|
Cefnogwyd y cysyniad o 'ddatblygiad cynaliadwy' ar y lefel uchaf gan y rhan
fwyaf o lywodraethau'r byd ac mae hyn yn dylanwadu'n fawr ar bolisïau'r Cynllun
Datblygu Unedol erbyn hyn.
Diffinnir datblygiad cynaliadwy fel datblygiad sy'n bodloni anghenion y
presennol heb beryglu gallu cenedlaethau i ddod i fodloni eu hanghenion nhw. Neu
mae'n ymwneud â sicrhau gwell ansawdd bywyd i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Mae gan ddatblygiad cynaliadwy oblygiadau helaeth ac ni chyfyngir ef i
ddiogelwch amgylcheddol. Mae'n cydnabod:-
- yr angen am gynnydd cymdeithasol sy'n cydnabod anghenion pawb;
- y gofyn am ddiogelwch amgylcheddol effeithiol;
- y gofyn am ddefnydd doeth o adnoddau naturiol;
- y pwysigrwydd o dwf economaidd a chyflogaeth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi'r cysyniad o
ddatblygiad cynaliadwy'n llawn ac mae'n brif bwnc yn y Cynllun Datblygu Unedol i
fantoli buddion datblygiad yn erbyn ei effaith bosibl ar yr amgylchedd. Yn y
cyd-destun hwn, egwyddor arweiniol y Cynllun Datblygu Unedol yw -
gwella ansawdd bywyd trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn ffyrdd
sy'n cyd-fynd ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy.
Gwerthusiad Cynaladwyedd
Er mwyn helpu i sicrhau yr ystyrir prif egwyddorion datblygiad cynaliadwy'n
briodol ac y rhoddir blaenoriaeth briodol iddynt, gwnaed gwerthusiad
cynaladwyedd systematig ac annibynnol o'r cynllun. Mae hyn yn sicrhau bod nodau
polisi wedi eu gosod allan yn glir a bod manteision ac anfanteision opsiynau
wedi cael eu nodi a'u hasesu.
<< Previous
Chapter | Pennod nesaf
>>
|