
cyflenwad. Fodd bynnag, mae'n bywisg yr anogir unrhyw ddatblygiad newydd pellach
i chwilio am leoliadau sy'n mwyhau'r ddarpariaeth bresennol ac sy'n ategu at y
cyflenwadau presennol heb gael effaith amgylcheddol ddrwg h.y. dylid rheoli
adnoddau dŵr yn gynaliadwy er mwyn bodloni newidiadau mewn hinsawdd a'r
newidiadau dilynol yn y galw am ddŵr yn ardaloedd trefol Cymru. Felly:-
14.8.5. Y GALW AM DDŴR A
DATBLYGIAD
POLISI U6
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD A FYDDAI'N ARWAIN AT ALW AM DDŴR
NA ELLIR EI FODLONI HEB EFFEITHIO AR DDEFNYDDWYR PRESENNOL A/NEU A FYDDAI'N
GWRTHDARO Â PHOLISI EV17.
14.8.6. Yn debyg i weddill Cymru, mae defnydd tir ac adnoddau tir yn y
fwrdeistref sirol yn gysylltiedig. Mae datblygiad mewn ardaloedd gwledig a'i
economi'n gofyn am gyflenwadau dŵr lleol. Fodd bynnag, gall draeniad dŵr,
trefoli a thorri coed gael effaith sylweddol ar lif afonydd a bydd hyn yn
effeithio ar gronfeydd dŵr a ffynonellau o ddŵr daear yn y pen draw. Yn debyg,
gall unrhyw gynnydd yn y lefel o dynnu dŵr gael effaith uniongyrchol ar
fioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol. Mae'n ddyletswydd ar AAC fantoli'r
anghenion hyn drwy ei threfn drwyddedu a gwelir effeithlonrwydd dŵr fel elfen
hanfodol o ran cyflawni'r nod hwnnw. Mae AAC yn ceisio hybu
effeithlonrwydd dŵr ymysg defnyddwyr trefol a gwledig felly er mwyn iddynt
ddefnyddio'r dŵr y mae ei angen arnynt yn unig.
14.8.7. Bydd tai a diwydiannau'n parhau i fod yn brif ddefnyddwyr dŵr a bydd y
Cyngor yn parhau i gyfeirio datblygiadau newydd yn y CDU at ardaloedd trefol
presennol y fwrdeistrefol sirol lle gall y rhwydwaith strategol ddarparu'r
economïau mwyaf effeithiol o ran dosbarthiad a chyflenwad.
14.8.8. GWELLA CYFLENWADAU DŴR
POLISI U7
FFAFRIR DATBLYGIAD A FYDD YN ATGYFNERTHU CYFLENWADAU DŴR
STRATEGOL NEU LEOL HEB GAEL EFFAITH DDRWG AR YR AMGYLCHEDD.
14.8.9. Yn ardaloedd gwledig y fwrdeistref sirol, y diwydiant amaethyddiaeth
yw'r prif ddefnyddiwr dŵr ac mae hawliau datblygiad a ganiateir yn estyn i
'strwythurau a chloddio sy'n rhesymol hanfodol at ddibenion amaethyddol o fewn
uned amaethyddol o 5 hectar neu fwy'. Ystyrir cronfa ddŵr ar gyfer dyfrhau tir
fferm yn rhesymol hanfodol fel arfer. Fodd bynnag, byddai dosbarthu cronfa ddŵr
ar fferm fel 'cloddio' neu 'adeilad, strwythur neu waith' yn adlewyrchu ffurf
gorfforol y datblygiad. Lle mae angen cais cynllunio ar gyfer adeiladu cronfa
ddŵr ar fferm, bydd y Cyngor yn ei ffafrio fel arfer os nad yw'n effeithio ar
fuddiannau o bwysigrwydd amgylcheddol cydnabyddedig, os cedwir at ragofalon
hanfodol yn ystod y gwaith o'i hadeiladu ac os caiff ei thirlunio'n briodol er
mwyn cynnal amwynderau gweledol lleol.
14.9. Cyfleusterau Carthffosiaeth a Chael Gwared ar
Charthffosiaeth
14.9.1. Gwaredir ar garthffosiaeth ddomestig a diwydiannol y fwrdeistref sirol
yn y prif waith trin carthffosiaeth i fyny aber yr afon Ogwr (gwaith Pen-y-bont)
ac yng Nghwm Llynfi (gwaith Llety Brongu).
14.9.2. Mae'n dal i fod digon o le yng ngwaith Pen-y-bont hyd yn oed ar ôl y
gwaith gwella ac atgyfnerthu cysylltiedig a gyflawnwyd yn y 15 mlynedd ddiwethaf
i'r rhwydwaith carthffosiaeth strategol (ym Mhorthcawl, Pencoed a Mynydd
Cynffig/Pîl).
14.9.3. Gwneir gwaith gwella yn ardal carthffosiaeth a dŵr Cwm Llynfi hefyd lle
bydd gwaith Llety Brongu (sydd â pherthynas agos â'r felin bapur 'Fort James'
gyfagos) yn cael ei uwchraddio a lle mae nifer o gynlluniau (sy'n cynnwys
uwchraddio ac amnewid y carthffosydd presennol ac adeiladu strwythurau gorlifo
dŵr stormydd cyfunedig, tanciau cadw, ayb mewn lleoliadau ar hyd y cwm yng
Nghaerau yn y gogledd) eisoes yn cael eu gweithredu. Gadawyd yr hen waith Marlas
ym Mhîl yn 1992 a thrinnir carthffosiaeth o'r ardal honno yng Ngwaith Trin Dŵr
Gwastraff Afan ym mwrdeistref sirol gyfagos Castell Nedd/Port Talbot.
14.9.4. CAEL GWARED AR GARTHFFOSIAETH A DATBLYGIADAU
POLISI U8
NI CHANIATEIR DATBLYGIAD NAD YW'N CAEL EI WASANAETHU'N ECONOMAIDD NA'N DDIGONOL
GAN GYFLEUSTERAU CARTHFFOSIAETH PRESENNOL NEU ARFAETHEDIG A/NEU GYFLEUSTERAU
DROS DRO I GAEL GWARED AR GARTHFFOSIAETH.
14.9.5. Er mwyn diogelu'r amgylchedd ac amwynderau lleol rhag llygredd posibl ac
effeithiau drwg, ystyria'r Cyngor y dylai pob datblygiad newydd chwilio am
leoliadau sy'n defnyddio darpariaeth carthffosiaeth bresennol ac arfaethedig lle
mae digon o le dros ben yn y system i ymdrin â'r anghenion hyn. Ni ffafrir
datblygiadau ar safleoedd neu mewn ardaloedd lle na ellir darparu prif
gyflenwadau na chyfleusterau cael gwared ar garthffosiaeth yn economaidd neu'n
ddigonol felly. Bydd polisi U8
yn arbennig o berthnasol i gynigion dai mewn ardaloedd gwledig (ac eithrio'r
rhai a brofwyd i fod yn hanfodol at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth) lle
na fydd problemau o gysylltiad parhaol i'r prif rwydwaith carthffosiaeth yn
economaidd neu lle byddai'n golygu pwysau tymor hir ar adnoddau cyhoeddus.
14.10. Gwasanaethau Telathrebu
14.10.1. Polisi'r Llywodraeth yw y dylai pobl gael mynediad i ddewis mwy o
ddarparwyr ac ystod o wasanaethau telathrebu os gellir lleihau effaith
amgylchedd isadeiledd y diwydiant hwnnw. Gellir gwneud hyn drwy rannu mastiau a
safleoedd, cynllunio a lleoli sensitif. Bydd trafod gyda'r awdurdod cynllunio
lleol cyn datblygu, cyfeirio at Gôd Arfer Gorau - Datblygu
Rhwydweithiau Ffôn Symudol Llywodraeth Cynulliad Cymru (2003) ac ystyried
data cynllunio defnydd tir ac electromagnetig yn helpu i gyflawni'r amcanion
hyn.
14.10.2. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cyfleusterau telathrebu diweddaredig yn
fwyfwy pwysig i les gwasanaethau lleol ac economi'r fwrdeistref sirol; ac, o
ganlyniad i gynnydd mewn technoleg, gallai hyn leihau'r angen am siwrneiau.
Felly, bydd yn parhau i hwyluso twf systemau telathrebu newydd a phresennol drwy
ei bolisïau cynllunio, sy'n asesu safleoedd sy'n briodol ar gyfer y gosodiadau
arfaethedig, ar ôl ystyried ystyriaethau technegol a gweithredol y diwydiant ac
ystyried yn llawn unrhyw amhariad neu effaith ar amwynder amgylchedd ardaloedd
cyfagos.
14.10.3. DATBLYGU AT BWRPASAU TELATHREBU MEWN EGWYDDOR
POLISI U9
CANIATEIR DATBLYGIAD AR GYFER PWRPASAU TELATHREBU DIM OND LLE:-
1. YN AMODOL AR GYFYNGIADAU TECHNEGOL A CHYFREITHIOL, BYDDAI EI LEOLIAD A'I
GYNLLUN YN GOSTWNG UNRHYW NIWED I GYMERIAD AC YMDDANGOSIAD Y TREFLUN NEU DIRLUN
YR ARDAL NEU I OLYGFEYDD O ARDALOEDD ERAILL;
2. ARCHWILIWYD POB POSIBILRWYDD YMARFEROL O RANNU CYFLEUSTERAU PRESENNOL (GAN
GYNNWYS MASTIAU) A SAFLEOEDD YN LLAWN AC Y GELLIR DANGOS NAD YDYNT YN ADDAS;
3. GELLIR EI DIRLUNIO A/NEU EI GUDDIO, LLE BO EISIAU; AC
4. YN ACHOS MASTIAU TELEDU/RADIO A DYSGLAU LLOEREN, NAD OES DEWISIADAU DERBYNIOL
AR GYFER GOSOD ANTENÂU AR ADEILADAU, STRWYTHURAU NEU SAFLEOEDD PRESENNOL.

14.10.4. Cwmpasir gosod llawer o systemau telathrebu gan hawliau datblygiad a
ganiateir a allai fod yn amodol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw'r Cyngor o ran
lleoliad ac ymddangosiad. Fodd bynnag, bydd yn disgwyl i bob datblygiad
telathrebu newydd gael eu lleoli a'u cynllunio, yn amodol ar gyfyngiadau
technegol a chyfreithiol, mewn ffordd a fydd yn cadw ansawdd amgylcheddol,
cymeriad ac ymddangosir y tirlun neu dreflun ac nad ydynt yn cael effaith ddrwg
nac yn niweidio'r amgylchedd lleol, naill ai yn ystod y cyfnod adeiladu neu yn y
cyfnod ôl-ddatblygu/cynnal a chadw. Yn yr un ffordd, ni ddylai cynigion waethygu
amwynderau gweledol yr ardaloedd hynny pan fyddant yn cael eu gwylio o rywle
arall.
14.10.5. Anogir cwmnïau telathrebu i ymchwilio i bob dewis i rannu cyfleusterau
a safleoedd er mwyn lleihau'r ymwthiad gweledol yn yr amgylchedd naturiol ac
adeiledig. Er hynny, bydd cynigion am gyfleusterau a rennir y byddai eu heffaith
ar adeiladau neu strwythurau presennol yn creu nodweddion gweledol ymwthiol yn
cael eu gwrthod. Bydd mastiau, dysglau ac antenau sy'n cyfuno â'u cefndir ac a
leolwyd i leihau eu heffaith ar amwynder ac ymddangosiad allanol adeiladau cyn
belled ag sy'n ymarferol yn cael eu hannog. Rhoddir ystyriaeth bositif i waith
tirlunio neu guddio sensitif (a allai gwmpasu cynlluniau dyfeisgar yn unol â'r
lleoliad dan sylw) hefyd. Mae'r Cyngor yn cydosod rhestr o safleoedd yn y
fwrdeistref sirol sy'n meddu ar gyfleusterau telathrebu ar hyn o bryd. Mae'r
gronfa ddata Defnydd Tir Cenedlaethol yn dal gwybodaeth debyg.
14.10.6. CYFYNGIADAU AR LEOLIAD DATBLYGIADAU TELATHREBU
POLISI U10
WRTH YSTYRIED GOFYNION TECHNEGOL A CHYFREITHIOL Y DIWYDIANT TELATHREBU, NI
DDYLAI CYNIGION AM GYFLEUSTERAU TELATHREBU NEWYDD EFFEITHIO'N DDRWG AR:
1) BRYDFERTHWCH NATURIOL ARFORDIR TREFTADAETH MORGANNWG;
2) BUDDIANT CADWRAETH NATUR cSAC CYNFFIG;
3) BUDDIANT CADWRAETH NATUR SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG;
4) CYMERIAD, YMDDANGOSIAD NEU LEOLIAD ARDALOEDD CADWRAETH, HEN GOFEBION NEU
ADEILADAU RHESTREDIG.
<<
Pennod flaenorol |
Pennod nesaf
>> |